{"id":8820,"date":"2023-03-17T11:02:11","date_gmt":"2023-03-17T11:02:11","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8820"},"modified":"2023-03-22T10:56:23","modified_gmt":"2023-03-22T10:56:23","slug":"cyn-fyfyrwraig-cwnsler-y-brenin-yn-dychwelyd-i-gaerdydd-i-ysbrydolir-genhedlaeth-nesaf","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/03\/17\/cyn-fyfyrwraig-cwnsler-y-brenin-yn-dychwelyd-i-gaerdydd-i-ysbrydolir-genhedlaeth-nesaf\/","title":{"rendered":"Cyn-fyfyrwraig Cwnsler y Brenin yn dychwelyd i Gaerdydd i ysbrydoli&#8217;r genhedlaeth nesaf"},"content":{"rendered":"<p style=\"font-weight: 400\"><strong>Tyngwyd Nneka Akudolu (LLB 2001, PgDip 2002) i mewn fel Cwnsler y Brenin (KC) yn 2022, gan ymuno \u00e2 gr\u0175p dethol o ymarferwyr y gyfraith a benodwyd gan y frenhines. Fel KC sy&#8217;n arbenigo mewn cyfraith droseddol, mae Nneka yn gweithio ar yr achosion mwyaf difrifol yr ymdrinnir \u00e2 nhw yn llysoedd y Goron ac Ap\u00eal, ac mae&#8217;n un o ddim ond saith KC benywaidd Du yn y DU.<\/strong><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Ar \u00f4l gadael yr ysgol heb gymwysterau Safon Uwch, dechreuodd taith gyfreithiol Nneka gyda chwrs Mynediad at Astudiaethau Cyfreithiol yng Ngholeg Tower Hamlets. Yn dilyn y cwrs Mynediad, dewisodd Nneka Brifysgol Caerdydd oherwydd cyfeillgarwch y bobl y cyfarfu \u00e2 nhw yno a chostau byw isel. Pan oedd hanner ffordd drwy ei chwrs, ganwyd merch i Nneka ond parhaodd gyda&#8217;i hastudiaethau, gan sylweddoli bod dilyn gyrfa wrth y Bar yn opsiwn realistig iddi hi. Yn dilyn cwblhau&#8217;r BVC, sicrhaodd Nneka dymor prawf yn 5 King\u2019s Bench Walk ac mae wedi bod yn ymarfer fel Bargyfreithiwr trosedd ers hynny.<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/03\/MicrosoftTeams-image-60-scaled.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\" wp-image-8818 alignright\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/03\/MicrosoftTeams-image-60-scaled.jpg\" alt=\"\" width=\"245\" height=\"368\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/03\/MicrosoftTeams-image-60-scaled.jpg 1703w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/03\/MicrosoftTeams-image-60-1022x1536.jpg 1022w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/03\/MicrosoftTeams-image-60-1363x2048.jpg 1363w\" sizes=\"auto, (max-width: 245px) 100vw, 245px\" \/><\/a><\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Dywedodd: \u201cMae dod yn KC yn gyflawniad enfawr ynddo&#8217;i hun. Roeddwn i&#8217;n deall yn iawn y byddai fy mhenodiad yn bwysig yn nhermau gwelededd gan fod diffyg amrywiaeth dybryd yn enwedig o ran menywod du mewn rolau arweiniol wrth y Bar. Byddwn i&#8217;n gobeithio y bydd eraill o gefndiroedd amrywiol neu sydd wedi wynebu rhwystrau penodol yn gweld fy llwyddiant ac yn cydnabod nid yn unig bod y Bar yn broffesiwn cynhwysol ond yn un lle gallan nhw ragori.&#8221;<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">Roedd Nneka eisiau rhannu ei phrofiad a&#8217;i mewnwelediad, a dychwelodd i roi sgwrs gyrfaoedd i fyfyrwyr yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Wrth gynnig ei hamser i ysbrydoli&#8217;r genhedlaeth nesaf o feddyliau cyfreithiol yng Nghaerdydd, dywedodd: \u201cRoeddwn yn falch iawn o gael fy ngofyn i roi sgwrs gyrfaoedd, gan fod Ysgol y Gyfraith Caerdydd yn rhan mor annatod o fy nhaith gyfreithiol. Roedd y gefnogaeth a&#8217;r anogaeth a gefais yno yn hanfodol o ran cael yr hyder i wneud cais am gyfnod prawf.<\/p>\n<p style=\"font-weight: 400\">\u201cRwy&#8217;n gobeithio o fy sgwrs bod y myfyrwyr yn sylweddoli pa mor gyraeddadwy yw gyrfa yn y Bar. Doeddwn i ddim yn arbennig o academaidd yn tyfu i fyny, ac ni feddyliais erioed y gallwn ennill y math o gymwysterau sydd eu hangen i ymuno \u00e2&#8217;r proffesiwn yr wyf bellach wedi bod yn rhan ohono ers 20 mlynedd. Rwy&#8217;n gobeithio bod y myfyrwyr yn cydnabod nad oes unrhyw beth yn cymryd lle gwaith caled, ac er eu bod efallai&#8217;n profi adfyd a chael eu gwrthod ar hyd y ffordd, mae bod yn benderfynol ac yn ymrwymedig yn hanfodol i lwyddo.\u201d<\/p>\n<div class=\"entry-content\">\n<p><em><strong>Rhagor o wybodaeth am <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/get-involved\">gymryd rhan<\/a> a chefnogi myfyrwyr a graddedigion Caerdydd trwy wirfoddoli.<\/strong><\/em><\/p>\n<\/div>\n<footer>\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Nneka Akudolu KC - yn rhoi cyflwyniad gyrfaol i Ysgol y Gyfraith Caerdydd\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/hsB-oZkY-lE?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><br \/>\n<\/footer>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Tyngwyd Nneka Akudolu (LLB 2001, PgDip 2002) i mewn fel Cwnsler y Brenin (KC) yn 2022, gan ymuno \u00e2 gr\u0175p dethol o ymarferwyr y gyfraith a benodwyd gan y frenhines. Fel KC sy'n arbenigo mewn cyfraith droseddol, mae Nneka yn gweithio ar yr achosion mwyaf difrifol yr ymdrinnir \u00e2 nhw yn llysoedd y Goron ac Ap\u00eal, ac mae'n un o ddim ond saith KC benywaidd Du yn y DU.","protected":false},"author":1812,"featured_media":8825,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170,203],"tags":[],"class_list":["post-8820","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8820","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1812"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8820"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8820\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8947,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8820\/revisions\/8947"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8825"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8820"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8820"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8820"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}