{"id":8761,"date":"2023-01-24T14:18:17","date_gmt":"2023-01-24T14:18:17","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8761"},"modified":"2025-02-04T11:13:02","modified_gmt":"2025-02-04T11:13:02","slug":"cymryd-seibiant-yn-eich-gyrfa-bossing-it","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2023\/01\/24\/cymryd-seibiant-yn-eich-gyrfa-bossing-it\/","title":{"rendered":"Cymryd seibiant yn eich gyrfa &#8211; Bossing It"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae cymryd seibiant gyrfa yn rhywbeth y bydd llawer ohonom yn ei wneud yn ystod ein bywydau ac mae&#8217;n rhywbeth i fod yn falch ohono. Mae yna lawer o resymau dros gymryd seibiant gyrfa &#8211; boed hynny er mwyn datblygu eich sgiliau proffesiynol, cymryd amser i\u2019w dreulio gyda&#8217;r teulu, neu i fachu profiadau newydd. Cawsom sgwrs \u00e2 rhai o&#8217;n cymuned o gynfyfyrwyr sydd wedi rhannu eu cyngor ar fanteision seibiant gyrfa, a sut i fanteisio i&#8217;r eithaf ar eich amser.<\/strong><\/em><\/p>\n<h3><strong>Daniel Cave (BSc 2020)<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/01\/MicrosoftTeams-image-60-scaled-e1674488980464.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-8729\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/01\/MicrosoftTeams-image-60-scaled-e1674488980464.jpg\" alt=\"\" width=\"222\" height=\"225\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/01\/MicrosoftTeams-image-60-scaled-e1674488980464.jpg 1920w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/01\/MicrosoftTeams-image-60-scaled-e1674488980464-1516x1536.jpg 1516w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/01\/MicrosoftTeams-image-60-scaled-e1674488980464-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/01\/MicrosoftTeams-image-60-scaled-e1674488980464-40x40.jpg 40w\" sizes=\"auto, (max-width: 222px) 100vw, 222px\" \/><\/a><\/strong><\/h3>\n<p>Graddiodd Daniel gyda gradd mewn Ffisiotherapi cyn dechrau gweithio\u2019n Ffisiotherapydd yn y sector preifat ac mewn clwb rygbi yng Nghaerdydd. Er ei fod yn caru\u2019r rolau hyn, ni allai wrthsefyll yr ysfa i deithio, felly ym mis Awst 2022 penderfynodd adael ei swydd er mwyn archwilio\u2019r hyn oedd gan y byd i\u2019w gynnig. Ers gadael y DU, mae Daniel wedi ymweld \u00e2 nifer o wledydd yn Ne-ddwyrain Asia, gan dreulio amser yn rhannau harddaf y byd a phrofi nifer o wahanol ddiwylliannau.<\/p>\n<p><strong>Gall seibiant gyrfa eich gwneud yn fwy cyflogadwy<\/strong><\/p>\n<p>Er y gallai cymryd seibiant o&#8217;ch gyrfa ymddangos fel cam i&#8217;r cyfeiriad anghywir, byddwn yn dadlau y gallai wella eich rhagolygon gyrfa a&#8217;ch gwneud yn fwy cyflogadwy. Mae&#8217;r profiadau a&#8217;r sgiliau y gallwch eu hennill yn drosglwyddadwy a gallant fod yn allweddol, yn eich gyrfa ac yn eich bywyd preifat. Trwy gwrdd \u00e2 phobl o bob cefndir a delio \u00e2 sefyllfaoedd annisgwyl, rydw i wedi canfod bod fy sgiliau cyfathrebu, datrys problemau, a fy ngallu i ddelio \u00e2 sefyllfaoedd dan bwysau mawr wedi datblygu\u2019n aruthrol, yn ystod fy amser i ffwrdd. Rydw i hefyd wedi darganfod bod tynnu fy hun o bwysau fy ngyrfa wedi caniat\u00e1u i mi feddwl yn gliriach. Erbyn hyn mae gen i ddealltwriaeth well o fy mlaenoriaethau ac rwyf wedi gallu nodi&#8217;r meysydd yn fy ngyrfa a&#8217;m bywyd personol yr wyf am eu dilyn pan fyddaf yn dychwelyd.