{"id":9222,"date":"2023-05-26T11:06:57","date_gmt":"2023-05-26T11:06:57","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9222"},"modified":"2023-05-26T11:08:19","modified_gmt":"2023-05-26T11:08:19","slug":"dathlu-wythnos-y-gwirfoddolwyr-2023","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/05\/26\/dathlu-wythnos-y-gwirfoddolwyr-2023\/","title":{"rendered":"Dathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr 2023"},"content":{"rendered":"<p>Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol a gynhelir rhwng 1-7 Mehefin i glodfori\u2019r cyfraniad mae miliynau o bobl ledled y DU yn ei wneud drwy wirfoddoli yn eu cymunedau.<\/p>\n<p>Bob blwyddyn, mae ein cynfyfyrwyr anhygoel sy\u2019n gwirfoddoli yn cael cryn effaith ar bopeth a wnawn yma ym Mhrifysgol Caerdydd, boed hynny&#8217;n cefnogi myfyrwyr drwy gynlluniau mentora, llywio strategaeth y Brifysgol, dychwelyd i Gaerdydd i roi cyflwyniad ar yrfaoedd i ysbrydoli&#8217;r genhedlaeth nesaf o raddedigion, neu gynnig interniaethau i&#8217;n myfyrwyr i gael profiad o&#8217;r diwydiant wrth gwblhau eu hastudiaethau.<\/p>\n<p>Rydym am fanteisio ar y cyfle hwn i <em>ddiolch<\/em> yn arbennig i bob un o&#8217;n cynfyfyrwyr sy\u2019n gwirfoddoli ac sy&#8217;n cyfrannu at wneud gwahaniaeth yma ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p><strong>Yn 2022 rhoddodd ein cynfyfyrwyr sy\u2019n wirfoddolwyr 6,589 o oriau o\u2019u hamser!<\/strong><\/p>\n<figure id=\"post-9243 media-9243\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/05\/MicrosoftTeams-image-1-scaled.jpg\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/get-involved\">Rhagor o wybodaeth am wirfoddoli<\/a>.<\/p>\n<p>Mae ein cynfyfyrwyr sy\u2019n gwirfoddoli wedi rhannu eu profiadau a dweud wrthym am y boddhad maen nhw\u2019n ei deimlo wrth wirfoddoli.<\/p>\n<h3><strong>Scott Bowers (BA 2003, PgDip 2004)<\/strong><br \/>\n<strong>Partner Rheoli, Spectacle Partners<\/strong><\/h3>\n<p><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/get-involved\/ambassadors\/register-to-speak-to-prospective-students\">Darlithydd gwadd<\/a><\/p>\n<p>\u201cYm mhob achos, rwyf wedi teimlo bod cymryd rhan wedi helpu pobl &#8211; fel y cefais i gymorth gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol pan oedden yn fyfyriwr yno. Mae&#8217;n gyfle braf i roi rhywbeth yn \u00f4l, cwrdd \u00e2 phobl newydd ac ehangu&#8217;ch rhwydwaith. Rydych chi&#8217;n teimlo&#8217;n dda yn ei wneud ac mae digonedd o gacennau ar gael hefyd!\u201d<\/p>\n<h3><strong>Nneka Akudolu KC (LLB 2001, PgDip 2002)<\/strong><br \/>\n<strong>Bargyfreithiwr, 2 Hare Court<\/strong><\/h3>\n<p><a href=\"https:\/\/youtu.be\/hsB-oZkY-lE\">Cyflwyno sgwrs ar yrfaoedd<\/a><\/p>\n<p>\u201cRoeddwn yn falch iawn o gael fy ngofyn i roi sgwrs gyrfaoedd, gan fod Ysgol y Gyfraith Caerdydd yn rhan mor annatod o fy nhaith gyfreithiol. Roedd y gefnogaeth a&#8217;r anogaeth a gefais yno yn hanfodol o ran cael yr hyder i wneud cais am gyfnod prawf. \u201cRwy&#8217;n gobeithio bod y myfyrwyr yn sylweddoli pa mor gyraeddadwy yw gyrfa yn y Bar ar \u00f4l clywed fy nghyflwyniad.\u201d<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Nneka Akudolu KC - yn rhoi cyflwyniad gyrfaol i Ysgol y Gyfraith Caerdydd\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/hsB-oZkY-lE?