{"id":9041,"date":"2023-04-28T08:05:34","date_gmt":"2023-04-28T08:05:34","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=9041"},"modified":"2025-02-04T11:15:29","modified_gmt":"2025-02-04T11:15:29","slug":"menywod-yn-arwain-bossing-it","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/04\/28\/menywod-yn-arwain-bossing-it\/","title":{"rendered":"Menywod yn Arwain &#8211; Bossing It"},"content":{"rendered":"<p><strong>Buom yn siarad yn ddiweddar \u00e2 rhai o\u2019n harweinwyr benywaidd llwyddiannus o gymuned cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Gwnaethant rannu ychydig o gyngor y bydden nhw&#8217;n ei roi i&#8217;w hunain iau yn rhifyn diweddaraf ein cyfres Bossing It.<\/strong><\/p>\n<h3><strong>Sophie Howe (LLB 1999, Hon 2022)<\/strong><\/h3>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 112px;height: 142px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/04\/MicrosoftTeams-image-72.jpg\" alt=\"Sophie Howe (LLB 1999, Hon 2022)\" width=\"1736\" height=\"2184\" \/>Wedi&#8217;i disgrifio fel &#8216;Gweinidog Cyntaf y Byd ar gyfer y Sawl sydd heb eu Geni Eto&#8217; Sophie Howe oedd Comisiynydd Cenedlaethau&#8217;r Dyfodol cyntaf Cymru, yr unig r\u00f4l o&#8217;i bath yn y byd. Fe wnaeth hi ddwyn y Llywodraeth i gyfrif ar sut mae eu penderfyniadau\u2019n effeithio ar genedlaethau\u2019r dyfodol ac mae wedi dylanwadu ar wledydd eraill i wneud yr un peth gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig. A hithau yn safle rhif 5 ar Restr Merched Pwerus (Women\u2019s Power List) y BBC, nid oes ar Sophie ofn amlygu\u2019r gwiriondeb sydd ynghlwm \u00e2 gwneud penderfyniadau tymor byr ac mae&#8217;n adnabyddus am fod yn eiriolwr ysbrydoledig, sy\u2019n siarad ei barn yn glir er budd y rhai sydd heb eu geni eto.<\/p>\n<p><strong>Manteisia ar bob cyfle<\/strong><\/p>\n<p>Teimlwch yr ofn a gwnewch bethau, beth bynnag. Gall menywod ddioddef yn wael gyda syndrom y twyllwr (imposter syndrome), ond mae angen i ni sylweddoli bod gennym yn aml bersbectif, a set o sgiliau a thalentau unigryw, sydd eu hangen yn fawr. Felly, rhowch eich hun yn yr ystafell a bachwch ar gyfleoedd, hyd yn oed os ydyn nhw\u2019n eich dychryn. Peidiwch \u00e2 bod ofn methu &#8211; mae rhai o&#8217;r pethau gorau yn fy mywyd wedi dod allan o&#8217;r pethau rydw i wedi &#8216;methu \u00e2\u2019u gwneud&#8217;. Pan fydd un drws yn cau mae un arall yn agor &#8211; ond mae&#8217;n rhaid i chi fod yn yr ystafell yn y lle cyntaf.<\/p>\n<h3><strong>Nneka Akudolu KC (LLB 2001, PgDip 2002)<\/strong><\/h3>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 194px;height: 292px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/02\/MicrosoftTeams-image-57-scaled.jpg\" alt=\"Nneka Akudolu KC (LLB 2001, PgDip 2002)\" width=\"1703\" height=\"2560\" \/>Tyngwyd Nneka Akudolu (LLB 2001, PgDip 2002) i mewn fel Cwnsler y Brenin (KC) yn 2022, gan ymuno \u00e2 gr\u0175p dethol o ymarferwyr y gyfraith a benodwyd gan y frenhines. Fel KC sy\u2019n arbenigo mewn cyfraith droseddol, mae Nneka yn gweithio ar yr achosion mwyaf difrifol yr ymdrinnir \u00e2 nhw yn llysoedd y Goron ac Ap\u00eal, ac mae\u2019n un o ddim ond saith KC benywaidd Du yn y DU.<\/p>\n<p><strong>Gwrthsefyll gwrthodiad<\/strong><\/p>\n<p>Dylai unrhyw un sy&#8217;n dilyn gyrfa yn y Bar baratoi eu hunain i gael eu gwrthod; mae gwydnwch yn allweddol. Pan gyflwynais sawl cais am dymor prawf, ro&#8217;n i wedi fy synnu o glywed yr holl &#8216;diolch ond dim diolch&#8217;, neu ddiffyg ymateb yn llwyr. Ni wnaeth hynny fy rhwystro. Fel myfyrwyr, cyn dechrau ar yr yrfa hon roedd llawer yn dweud mai canran isel o unigolion fyddai&#8217;n cael lle ar y cwrs Bar, ac y byddai nifer hyd yn oed yn llai yn cael lle ar dymor prawf. O ran cyngor i mi fy hun pan ro&#8217;n i&#8217;n iau, fe fyddwn i&#8217;n dweud bod gen i siawns 100% o beidio \u00e2 llwyddo pe na fyddwn i&#8217;n rhoi cynnig arni.