<\/p>\n<p><strong>Rhoi cynllun ar waith, ond byddwch yn barod i&#8217;w addasu<\/strong><\/p>\n<p>Mae\u2019n bwysig cael syniad clir o\u2019r hyn yr hoffech ei wneud a\u2019r hyn yr hoffech ei gyflawni yn ystod yr egwyl o\u2019ch gyrfa, ond peidiwch \u00e2 gadael i hyn eich cyfyngu. Rydw i wedi sylwi bod yr eiliadau mwyaf hudol wedi dod o gyfleoedd nad wyf wedi&#8217;u disgwyl. Mae peidio \u00e2 chael amserlen dynn wedi fy ngalluogi i fanteisio ar y cyfleoedd hyn a chael profiadau anhygoel. Rydw i wedi cael llawer o hwyl wrth ildio i brofiadau cwbl newydd a chael ffydd y bydd drysau&#8217;n agor ac yn cau i mi, heb fawr o syniad o ble byddaf yn cyrraedd!<\/p>\n<h3><strong>Nori Shamsuddin (LLB 1998)<\/strong><\/h3>\n<p>Mae Nori yn fam, yn fardd cydnabyddedig, yn sentimental am gariad, ac yn awdur llawrydd. Mae\u2019n treulio oriau yn ysgrifennu sgriptiau ar gyfer rhaglenni teledu, rhaglenni dogfen, hysbysebion, ffilmiau byr, ac yn golygu copi llawer o ddogfennau busnes a thechnegol, ond mae hi&#8217;n parhau i dreulio oriau\u2019n breuddwydio am gyhoeddi ei llawysgrif (sydd wedi&#8217;i gorchuddio \u00e2 llwch a gwe pry cop ar hyn o bryd). Ychydig flynyddoedd yn \u00f4l, cymerodd seibiant gyrfa i ofalu am ei rhieni oedd yn heneiddio ac mae&#8217;n rhannu ei phrofiadau o gamu allan o&#8217;i pharth cysur.<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/01\/MicrosoftTeams-image-58-e1674489073874.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-8728\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/01\/MicrosoftTeams-image-58-e1674489073874.jpg\" alt=\"\" width=\"180\" height=\"256\" \/><\/a><\/p>\n<p><strong>Newid eich persbectif <\/strong><\/p>\n<p>Roedd yn benderfyniad beiddgar i gymryd seibiant gyrfa ac roedd yn golygu camu allan o fy mharth cysur. Roeddwn yn ennill incwm sefydlog gyda manteision a buddion rhagorol ac roeddwn yn cael cyfle i ehangu fy rhwydwaith bob dydd. Doedd gen i ddim syniad y byddai gadael bywyd prysur ac egniol yn cynnig profiad hollol newydd i mi, a\u2019r gallu i weld bywyd o safbwynt gwahanol. Dysgais sut i werthfawrogi pleserau bach bywyd sy&#8217;n cael eu hanwybyddu mor aml &#8211; rhywbeth mor syml \u00e2 sipian paned boeth o goffi gyda fy rhieni wrth wrando arnynt yn rhannu straeon am eu dyddiau iau. Mae treulio amseroedd gwerthfawr gydag anwyliaid wedi ehangu\u2019r ffordd yr oeddwn yn gweld y byd ac wedi gwneud i mi werthfawrogi bywyd mewn ffordd hollol newydd.<\/p>\n<p><strong>Byddwch yn garedig i chi\u2019ch hun <\/strong><\/p>\n<p>Mae seibiant o fy ngyrfa wedi fy ngalluogi i ganolbwyntio arna i fy hun a rhoi hwb i&#8217;m hiechyd meddwl a chorfforol, rhywbeth a oedd yn angenrheidiol i mi yng ngham nesaf fy nhaith waith yn weithiwr llawrydd. Datblygodd fy amynedd, goddefgarwch a dyfalbarhad, pethau na feddyliais erioed eu bod yn bosibl. Rydw i wedi dysgu pwysigrwydd bod yn driw i chi&#8217;ch hun a chofleidio bywyd. Fy mhenderfyniad i gymryd seibiant gyrfa i fod gyda&#8217;r bobl roeddwn i&#8217;n eu caru tan ddyddiau olaf eu bywydau, ac wedi hynny i ddilyn fy mreuddwydion a gwneud yr hyn rydw i wir eisiau ei wneud mewn bywyd, oedd y peth gorau a wnes i erioed o ran fy nhaith bersonol a gwaith.<\/p>\n<h3>Rachel Rowlands (BA 2010, PgDip 2016, MSc 2020)<\/h3>\n<p>Gwnaeth Rachel radd mewn Newyddiaduraeth, Ffilm a\u2019r Cyfryngau, ac yna hyfforddodd i fod yn athrawes ysgol<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/01\/MicrosoftTeams-image-62-e1674489135977.