{"id":8765,"date":"2023-02-20T10:08:34","date_gmt":"2023-02-20T10:08:34","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8765"},"modified":"2023-03-15T14:07:26","modified_gmt":"2023-03-15T14:07:26","slug":"interniaeth-digwyddiadaun-ysbrydoli-gyrfa-yn-y-dyfodol-rosy-turner-bsc-2021","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/02\/20\/interniaeth-digwyddiadaun-ysbrydoli-gyrfa-yn-y-dyfodol-rosy-turner-bsc-2021\/","title":{"rendered":"Interniaeth digwyddiadau\u2019n ysbrydoli gyrfa yn y dyfodol \u2013 Rosy Turner (BSc 2021)"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Yn haf 2021, cwblhaodd Rosy Turner (BSc 2021) interniaeth \u00e2 th\u00e2l gyda G\u0175yl y Dyn Gwyrdd drwy raglen partneriaeth hirsefydlog Prifysgol Caerdydd. Cafodd brofiad gwerthfawr yn y diwydiant digwyddiadau ac yn dilyn hynny mae wedi sicrhau r\u00f4l barhaol gyda Dyn Gwyrdd. Mae Rosy&#8217;n egluro beth wnaeth hi ei elwa o&#8217;r lleoliad a sut mae wedi ei helpu ar y llwybr i&#8217;w gyrfa berffaith.<\/strong><\/em><\/p>\n<p>Rwyf wedi bod yn angerddol ynghylch y celfyddydau erioed ond doeddwn i ddim wedi eu hystyried yn opsiwn o ran gyrfa tan i mi weld yr hysbyseb ar gyfer interniaethau&#8217;r Dyn Gwyrdd. Roeddwn yn fy mlwyddyn olaf yn astudio Gwyddorau Biolegol pan wnes i gais, ar \u00f4l bod yn stiward yn yr \u0175yl yn y gorffennol. Roedd yn gyfle anhygoel gan nad oedd angen profiad helaeth blaenorol.<\/p>\n<p>Ymgymerais \u00e2\u2019r interniaeth Guestlist and Accreditation, oedd yn 6 wythnos o hyd, ac a oedd yn cynnwys<br \/>\ndyrannu tocynnau a ffurflenni i staff, criw, masnachwyr, ac artistiaid. Yn y cyfnod cyn yr \u0175yl roeddwn yn gyfrifol am ail-drefnu tocynnau ar gyfer part\u00efon teithiol y bandiau pan fyddai newidiadau yn digwydd i raglenni, yn ogystal \u00e2 chysylltu ag amryw o fasnachwyr i sicrhau bod eu ffurflenni iechyd a diogelwch yn gyfredol.<\/p>\n<p>Hon oedd fy swydd gyntaf wedi\u2019r brifysgol, ac fe ganiataodd i mi gael profiad byd go iawn mewn diwydiant nad oeddwn wedi gweithio ynddo o&#8217;r blaen. Dysgais sut i weithio mewn t\u00eem, sut i addasu i anghenion pobl eraill, yn ogystal \u00e2 dysgu cymaint ag y gallwn yn gyffredinol am y diwydiant gwyliau a digwyddiadau.<\/p>\n<p>Fe wnes i fagu cymaint o hyder yn fy sgiliau fy hun gan fy mod i wedi cael ymgymryd ag amrywiaeth o gyfrifoldebau. Fe ganiataodd fy lleoliad gyda Dyn Gwyrdd i mi wella llu o fy sgiliau trosglwyddadwy ac ennill nifer o rai newydd sydd wedi fy helpu ar fy nhaith o ran fy ngyrfa.<\/p>\n<p>Gweithio gyda Dyn Gwyrdd oedd y profiad unigol a gafodd yr effaith fwyaf arnaf ac a roddodd y boddhad mwyaf i mi yn fy mywyd.\u00a0Roedd holl aelodau&#8217;r t\u00eem mor anhygoel o groesawgar, meddylgar, a gofalgar. Maen nhw wir wedi fy arwain ar daith gydol oes i fyd digwyddiadau. Fe wnaeth pob un person ar y t\u00eem ganiat\u00e1u i mi ffynnu a bydd y cyfeillgarwch a enillais drwy Ddyn Gwyrdd gyda mi am oes.<\/p>\n<p>Erbyn hyn, rwy&#8217;n gweithio&#8217;n llawn amser yn y diwydiant digwyddiadau ac mae hynny oherwydd y gwaith a wnes i yn ystod fy interniaeth, a\u2019r gwaith y gwnaeth t\u00eem y Dyn Gwyrdd i&#8217;m mentora. Arweiniodd y sgiliau a enillais at sicrhau r\u00f4l Intern Gweithrediadau yng Ngwyliau Cheltenham, ac ar \u00f4l hynny roeddwn yn ddigon ffodus i gael fy ystyried ar gyfer y r\u00f4l Cynorthwy-ydd Gweithredol i Ddyn Gwyrdd, rydw i\u2019n parhau i weithio ynddi nawr.<\/p>\n<p>Mae interniaethau mor werthfawr o ran gyrfaoedd myfyrwyr. Maen nhw&#8217;n ffordd wych o rwydweithio a chael profiad mewn maes y mae gennych ddiddordeb ynddo. Os yw cyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, neu fusnes sydd wedi\u2019i ddechrau gan fyfyriwr \/ fyfyrwyr o\u2019r Brifysgol yn ystyried cynnig interniaeth i fyfyriwr, fe ddylen nhw wneud hynny heb os! Mae interniaethau yn rhoi profiad byd go iawn i fyfyrwyr; gall y rhain eu gwirioneddol baratoi ar gyfer gyrfa mewn unrhyw sector. Rydych yn si\u0175r o glywed gan lu o ymgeiswyr brwdfrydig!<\/p>\n<p><strong><em>Rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi gefnogi myfyrwyr Caerdydd i ennill profiad gwaith gwerthfawr yn y <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/get-involved\/offer-an-internship\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">byd go iawn drwy gynnig Interniaethau<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\/give-now\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">lleoliad gwaith neu roi rhodd<\/a>.\u00a0<\/em><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn haf 2021, cwblhaodd Rosy Turner (BSc 2021) interniaeth \u00e2 th\u00e2l gyda G\u0175yl y Dyn Gwyrdd drwy raglen partneriaeth hirsefydlog Prifysgol Caerdydd. Mae Rosy'n egluro beth wnaeth hi ei elwa o'r lleoliad a sut mae wedi ei helpu ar y llwybr i'w gyrfa berffaith.","protected":false},"author":6922,"featured_media":8772,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170,203],"tags":[],"class_list":["post-8765","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8765","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6922"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8765"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8765\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8883,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8765\/revisions\/8883"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8772"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8765"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8765"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8765"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}