{"id":9307,"date":"2023-06-27T10:19:05","date_gmt":"2023-06-27T10:19:05","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9307"},"modified":"2025-02-04T11:21:29","modified_gmt":"2025-02-04T11:21:29","slug":"pwer-sgiliau-trosglwyddadwy-bossing-it","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/06\/27\/pwer-sgiliau-trosglwyddadwy-bossing-it\/","title":{"rendered":"P\u0175er sgiliau trosglwyddadwy &#8211; Bossing It"},"content":{"rendered":"<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Gall datblygu sgiliau trosglwyddadwy fod yn amhrisiadwy i&#8217;ch dilyniant, boed hynny drwy wirfoddoli, profiad personol neu drwy eich astudiaethau prifysgol. Buom yn siarad ag aelodau o\u2019n cymuned anhygoel o gynfyfyrwyr sydd wedi rhannu eu doethineb ynghylch sut y gall y sgiliau hyn fod o fudd i chi wrth ddechrau ar eich gyrfa.<\/strong><\/p>\n<h3 style=\"font-weight: 400\"><strong>Lauren Humphreys (BA 2015)<\/strong><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/06\/MicrosoftTeams-image-101.jpg\" alt=\"\" width=\"209\" height=\"208\" \/><\/h3>\n<p style=\"font-weight: 400\">Graddiodd Lauren (BA 2015) o Brifysgol Caerdydd gyda gradd mewn Crefydd a Diwinyddiaeth yn 2015. Ers\u00a0graddio mae Lauren wedi dilyn gyrfa ym maes Adnoddau Dynol ac ar hyn o bryd mae&#8217;n gweithio fel Rheolwr AD. Mae hi&#8217;n gyfrifol am bob elfen o&#8217;r cylch bywyd cyflogaeth, yn ogystal \u00e2 datblygu strategaethau sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2 nodau busnes, gweithredu datrysiadau ar draws ystod o fentrau a phrosiectau AD, a rhoi cyngor ac arweiniad arfer gorau i&#8217;r sefydliad.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Ewch ar drywydd yr hyn rydych chi&#8217;n dod o hyd i werth personol ynddo<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Byddwn yn eich annog yn llwyr i ystyried y rhesymau dros ddewis eich gradd, a&#8217;r hyn yr ydych wedi&#8217;i ddysgu&#8217;n ymddygiadol amdanoch chi eich hun trwy eich astudiaethau i greu eich brand personol a datblygu eich llwybr gyrfa. Dilynais y radd roeddwn wedi&#8217;i dewis gan fod gennyf ddiddordeb mewn pobl a&#8217;u cymhellion. Trwy werthuso a deall eu barn a&#8217;u credoau, rwyf wedi medru trosglwyddo&#8217;r diddordeb hwn a dysgais sgiliau empathi a dylanwadu i&#8217;w cymhwyso i sefyllfaoedd yn fy ngyrfa.\u00a0 Trwy gydol fy astudiaethau roedd yn ofynnol i mi werthuso gwybodaeth a gwneud argymhellion ac rwyf nawr yn cymhwyso&#8217;r sgiliau trosglwyddadwy hyn i greu a chymhwyso strategaethau ac atebion sy&#8217;n canolbwyntio ar bobl.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Mae Deallusrwydd Emosiynol yn sgil trosglwyddadwy gwerthfawr <\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Un darn o gyngor y byddwn yn ei rannu yw, os ydych chi&#8217;n medru adnabod, deall a rheoli&#8217;ch emosiynau, yn ogystal ag adnabod a dylanwadu ar yr emosiynau sy&#8217;n eich amgylchynu mewn unrhyw amgylchedd cydweithredol, byddwch chi&#8217;n medru ysgogi ac arwain yn llwyddiannus. Gellir cymhwyso hyn i ystod eang o osodiadau mewn busnes, chwaraeon, amgylcheddau cymdeithasol ac ymdrechion personol. Mae deallusrwydd emosiynol yn sgil gwerthfawr mewn amgylcheddau rheoli newid ac wrth weithio&#8217;n agos gydag ystod o randdeiliaid, boed yn datblygu theori, ymchwil neu arfer newydd yn eich maes.