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-8730\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/01\/MicrosoftTeams-image-62-e1674489135977.jpg\" alt=\"\" width=\"214\" height=\"276\" \/><\/a> gynradd, gan addysgu mewn nifer o ysgolion yn Ne Cymru am dair blynedd. Penderfynodd Rachel newid gyrfa oherwydd ei bod yn teimlo&#8217;n anfodlon a chymerodd seibiant gyrfa i ailhyfforddi. Fe wnaeth hi <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/study\/postgraduate\/taught\/conversion-courses\">gwrs \u00f4l-radd carlam<\/a>, gan gymhwyso\u2019n therapydd galwedigaethol yn 2016. Ar \u00f4l tair blynedd o ymarfer, dechreuodd ei r\u00f4l bresennol yn ddarlithydd Therapi Galwedigaethol ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gyfuno ei phrofiad addysgu a therapi galwedigaethol.<\/p>\n<p><strong>Gosod eich nodau<\/strong><\/p>\n<p>Mae cymryd seibiant gyrfa yn benderfyniad mawr, ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i wneud y penderfyniad hwn yn llai brawychus. Mae&#8217;n bwysig deall yr hyn rydych chi am ei gyflawni yn ystod yr egwyl hon, er mwyn i chi allu cynllunio yn unol \u00e2 hynny i gyrraedd eich nodau. Os ydych chi&#8217;n cynllunio ymlaen llaw, gallwch chi baratoi&#8217;n ariannol trwy gyfrifo cyllideb, arbed arian cyn cymryd y seibiant gyrfa, ac ymchwilio i ysgoloriaethau a benthyciadau datblygu gyrfa y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer.<\/p>\n<p><strong>Pwyso ar eich rhwydwaith cymorth<\/strong><\/p>\n<p>Wrth gymryd seibiant gyrfa, mae&#8217;n bwysig iawn cael rhwydwaith cymorth. Dywedwch wrth eich teulu a&#8217;ch ffrindiau am eich cynlluniau ymlaen llaw, a gofynnwch iddynt a fyddant yn gallu eich cefnogi. Gallai hyn gynnwys helpu gyda choginio sypiau o fwyd, gofal plant, mynd i ddiwrnodau agored gyda chi neu hyd yn oed bod yn glust i wrando. Mae angen i chi fod yn realistig ynghylch yr hyn sydd ei angen tra byddwch yn ailhyfforddi, a hefyd rheoli disgwyliadau eich ffrindiau a&#8217;ch teulu yn ystod y cyfnod pontio hwn.<\/p>\n<h3><strong>Tim Fisher (BSc 2017)<\/strong><\/h3>\n<p>Ar \u00f4l graddio gyda gradd BSc Systemau Gwybodaeth Busnes, bu Tim yn Ymgynghorydd Technegol am bum <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/01\/MicrosoftTeams-image-63.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-8731\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/01\/MicrosoftTeams-image-63.jpg\" alt=\"\" width=\"215\" height=\"215\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/01\/MicrosoftTeams-image-63.jpg 2007w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/01\/MicrosoftTeams-image-63-1536x1536.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/01\/MicrosoftTeams-image-63-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/01\/MicrosoftTeams-image-63-40x40.jpg 40w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2023\/01\/MicrosoftTeams-image-63-200x200.jpg 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 215px) 100vw, 215px\" \/><\/a>mlynedd. Yn ystod y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020, roedd Tim wrth ei fodd yn rhedeg, a dwy flynedd yn ddiweddarach penderfynodd adael ei swydd a chymryd seibiant gyrfa i ddilyn cyfres o nodau personol yn ymwneud \u00e2 dygnwch. Yn ystod ei seibiant gyrfa o 9 mis, ymgymerodd Tim ag amryw o heriau corfforol gan gynnwys cerdded ar draws Unol Daleithiau America (2,650+ milltir) a thorri\u2019r \u2018amser hysbys cyflymaf\u2019 ar gyfer Llwybr Taf Cymru (54 milltir mewn 9 awr a 9 munud).<\/p>\n<p><strong>Ni fydd pawb yn ymateb yn gadarnhaol i\u2019ch penderfyniad \u2013 ond nid oes angen poeni am hynny<\/strong><\/p>\n<p>Roedd \u201cPam fyddech chi&#8217;n rhoi&#8217;r gorau i&#8217;ch swydd?\u201d a \u201cSut bydd seibiant gyrfa yn edrych ar eich CV?