{"id":8991,"date":"2023-03-31T15:08:53","date_gmt":"2023-03-31T15:08:53","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8991"},"modified":"2023-04-05T12:18:12","modified_gmt":"2023-04-05T12:18:12","slug":"buddsoddi-yn-y-genhedlaeth-nesaf-o-sefydlwyr-benywaidd-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/03\/31\/buddsoddi-yn-y-genhedlaeth-nesaf-o-sefydlwyr-benywaidd-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"Buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o sefydlwyr benywaidd yng Nghymru"},"content":{"rendered":"<p style=\"font-weight: 400\"><em><strong>Mae Angylion Cymru sy\u2019n Ferched (ACM) yn syndicet angylion buddsoddi mewn busnesau newydd, sy\u2019n cael ei gefnogi a\u2019i hwyluso gan Fanc Datblygu Cymru. Cydsefydlwyd y syndicet gan Jill Jones (MSc 2020, Astudiaethau Busnes 2019-), ac mae&#8217;n gr\u0175p o dros 30 o aelodau. Mae llawer ohonynt yn gynfyfyrwyr llwyddiannus o Brifysgol Caerdydd, a\u2019u nod yw helpu mwy o fenywod yng Nghymru i ddechrau busnesau a ffynnu. Mewn sgwrs gyda Jill, a&#8217;i chyd-aelod Helen Molyneux (LLB 1987), soniodd y ddwy wrthym am eu cynlluniau ar gyfer ACM a&#8217;r ysbrydoliaeth ar gyfer y prosiect.<\/strong><\/em><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Beth yw angylion buddsoddi a pham eu bod mor bwysig?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Jill<\/strong>: Mae angylion buddsoddi yn buddsoddi yn gynnar wrth i\u2019r cwmni dyfu, pan fydd sylfaenydd sy&#8217;n dechrau busnes o bosib cael trafferth cael gafael ar gyllid dyled a benthyciadau. Fodd bynnag, mae angylion busnes yn cynnig mwy na chyllid. Fel arfer, mae ganddyn nhw gefndir entrepreneuraidd, busnes neu gorfforaethol. Felly, maen nhw&#8217;n fwy na buddsoddwyr yn unig. Maent yn cynnig llawer o gefnogaeth i\u2019r sylfaenydd; cysylltiadau, sgiliau, gwybodaeth, a mynediad i rwydweithiau.<\/p>\n<p><strong>Beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu \u00f4l i Angylion Cymru sy\u2019n Ferched?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Helen: Pan oeddwn yn rhedeg fy musnes fy hun, ceisio cael cyllid oedd yn cymryd y rhan fwyaf o amser a dyna oedd y rhan anoddaf. Roedd rhedeg y busnes ei hun yn hawdd, ac roeddwn i&#8217;n gwybod y gallwn ei dyfu, ond ro\u2019n i si\u0175r o fod yn treulio 60% o fy amser yn ceisio dod o hyd i gyllid, ac ro\u2019n i\u2019n ei chael hi&#8217;n anodd iawn. Roeddwn i eisiau helpu menywod eraill i ddelio \u00e2&#8217;r problemau hynny, yn enwedig yn ystod camau cynnar eu menter pan mae hi\u2019n gallu bod yn anodd cael pobl i gredu ynoch chi a&#8217;ch cysyniad, ac nid oes gennych chi brofiad blaenorol.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Pam ei bod hi mor bwysig bod mwy o fenywod yn dod yn angylion buddsoddi?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Jill<\/strong>: Astudiais i\u2019r syniad o angylion buddsoddi mewn busnesau pan oeddwn yn gwneud gradd feistr mewn entrepreneuriaeth, 16 mlynedd yn \u00f4l. Un peth rydw i wedi sylwi arno dros y blynyddoedd yw nad oes llawer wedi newid. Mae&#8217;n dal i fod yn faes sy\u2019n cael ei ddominyddu gan ddynion. Dim ond 14% o angylion buddsoddi sy&#8217;n fenywod a dim ond 10% o gyllid angylion busnes sy&#8217;n mynd i d\u00eem sy\u2019n fenywod yn unig. Ac felly, ychydig flynyddoedd yn \u00f4l, penderfynais geisio gwneud rhywbeth am y peth ac annog mwy o fenywod i gymryd rhan. Fe wnes i hefyd ddechrau ar PhD ym Mhrifysgol Caerdydd sy&#8217;n canolbwyntio ar pam mae cyn lleied o fenywod yn angylion buddsoddi.