{"id":9165,"date":"2023-05-25T12:28:15","date_gmt":"2023-05-25T12:28:15","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9165"},"modified":"2024-10-08T12:41:19","modified_gmt":"2024-10-08T12:41:19","slug":"beth-maer-eisteddfod-yn-ei-olygu-i-mi-rhys-hughes-ma-2017-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/05\/25\/beth-maer-eisteddfod-yn-ei-olygu-i-mi-rhys-hughes-ma-2017-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Beth mae&#8217;r Eisteddfod yn ei olygu i mi Rhys Hughes (MA 2017) \u2014 I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr"},"content":{"rendered":"<p><strong>Graddiodd Rhys Hughes (MA 2017) gyda gradd meistr mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, cyn dechrau ar PhD yn Arizona, UDA. Ac yntau wedi\u2019i fagu yng Nghymru, mae&#8217;n rhannu ei atgofion o&#8217;r Eisteddfod Genedlaethol a sut mae&#8217;n cadw cysylltiad \u00e2&#8217;i wreiddiau Cymreig ymhell o gartref. <\/strong><\/p>\n<p><strong>Os ydych yn bwriadu mynd i <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/events\/view\/2718896-national-eisteddfod-of-wales-alumni-reception\">Eisteddfod Genedlaethol 2023<\/a>, dewch i gyfarfod \u00e2\u2019ch cyd-gynfyfyrwyr yn Nerbyniad Cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ddydd Iau, 10 Awst. Os hoffech fod yn bresennol, neu os hoffech wirfoddoli drwy fod yn un o gyflwynwyr ein digwyddiad, <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/events\/view\/2718896-national-eisteddfod-of-wales-alumni-reception\">cofrestrwch nawr<\/a> neu ebostiwch <a href=\"mailto:alumni@caerdydd.ac.uk\">alumni@caerdydd.ac.uk<\/a> i gael rhagor o fanylion.<\/strong><\/p>\n<p>Ar \u00f4l graddio o brifysgol Caerdydd yn 2017, camais i mewn i\u2019r byd cyfieithu proffesiynol lle bues i\u2019n gweithio am tua 5 mlynedd. Roedd y swyddi cyfieithu a gefais yn gyfle i arfer y sgiliau Cymraeg yr oeddwn wedi\u2019u mireinio yn ystod fy astudiaethau academaidd. Ond ar \u00f4l sbel, roeddwn yn barod am her arall. Roeddwn i wastad wedi bod eisiau cwblhau gradd PhD, ond yn lle aros yng Nghymru neu ym Mhrydain i wneud hynny, roeddwn i eisiau gwthio fy hun ymhellach a byw dramor. Bu\u2019n broses hir a llafurus, ond fe lwyddais i gael fy nerbyn i raglen PhD yn Arizona, UDA. Dw i newydd gwblhau fy ail flwyddyn ac yn edrych ymlaen i gychwyn fy ngwaith ymchwil personol flwyddyn nesaf. Mae fy niddordebau academaidd yn cynnwys gwaith cynllunio ieithyddol yng nghyd-destun ieithoedd lleiafrifol, gyda ffocws ar yr iaith Gymraeg.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn rhan fawr o\u2019m mywyd i ers pan oeddwn yn ifanc iawn. Dw i\u2019n cofio cystadlu gyda gwahanol gorau fel plentyn a chrwydro\u2019r maes hefo\u2019r teulu yn rheolaidd. Pan oeddwn yn fy arddegau, roedd yn gyfle i mi wersylla ym Maes B hefo ffrindiau a chael hwyl wrth wrando ar gerddoriaeth fyw. Mae\u2019n ddigwyddiad unigryw a does dim byd tebyg iddo yn unman arall.<\/p>\n<p>Ers symud dramor i\u2019r UDA, rydw i\u2019n gweld eisiau cymuned Gymraeg gl\u00f2s yn fwy nag erioed. Prin iawn ydw i\u2019n cael cyfle i siarad yr iaith yn Arizona ac mae hynny\u2019n peri gofid i mi yn aml. Serch hynny, mae byw mor bell o adra yn gwneud i mi werthfawrogi\u2019r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru fwy nag erioed. Mae fy malchder dros yr iaith a\u2019r diwylliant yn gryfach ac mi rydw i wrth fy modd yn addysgu Americanwyr a phobl o wledydd eraill sy\u2019n astudio yma am Gymru a\u2019r Gymraeg.<\/p>\n<p>Rhan annatod o\u2019n diwylliant Cymraeg ydi\u2019r Eisteddfod ac mae\u2019r ffaith bod yr \u0175yl yn mynd o nerth i nerth ac yn denu cymaint o ymwelwyr a chystadleuwyr yn destun gobaith i\u2019r Gymraeg. Hyd yn oed yn sgil heriau allanol fel y pandemig, tydi\u2019r Eisteddfod heb golli dim o\u2019i hap\u00eal a dwi\u2019n si\u0175r y bydd ei lleoliad eleni ym Mhen Ll\u0177n yn denu pobl o bob cwr o\u2019r wlad a thu hwnt.<\/p>\n<p>Yn anffodus, oherwydd ymrwymiadau gwaith gyda\u2019r brifysgol yn Arizona, ni fydd modd i mi fynychu eleni. Mae hynny\u2019n bechod mawr yn enwedig gan mai yn ardal Llangybi &#8211; tafliad carreg o Foduan &#8211; y cefais fy magu. Er na fyddaf yno, dw i\u2019n edrych ymlaen i glywed am anturiaethau fy ffrindiau a bydda i\u2019n sicr o ddilyn y cystadlu o Arizona bell.<\/p>\n<p>Heb os, mae\u2019r Eisteddfod yn hafan i siaradwyr Cymraeg o bob lefel a gallu. Mae\u2019n \u0175yl sydd ag arlliw o adloniant, llenyddiaeth, traddodiadau, a chyfleoedd cymdeithasu a rhwydweithio pwysig. O ysgrifennu am yr eisteddfod a hel atgofion, mae\u2019n gwneud i fi feddwl tybed a fyddai modd trefnu Eisteddfod yn Arizona cyn gorffen fy astudiaethau yma. Cawn weld!<\/p>\n<p><em><strong>Rydym wedi cyflwyno \u2018I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr\u2019 gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal \u00e2 chi! Byddem <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\">wrth ein bodd yn clywed gennych i<\/a> gael eich syniadau ar gyfer erthyglau neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw&#8217;r stori! Edrychwch ar ein <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\">rhestr lawn o erthyglau<\/a>, a gwyliwch ein <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/playlist?list=PLBbUDRHpmzVvmG54TgwbGsJ-ElDjOAGIp\">rhestr o ddigwyddiadau byw<\/a> eto.<\/strong><\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Graddiodd Rhys Hughes (MA 2017) gyda gradd meistr mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, cyn dechrau ar PhD yn Arizona, UDA. Ac yntau wedi\u2019i fagu yng Nghymru, mae'n rhannu ei atgofion o'r Eisteddfod Genedlaethol a sut mae'n cadw cysylltiad \u00e2'i wreiddiau Cymreig ymhell o gartref. ","protected":false},"author":6922,"featured_media":9164,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,2050,202,203],"tags":[],"class_list":["post-9165","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-eisteddfod-cy","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9165","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6922"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9165"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9165\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10045,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9165\/revisions\/10045"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9164"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9165"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9165"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9165"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}