{"id":8793,"date":"2023-02-23T11:51:22","date_gmt":"2023-02-23T11:51:22","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8793"},"modified":"2023-02-23T11:53:43","modified_gmt":"2023-02-23T11:53:43","slug":"codi-siarad-a-sefyll-yn-uchel-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/02\/23\/codi-siarad-a-sefyll-yn-uchel-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Codi, siarad a sefyll yn uchel \u2014 I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Roedd y gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol Paul Regan (BN 2016) eisiau dod o hyd i ffordd o helpu dynion i agor i fyny am eu hiechyd meddwl. Ar \u00f4l ymuno \u00e2 ffrind a chyd-gynfyfyriwr Charles Needham (BSc 2008), gyda&#8217;i gilydd fe wnaethant ddatblygu Stand Tall, sef seminarau ymarfer corff ac iechyd meddwl di-elw i&#8217;w cymuned leol.<\/strong><\/em><\/p>\n<p>Ers i mi raddio o fy ngradd nyrsio iechyd meddwl yn 2016, deuthum yn ymwybodol o rywbeth sydd heddiw&#8217;n cael ei ystyried yn ffaith yn anffodus. Rhywbeth sy&#8217;n cael ei grybwyll yn rhy achlysurol ar y cyfryngau cymdeithasol. Bod dynion yn lladd eu hunain.<\/p>\n<p>Mewn gwirionedd, mae dynion dair gwaith yn fwy tebygol o ladd eu hunain. Ar ben hynny, maent hefyd yn fwy tebygol o fod yn gaeth i sylweddau. Maent hefyd yn llai tebygol o geisio cymorth, ac yn llai tebygol o elwa o ymyriadau mwy traddodiadol. Rwyf wedi gweld drosof fy hun effaith hunanladdiad ymhlith dynion, yn broffesiynol ac yn bersonol.<\/p>\n<p>Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth amdano. Daeth yn obsesiwn gen i feddwl am rywbeth a fyddai&#8217;n helpu dynion i fod yn agored, eu helpu i ymfalch\u00efo ynddynt eu hunain, a&#8217;u helpu i ddatblygu ymdeimlad o gymuned.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/02\/charles_stand_tall_small.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignleft size-full wp-image-8791\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/02\/charles_stand_tall_small.jpg\" alt=\"\" width=\"353\" height=\"580\" \/><\/a>Ar \u00f4l amser hir yn bownsio o amgylch fy mhen, sefydlais i <a href=\"https:\/\/standtallwales.co.uk\/\">Stand Tall<\/a> ynghyd \u00e2 ffrind i mi, cyd-gynfyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, Charles Needham (BSc 2008), sy&#8217;n frwd dros CrossFit a chodi pwysau. Yr hyn sydd gennym yn gyffredin hefyd yw bod eisiau gwneud rhywbeth sy&#8217;n gadael marc parhaol ar ein cymuned leol.<\/p>\n<p>Nid er elw yw <a href=\"https:\/\/standtallwales.co.uk\/\">Stand Tall<\/a> lle mae&#8217;r ffocws ar wella iechyd meddwl a lles dynion. Rydym wedi datblygu cwrs sydd \u00e2&#8217;r syniad cwbl anwreiddiol o helpu dynion i weithio ar eu hiechyd corfforol a meddyliol, ar yr un pryd. Rwy&#8217;n gwybod. Torri tir newydd&#8230; Ond mewn gwirionedd mae&#8217;n troi allan ei fod yn eithaf unigryw. Mae&#8217;n unigryw oherwydd, fel gweithwyr iechyd proffesiynol, rydym i gyd yn euog o ddweud wrth bobl am bwysigrwydd iechyd corfforol a meddyliol. Fodd bynnag, ydyn ni wir yn gwneud hyn yn ymarferol? Yn sicr, nac ydw i, dros y blynyddoedd, er gwaethaf fy ymdrechion gorau. Nid oes llawer ar gael sy&#8217;n rhoi help ymarferol, yn enwedig i&#8217;r ddwy agwedd yn ystod yr un sesiwn. Yn Stand Tall, mae iechyd corfforol a meddyliol yn cael eu trin fel eu bod yr un mor bwysig \u00e2&#8217;i gilydd.