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Os ydych chi\u2019n ystyried hyn, yna mae&#8217;n eithaf posibl nad yw cynhyrchion sy&#8217;n canolbwyntio ar fenywod yn cael y sylw y maent yn ei haeddu, oherwydd nid yw&#8217;r defnyddwyr terfynol yn rhan o&#8217;r broses ddethol. Er mwyn denu mwy o fuddsoddwyr benywaidd, dwi&#8217;n credu ei bod yn bwysig ein bod yn sicrhau bod menywod yn cefnogi\u2019r busnesau y maent eisiau eu gweld yn llwyddo ac sydd \u00e2\u2019r cynhyrchion a&#8217;r gwasanaethau sy&#8217;n diwallu anghenion menywod. Menywod yn cefnogi menywod.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>A oes yna unrhyw resymau personol dros ymwneud \u00e2\u2019r prosiect?<em><br \/>\n<\/em><\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Jill<\/strong>: Dwi wedi cael gyrfa entrepreneuraidd gwerth chweil a llawn boddhad sydd wedi fy ngalluogi i addasu i wahanol gyfnodau yn fy mywyd, a dwi eisiau cefnogi menywod eraill i gael yr un cyfleoedd. Mae bod yn un o\u2019r angylion buddsoddi busnes yn ffordd wych o roi rhywbeth yn \u00f4l ac i weithio gyda phobl anhygoel, sylfaenwyr, a chyd-fuddsoddwyr.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Helen<\/strong>: Rhan o&#8217;r ysbrydoliaeth i mi ymuno \u00e2&#8217;r gr\u0175p oedd fy mod wedi bod yn buddsoddi ar fy mhen fy hun ers tua 10 mlynedd ac mae&#8217;n lle eithaf unig i fod. Yn enwedig os ydych chi&#8217;n buddsoddi ar eich pen eich hun, neu yw&#8217;r unig fenyw sy&#8217;n buddsoddi mewn busnes wedi&#8217;i amgylchynu gan lwyth o ddynion. Mae buddsoddi arian mewn rhywbeth ac yn gobeithio y bydd popeth yn iawn yn y diwedd yn gallu achosi tipyn o straen. Ond os ydych chi&#8217;n gwneud hynny gyda gr\u0175p o bobl sydd \u00e2 setiau gwahanol o sgiliau, ac sy&#8217;n gallu ychwanegu rhywbeth ato, mae hynny&#8217;n gwneud gwahaniaeth mawr. Dwi&#8217;n credu mai dyna sy\u2019n wych am angylion buddsoddi.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Beth yw manteision ACM i fusnesau newydd?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Jill<\/strong>: Rydyn ni&#8217;n mynd ar y daith gyda&#8217;r sylfaenydd. Nid cynnig un rownd o gyllid a\u2019u gadael yw\u2019r drefn. Rydym yn cynnal y berthynas gyda&#8217;r sylfaenydd ar \u00f4l buddsoddi, ac mae angen mwy nag un rownd o gyllid ar y rhan fwyaf o fusnesau i dyfu. Felly, y syniad yw ein bod ni, fel syndicet yn gallu cadw llygad ar y busnes ac aros gydag ef. Fel y dywedodd Helen, chwilio am gyllid yw un o&#8217;r pethau sy\u2019n cymryd y rhan fwyaf o arian wrth redeg busnes. Gallwn ni helpu, fel syndicet, i liniaru hynny trwy naill ai gynnig arian ein hunain, neu roi&#8217;r sylfaenydd mewn cysylltiad \u00e2 ffynonellau cyllido eraill.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Helen<\/strong>: Rwy&#8217;n gyfreithiwr ac roedd gen i fy musnes fy hun cyn imi ei werthu, felly dyna sut y dechreuais i fuddsoddi. Mae pobl sydd wedi bod yn Brif Weithredwyr cwmn\u00efau, yn arbenigwyr addysgol sydd wedi troi&#8217;n Brif Weithredwyr, a rhai o\u2019r byd marchnata yn rhan o\u2019r gr\u0175p ACM. Mae&#8217;n gr\u0175p eang iawn gyda sgiliau mewn llawer o wahanol sectorau hefyd. Felly mae hynny&#8217;n ddefnyddiol oherwydd os nad ydych chi&#8217;n adnabod sector, gallwch chi gael eich drysu gan y swydd, ond gallwch hefyd fynd lawr y trywydd anghywir ar \u00f4l cyffroi dros rywbeth nad ydych yn ei ddeall. Mae yna bob math o fewnwelediadau rydyn ni&#8217;n eu cael gan bobl yn y t\u00eem sydd \u00e2 gwell dealltwriaeth o sectorau na fi, er enghraifft.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Pa gyngor fyddech chi&#8217;n ei roi i sylfaenydd sy&#8217;n chwilio am fuddsoddiad?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Helen<\/strong>: Dewch i siarad \u00e2 ni yn gynnar cyn ei gadael hi\u2019n rhy hwyr. Hyd yn oed os nad ydych yn barod i dderbyn buddsoddiad ar y pryd, o leiaf gallwn ddweud wrthych beth y byddwn yn chwilio amdano pan fyddwch yn barod. Does dim drwg mewn cael sgyrsiau cynnar. Os ydych chi&#8217;n pendroni ynghylch eich cam nesaf, yna efallai y gallwn ni gael sgwrs. Peth arall rydw i bob amser yn ei ddweud yw bod angen i chi adnabod eich cynllun busnes yn dda iawn.