{"id":8833,"date":"2023-03-08T15:25:49","date_gmt":"2023-03-08T15:25:49","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8833"},"modified":"2023-04-04T07:50:07","modified_gmt":"2023-04-04T07:50:07","slug":"cefnogi-ymchwil-canser-syn-trawsnewid-bywydau-mollie-lewis-bsc-2022","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/03\/08\/cefnogi-ymchwil-canser-syn-trawsnewid-bywydau-mollie-lewis-bsc-2022\/","title":{"rendered":"Cefnogi ymchwil canser sy&#8217;n trawsnewid bywydau &#8211; Mollie Lewis (BSc 2022)"},"content":{"rendered":"<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Mae Mollie Lewis (BSc 2022) yn rhedeg <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\/run-the-cardiff-half-marathon\">Hanner Marathon Caerdydd<\/a><\/strong><strong> ym mis Hydref i helpu i godi arian ar gyfer yr ymchwil canser sy&#8217;n trawsnewid bywydau a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd. Gan mai dyma\u2019r tro cyntaf iddi redeg hanner marathon, mae Mollie yn rhannu ei syniadau am ddechrau ymarfer yn ogystal \u00e2\u2019r gefnogaeth anhygoel y mae wedi\u2019i chael gan deulu, ffrindiau a #TeamCardiff.<\/strong><\/p>\n<p>Rydw i wedi bod eisiau herio fy hun ers amser i gofrestru ar gyfer hanner marathon, ond nid wyf erioed wedi bod yn ddigon dewr. Pan sylweddolais y gallwn redeg yn rhan o #TeamCardiff a chodi arian at achos gwych, roedd yn rhaid i mi ymuno.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Yn 2021 cafodd fy mam ddiagnosis o ganser y fron. Roedd y diagnosis yn sioc i&#8217;n teulu cyfan. Yn ystod y misoedd yn dilyn ei diagnosis cafodd lawdriniaethau, triniaethau a meddyginiaeth hirdymor.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Diolch byth, oherwydd ymchwil anhygoel i ganser, datganwyd bod fy mam yn ddi-ganser yn 2022. Mae Chwefror 2023 yn nodi blwyddyn gyfan o fod yn rhydd o ganser, sy\u2019n gymhelliant gwych i mi ddechrau rhedeg a chodi arian ar gyfer ymchwil i salwch a thriniaethau sy\u2019n trawsnewid bywydau.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Ie, dyma fy her redeg gyntaf un ac nid yw&#8217;n un hawdd. Dim ond ar \u00f4l cofrestru ar gyfer yr hanner marathon y dechreuais redeg. A chyn hynny, doeddwn i erioed wedi ceisio rhedeg hyd yn oed 5K, gan fod hynny&#8217;n ymddangos yn bell! Y syniad o allu hyfforddi ar gyfer yr her hon, tra&#8217;n codi arian ar gyfer ymchwil mor wych, yw&#8217;r cymhelliant gorau y gallwn o bosibl ofyn amdano.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Dechreuais hyfforddi ar ddechrau mis Ionawr. Penderfynais mai&#8217;r ffordd orau i ddechrau hyfforddi oedd ei gychwyn ar ddechrau&#8217;r flwyddyn newydd, yn y gobaith o greu arferiad newydd. Nid yw wedi bod yn hawdd, yn enwedig gan fod y nosweithiau gaeafol yn dywyll ac yn oer. Yn ffodus, wrth i\u2019r wythnosau fynd heibio, rydw i\u2019n dechrau teimlo\u2019n fwy cyfforddus a hyderus wrth redeg.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae hefyd yn gyfle gwych i gamu i ffwrdd o dechnoleg gan fy mod yn treulio oriau yn gweithio ar fy nghyfrifiadur yn ystod fy oriau gwaith ac yn aml byddaf yn mynd yn syth adref i syllu ar fy ff\u00f4n neu deledu. Mae rhedeg wedi gwneud i mi gymryd hoe i ffwrdd o fy sgrin ac mae bron wedi fy ngorfodi i gymryd seibiant o&#8217;r byd digidol oedd ei angen yn fawr.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae pawb wedi bod yn hynod gefnogol. Mae fy nheulu wedi bod yn galonogol iawn, er gwaethaf y sioc fawr fy mod wedi cofrestru. Mae fy nghydweithwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn ac yn hyderus y gallaf gyflawni hyn.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae llawer ohonyn nhw wedi rhedeg ar ran #TeamCardiff o&#8217;r blaen, felly maen nhw wedi rhoi cymorth a chyngor hyfforddi i mi. Mae\u2019n ddefnyddiol clywed am yr holl bethau y dylech ac na ddylech eu gwneud yn y cyfnod cyn y diwrnod mawr.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Mae\u2019r gefnogaeth gan Brifysgol Caerdydd a #TeamCardiff wedi bod yn hyfryd. Mae\u2019r awgrymiadau ar gyfer hyfforddi a sut i baratoi wedi bod yn ddefnyddiol. Mae wedi bod yn wych derbyn cylchlythyr #TeamCardiff, gyda geiriau ysgogol a chyngor ar gyfer codi arian.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Rwy\u2019n edrych ymlaen at weld Caerdydd ar ddiwrnod y ras yn llawn pobl a chyffro. Mae&#8217;n hyfryd gweld y ddinas rwy&#8217;n byw ac yn gweithio ynddi, yn llawn hwyl a chwerthin. Mae hefyd yn ffordd wych o weld cymuned Caerdydd yn dod at ei gilydd i ddathlu llwyddiannau pawb a gymerodd ran. A dwi, wrth gwrs, yn edrych ymlaen at orffen yr hanner marathon!<\/p>\n<p><em><strong>Gallwch gefnogi ymdrechion codi arian Mollie drwy ei <a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/fundraising\/mollie-lewis3\">thudalen JustGiving<\/a>. Oes gennych ddiddordeb rhedeg Hanner Marathon Caerdydd yn 2023?\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\/run-the-cardiff-half-marathon\">Gwnewch gais am un o&#8217;n lleoedd sy&#8217;n weddill<\/a>.<\/strong><\/em><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\"><strong><em>Mae gwaith codi arian #TeamCardiff yn cefnogi <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/why-fundraise\">ymchwil Prifysgol Caerdydd i niwrowyddoniaeth, iechyd meddwl, a chanser<\/a><\/em><\/strong><strong><em>. Drwy gefnogi&#8217;r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch chi helpu i ddod o hyd i ddarganfyddiadau yn gyflymach. Bydd hyn yn newid bywydau er mwyn gwella\u2019r gwaith o atal, rhoi diagnosis a chynnig triniaeth i bobl sy&#8217;n byw gydag ystod eang o gyflyrau.<\/em><\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Mollie Lewis (BSc 2022) yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref i helpu i godi arian ar gyfer yr ymchwil canser sy'n trawsnewid bywydau a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd. Gan mai dyma\u2019r tro cyntaf iddi redeg hanner marathon, mae Mollie yn rhannu ei syniadau am ddechrau ymarfer yn ogystal \u00e2\u2019r gefnogaeth anhygoel y mae wedi\u2019i chael gan deulu, ffrindiau a #TeamCardiff.","protected":false},"author":6922,"featured_media":8831,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[212,166,203],"tags":[],"class_list":["post-8833","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-teamcardiff-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8833","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6922"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8833"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8833\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9009,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8833\/revisions\/9009"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8831"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8833"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8833"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8833"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}