{"id":8715,"date":"2022-11-25T14:43:57","date_gmt":"2022-11-25T14:43:57","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8715"},"modified":"2022-11-25T14:44:59","modified_gmt":"2022-11-25T14:44:59","slug":"diweddariad-i-gynfyfyrwyr-o-ysgol-busnes-caerdydd-yr-athro-rachel-ashworth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2022\/11\/25\/diweddariad-i-gynfyfyrwyr-o-ysgol-busnes-caerdydd-yr-athro-rachel-ashworth\/","title":{"rendered":"Diweddariad i gynfyfyrwyr o Ysgol Busnes Caerdydd &#8211; Yr Athro Rachel Ashworth"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae\u2019r Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Busnes Caerdydd, yn rhoi\u2019r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau&#8217;r Ysgol a chyflawniadau cymunedol.<\/strong><\/em><\/p>\n<p>Helo bawb, a chyfarchion o Gaerdydd. Wrth i ddiwedd tymor yr hydref a 2022 agos\u00e1u, roeddwn am roi\u2019r wybodaeth ddiweddaraf ichi am newyddion a gweithgareddau Ysgol Busnes Caerdydd. Yn ogystal, hoffwn rannu digwyddiadau sydd ar y gweill a allai fod o ddiddordeb i chi.<\/p>\n<p>Y tro diwethaf imi fod mewn cysylltiad, roedd pandemig COVID-19 yn ei anterth o hyd, ond mae\u2019n bleser gennyf ddweud bod ein patrymau gwaith ac astudio wedi ennill eu plwyf erbyn hyn. Mae&#8217;r coridorau a&#8217;r theatrau darlithio yn brysur unwaith eto yn llawn myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy&#8217;n dychwelyd, o&#8217;r DU a ledled y byd. Mae mor braf clywed am y bwrlwm sydd wedi dychwelyd i&#8217;n hadeiladau a&#8217;n campws.<\/p>\n<p>Pleser hefyd yw diolch i\u2019n staff a\u2019n myfyrwyr gwych gan fod yr ysgol wedi parhau i lwyddo, er gwaethaf heriau COVID. Dyma rai o&#8217;r uchafbwyntiau.<\/p>\n<h2>Arweinydd byd-eang cyfrifol<\/h2>\n<p>Datblygiad cyffrous yn y 12 mis diwethaf \u2013 ac un yr ydym yn falch iawn ohono \u2013 oedd derbyn <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/news\/view\/2579326-cardiff-business-school-receives-amba-accreditation\">achrediad gan Gymdeithas yr MBAs<\/a> (AMBA). Hon yw\u2019r safon uchaf o gyflawniad mewn addysg busnes \u00f4l-raddedig ac fe\u2019i dyfarnwyd ar \u00f4l asesiad manwl yn 2021. Mae hefyd yn dangos ein hymrwymiad i wella profiad y myfyrwyr a chyflwyno rhaglenni MBA rhagorol ac unigryw sy&#8217;n adlewyrchu ein diben o ran gwerth cyhoeddus.<\/p>\n<p>Ar hyn o bryd mae ein portffolio MBA yn cynnwys rhaglen flaenllaw <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/business-school\/courses\/the-cardiff-mba\">MBA Caerdydd<\/a> a rhaglen <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/business-school\/courses\/the-cardiff-mba-with-artificial-intelligence\">MBA gyda Deallusrwydd Artiffisial<\/a>, partneriaeth gyffrous gyda\u2019r <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/computer-science\">Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg<\/a>. Rydym hefyd yn y broses o ailgynllunio ein rhaglen MBA ran-amser ac yn gobeithio dweud rhagor wrthych am hyn mewn diweddariadau yn y dyfodol.<\/p>\n<h2>Pwyslais ar ymchwil o werth cyhoeddus<\/h2>\n<p>Eleni, cawsom hefyd <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/news\/view\/2624684-cardiff-business-school-maintains-highest-possible-research-environment-score-in-ref-2021\">ganlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021<\/a> (REF), sef ymarfer sy\u2019n asesu ansawdd ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch (SAUau) ledled y DU. Roeddem wrth ein bodd bod y canlyniadau yn dangos ein bod yn un o 2 ysgol busnes yn unig yn y DU sydd wedi cynnal y sg\u00f4r uchaf posibl ar gyfer amgylchedd ymchwil ac roeddem yn 2<sup>il<\/sup> o blith 108 o ysgolion busnes y DU am b\u0175er ymchwil.<\/p>\n<p>Cawsom ein canmol am ein diben o ran gwerth cyhoeddus ar \u00f4l blaenoriaethu ymchwil sy\u2019n canolbwyntio ar heriau byd-eang, megis gwaith gweddus, econom\u00efau teg a chynaliadwy, a llywodraethu da. Mae rhan o&#8217;r broses werthuso yn ystyried y strategaeth, yr adnoddau a&#8217;r seilwaith sydd ar waith i gefnogi ymchwil a galluogi effaith. Unwaith eto, mae\u2019r canlyniadau\u2019n dangos bod y diwylliant colegol, cynhwysol a chyfranogol yn yr ysgol yn darparu ymchwil ymgysylltiol, meddylgar ac effeithiol, sydd o fudd i fusnes a\u2019r gymdeithas ehangach.