\u201d yn gwestiynau a oedd yn cael eu gofyn yn aml pan ddywedais fy mod yn mynd i gymryd seibiant gyrfa. Ar \u00f4l treulio cyfnod wedi fy llethu o ganlyniad i oriau hir yn y gwaith, roeddwn i&#8217;n gwybod bod angen seibiant arnaf yn feddyliol, ac roedd y risg yn werth ei gymryd. Er bod pobl yn cwestiynu fy mhenderfyniad, gallaf ddweud mai\u2019r egwyl 9 mis oedd y penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed. Nid yw\u2019r seibiant gyrfa wedi effeithio\u2019n negyddol ar fy nghyfleoedd gwaith, gan fod llawer o gyfwelwyr yn chwilfrydig i glywed am fy anturiaethau.<\/p>\n<p><strong>Cofiwch baratoi ar gyfer dychwelyd i&#8217;r gwaith. <\/strong><\/p>\n<p>Ni fydd pawb yn gwybod beth maent am ei wneud \u00e2\u2019u bywyd gwaith pan fyddant yn dychwelyd o seibiant gyrfa, ac mae hynny\u2019n iawn. Fodd bynnag, cofiwch gael cynllun sylfaenol yn ei le, gan gynnwys rhoi arian \u2018argyfwng\u2019 o\u2019r neilltu i wneud yn si\u0175r eich bod yn gallu byw\u2019n gyfforddus os ydych yn dychwelyd yn ddi-waith. Yn fy achos i, roeddwn i&#8217;n gwybod fy mod eisiau trosglwyddo i fod yn gontractwr er mwyn rhoi&#8217;r rhyddid i mi barhau i deithio am sawl mis ar y tro. Roeddwn wedi adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau busnes cyn cychwyn ar y daith, wedi ymchwilio i&#8217;r diwydiant contractio, ac wedi rhoi diweddariad LinkedIn ar \u00f4l dychwelyd a arweiniodd at gyfleoedd gwaith amrywiol.<\/p>\n<p><strong>Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw o bobl sy\u2019n barod iawn eu cymwynas ac yma i&#8217;ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Gallwch bori drwy eu cyngor a&#8217;u hawgrymiadau ar ystod eang o bynciau busnes yn ein cyfres \u2018<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/category\/cyswllt-caerdydd\/bossing-it-cy\/\">Bossing It<\/a>\u2019.<\/strong><\/p>\n<p><b>Yn barod i gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch \u00e2\u2019n\u00a0<\/b><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\"><b>gr\u0175p LinkedIn<\/b><\/a><b>\u00a0a dechrau rhwydweithio.<\/b><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae cymryd seibiant gyrfa yn rhywbeth y bydd llawer ohonom yn ei wneud yn ystod ein bywydau ac mae'n rhywbeth i fod yn falch ohono. Mae yna lawer o resymau dros gymryd seibiant gyrfa - boed hynny er mwyn datblygu eich sgiliau proffesiynol, cymryd amser i\u2019w dreulio gyda'r teulu, neu i fachu profiadau newydd. Cawsom sgwrs \u00e2 rhai o'n cymuned o gynfyfyrwyr sydd wedi rhannu eu cyngor ar fanteision seibiant gyrfa, a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich amser.","protected":false},"author":6913,"featured_media":8760,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[207,166],"tags":[],"class_list":["post-8761","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bossing-it-cy","category-cyswllt-caerdydd"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8761","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6913"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8761"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8761\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8762,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8761\/revisions\/8762"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8760"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8761"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8761"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8761"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}