<\/p>\n<figure id=\"post-9261 media-9261\" class=\"image align-left\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/04\/Rupal-crop2.jpg\" alt=\"Rupal Patel (BScEcon 1999) \" \/><\/figure>\n<h3><strong>Rupal\u00a0Patel (BScEcon 1999)<\/strong><\/h3>\n<p>Mae Rupal yn Uwch Arweinydd Rheoli Risg a Llywodraethu, gyda dros 20 mlynedd o brofiad gyda banciau buddsoddi Haen 1 byd-eang mewn risg a chydymffurfiaeth gweithredu. Mae wedi dylanwadu ar ddatblygiad a gweithrediad strategaethau newid rheoliadol sy&#8217;n cydymffurfio, o safbwynt risg ym maes Gwasanaethau Ariannol. Yn 2020, sefydlodd Women in Risk &amp; Control, menter gydweithredol diwydiant sydd \u00e2&#8217;r nod o gael effaith bositif ar amrywiaeth rhyw ym maes Rheoli Risg Anariannol ar lefelau arweinyddiaeth uwch. Yn 2021, roedd Rupal yn rownd derfynol y categori uwch arweinwyr yn Powerlist Women in Fintech.<\/p>\n<p><strong>Meithrin perthnasoedd gwaith cryf\u202f <\/strong><\/p>\n<p>Efallai eich bod chi&#8217;n gwybod beth hoffech chi ei wneud yn y dyfodol, ond efallai ddim. Ble bynnag yr ydych ar y sbectrwm, po fwyaf chwilfrydig ydych chi am rolau&#8217;r rhai sy&#8217;n gweithio ochr yn ochr \u00e2 chi, y mwyaf a&#8217;r cryfaf fydd eich rhwydwaith. Dyma beth fydd yn eich gosod ar wah\u00e2n ac yn creu cyfleoedd newydd. Canolbwyntiwch ar adeiladu a meithrin perthnasoedd pryd bynnag y gallwch. Mae arweinwyr yn deall y darlun ehangach. Parhewch i ddysgu ac amgylchynwch eich hun gyda phobl y gallwch ddysgu oddi wrthynt, ac sy&#8217;n barod i&#8217;ch helpu i wneud cysylltiadau, a thalu hynny&#8217;n \u00f4l i eraill yn gyfnewid.<\/p>\n<h3><strong>Sitpah Selvaratnam (LLB 1988)<\/strong><\/h3>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 171px;height: 154px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/04\/MicrosoftTeams-image-74.png\" alt=\"Sitpah Selvaratnam (LLB 1988)\" width=\"381\" height=\"344\" \/>Mae Sitpah Selvaratnam yn Eiriolwr a Chyfreithiwr ym Malaysia, yn Fargyfreithiwr yn y Gyfraith yn Lincoln&#8217;s Inn ac yn Gyflafareddwr Rhyngwladol. Roedd hi&#8217;n un o\u2019r partneriaid a sefydlodd gwmni cyfreithiol Tommy Thomas ac mae&#8217;n Aelod Llys o Lys Cyflafareddu Rhyngwladol yr ICC. Mae Ms Selvaratnam wedi bod yn ymarfer y gyfraith ym Malaysia ers 1991 gan ganolbwyntio ar anghydfodau\u2019n ymwneud ag ansolfedd corfforaethol, anghydfodau masnachol, ac anghydfodau\u2019n ymwneud ag yswiriant a llongau. Mae hi hefyd wedi bod yn dyst sy\u2019n arbenigwr, a hynny ar gyfreithiau morwrol, masnachol a bancio Malaysia mewn achosion tramor a chyflafareddu.<\/p>\n<p><strong>Rwyt ti\u2019n unigryw, a bydd hyn yn gwneud i ti ddisgleirio<\/strong><\/p>\n<p>Rhaid i chi wybod yn eich calon, os ydych chi ar y blaned hon, mai eich natur unigryw chi yw&#8217;r hyn sydd ei angen ar y blaned. Does dim rhaid i chi fod fel y person nesaf. Dydyn ni ddim i fod yn gopi o\u2019n gilydd. Dydyn ni ddim i fod yn dda ar bopeth. Mae&#8217;r hyn sy&#8217;n dod yn hawdd i chi neu&#8217;n rhoi llawenydd i chi yn arwyddion i\u2019ch arwain ar eich llwybr arbennig chi. Felly, ymlaciwch. Dathlwch pwy ydych chi, a bydd eich bywyd a phwrpas eich bywyd yn datblygu&#8217;n mewn ffordd hardd o&#8217;ch blaen.