{"id":9201,"date":"2023-05-26T07:32:42","date_gmt":"2023-05-26T07:32:42","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9201"},"modified":"2023-05-26T07:32:44","modified_gmt":"2023-05-26T07:32:44","slug":"pwysigrwydd-gwirfoddoli-gan-gynfyfyrwyr-stiwdio-caukin","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/05\/26\/pwysigrwydd-gwirfoddoli-gan-gynfyfyrwyr-stiwdio-caukin\/","title":{"rendered":"Pwysigrwydd gwirfoddoli gan gynfyfyrwyr \u2014 Stiwdio CAUKIN"},"content":{"rendered":"<p><strong>Yn 2015, sefydlodd Joshua Peasley (MArch 2018), Harry Thorpe (MArch 2018) a Harrison Marshall (MArch 2018) Stiwdio CAUKIN. Y nod? Grymuso cymunedau byd-eang trwy ddylunio a phensaern\u00efaeth gynaliadwy, wrth addysgu ac uwchsgilio cymunedau lleol ledled y byd.<\/strong><\/p>\n<p>Wrth astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, gweithiodd y tri gyda th\u00eem Menter a Dechrau Busnes Dyfodol Myfyrwyr, gan ennill dwy wobr cychwyn busnes myfyrwyr tra roedden nhw wrthi. Dywedodd CAUKIN mai eu nod yw dangos y gall sefydliad ganfod cydbwysedd rhwng elw a phwrpas trwy eu cydweithrediadau, addysg a datblygiadau rhyngwladol.<\/p>\n<p>Mae eu 52 prosiect ledled y byd wedi creu mannau sydd wedi\u2019u dylunio\u2019n well i 10,000 o ddefnyddwyr yn ogystal ag addysgu 800 o aelodau cymunedol am ddylunio ac adeiladu drwy 200,000 awr o addysg ar safleoedd.<\/p>\n<p>Yn ogystal \u00e2 hyn, mae CAUKIN yn rhoi eu hamser yn \u00f4l i Brifysgol Caerdydd yn rheolaidd, gan wirfoddoli eu gwybodaeth a&#8217;u harbenigedd lle bynnag y bo modd. Maent wedi rhoi cyflwyniadau i fyfyrwyr, ac wedi cynnig cyfleoedd gwirfoddoli dros yr haf, gan ganiat\u00e1u i fyfyrwyr gael profiad uniongyrchol gyda phrosiectau adeiladu a phrofi diwylliannau newydd.<\/p>\n<p>Arweiniodd eu gwaith at CAUKIN yn ennill Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Gweithredwr Amgylcheddol yng Ngwobrau Cynfyfyrwyr 2022 (tua)30. Mae Gwobrau (tua)30 yn dathlu&#8217;r cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sy\u2019n arloeswyr ac yn torri rheolau yng nghymuned cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ac fe allwch chi <a href=\"https:\/\/forms.office.com\/Pages\/ResponsePage.aspx?id=MEu3vWiVVki9vwZ1l3j8vOIxubVSj5xFubAOp-s9czZUNE02NDgwQTIwVEFLMkhFTDhVVTIzOUY0Vi4u\">enwebu ar gyfer gwobrau 2023 nawr.<\/a><\/p>\n<p>Mae&#8217;r t\u00eem wedi gallu cyflogi myfyrwyr Prifysgol Caerdydd fel interniaid stiwdio i ddarparu gwybodaeth a mewnwelediad gwerthfawr i&#8217;r rhai sydd am ddilyn gyrfaoedd mewn pensaern\u00efaeth ac adeiladu.<\/p>\n<p>Mae cynnig interniaethau, cyflwyno sgyrsiau i fyfyrwyr, a mentora yn rhai o&#8217;r ffyrdd gwych y mae CAUKIN a chynfyfyrwyr eraill Prifysgol Caerdydd yn rhoi eu hamser a&#8217;u gwybodaeth i gefnogi cenedlaethau&#8217;r dyfodol o fyfyrwyr a chynfyfyrwyr Caerdydd.<\/p>\n<p><strong>Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae ein cymuned fyd-eang o gynfyfyrwyr yn chwarae rhan weithredol yn ein dyfodol uchelgeisiol. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/get-involved\">Darllenwch fwy<\/a> am sut y gallwch gymryd rhan a helpu i ysbrydoli&#8217;r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr a chynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Mae Gwobrau (tua) 30 yn dathlu&#8217;r cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sy\u2019n arloesi, ac yn torri tir newydd yn ogystal \u00e2 thorri rheolau. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/get-involved\/the-30ish-awards\">Gallwch chi enwebu pobl nawr<\/a>.<br \/>\n<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn 2015, sefydlodd Joshua Peasley (MArch 2018), Harry Thorpe (MArch 2018) a Harrison Marshall (MArch 2018) Stiwdio CAUKIN. Y nod? Grymuso cymunedau byd-eang trwy ddylunio a phensaern\u00efaeth gynaliadwy, wrth addysgu [&hellip;]","protected":false},"author":6922,"featured_media":9180,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170,203],"tags":[],"class_list":["post-9201","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9201","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6922"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9201"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9201\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9219,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9201\/revisions\/9219"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9180"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9201"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9201"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9201"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}