{"id":9082,"date":"2023-05-03T09:55:27","date_gmt":"2023-05-03T09:55:27","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9082"},"modified":"2023-05-23T07:30:48","modified_gmt":"2023-05-23T07:30:48","slug":"cynfyfyriwr-yn-codi-dros-4000-yn-dilyn-ei-nith-yn-cael-diagnosis-o-gyflwr-prin","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/05\/03\/cynfyfyriwr-yn-codi-dros-4000-yn-dilyn-ei-nith-yn-cael-diagnosis-o-gyflwr-prin\/","title":{"rendered":"Cynfyfyriwr yn codi dros \u00a35,000 yn dilyn ei nith yn cael diagnosis o gyflwr prin"},"content":{"rendered":"<p><strong>Fe wnaeth Alum Gavin Jewkes (BA 2011, PgDip 2012) gymryd rhan yn Hanner Marathon Hackney i godi arian ar gyfer ymchwil i gyflwr prin y cafodd ei nith fach ddiagnosis ohono y llynedd.<\/strong><\/p>\n<p>Ddiwedd 2022, cafodd nith Gavin, Francesca, ddiagnosis o Gyflwr Sglerosis Twberus (TSC), yn ddim ond chwe mis oed. Mae&#8217;r cyflwr genetig prin hwn yn effeithio ar tua 1 miliwn o bobl ledled y byd, ac yn achosi i diwmorau dyfu yn y prif systemau organau, gan gynnwys yr ymennydd a&#8217;r galon. Gall problemau cyffredin sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 TSC gynnwys trawiadau, epilepsi, awtistiaeth, anawsterau dysgu a phroblemau gyda\u2019r arennau. Mae&#8217;n gyflwr na ellir gwella ohono, ac yn gyflwr gydol oes sy&#8217;n gofyn am ofal hirdymor.<\/p>\n<p>Cafodd Gavin ei fagu yng Nghaerdydd, ac mae ei deulu yn dal i fyw yma. Symudodd i Lundain ar \u00f4l graddio. Mae ei rieni a&#8217;i chwaer yn dal i fyw yno, ond symudodd Gavin i Lundain ar \u00f4l graddio o Brifysgol Caerdydd. Dyma a ddywedodd: \u201cRwy\u2019n byw yng Ngorllewin Llundain; nid yw hynny filltiroedd fil o Gaerdydd, ond roedd yn teimlo\u2019n aruthrol o bell o\u2019r hyn oedd yn digwydd gartref. Roeddwn i&#8217;n teimlo&#8217;n unig ac anobeithiol, ac yn teimlo nad o\u2019n i\u2019n gallu helpu mewn unrhyw ffordd. Yr hyn ddaeth i\u2019m meddwl gyntaf oedd &#8216;beth alla i ei wneud i helpu i wella hyn?&#8217; ond, fel gyda chymaint o gyflyrau meddygol prin, nid yw mor syml \u00e2 thaflu meddyginiaeth, arian, neu amser at TSC.<\/p>\n<p>\u201cMae fy chwaer, fy mrawd yng nghyfraith, fy mam a nhad i gyd wedi ymateb gyda chryfder, pragmatiaeth a chariad. Rwy&#8217;n hynod falch ohonyn nhw ac mae cynnydd Francesca yn galonogol. Mae fy chwaer wedi bod yn gweithio&#8217;n galed iawn gyda hi, ac felly, mae Francesca yn gwneud yn dda iawn ar hyn o bryd. Mae meddyginiaeth, archwiliadau rheolaidd gyda&#8217;r t\u00eem yn Ysbyty&#8217;r Mynydd Bychan, a llawer o gariad a dyfalbarhad, yn golygu eu bod yn dysgu byw gyda realiti ei chyflwr. Rwy\u2019n parhau i gael rhai nosweithiau digwsg yn meddwl sut y gallai\u2019r diagnosis hwn effeithio ar Francesca a fy nheulu yn y dyfodol, ond rydw i\u2019n gwybod eu bod nhw\u2019n gryf ac yn barod i gymryd pethau fel maen nhw\u2019n dod.\u201d<\/p>\n<p>Er nad oedd yn byw gerllaw, roedd Gavin eisiau gwneud rhywbeth i helpu i wneud gwahaniaeth. Wrth geisio dysgu mwy am y cyflwr ar-lein, daeth ar draws ymchwil a oedd yn digwydd ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>\u201cNid yw\u2019n syndod efallai mai cymharol brin yw\u2019r hynny o wybodaeth sydd ar gael ar y rhyngrwyd ynghylch TSC, ond des i ar draws ambell i erthygl a oedd yn trafod yr ymchwil sy\u2019n cael ei wneud gan yr Athro Andrew Tee ym Mhrifysgol Caerdydd. Yr hyn a hoeliodd fy sylw mewn gwirionedd oedd pa mor rhagweithiol yw\u2019r hyn maen nhw\u2019n ei wneud o ran trin symptomau&#8217;r cyflwr hwn a&#8217;i achosion sylfaenol, ac fe roddodd hynny obaith i mi. Roedd y ffaith mai dyma\u2019r brifysgol y b\u00fbm i\u2019n astudio ynddi a\u2019r ddinas y cefais fy magu ynddi yn teimlo fel ffawd!\u201d<\/p>\n<p>Mae&#8217;r Athro Andrew Tee yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi bod yn cynnal ymchwil i TSC ers dros ugain mlynedd. Dyma a ddywedodd: \u201cMae fy labordy yn datblygu astudiaeth achos sy\u2019n edrych ar effaith glinigol cannabidiol ar Gyflwr Sglerosis Twberus. Mae hyn newydd gael ei gymeradwyo gan NICE i\u2019w roi i gleifion TSC, i drin trawiadau yn y DU, sy\u2019n fuddugoliaeth fawr. Fodd bynnag, mae\u2019n hollbwysig ein bod yn cael rhagor o gyllid i archwilio systemau cellog model TSC a fydd yn ein galluogi i ddarganfod therap\u00efau iachaol gwell ar gyfer y clefyd hwn.