<\/p>\n<h3><strong>Lara Hussein (BScEcon 1986)<\/strong><\/h3>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 127px;height: 130px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/04\/MicrosoftTeams-image-73.png\" alt=\"Lara Hussein (BScEcon 1986)\" width=\"198\" height=\"203\" \/>Lara yw Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd M&amp;C Saatchi Malaysia. Dechreuodd ei gyrfa ym maes hysbysebu a chyfathrebu ar \u00f4l iddi dychwelyd i Malaysia yn dilyn ennill ei gradd, lle aeth ymlaen i sefydlu ei chwmni ei hun cyn cael cais i sefydlu swyddfa M&amp;C Saatchi ym Malaysia. O dan ei harweinyddiaeth, mae\u2019r cwmni wedi dod yn asiantaeth sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae hi wedi cael ei disgrifio\u2019n un o arweinwyr benywaidd mwyaf llwyddiannus Malaysia.<\/p>\n<p><strong>Creda yno ti dy hun<\/strong><\/p>\n<p>Credwch ynoch chi&#8217;ch hun, a\u2019r hyn y gallwch chi ei gyflawni, bob amser. Waeth pa mor anodd yw\u2019r daith ar yr olwg gyntaf, gall gwaith caled a phenderfyniad fynd \u00e2 chi ymhell. Cofiwch beidio byth \u00e2 rhoi&#8217;r gorau i&#8217;ch breuddwydion, hyd yn oed pan fyddwch chi&#8217;n wynebu rhwystrau neu heriau. Nid yw\u2019r daith at lwyddiant yn llinell syth bob amser, bydd pethau&#8217;n gwella ac yna\u2019n anwastad, ond mae&#8217;n bwysig parhau i edrych ymlaen a gall cael nod neu bwrpas clir roi cyfeiriad ac ystyr i&#8217;ch taith. Peidiwch \u00e2 gofyn beth sydd ei angen ar y Byd, ond gofynnwch i chi&#8217;ch hun beth sy&#8217;n gwneud ichi deimlo\u2019n fyw, ac ewch allan i wneud hynny! Mae dod o hyd i fentor a all eich arwain a&#8217;ch cefnogi trwy gydol hyn mor bwysig. Chwiliwch am rywun rydych chi&#8217;n eu parchu, a all gynnig cyngor a&#8217;ch helpu i lywio&#8217;ch llwybr at lwyddiant.<\/p>\n<h3><strong>Eleanor Wheeler (BSc 2009, MSc 2010)<\/strong><\/h3>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 98px;height: 130px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/04\/MicrosoftTeams-image-75-scaled.jpg\" alt=\"Eleanor Wheeler (BSc 2009, MSc 2010)\" width=\"1923\" height=\"2560\" \/>Mae Eleanor Wheeler yn Gyfarwyddwr Cyswllt Ymchwil a Pholis\u00efau yn The Health Policy Partnership, sef sefydliad ymgynghori sydd \u00e2 ffocws craidd ar ysgogi newid er mwyn gwella canlyniadau iechyd. Cyn ymuno \u00e2 HPP, treuliodd Eleanor saith mlynedd yn Cancer Research UK, gan sefydlu rhaglen o brosiectau sy\u2019n cynnwys y cyhoedd a chleifion mewn ymchwil, a chan greu strategaethau yn rhychwantu ymgysylltu ag ymchwilwyr a dylanwadu gwleidyddol.<\/p>\n<p><strong>Mae\u2019n bwysig dy fod yn deall ac arddangos dy sgiliau trosglwyddadwy<\/strong><\/p>\n<p>Wrth i mi symud drwy wahanol sefydliadau a rolau, fe sylweddolais fod gallu nodi ac arddangos y sgiliau trosglwyddadwy penodol y gallwn eu cyflwyno i feysydd gwaith newydd, yn hanfodol o ran fy natblygiad gyrfa, hyn yn hytrach na chanolbwyntio ar ddatblygiad llinell syth mewn \u2018r\u00f4l&#8217; penodol; peidiwch \u00e2 diystyru gwneud cais am swydd gan nad oes gennych yr union brofiad y gofynnir amdano yn yr hysbyseb. Yn aml mae galw mawr am sgiliau megis rheoli prosiectau, meddwl yn strategol, hwyluso a chyflwyno mewn amrywiaeth eang o wahanol rolau a gall arddangos y rhain agor y gronfa cyfleoedd i chi. Mae datblygu gyrfa yn y modd hwn, er nad yw&#8217;n edrych fel llinell syth ar bapur, wedi fy ngalluogi i feithrin gyrfa sy&#8217;n adeiladu ar fy nghryfderau ac wedi fy ngalluogi i wneud camau diddorol i feysydd gwaith newydd.