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<h3 style=\"font-weight: 400\"><strong>Eleanor Wheeler (BSc 2009, MSc 2010)<\/strong><br \/>\n<strong>Cyfarwyddwr Cysylltiol Ymchwil a Pholisi, The Health Policy Partnership<\/strong><\/h3>\n<p style=\"font-weight: 400\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/category\/cyswllt-caerdydd\/bossing-it-cy\/\">Cyfrannwyd at y gyfres blog &#8216;Bossing It&#8217;<\/a><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">&#8220;Mae gan Brifysgol Caerdydd ddarn enfawr si\u00e2p draig yn fy nghalon, felly roeddwn yn falch iawn o gyfrannu at &#8216;Bossing It&#8217;.\u201d<\/p>\n<h3 style=\"font-weight: 400\"><strong>Glyn Lloyd (LLB 2002, MSc 2003, PGDip 2007, PhD 2008)\u00a0 <\/strong><br \/>\n<strong>Partner a Sylfaenydd, Newfields<\/strong><\/h3>\n<p style=\"font-weight: 400\"><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/get-involved\/offer-an-internship\">Cynigiodd interniaethau i fyfyrwyr<\/a><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">\u201cAr \u00f4l sefydlu a rheoli fy musnes fy hun, rwy&#8217;n teimlo dyletswydd i rannu fy ngwybodaeth a&#8217;m profiad i helpu&#8217;r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol. Rydym yn byw mewn cyfnod heb ei debyg o&#8217;r blaen ac ni fydd y daith ymadfer ar \u00f4l y pandemig yn un hawdd. Mae&#8217;r angen i gefnogi myfyrwyr ar ei fwyaf. Byddwn yn annog unrhyw gyflogwr i ystyried cynnig cyfleoedd. Mae&#8217;n brofiad gostyngedig a gwobrwyol. Rydych yn teimlo eich bod wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth.\u201d<\/p>\n<h3 style=\"font-weight: 400\"><strong>Joanna Dougherty &#8211; (BScEcon\u00a02017)<\/strong><br \/>\n<strong>Cyfarwyddwr Gweithrediadau Byd-eang, JLL<\/strong><\/h3>\n<p>Cymerodd ran yn y rhaglen <a href=\"https:\/\/campaigns.cardiff.ac.uk\/menywod-yn-mentora-2023\">Menywod yn Mentora<\/a>.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">\u201cDyw cofrestru ar gyfer rhaglen fentora ddim yn cymryd gormod o&#8217;ch amser, ond o\u2019m mhrofiad i, gallech gael effaith fawr ar rywun ar gam cynnar yn ei yrfa.\u201d<\/p>\n<p><strong>Ni fyddai\u2019n bosib cyflawni\u2019r hyn rydyn ni\u2019n ei wneud heb ein gwirfoddolwyr gwych, felly os hoffech chi roi rhywbeth yn \u00f4l, ymunwch \u00e2 ni. Beth am ddechrau heddiw drwy gofrestru ar gyfer ein platfform rhwydweithio i gynfyfyrwyr &#8211; <a href=\"https:\/\/connected.cardiff.ac.uk\">Cyswllt Caerdydd<\/a>.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ddathliad blynyddol a gynhelir rhwng 1-7 Mehefin i glodfori\u2019r cyfraniad mae miliynau o bobl ledled y DU yn ei wneud drwy wirfoddoli yn eu cymunedau.","protected":false},"author":6913,"featured_media":9233,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,204,170],"tags":[],"class_list":["post-9222","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-donate-cy","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9222","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6913"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9222"}],"version-history":[{"count":21,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9222\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9247,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9222\/revisions\/9247"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9233"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9222"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9222"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9222"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}