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Jill<\/strong>: Ac yn gallu ei egluro i eraill. Byddwch yn glir eich meddwl o ran yr hyn rydych chi am ei wneud, beth yw&#8217;r angen, a pham y dylai fod yno. Mae&#8217;n bosib iawn bod angen help i gyrraedd yno, ond byddwch yn glir ynghylch eich gweledigaeth.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Pa gyngor fyddech chi&#8217;n ei roi i&#8217;r rhai sy&#8217;n awyddus i ddechrau buddsoddi?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Helen<\/strong>: Y peth pwysicaf, a\u2019r mwyaf diddorol o bosib i&#8217;w gyfleu i bobl, yw nad oes angen i chi fod yn hynod gyfoethog i fuddsoddi. Os ydych chi&#8217;n rhan o syndicet fel ein un ni, mae gennych rym y gr\u0175p, sy&#8217;n golygu y gallwn ni i gyd fuddsoddi symiau llai gyda&#8217;n gilydd. Yr hyn rydyn ni ei eisiau yw bod menywod &#8216;normal&#8217;, sydd ddim yn hynod gyfoethog, yn cymryd rhan ac yn cefnogi menywod eraill. Dyna beth sy\u2019n wych am syndicadau, rydyn ni&#8217;n gryfach gyda&#8217;n gilydd.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Pa effaith fyddech chi&#8217;n hoffi gweld y gr\u0175p yn ei chael ymhen pum neu ddeng mlynedd?<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Jill<\/strong>: Hoffwn i weld sylfaenwyr y busnesau rydym yn eu cefnogi, yn gadael eu busnes, ac yna&#8217;n ymuno \u00e2 ni. Byddwn hefyd yn hoffi ein bod ni\u2019n dod i adnabod rhannau eraill o&#8217;r ecosystem fuddsoddi yng Nghymru, gan gefnogi amrywiaeth eang o fusnesau.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Helen<\/strong>: Rydym am i fenywod gael y cyfle i adeiladu busnes ac, os ydynt yn mwynhau, ei gadw i fynd. Neu gallan nhw &#8211; os ydyn nhw eisiau &#8211; ei werthu ac ymuno \u00e2 ni a gwneud yr hyn rydyn ni&#8217;n ei wneud, sef cefnogi&#8217;r genhedlaeth nesaf o fenywod i dyfu eu busnesau.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Jill<\/strong>: Byddem wrth ein bodd yn tyfu&#8217;r gr\u0175p a chroesawu aelodau newydd. Rydym yn sicr yn bwriadu bod yn rhan barhaol o\u2019r byd buddsoddi yng Nghymru.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><em><strong>Mae aelodau eraill o Angylion Buddsoddi Cymru yn cynnwys cynfyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd sef Kate Methuen-Ley (MSc 2008), Sian Lloyd (BA 1979) a Jackie Royall (MSc 2003). Rhagor o wybodaeth am <a href=\"https:\/\/developmentbank.wales\/contact-angels-invest-wales\">ymuno \u00e2&#8217;r gr\u0175p neu gael gafael ar gyllid<\/a>.<\/strong><\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Angylion Cymru sy\u2019n Ferched (ACM) yn syndicet angylion buddsoddi mewn busnesau newydd, sy\u2019n cael ei gefnogi a\u2019i hwyluso gan Fanc Datblygu Cymru. Dywedodd y cyd-sylfaenydd Jill Jones (MSc 2020, Astudiaethau Busnes 2019-) a chyd-aelod Helen Molyneux (LLB 1987) wrthym am eu cynlluniau ar gyfer WAW a'r ysbrydoliaeth y tu \u00f4l i'r prosiect.","protected":false},"author":6922,"featured_media":8993,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170,203],"tags":[],"class_list":["post-8991","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8991","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6922"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8991"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8991\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9012,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8991\/revisions\/9012"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8993"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8991"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8991"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8991"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}