<\/p>\n<h3 style=\"font-weight: 400\"><strong>Lizzie Romain (BMid 2014)<\/strong><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/06\/MicrosoftTeams-image-102-scaled.jpg\" alt=\"\" width=\"275\" height=\"183\" \/><\/h3>\n<p style=\"font-weight: 400\">Cymhwysodd Lizzie (BMid 2014) gydag Anrhydedd Dosbarth 1af fel Baglor mewn Bydwreigiaeth yn 2014, ac mae bellach yn ymarfer rhan-amser fel Bydwraig i gynnal ei chofrestriad proffesiynol. Symudodd Lizzie i yrfa lawn amser fel newyddiadurwraig\/cynhyrchwraig ar gyfer sianel newyddion yn y DU yn 2022, yn dilyn tair blynedd o gyflwyno a chynhyrchu ar gyfer Hayes FM 91.8 a Future Hits Radio.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Pwysigrwydd sgiliau trosglwyddadwy wrth newid eich gyrfa<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Er roeddwn yn hoff iawn o weithio fel bydwraig amser llawn, sylweddolais fod yna ymdrechion creadigol eraill yr yswn am eu dilyn a na allwn anghofio amdanynt, ac roeddwn i&#8217;n barod i ymgymryd \u00e2&#8217;r her i newid.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Y peth gwych am weithio ym maes gofal iechyd yw eich bod yn datblygu ac yn hogi sgiliau trosglwyddadwy allweddol, sy\u2019n ddeniadol i unrhyw ddarpar gyflogwr: y gallu i beidio \u00e2 chynhyrfu dan bwysau, gweithio\u2019n annibynnol ac fel rhan o d\u00eem amlddisgyblaethol, sgiliau cyfathrebu cryf iawn, cadw amser yn ddiwyd\u2026 mae\u2019r rhestr yn hirfaith.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae&#8217;r sgiliau hyn yn sicr wedi bod yn hylaw wrth gymryd naid ffydd i&#8217;m swydd ddarlledu gyntaf fel newyddiadurwraig\/cynhyrchwraig ar gyfer sianel newyddion yn y DU. Mae cadw\u2019n bwyllog mewn ystafell newyddion fyw mor bwysig ar gyfer dynameg ehangach, ac mae cyfathrebu&#8217;n effeithiol \u00e2 chydweithwyr wrth allbynnu newyddion sy&#8217;n torri yn hanfodol ar gyfer cynnal cyflymder a chywirdeb.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Roedd hi\u2019n anodd newid gyrfaoedd yn fy ugeiniau hwyr, ond os weithiwch chi\u2019n galed, ychwanegu ychydig o gyfleoedd amserol a thamaid o lwc, bydd y sgiliau trosglwyddadwy a ddysgwyd ar ddechrau eich gyrfa yn mynd \u00e2 chi drwodd i\u2019r brig&#8230;ond cofiwch fwynhau\u2019r daith!<\/p>\n<h3>Gabby Kitney (BSc 2012)<img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/06\/MicrosoftTeams-image-100.png\" alt=\"\" width=\"277\" height=\"277\" \/><\/h3>\n<p>Gabby yw Pennaeth Marchnata \u2013 Gogledd America yn The SR Group ac mae wedi bod yn gweithio ym maes\u00a0cyfathrebu marchnata ers mwy na deg mlynedd ar \u00f4l iddi weithio i frandiau megis Vistra, CFA Institute a Deloitte. Ymhell cyn ymwneud \u00e2 maes cyfathrebu marchnata, dechreuodd chwarae hoci cae yn chwech oed &#8211; gan fynd ymlaen i chwarae dros d\u00eem cenedlaethol Hong Kong am fwy na degawd. Chwaraeodd Gabby mewn nifer o dwrnameintiau\u2019r FIH ar draws Asia, yn ogystal ag mewn nifer o gemau cyfeillgar yn erbyn timau a oedd yn paratoi ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Beijing. Drwy gydol ei hamser yn yr ysgol a&#8217;r brifysgol, bu hefyd yn ymwneud \u00e2 ph\u00eal-droed, bocsio, athletau a thraws gwlad. Er bod anaf yn ei gorfodi i ailystyried chwaraeon cystadleuol, parhaodd i chwarae a hyfforddi hoci yn Hong Kong a bellach yn Efrog Newydd.