{"id":8657,"date":"2022-10-27T14:27:46","date_gmt":"2022-10-27T14:27:46","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8657"},"modified":"2022-10-28T14:41:34","modified_gmt":"2022-10-28T14:41:34","slug":"gair-rhydd-dathlu-50-mlynedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2022\/10\/27\/gair-rhydd-dathlu-50-mlynedd\/","title":{"rendered":"Gair Rhydd \u2013 Dathlu 50 mlynedd"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Dathlu Pen-blwydd Gair Rhydd yn 50 oed eleni. Mae Gair Rhydd wedi gweld llu o newidiadau ers ei argraffiad cyntaf ar 3 Hydref 1972, o ysgrifennu erthyglau ar deipiaduron a\u2019u pinio i fyrddau gosod i\u2019w hargraffu, i gyhoeddi\u2019r papur ar-lein yn ddidrafferth.<\/strong><\/em><\/p>\n<p>Yn ddiweddar, fe wnaethon ni alw ar ein cymuned o gynfyfyrwyr i rannu eu hatgofion ynghylch y Gair Rhydd a\u2019r hyn y mae wedi\u2019i olygu iddyn nhw dros y blynyddoedd. Fe fu\u2019r ymateb yn anhygoel, gyda dwsinau o gynfyfyrwyr yn hel atgofion, yn rhannu eu hoff brofiadau a beth maen nhw&#8217;n ei wneud nawr.<\/p>\n<p><strong>John Hartley (PhD 1977), Cyd-sylfaenydd 1972<br \/>\n<\/strong>\u201cCyd-sefydlais Gair Rhydd gyda Dave Aldridge (a dewisais yr enw). Roeddwn yn fyfyriwr PhD yn yr Adran Saesneg. Roeddwn i wedi golygu&#8217;r papur myfyrwyr llawer h\u0177n yn flaenorol. Ar hyn o bryd rwy&#8217;n athro cyfryngau digidol a diwylliant ym mhrifysgol Sydney. Pen-blwydd hapus Gair Rhydd!\u201d<\/p>\n<p><strong>Geoffrey Gadd (BSc 1978, PhD 1978), Golygydd (sefydlu) 1972-1973<br \/>\n<\/strong>\u201cRwy&#8217;n cofio cynnwys fy nghartwnau ymhlith yr erthyglau arferol am gamreoli canfyddedig y Brifysgol (toriadau, bargeinion eiddo, cynnydd mewn rhent, ac ati), gwybodaeth am gyffuriau, adolygiadau o lyfrau a bandiau, a gorfod mynd i Brifysgol Abertawe i osod y papur yn y ffordd hen ffasiwn i&#8217;w argraffu. Ni allaf gofio pam y daeth fy nghyfranogiad i ben ond rwy&#8217;n falch iawn bod Gair Rhydd yn parhau ar waith ar \u00f4l 50 mlynedd ar adeg pan mae&#8217;r \u201cgair rhydd\u201d yn bwysicach nag erioed.\u201d<\/p>\n<p><strong>David Else (BA 1982), Golygydd 1982-1983<\/strong><br \/>\n\u201cFi oedd golygydd Gair Rhydd rhwng1982-83. Bryd hynny, roedden ni&#8217;n arfer teipio (gan ddefnyddio teipiadur go iawn) ein herthyglau ar ddalennau o bapur a&#8217;u gosod ar fyrddau gosod. Os oedd gwall, roedd yn rhaid i ni dorri a gludo &#8211; yn llythrennol &#8211; gan ddefnyddio siswrn a glud. Byddem yn gorffen eu llunio ar nos Sul, gan fod angen mynd \u00e2\u2019r byrddau at yr argraffwyr ben bore Llun. Byddwn yn eu cario \u2018n\u00f4l i fy fflat yn Stryd Coburn i\u2019w cadw dros nos, a weithiau\u2019n galw yn y Woodville neu New Ely (y Vulcan Lounge erbyn hyn) am ddiod ar y ffordd adref. Wrth gwrs, fe wnes i\u2019n si\u0175r nad oedd y byrddau\u2019n mynd ar goll na&#8217;n cael eu difrodi, gan nad oedd unrhyw ffeiliau wrth gefn yn yr oes cyn-gyfrifiadur honno.\u201d<\/p>\n<p><strong>Maria Mellor (BA 2017, MA 2020), Golygydd 2016-2017<br \/>\n<\/strong>\u201cRoeddwn yn rhan o d\u00eem Gair Rhydd am bob un o&#8217;m tair blynedd yn fyfyriwr israddedig, ac mae&#8217;r bobl gwnes i gwrdd \u00e2 nhw yno ymhlith fy ffrindiau gorau heddiw. Roedd y swyddfa honno yn ail gartref i mi ac rydw i mor falch o&#8217;r gwaith a gyflawnwyd gennym, yn enwedig rhifyn arbennig etholiad cyffredinol 2017.<\/p>\n<p>I&#8217;r timau presennol ac yn y dyfodol: byddwch yn ddewr. Byddwch yn radical. Byddwch yn fentrus a dilynwch eich greddf. Bydd y creadigrwydd y byddwch yn ei fynegi yma yn dysgu mwy i chi nag unrhyw gymhwyster neu swydd. Yn anad dim, gwnewch yn si\u0175r eich bod yn ei brawf ddarllen!