<\/p>\n<p>Rydym wedi rhagbrofi, treialu, mireinio, a gweithio&#8217;n galed y tu \u00f4l i&#8217;r llenni ac rydym bellach yn agored i hunan-atgyfeiriadau ac yn barod i fynd. Rydym yn cynnal ein cwrs cryfder a lles am ddim yn ein hardal leol. Rhennir pob sesiwn yn ddwy; rhan gorfforol a rhan feddyliol. Beth mae hynny&#8217;n ei olygu yn fras, yw codi pwysau; barbells, codi Olympaidd ac ystod o symudiadau a thechnegau a gyflwynir o dan hyfforddiant cymwys. Yna rydym yn cyflwyno seminarau lles ar amrywiaeth o bynciau sy&#8217;n seiliedig ar dystiolaeth; iselder, straen, cwsg, gorbryder, offer a thechnegau sy&#8217;n seiliedig ar CBT, a mwy.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n anhygoel gweld beth sy&#8217;n digwydd i ddynion ar \u00f4l dysgu rhai sgiliau a thechnegau codi Olympaidd (peidiwch \u00e2 phoeni ei fod ar gyfer pob gallu), ac yna eistedd i lawr a siarad am ystod o bynciau iechyd meddwl. Mae ymarfer corff a dysgu sgil newydd yn teimlo&#8217;n dda. Mae hyn yn gwneud eistedd i lawr gyda phaned a dysgu am iechyd meddwl a lles yn llawer mwy effeithiol.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd rydym wedi ein lleoli yn y Barri, ychydig y tu allan i Gaerdydd, ac yn agored i unrhyw un yn y cyffiniau sy&#8217;n foi, sy&#8217;n cael trafferth, ac a hoffai ddysgu sut i godi pwysau a chael rhywfaint o mojo yn \u00f4l. Rydym am helpu pobl i ddysgu sut i ofalu am eu hiechyd a&#8217;u lles, adennill ymdeimlad coll o fod yn rhan o gymuned, ac i fagu rhywfaint o wydnwch.<\/p>\n<p>Er mwyn helpu i godi rhywfaint o ymwybyddiaeth am bwy ydym ni, beth rydym yn ei wneud, a gobeithio taflu goleuni ar y mater pwysig hwn rydym hefyd yn ymgymryd \u00e2 her fawr. Yn cychwyn ar 24 Mawrth byddwn yn cerdded o gopa Pen Y Fan yn y Bannau Brycheiniog i ben Yr Wyddfa. Mae&#8217;n daith o fwy na chan milltir (ac esgyniad o fwy na 8000 troedfedd!). Cadwch lygad allan am ddau ddyn sydd \u00e2 gwarbaciau mawr a gwnewch yn si\u0175r eich bod chi&#8217;n dweud helo!<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/standtallwales.co.uk\/\">Eisiau gwybod mwy am Stand Tall<\/a>? Estynnwch allan a chysylltwch \u00e2 ni, drwy @standtallwales ar Twitter, Facebook ac Instagram.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Roedd y gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol Paul Regan (BN 2016) eisiau dod o hyd i ffordd o helpu dynion i agor i fyny am eu hiechyd meddwl. Ar \u00f4l ymuno \u00e2 ffrind a chyd-gynfyfyriwr Charles Needham (BSc 2008), gyda'i gilydd fe wnaethant ddatblygu Stand Tall, sef seminarau ymarfer corff ac iechyd meddwl di-elw i'w cymuned leol.","protected":false},"author":904,"featured_media":8786,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,202,170,203],"tags":[],"class_list":["post-8793","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8793","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8793"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8793\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8794,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8793\/revisions\/8794"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8786"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8793"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8793"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8793"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}