&#8221;<\/p>\n<p>Unwaith iddo sylweddoli fod ymchwil i gyflwr Francesca yn digwydd yn ei ddinas enedigol, Caerdydd, penderfynodd Gavin osod her codi arian iddo&#8217;i hun. Er ei fod wedi bod yn rhedeg yn achlysurol erioed, ymunodd \u00e2 Hanner Marathon Hackney, gyda dim ond ychydig fisoedd ganddo i hyfforddi.<\/p>\n<p>\u201cRwy\u2019n ddyn trwm ac wedi byw bywyd bywiog yn fy ugeiniau, felly dwi ddim yn y si\u00e2p gorau a minnau nawr yn ddyn sydd yn ei dridgeau canol. Ond roedd dewis Hanner Marathon Hackney yn gwneud synnwyr i mi, gan fod llawer o fy nghydweithwyr yn ei redeg hefyd.<\/p>\n<p>\u201cMae rhedeg wedi bod yn hwb gwych i fy iechyd corfforol a meddyliol, ac wedi newid fy agwedd o ran nifer o wahanol agweddau ar fy mywyd.\u201d<\/p>\n<p>Mae Gavin bellach wedi codi dros \u00a35,000 gyda Chymorth Rhodd, diolch i gefnogaeth anhygoel ei ffrindiau, ei deulu, a&#8217;i gydweithwyr yn TikTok lle mae&#8217;n gweithio.<\/p>\n<p>\u201cRydw i mor ffodus i gael cefnogaeth mor anhygoel ac mae pobl wedi bod yn hynod hael. Mae pawb wedi rhoi mor hael at yr achos gwych hwn, hyd yn oed yng nghanol yr argyfwng costau byw, ac mae hynny wedi fy nghyffwrdd yn fawr iawn.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n hynod ddiolchgar i&#8217;r rhai sydd wedi cyfrannu ac yr un mor ddiolchgar i&#8217;r rhai sydd wedi cysylltu i rannu eu profiadau o bryderon tebyg sy\u2019n effeithio ar eu teuluoedd eu hunain.<\/p>\n<p>\u201cDyw TSC ddim yn derbyn digon o arian, does dim digon o ymchwil yn cael ei wneud i\u2019r cyflwr, a does dim llawer o ymwybyddiaeth gyffredinol ei fod yn bodoli, nac o beth yw ei effeithiau. Does dim &#8216;targed codi arian delfrydol&#8217;, dim ond canlyniad delfrydol &#8211; arian a fydd yn parhau i ariannu ymchwil Prifysgol Caerdydd a llywio&#8217;r broses o ddarganfod triniaethau newydd, ac, o bosibl, iach\u00e2d.&#8221;<\/p>\n<p>Mae codwyr arian ymroddedig fel Gavin yn helpu i ariannu ymchwil Prifysgol Caerdydd mewn meysydd megis canser, niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, clefyd y galon, a chyflyrau prin megis TSC.<\/p>\n<p>\u201cFe wnaeth diagnosis Francesca fy llorio i a nheulu. Er ein bod ni&#8217;n gwybod y bydd hi bob amser yn cael ei charu ac yn cael y gofal gorau, dydyn ni ddim yn gwybod beth yw ei dyfodol, a dyna pam mae&#8217;r ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd mor bwysig &#8211; mae&#8217;n rhoi gobaith i gleifion a theuluoedd fel fy un i fod triniaethau effeithiol heb fod yn bell o\u2019n gafael, ac y gall y rhai sydd \u00e2\u2019r diagnosis hwn fyw bywyd mor \u2018normal\u2019 a llawn boddhad \u00e2 phosibl.\u201d<\/p>\n<p>Gallwch barhau i noddi Gavin trwy ei <strong><a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/fundraising\/gavin-jewkes\">dudalen JustGiving<\/a><\/strong>.<strong> Os oes gennych ddiddordeb mewn codi arian ar gyfer ymchwil achub bywyd a newid bywyd Prifysgol Caerdydd, ewch i <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/community\/fundraise-for-our-research\">caerdydd.ac.uk\/fundraise<\/a>. <\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae'r cynfyfyriwr Gavin Jewkes (BA 2011, PgDip 2012) wedi gosod yr her iddo'i hun o redeg Hanner Marathon Hackney y mis nesaf i godi arian ar gyfer ymchwil i gyflwr prin y cafodd ei nith fach ddiagnosis ohono y llynedd.","protected":false},"author":1812,"featured_media":9053,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[212,170,203],"tags":[],"class_list":["post-9082","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-teamcardiff-cy","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9082","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1812"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9082"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9082\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9140,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9082\/revisions\/9140"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9053"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9082"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9082"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9082"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}