<\/p>\n<p><strong>Cyfathrebu yw\u2019r allweddair<\/strong><\/p>\n<p>Mae cymaint sydd wedi fy mharatoi ar gyfer fy sefyllfa bresennol ond does yr un dim sy\u2019n debyg i chwaraeon &#8211; yn enwedig fy 25+ o flynyddoedd yn chwarae hoci. Mae cynifer o wersi a sgiliau rwy wedi&#8217;u dysgu o fyd chwaraeon sydd wedi cyfrannu 100% at lwyddiant yn fy mywyd corfforaethol &#8211; serch hynny, y peth mwyaf arwyddocaol yw cyfathrebu. Ar y cae, does dim byd gwaeth na bod yn dawel \u2013 does gennych chi\u2019r un syniad am yr hyn sy&#8217;n mynd ymlaen ac yn amlach na dim, bydd y t\u00eem yn colli.<\/p>\n<p>Mae angen cyfathrebu cyson arnoch chi \u2013 geiriau sy\u2019n annog ac yn gosod cyfeiriad. Mae angen adborth arnoch chi wedyn fel eich bod yn gwybod yr hyn y gallwch chi ei wneud i fod hyd yn oed yn well neu i gynnal y safon y tro nesaf. Allwch chi ddim cymryd pethau&#8217;n bersonol &#8211; mae&#8217;r hyn sy&#8217;n digwydd ar y cae yn aros ar y cae. Wedi dweud hynny, mae yna ffordd i gynnig adborth a chyfeiriad, a does dim angen gwneud hyn byth mewn ffordd niweidiol neu negyddol iawn. Yn y gwaith, rwy\u2019n cael fy atgoffa\u2019n gyson bod cyfathrebu\u2019n hollbwysig \u2013 boed hynny\u2019n cadw rhanddeiliaid yn y ddolen fel eu bod nhw\u2019n gwybod eich bod yn gweithio gyda nhw ar y cyd i ddarparu\u2019r hyn sydd ei angen arnyn nhw, neu\u2019n cyfathrebu \u00e2 chydweithwyr yn y t\u00eem fel eich bod yn meithrin perthnasoedd er mwyn cydweithio yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl. Heb gyfathrebu da, ni fyddwch byth yn d\u00eem go iawn, ond yn hytrach yn gr\u0175p o unigolion sy&#8217;n digwydd ceisio cyflawni&#8217;r un peth.<\/p>\n<h3><strong>Jamilla Hekmoun (MA 2018)<\/strong><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/06\/MicrosoftTeams-image-99-e1686755589938.jpg\" alt=\"\" width=\"286\" height=\"271\" \/><\/h3>\n<p>Mae Jamilla yn Gymrawd Ymchwil i\u2019r prosiect Ffydd mewn Iechyd Meddwl yn Sefydliad Woolf. Ar hyn o bryd mae hi&#8217;n ysgrifennu ei PhD ar iechyd meddwl dynion Mwslemaidd lle mae&#8217;n archwilio&#8217;r berthynas rhwng ffydd, ethnigrwydd, gwrywdod, ac iechyd meddwl. Mae Jamilla yn gyn Ymddiriedolwr Bwrdd yn y Llinell Gymorth Ieuenctid Mwslimaidd ac mae&#8217;n Gadeirydd y Gynghrair Iechyd Meddwl Mwslimaidd; rhwydwaith o sefydliadau sy&#8217;n anelu at gydweithio ar iechyd meddwl yn y sector. Mae&#8217;n Aelod o&#8217;r Bwrdd Gweithredol yng Nghyngor Mwslimaidd Cymru. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu pennod llyfr ar iechyd meddwl Mwslimaidd a gyhoeddwyd yn 2019. Enillodd Wobr (tua)30 Prifysgol Caerdydd 2022 yn ogystal \u00e2 derbyn Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig am Actifiaeth Gymunedol.<\/p>\n<p><strong> Mae cymryd risgiau yn arwain at wytnwch<\/strong><\/p>\n<p>Pan oeddwn i newydd ddechrau ar fy ngyrfa yn fy ugeiniau cynnar, roeddwn yn ofni cymryd risgiau oherwydd doeddwn i ddim eisiau clywed y gair \u201cna\u201d. Roeddwn i&#8217;n teimlo ei fod yn fethiant personol a byddwn yn ei gymryd i galon. Newidiais fy meddylfryd i feddwl \u201cy gwaethaf y gall rhywun ddweud yw \u201cna\u201d. Mae bod yn wydn yn sgil trosglwyddadwy rydw i wedi&#8217;i fabwysiadu ac yn aml nawr pan fydd rhywun yn dweud na, dwi&#8217;n clywed \u201cddim eto\u201d. Mae&#8217;n fy sbarduno i ddal ati.