&#8221;<\/p>\n<p><strong>Mandy Bradshaw (BA 1984), Golygydd swyddog sabothol benywaidd cyntaf 1984-1985<br \/>\n<\/strong>\u201cCyn y rhyngrwyd neu ffonau symudol, Gair Rhydd oedd yr unig ffordd o gael gwybod beth oedd yn digwydd. Cymerwyd cop\u00efau ar unwaith wrth i mi adael pentyrrau mewn neuaddau a chyfadrannau, ac roedd angen i ni guddio cop\u00efau\u2019r hysbysebwyr. Rwy\u2019n cofio golygu\u2019r 200fed rhifyn, gwerthu \u00a38,000 mewn hysbysebion i dalu am ddiffyg yn y gyllideb, oriau hir, ffrindiau da, a bwrlwm stori wych.\u201d<\/p>\n<p><strong>Joe Atkinson (BA 2016), Golygydd 2015 &#8211; 2016<br \/>\n<\/strong>\u201cMae unrhyw un sydd wedi gweithio ar Gair Rhydd yn gwybod ei fod yn troi&#8217;n llafur cariad yn gyflym. Nid y straeon dan sylw na\u2019r colofnau llawn yw fy mhrif atgofion, ond yr adegau y b\u00fbm yn gweithio drwy\u2019r nos gyda\u2019r t\u00eem i gwrdd \u00e2 therfyn amser, neu\u2019r wefr o weld eich enw mewn print.\u201d<\/p>\n<p><strong>Jessica Warren (BSc 2019), Golygydd 2018 &#8211; 2019<br \/>\n<\/strong>\u201cAtgof amlwg o ystafell newyddion Gair Rhydd rwy\u2019n ei gofio oedd penderfyniad munud olaf i ddileu\u2019r dudalen flaen a dechrau o\u2019r newydd. Gyda&#8217;r dyddiad cau ar y gorwel, ymatebodd y t\u00eem gydag egni a natur benderfynol. Roedd y foment llawn adrenalin yn gipolwg byr ar benderfyniadau golygyddol cyflym ystafell newyddion genedlaethol.\u201d<\/p>\n<p><strong>David Maher Roberts (BScEcon 1991), Golygydd 1991-1992<\/strong><br \/>\n\u201cMae gen i gymaint o atgofion o Gair Rhydd, mae\u2019n anodd dewis dim ond un, ond yr un sydd bob amser yn dod i\u2019r meddwl yw mynd i The Guardian Student Media Awards yn Llundain ym 1992. Roedden ni wedi ennill y flwyddyn cynt (am y tro cyntaf erioed ac o dan olygyddiaeth Colin Eshelly\/Brazier) ac fe gyrhaeddon ni\u2019r rhestr fer eto (dan olygyddiaeth Sian Hoskins). Roeddwn i yno gyda rhai o fy ffrindiau anwylaf o Gair Rhydd a phan gyhoeddwyd mai ni oedd yr enillwyr, fe wnaethon ni s\u0175n aruthrol ac afreolus! Roeddem wedi torri traddodiad papur myfyrwyr Rhydychen o ennill y gwobrau trwy ennill dwy flynedd yn olynol. Roeddwn i\u2019n falch iawn o&#8217;r t\u00eem cyfan. Roeddwn i\u2019n falch iawn.\u201d<\/p>\n<p><strong>Lisa Pritchard (BA 1995, PGDip 1997),\u00a0Golygydd 1995-96<\/strong><br \/>\n<span style=\"font-size: 16px\">\u201cRoedd yn anrhydedd anhygoel golygu Gair Rhydd: roeddwn yn gweithio oriau hir, ond roedd yn llawer o hwyl ac yn sylfaen wych ar gyfer gyrfa ym maes newyddiaduraeth. Llongyfarchiadau ar ddathlu 50 mlynedd &#8211; pob hwyl gyda\u2019r 50 nesaf.\u201d<\/span><\/p>\n<p><strong>Sarah-Jane Bellis (BA 2003)<br \/>\n<\/strong>\u201cRoeddwn i yng Nghaerdydd yn astudio cymdeithaseg rhwng 2000-2003, roeddwn yn mwynhau darllen Gair Rhydd ac roedd rhestrau\u2019r raglenni teledu bob amser yn ddoniol tu hwnt. Da iawn pwy bynnag a&#8217;u hysgrifennodd.\u201d<\/p>\n<p><strong>Matt Nicholls (BA 1999)<br \/>\n<\/strong>\u201cAtgofion melys o drefnu\u2019r tudalennau newyddion bob nos Iau ar ddiwedd y 90au gyda Paul Clarke a&#8217;n ffrind diweddar James McLaren.\u201d<\/p>\n<p><strong>Rachel Mainwaring (BA 1996, PGDip 1997)<br \/>\n<\/strong>\u201cBues i&#8217;n gweithio ar Gair Rhydd rhwng 1993-96 cyn astudio ar gyfer \u00f4l-radd mewn newyddiaduraeth papur newydd a mynd ymlaen i weithio i Wales on Sunday \/ South Wales Echo \/ Wales on Sunday a WalesOnline. Roedd yn lle gwych i ddysgu&#8217;r sgiliau, ysgrifennu erthyglau a rhoi cynnig ar vox pops. Gwnaeth y ffotograffwyr fy mherswadio i dynnu llawer gormod o luniau ond roedd yn wych ac yn llawer o hwyl. Pen-blwydd hapus Gair Rhydd!