{"id":8893,"date":"2023-03-17T11:00:14","date_gmt":"2023-03-17T11:00:14","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8893"},"modified":"2023-03-17T11:00:19","modified_gmt":"2023-03-17T11:00:19","slug":"rol-y-system-imiwnedd-o-ran-dementia","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/03\/17\/rol-y-system-imiwnedd-o-ran-dementia\/","title":{"rendered":"R\u00f4l y system imiwnedd o ran dementia"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Clefyd Alzheimer yw&#8217;r math mwyaf cyffredin o ddementia. Mae\u2019n effeithio ar atgofion y sawl sy\u2019n dioddef o\u2019r clefyd, eu gallu i wneud tasgau gwybyddol, mae\u2019n achosi rhithweledigaethau gan hefyd achosi i\u2019r person golli rheolaeth echddygol. Dyma&#8217;r prif achos marwolaeth ymhlith menywod a\u2019r ail brif achos marwolaeth ymhlith dynion yn y DU gyda thros 850,00 o bobl \u00e2 diagnosis o\u2019r clefyd ar hyn o bryd, ac mae&#8217;n costio tua \u00a326 biliwn y flwyddyn i&#8217;r GIG, sef un rhan o bump o&#8217;u cyllideb flynyddol. <\/strong><\/em><\/p>\n<p>Yn y recordiad o\u2019n Harddangosfa Ymchwil ddiweddar, mae Dr Mat Clement (PhD 2013) a Dr Wiola Zelek (PhD 2020) o\u2019r Ysgol Feddygaeth, yn trafod r\u00f4l firysau heintus, y system imiwnedd, a niwro-lid yn natblygiad Alzheimer. Maen nhw\u2019n esbonio rhagor am eu gwaith ac yn rhannu gwybodaeth ynghylch therap\u00efau newydd arloesol ar gyfer trin y clefyd.<\/p>\n<p>Mae ymchwil Mat yn edrych ar y cysylltiad rhwng datblygiad Alzheimer a sytomegalofirws (CMV). Mae CMV yn haint sy&#8217;n digwydd mewn 50-70% o&#8217;r boblogaeth, yn aml heb i neb sylwi oherwydd ei fod yn asymptomatig gan fwyaf. Ond canfu ei ymchwil fod presenoldeb CMV mewn cleifion Alzheimer yn niweidiol; mae&#8217;r system imiwnedd yn anfon celloedd T firaol-benodol i&#8217;r ymennydd i frwydro yn erbyn CMV, sy&#8217;n creu llid ac yn gwaethygu dirywiad gwybyddol.<\/p>\n<p>Penderfynodd Mat dargedu&#8217;r llid hwn gyda thriniaethau gwrth-firaol i ddinistrio&#8217;r celloedd T. Roedd y canlyniadau&#8217;n hynod gadarnhaol, gyda&#8217;r driniaeth nid yn unig yn dinistrio&#8217;r celloedd T ond yn arbed rhag dirywiad gwybyddol ac yn atgyweirio dirywiad o\u2019r math hwn hefyd.<\/p>\n<p>Yn yr un modd, mae ymchwil Wiola yn canolbwyntio ar r\u00f4l y system ategol yn natblygiad Alzheimer. Mae&#8217;r system ategu yn ymateb i heintiau yn y corff trwy dagio a dinistrio pathogenau. Pan gaiff ei ddadreoleiddio, mae rhan o&#8217;r system a elwir yn gymhlygyn ymosod ar bilenni (MAC) yn ymosod ar synapsau, yn achosi llid, ac yn cyfrannu at ddatblygiad Alzheimer.<\/p>\n<p>Datblygodd Wiola wrthgyrff i atal y MAC rhag gwneud hyn, yn ogystal \u00e2 chreu dull \u2018ymosod o\u2019r tu mewn\u2019 (neu \u201ctrojan horse\u201d) o gyflenwi cyffuriau, gan gysylltu&#8217;r gwrthgyrff \u00e2 chludwyr i sicrhau eu bod yn gallu pasio trwy&#8217;r rhwystr gwaed-ymennydd a chael mynediad at yr ymennydd mewn modd anfewnwthiol. Ar \u00f4l wythnos o driniaeth, bu i\u2019r gwrthgyrff adfer y synapsau a gweithrediad gwybyddol. Nawr, mae Wiola yn ceisio cryfhau&#8217;r gwrthgyrff hyn a chynnal treialon clinigol ar gyfer cleifion.<\/p>\n<p>Drwy drin a thrafod dementia ac Alzheimer&#8217;s fel clefydau sy\u2019n gysylltiedig ag imiwnedd, mae Prifysgol Caerdydd yn datblygu triniaethau unigryw ac mae hi un cam yn nes at roi stop ar y clefydau hyn.<\/p>\n<p><em><strong>Gwyliwch ein <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=7RrYVqc2t2Q\">Harddangosfa Ymchwil<\/a> i ddysgu rhagor.<\/strong><\/em><\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"The role of the immune system in dementia | R\u00f4l y system imiwnedd mewn dementia\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/7RrYVqc2t2Q?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p><em><strong>Darganfod rhagor am <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\/how-you-can-help\/neuroscience-and-mental-health-research\">gefnogi ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl<\/a> ym Mhrifysgol Caerdydd. <\/strong><\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Clefyd Alzheimer yw'r math mwyaf cyffredin o ddementia. Mae\u2019n effeithio ar atgofion y sawl sy\u2019n dioddef o\u2019r clefyd, eu gallu i wneud tasgau gwybyddol, mae\u2019n achosi rhithweledigaethau gan hefyd achosi i\u2019r person golli rheolaeth echddygol. Yn y recordiad o\u2019n Harddangosfa Ymchwil ddiweddar, mae Dr Mat Clement (PhD 2013) a Dr Wiola Zelek (PhD 2020) o\u2019r Ysgol Feddygaeth, yn trafod r\u00f4l firysau heintus, y system imiwnedd, a niwro-lid yn natblygiad Alzheimer.","protected":false},"author":6922,"featured_media":9010,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,205,204,170],"tags":[],"class_list":["post-8893","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-events-cy","category-donate-cy","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8893","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6922"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8893"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8893\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8899,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8893\/revisions\/8899"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9010"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8893"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8893"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8893"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}