<\/p>\n<h2>Gweithio i gefnogi ein cynfyfyrwyr<strong><br \/>\n<\/strong><\/h2>\n<p><strong>Ymunwch \u00e2&#8217;n cymuned ar LinkedIn<br \/>\n<\/strong>Rydym newydd greu <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/company\/cardiff-business-school\/\">tudalen LinkedIn<\/a> newydd sy\u2019n rhoi diweddariadau ar ein gweithgareddau, manylion am ein hymchwil, a gwybodaeth am ein digwyddiadau. Gwnewch yn si\u0175r eich bod yn ein dilyn ac yn cadw mewn cysylltiad.<\/p>\n<p><strong>Gwnewch gwrs Addysg Weithredol rhad ac am ddim<br \/>\n<\/strong>Gallwch fanteisio ar yr Addysg Weithredol yr ydym yn ei darparu. Mae\u2019r t\u00eem yn cynnig gweithdy deallusrwydd emosiynol <strong>AM DDIM<\/strong> dan arweiniad academydd newydd sydd wedi ymuno \u00e2\u2019n cymuned, Artyom Kliuchnikov o Wcr\u00e1in. Cysylltwch \u00e2 <a href=\"mailto:Parry-JonesJ1@cardiff.ac.uk\">Parry-JonesJ1@caerdydd.ac.uk<\/a> am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad ar-lein a gynhelir ar 6 Rhagfyr. Os oes digwyddiadau a chyrsiau eraill a fyddai o ddefnydd i chi, rhowch wybod i ni.<\/p>\n<p><strong>Gwnewch y gorau o&#8217;n digwyddiadau hybrid<br \/>\n<\/strong>Mae&#8217;r pandemig wedi ein helpu i fod yn fwy arloesol hefyd. Er enghraifft, mae llawer o\u2019n digwyddiadau bellach yn cael eu trefnu ar sail hybrid, fel bod cynifer o bobl a rhanddeiliaid \u00e2 phosibl yn gallu cymryd rhan yn ein sgyrsiau a\u2019n seminarau. Mae hyn yn sicrhau bod cymysgedd amrywiol \u2013 yn ddemograffig ac yn ddaearyddol \u2013 o bobl yn mynd iddynt, gan gyfoethogi\u2019r trafodaethau a\u2019r rhyngweithio \u00e2\u2019r gynulleidfa.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/11\/First-Minister-visit.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-8709 size-img5\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/11\/First-Minister-visit-470x260.png\" alt=\"The First Minister visiting Cardiff Business School\" width=\"470\" height=\"260\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/11\/First-Minister-visit-470x260.png 470w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/11\/First-Minister-visit-70x40.png 70w\" sizes=\"auto, (max-width: 470px) 100vw, 470px\" \/><\/a>Yn ddiweddar, <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/news\/view\/2677436-wales-first-minister-and-welsh-businesses-come-together-to-explore-groundbreaking-refugee-employment-pathways\">croesawyd y Gwir Anrh. Mark Drakeford (MS), Prif Weinidog Cymru<\/a>, i\u2019r ysgol ar gyfer cynhadledd a dynnodd sylw at yr heriau i ffoaduriaid o ran dod o hyd i waith yng Nghymru. Roedd hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan gyflogwyr cyfrifol fel Tiny Rebel ac IKEA.<\/p>\n<p>Byddem yn croesawu eich presenoldeb yn ein <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/business-school\/events\/breakfast-briefing-series\">cyfres o Sesiynau Hysbysu dros Frecwast<\/a>, sy&#8217;n llwyfannu ystod o siaradwyr amrywiol o fyd busnes, y byd academaidd a&#8217;r llywodraeth. Y mis hwn, roedd Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas B\u00eal-droed Cymru (CBDC), Noel Mooney, yn sgwrsio \u00e2\u2019r Athro Laura McAllister, cyn Gapten Menywod Cymru ac academydd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth y brifysgol, cyn seremoni agoriadol Cwpan y Byd yn Qatar.