<\/p>\n<h3 style=\"font-weight: 400\"><strong>Hannah Sterritt (BMus 2015, MSc 2022)<\/strong><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/06\/MicrosoftTeams-image-98-e1686755650924.jpg\" alt=\"\" width=\"241\" height=\"222\" \/><\/h3>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae Hannah Sterritt (BMus 2015, MSc 2022) yn gweithio i Miller Research, cwmni ymchwil, gwerthuso ac ymgynghori sy&#8217;n ymwybodol o&#8217;r amgylchedd yn y Fenni. Hyd yn hyn, mae ei gyrfa amrywiol wedi canolbwyntio ar ymgysylltu a digwyddiadau, cyn troi at ganolbwyntio ar gynaliadwyedd trwy ddilyn MSc mewn Cynllunio Cynaliadwyedd a Pholisi Amgylcheddol. Mae gan Hannah sawl r\u00f4l wirfoddol hefyd, gan gynnwys fel Ymddiriedolwr Cymdeithas Dyfrffyrdd Mewndirol a oedd yn adeiladu ar y traethawd hir a gwblhaodd fel rhan o waith ei meistr.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Dysgu sut i drosglwyddo eich sgiliau ar draws gwahanol sectorau<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Pan wnes i gais i&#8217;r brifysgol roeddwn i eisiau dilyn rhywbeth roeddwn i&#8217;n angerddol amdano ar lefel uwch.\u00a0 Rhoddodd cerddoriaeth yr hyblygrwydd i mi ar \u00f4l graddio i ystyried naill ai gyrfa yn y maes hwnnw neu, trwy ddefnyddio&#8217;r sgiliau trosglwyddadwy yr oeddwn i wedi&#8217;u dysgu fel gwaith t\u00eem, arweinyddiaeth ac ymroddiad i offeryn penodol, i archwilio meysydd a diwydiannau eraill. Ar \u00f4l gweithio ym maes ymgysylltu a digwyddiadau ar gyfer Prifysgol Caerdydd, roedd gen i ddiddordeb cynyddol mewn cymhwyso egwyddorion cynaliadwyedd i&#8217;r gwaith hwn. Fe wnaeth y swydd hon fy annog i ymgymryd \u00e2 rolau hyrwyddwyr amgylcheddol a hefyd rhoddodd yr hyblygrwydd i mi astudio cwrs meistr yn rhan-amser. Trwy hyn, llwyddais i ddatblygu sgiliau newydd sy&#8217;n benodol i gyfeiriad gyrfa newydd, ac rwyf bellach yn gweithio fel ymgynghorydd cymunedau cynaliadwy sydd wedi cyfuno fy holl sgiliau gwirfoddol a phroffesiynol.<\/p>\n<h3 style=\"font-weight: 400\"><strong>Vicky Lord (BA 2018, MA 2019)<\/strong><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/06\/MicrosoftTeams-image-97.jpg\" alt=\"\" width=\"198\" height=\"264\" \/><\/h3>\n<p style=\"font-weight: 400\">Astudiodd Vicky <strong>(BA 2018, MA 2019)<\/strong> Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd ac arweiniodd ei phrofiad o fod yn Gynorthwy-ydd Golygyddol ar gyfer y cyfnodolyn Qualitative Research ac o ymgymryd \u00e2 rolau Llysgennad Myfyrwyr \/ Cynorthwy-ydd Swyddfa ym maes Recriwtio Myfyrwyr at ei r\u00f4l bresennol sef Gweinyddwr Prosesau Busnes yn Pan Macmillan, ac mae hi wedi symud i Lundain er mwyn ymgymryd \u00e2\u2019r r\u00f4l honno. Ar \u00f4l bod yn Fentor Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn wirfoddolwr droeon, mae hi ar hyn o bryd yn Swyddog Cymorth Gyrfaoedd ar gyfer Cymdeithas y Cyhoeddwyr Ifanc (Llundain), yn helpu gweithwyr proffesiynol newydd ym myd cyhoeddi i ddefnyddio eu sgiliau hyd eithaf eu gallu, ac yn stiwardio Blaen T\u0177 yn Theatr y Globe Shakespeare.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Beth am roi cynnig ar rywbeth newydd?