<\/p>\n<h3><strong>Rachel Ashworth (PhD 2000)<\/strong><\/h3>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft\" style=\"width: 234px;height: 156px\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/04\/MicrosoftTeams-image-77-scaled.jpg\" alt=\"Rachel Ashworth (PhD 2000)\" width=\"2560\" height=\"1707\" \/>Rachel Ashworth yw Deon Ysgol Busnes Caerdydd ers mis Medi 2018. Ei blaenoriaethau yn y r\u00f4l hon yw ymgorffori strategaeth Gwerth Cyhoeddus yr Ysgol; gwella profiad myfyrwyr a staff; creu lle ar gyfer ymchwil ac arloesedd a sicrhau bod pobl yn teimlo wedi\u2019u grymuso i weithredu; ac, a hithau\u2019n Ddeon benywaidd cyntaf yr Ysgol, hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant yn weithredol felly. Mae Rachel hefyd yn Athro ym maes Rheoli Gwasanaethau Cyhoeddus a gellir gweld ei hymchwil mewn perthynas \u00e2 phedair thema allweddol: newid sefydliadol yn y sector cyhoeddus; craffu ac atebolrwydd ym maes gwasanaethau cyhoeddus, cydraddoldeb ac amrywiaeth ym maes gwasanaethau cyhoeddus a pherfformiad gwasanaethau cyhoeddus.<\/p>\n<p><strong>Ymddiriedwch yn eich greddf a tharo cydbwysedd.<\/strong><\/p>\n<p>Byddwn i&#8217;n dweud tri pheth wrth fy hunan iau. Yn gyntaf, ymddiriedwch yn eich greddf gan y byddant yn eich gwasanaethu&#8217;n dda dros amser. Yn ail, jyst derbyn syndrom ymhonnwr a dysgu byw gyda fe wrth iddo aros gyda chi am byth ac mae pawb yn dioddef ohono &#8211; hyd yn oed os nad ydyn nhw&#8217;n cyfaddef hynny! Yn drydydd, byddwn i&#8217;n dweud rhoi gwaith mewn persbectif, poeni llai a neilltuo mwy o&#8217;ch amser i deulu a ffrindiau. Mae&#8217;n arbennig o anodd sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith a chartref yn y byd academaidd ond mae cael amser allan yn bwysicach nag unrhyw beth arall.<\/p>\n<p><strong>Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw o bobl sy\u2019n barod iawn eu cymwynas ac yma i&#8217;ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Gallwch bori drwy eu cyngor a&#8217;u hawgrymiadau ar ystod eang o bynciau busnes yn ein <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/category\/cyswllt-caerdydd\/bossing-it-cy\/\">cyfres \u2018Bossing It\u2019<\/a>.<\/strong><\/p>\n<p><b>Yn barod i gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch \u00e2\u2019n\u00a0<\/b><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\"><b>gr\u0175p LinkedIn<\/b><\/a><b>\u00a0a dechrau rhwydweithio.<\/b><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Buom yn siarad yn ddiweddar \u00e2 rhai o\u2019n harweinwyr benywaidd llwyddiannus o gymuned cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Gwnaethant rannu ychydig y gyngor y bydden nhw'n ei roi i'w hunain pan yn iau.","protected":false},"author":6913,"featured_media":9766,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[207,166,170],"tags":[],"class_list":["post-9041","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bossing-it-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9041","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6913"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9041"}],"version-history":[{"count":22,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9041\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10164,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9041\/revisions\/10164"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9766"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9041"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9041"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9041"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}