<\/p>\n<p>Siaradodd Noel a Laura yn angerddol am ddyfodol p\u00eal-droed Cymru (Wales), Cymdeithas Bel-droed Cymru ac effaith y pencampwriaethau sydd i ddod. Gallwch <a href=\"https:\/\/cardiff.cloud.panopto.eu\/Panopto\/Pages\/Viewer.aspx?id=a5d0cc00-6e24-4bc5-b9d6-af4700a4f275\">wylio&#8217;r recordiad byw<\/a> i wrando ar y drafodaeth lawn. A gwnewch yn si\u0175r eich bod yn cadw llygad ar <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/business-school\/events\">dudalen digwyddiadau\u2019r ysgol<\/a>, lle bydd Sesiynau Hysbysu dros Frecwast yn y dyfodol yn cael eu rhestru. Mae\u2019r ddwy sesiwn olaf yn 2022 eisoes wedi&#8217;u hamserlennu:<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/events\/view\/2683976-welsh-budget-outlook-2022-breakfast-briefing\">Rhagolygon Cyllideb Cymru gan d\u00eem Dadansoddi Cyllid Cymru \u2013 5 Rhagfyr<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/events\/view\/2683938-what-does-it-take-to-be-a-21st-century-public-servant\">Beth sydd ei angen i fod yn was cyhoeddus yn yr 21ain ganrif? &#8211; 13 Rhagfyr<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<h2>Ein cynfyfyrwyr sydd wedi creu newid<\/h2>\n<p><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/11\/20221020_PT-CardiffUni_003-low-scaled.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright size-img5 wp-image-8711\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/11\/20221020_PT-CardiffUni_003-low-470x260.jpg\" alt=\"30ish Award winners\" width=\"470\" height=\"260\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/11\/20221020_PT-CardiffUni_003-low-470x260.jpg 470w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/11\/20221020_PT-CardiffUni_003-low-70x40.jpg 70w\" sizes=\"auto, (max-width: 470px) 100vw, 470px\" \/><\/a>Ac ar nodyn i gloi, rydym yn llongyfarch holl gynfyfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd a gymerodd ran yng <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/features\/the-30ish-awards-2022\">Ngwobrau (tua)30 oed<\/a> cyntaf y brifysgol. Cafodd Liz Tan (BSc 2004), Jon Szehofner (BSc Econ 2007), Oli Cook (BSc Econ 2007), Hosanna Hali (BSc 2016, MSc 2018) a George Bellwood (BSc 2019) gydnabyddiaeth am gyflawniadau ar draws categor\u00efau amrywiol, yn amrywio o entrepreneuriaeth a gweithredaeth amgylcheddol i weithredu tegwch ac arloesedd.<\/p>\n<p>Mae\u2019n wych gweld cynifer o gynfyfyrwyr yn defnyddio\u2019r wybodaeth a enillwyd yn ystod eu hastudiaethau, ochr yn ochr \u00e2\u2019u sgiliau a\u2019u profiadau proffesiynol, mewn meysydd amrywiol ac er lles arferion busnes a chymdeithas. Mae pob un ohonynt yn ymgorffori ein hegwyddorion o ran gwerth cyhoeddus a chred mewn newid er gwell. Mae gweld eu cyflawniadau a chlywed amdanynt yn rhoi cymaint o foddhad. Da iawn a diolch i gymuned gyfan cynfyfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd am wneud gwahaniaeth a chael effaith ar gymunedau yng Nghymru, y DU a ledled y byd.<\/p>\n<p>Dwi&#8217;n meddwl bod hynny&#8217;n ddigon o newyddion am y tro! Byddaf yn cysylltu cyn bo hir i roi rhagor o ddiweddariadau. Rydym hefyd yn gobeithio mynd ar daith a chwrdd \u00e2 chynifer ohonoch \u00e2 phosibl dros y flwyddyn i ddod. Yn y cyfamser, dymuniadau gorau i chi gyd. Cofiwch gadw mewn cysylltiad a bod croeso cynnes i chi yma yng Nghaerdydd bob amser \u2013 yn eich ysgol busnes <em>chi<\/em>.<\/p>\n<p><strong>Yr Athro Rachel Ashworth<\/strong><br \/>\n<strong>Deon Ysgol Busnes Caerdydd<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae\u2019r Athro Rachel Ashworth, Deon Ysgol Busnes Caerdydd, yn rhoi\u2019r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau'r Ysgol a chyflawniadau cymunedol.","protected":false},"author":904,"featured_media":8706,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166],"tags":[],"class_list":["post-8715","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8715","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8715"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8715\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8722,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8715\/revisions\/8722"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8706"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8715"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8715"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8715"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}