\u00a0<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ennill sgiliau trosglwyddadwy newydd a gall fod yn drywydd hynod hyblyg, gan slotio i mewn i&#8217;ch ffordd o fyw a chyfrannu at eich nodau personol. Chi sy&#8217;n pennu&#8217;r ymrwymiad; digwyddiadau untro a pharhaol, ac efallai y byddwch yn chwilio am gyfle i wirfoddoli sy&#8217;n canolbwyntio ar yrfa neu archwilio angerdd a diddordebau eraill sy&#8217;n fath gwych o hunanofal. Yn enwedig ar \u00f4l graddio, mae dewis gwirfoddoli yn amlygu cydberthynas rhwng eich diddordebau a&#8217;ch sgiliau, a gall gyfrannu at benderfynu ar lwybr gyrfa penodol. Gwirfoddoli yw&#8217;r ffordd hawsaf o roi cynnig ar gyfleoedd newydd ar gyfer maint, hyd yn oed os nad ydynt yn hollol addas, bydd gennych bob amser y sgiliau sydd newydd eu datblygu i&#8217;w trosglwyddo i&#8217;r r\u00f4l nesaf.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Bod yn hyblyg<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">\u00a0Mae bod yn hyblyg a dysgu wrth i chi fynd yn un o&#8217;r sgiliau trosglwyddadwy allweddol rydw i wedi&#8217;u datblygu trwy wirfoddoli. Yn aml mae hyn wedi gofyn am newid meddylfryd yn llwyr. Rydw i wedi mynd o greu adroddiadau ar gyfer golygyddion, i stiwardio blaen t\u0177 yn y theatr. Gall dysgu a chymhwyso gwybodaeth neu brosesau newydd yn gyflym deimlo fel atgyrch ond, mae&#8217;n sgil amlwg ac yn aml yn allweddol ar gyfer effaith gadarnhaol. Mae&#8217;n rhywbeth a fydd yn hynod werthfawr wrth i chi symud ymlaen trwy&#8217;ch gyrfa.<\/p>\n<p><strong>Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw o bobl sy\u2019n barod iawn eu cymwynas ac yma i\u2019ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Gallwch bori drwy eu cyngor a\u2019u hawgrymiadau ar ystod eang o bynciau busnes yn ein <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/category\/cyswllt-caerdydd\/bossing-it-cy\/\">cyfres \u2018Bossing It\u2019<\/a>.<\/strong><\/p>\n<p><b>Yn barod i gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch \u00e2\u2019n\u00a0<\/b><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\"><b>gr\u0175p LinkedIn<\/b><\/a><b>\u00a0a dechrau rhwydweithio.<\/b><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gall datblygu sgiliau trosglwyddadwy fod yn amhrisiadwy i'ch dilyniant, boed hynny drwy wirfoddoli, profiad personol neu drwy eich astudiaethau prifysgol. Buom yn siarad ag aelodau o\u2019n cymuned anhygoel o gynfyfyrwyr sydd wedi rhannu eu doethineb ynghylch sut y gall y sgiliau hyn fod o fudd i chi wrth ddechrau ar eich gyrfa.","protected":false},"author":6913,"featured_media":9765,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[207,166,170],"tags":[],"class_list":["post-9307","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bossing-it-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9307","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6913"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9307"}],"version-history":[{"count":19,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9307\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10167,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9307\/revisions\/10167"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9765"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9307"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9307"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9307"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}