{"id":9254,"date":"2023-05-26T13:25:03","date_gmt":"2023-05-26T13:25:03","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9254"},"modified":"2024-04-11T07:55:03","modified_gmt":"2024-04-11T07:55:03","slug":"fy-mhrofiad-menywod-yn-mentora-kate-walsh","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/05\/26\/fy-mhrofiad-menywod-yn-mentora-kate-walsh\/","title":{"rendered":"Fy mhrofiad Menywod yn Mentora \u2013 Kate Walsh"},"content":{"rendered":"<p><strong>Yn ddiweddar, cymerodd Kate Walsh (LLB 2010, PGDip 2011) ran yn ein cynllun mentora fflach blynyddol &#8211; Menywod yn Mentora, a chafodd gyfle i gael profiad gwerthfawr yn y diwydiant gan ei mentor. Yn yr erthygl hon, mae hi&#8217;n siarad am bwysigrwydd cynlluniau fel Menywod yn Mentora a sut y gallant fod yn fuddiol waeth pa gam rydych chi arno yn eich gyrfa.<\/strong><\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright\" style=\"margin: 8px 8px 0px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/05\/Kate-Walsh-crop.jpg\" alt=\"Kate Walsh\" width=\"204\" height=\"215\" \/>Fe wnes i gais am y cynllun Menywod yn Mentora gan fy mod yn chwilfrydig o ran pa mor effeithiol y gallai fod, yn enwedig cynllun mentora \u201cfflach\u201d a gyflwynwyd dros ychydig o sesiynau yn unig.<\/p>\n<p>Roedd y mentora yn cynnwys cyfnewid ychydig o negeseuon ebost gyda fy mentor, Sitpah Selvaratnam (LLB 1988) cyn cael sesiwn gr\u0175p gydag un mentorai arall. Roedd yn wych cael y sesiwn gr\u0175p oherwydd wrth drafod pryderon y mentorai eraill, sylweddolais eu bod yn debyg iawn i&#8217;r pryderon a brofais i ar y cam hwnnw yn fy ngyrfa.<\/p>\n<p>Weithiau mae&#8217;n ddefnyddiol iawn i siarad \u00e2 rhywun nad yw&#8217;n ffrind agos neu&#8217;n aelod o&#8217;r teulu, oherwydd gallwch gael persbectif newydd ac edrych ar bethau&#8217;n wahanol. Roedd Sitpah yn ardderchog am arsylwi pa feysydd yn fy ngyrfa y siaradais fwyaf angerddol amdanynt, sydd wedi fy helpu i ganolbwyntio fy ymdrechion ar y meysydd hynny.<\/p>\n<p>Roedd yn bwysig i mi fy mod yn cael fy mentora gan fenyw sy&#8217;n rhagorol yn ei maes. Rwy&#8217;n credu bod yna rai heriau gyrfaol sy\u2019n wynebu menywod yn arbennig, felly mae&#8217;n ddefnyddiol siarad \u00e2 rhywun sy&#8217;n gallu siarad o brofiad. Roedd hefyd yn hynod ddiddorol trafod uchafbwyntiau gyrfa gyda fy mentor.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n teimlo fy mod yn dyst bod cynlluniau mentora yn effeithiol ar unrhyw adeg o&#8217;ch gyrfa, nid dim ond ar y dechrau. Byddwn yn argymell y cynllun hwn yn ddi os i unrhyw un sy&#8217;n ystyried cymryd rhan. Nid oes gennych unrhyw beth i&#8217;w golli trwy fod yn rhan o Menywod yn Mentora.<\/p>\n<p>I unrhyw un o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy&#8217;n ystyried cofrestru i fod yn fentorai, bachwch y cyfle hwn \u00e2&#8217;ch dwy law. Gall fod yn ddefnyddiol iawn cael siecbwyntiau bach ar hyd eich gyrfa i sicrhau eich bod yn symud i&#8217;r cyfeiriad cywir.<\/p>\n<div id=\"the-content\">\n<p><strong>Os ydych chi\u2019n gyn-fyfyriwr o Gaerdydd sy\u2019n awyddus i ddod o hyd i, neu ddod yn fentor i gyn-fyfyriwr, mae ein platfform rhwydweithio cyn-fyfyrwyr\u00a0<\/strong><a href=\"https:\/\/connected.cardiff.ac.uk\/feed\"><strong>Cyswllt Caerdydd<\/strong><\/a><strong>\u00a0yn eich helpu chi i ddod o hyd i\u2019r gyfatebiaeth gywir. Mae cofrestru\u2019n gyflym ac yn hawdd, a gallwch chi hidlo yn \u00f4l y diwydiant a\u2019r lleoliad i chwilio am y rheiny sydd naill ai\u2019n cynnig helpu neu\u2019n gofyn am gymorth.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Mae yna hefyd lawer o ffyrdd eraill y gallwch chi\u00a0<\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/get-involved\"><strong>wirfoddoli eich amser a\u2019ch arbenigedd<\/strong><\/a><strong> i helpu i ysbrydoli a chefnogi\u2019r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.<\/strong><\/p>\n<\/div>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn ddiweddar, cymerodd Kate Walsh (LLB 2010, PGDip 2011) ran yn ein cynllun mentora fflach blynyddol - Menywod yn Mentora, a chafodd gyfle i gael profiad gwerthfawr yn y diwydiant gan ei mentor.","protected":false},"author":6922,"featured_media":9253,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,203,2067],"tags":[],"class_list":["post-9254","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-alumni-stories-cy","category-womentoring-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9254","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6922"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9254"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9254\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9256,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9254\/revisions\/9256"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9253"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9254"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9254"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9254"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}