\u201d<\/p>\n<p><strong>Roger Faires (MEng 2007)<br \/>\n<\/strong>\u201cRoedd fy mrawd yn gweithio ar y tudalennau digidol rhwng 2000-2003. Roedd ganddo fwnc\u00efod m\u00f4r ar ei ddesg ac roedd t\u00eem y ddesg chwaraeon yn eu hyfed pan oedden nhw wedi meddwi ac yn cael eu herio.\u201d<\/p>\n<p><strong>Georgina Cannon (BA 2001)<br \/>\n<\/strong>\u201cYsgrifennais y croesair yn 1999 neu 2000! Mwynheais eistedd yn y caffi yn yr adeilad Hanes ac yn nhafarn y Taf yn gwrando yn gyfrinachol ar bobl yn ei drafod ac yn ceisio meddwl am yr atebion. Doeddwn i ddim yn hoffi\u2019r ffaith ei fod yn cael ei gyhoeddi ar ddydd Iau gan fy mod yn ddieithriad yn yfed gormod ar nos Fercher yn yr undeb gyda gweddill t\u00eem rygbi\u2019r merched ac yn dioddef ar fore Iau.\u201d<\/p>\n<p><strong>Mark Moran (BA 1987), Golygydd 1987-88<\/strong><br \/>\n\u201cRoedd golygu Gair Rhydd yn waith di-baid a llafurus. Yna, yn sydyn, un diwrnod fe stopiodd. Roedd hi\u2019n dymor yr haf a daeth fy nghyfnod yn golygu i ben. Roedd diwedd fy nhymor yn y swydd yn cyd-daro \u00e2 dyddiau olaf swyddfa Gair Rhydd gan fod Undeb y Myfyrwyr yn cael ei hadnewyddu. Cliriwyd y desgiau a&#8217;r cypyrddau ffeilio a thynnwyd haenau o bosteri gigiau, tudalennau blaen, toriadauo\u2019r wasg a ffotograffau oddi ar y waliau. Fodd bynnag, mae\u2019r ystafell honno\u2019n parhau mewn \u00f4l-rifynnau, albwm o luniau, fy nghof a, gobeithio, atgofion y bobl y b\u00fbm yn gweithio gyda nhw.<\/p>\n<p>Cefais y fraint o gael fy nghefnogi gan d\u00eem o ohebwyr, ffotograffwyr a golygyddion adran talentog a llawn dychymyg.\u00a0Aeth llawer ymlaen i gael gyrfaoedd yn y cyfryngau ac mae\u2019r cyfeillgarwch a ffurfiwyd ar ddiwrnodau\u2019r wasg ym Mhlas y Parc wedi para am oes.\u201d<\/p>\n<p><em><strong>Os gwnaethoch fwynhau darllen rhai o&#8217;r straeon hyn a\u2019ch bod am rannu eich straeon eich hun, gallwch ailgysylltu a hel atgofion gyda chynfyfyrwyr eraill ar <a href=\"https:\/\/connected.cardiff.ac.uk\/feed\">Cysylltiad Caerdydd<\/a>. Mae gr\u0175p wedi\u2019i greu ar gyfer popeth sy&#8217;n ymwneud \u00e2 <a href=\"https:\/\/connected.cardiff.ac.uk\/groups\/60\/about\">Gair Rhydd<\/a>.<\/strong><\/em><\/p>\n<p><em><strong>Gweld rhifyn hanner canmlwyddiant <a href=\"https:\/\/issuu.com\/gairrhydd\/docs\/gair_rhydd_1184\">Gair Rhydd<\/a>.<\/strong><\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Dathlu Pen-blwydd Gair Rhydd yn 50 oed eleni. Mae Gair Rhydd wedi gweld llu o newidiadau ers ei argraffiad cyntaf ar 3 Hydref 1972, o ysgrifennu erthyglau ar deipiaduron a\u2019u pinio i fyrddau gosod i\u2019w hargraffu, i gyhoeddi\u2019r papur ar-lein yn ddidrafferth.","protected":false},"author":6922,"featured_media":8672,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170,203],"tags":[],"class_list":["post-8657","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8657","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6922"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8657"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8657\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8682,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8657\/revisions\/8682"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8672"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8657"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8657"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8657"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}