{"id":8627,"date":"2022-10-17T11:12:38","date_gmt":"2022-10-17T11:12:38","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8627"},"modified":"2022-10-17T11:12:43","modified_gmt":"2022-10-17T11:12:43","slug":"cwrdd-ar-ymchwilydd-dr-kerrie-thomas","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2022\/10\/17\/cwrdd-ar-ymchwilydd-dr-kerrie-thomas\/","title":{"rendered":"Cwrdd \u00e2&#8217;r Ymchwilydd \u2013 Dr Kerrie Thomas"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae Dr Kerrie Thomas yn Ddarllenydd yn y Sefydliad Ymchwil Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NMHRI) ac yn Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Hodge ar gyfer Imiwnoleg Niwroseiciatrig. Nod ei hymchwil yw datblygu ein dealltwriaeth o PTSD (Anhwylder Straen \u00d4l-Drawmatig) ac, yn y pen draw, wella&#8217;r ffordd rydym ni&#8217;n trin y cyflwr dinistriol hwn. <\/strong><\/em><\/p>\n<h3>Dywedwch ychydig wrthym am eich ymchwil<\/h3>\n<p>Hunllefau, \u00f4l-fflachiadau, colli cof, anhunedd: Mae Anhwylder Straen \u00d4l-Drawmatig (PTSD) yn gyflwr gwanychol ac ar hyn o bryd nid oes gennym gyffuriau effeithiol i&#8217;w drin.<\/p>\n<p>Gan weithio gyda&#8217;r Athro Paul Morgan (BSc 1977, MBBCh 1980, PhD 1984), cefais grant Sefydliad Hodge i ymchwilio i brosiect peilot i ddarganfod a allai targedu&#8217;r system ategol ei hun helpu cleifion \u00e2 PTSD.<\/p>\n<p>Mae cleifion \u00e2 PTSD yn dioddef o&#8217;r hyn rydym yn ei alw&#8217;n atgofion ofn cyndyn, anhyblyg. Mae&#8217;r atgofion hyn yn anodd eu prosesu. Maent yn ymwthiol ac yn arbennig o fyw. Rydym wedi canfod y ceir newid yn hipocampws (hyb atgofion) yr ymennydd pan fo atgofion ofn yn cael eu galw i gof &#8211; fel y maent yn aml<br \/>\nyn y rhai sydd \u00e2 PTSD. Yn benodol, ceir newid yn y system ategol sydd ar waith yno.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r system ategol yn rhan o&#8217;r system imiwnedd. Mae&#8217;n gwella proses y corff o ddileu achosion clefydau, ac mae&#8217;n sicrhau gweithrediad arferol yr ymennydd, gan fireinio&#8217;r cysylltiadau rhwng celloedd yr ymennydd. Nod ein prosiect yw archwilio&#8217;r newidiadau i&#8217;r system ategol mewn cleifion PTSD yn fanylach, er mwyn trin yr anhwylder hwn.<\/p>\n<p>Rydym yn gofyn a allai&#8217;r cyfathrebu fod yn ddwyffordd &#8211; gan fod atgofion ofn yn effeithio ar y system ategol, a allai hefyd addasu atgofion ofn, ac felly a allai fod yn darged i drin PTSD?<\/p>\n<p>Yn benodol, rydym yn ymchwilio i r\u00f4l microglia, a oedd yn cael ei ystyried yn y gorffennol fel celloedd cymorth, ond sy\u2019n cael eu deall yn fwyfwy fel rhai arwyddocaol mewn ymatebion imiwnedd, gan actifadu&#8217;r system imiwnedd.<\/p>\n<p>Rydym eisoes wedi gallu dangos bod un dos systemig o gyffur sy&#8217;n lleihau actifadu microglia yn gallu lleihau atgofion ofn yn y tymor hir. Dyma&#8217;r dystiolaeth gyntaf i ddangos y gall lleihau actifadu microglia ar \u00f4l galw atgofion i gof leihau atgofion ofn ac y gallai triniaethau dros gyfnod penodol sy&#8217;n targedu microglia fod yn effeithiol wrth drin anhwylderau seiciatrig.<\/p>\n<p>I ddysgu mwy am yr hyn sy&#8217;n digwydd o dan y canfyddiadau hyn, rydym ar hyn o bryd yn ymchwilio a yw rhwystro&#8217;r system signalau ategol yn arwain at ganlyniadau tebyg.<\/p>\n<h3>Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer eich ymchwil a\u2019i budd i bobl yn y dyfodol?<\/h3>\n<p>Gobeithio y gallwn barhau gyda&#8217;n hymchwil i helpu i ddatblygu triniaeth newydd ar gyfer anhwylderau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 phroblemau&#8217;r cof. Gall ein gwaith hefyd hysbysu pryd i roi&#8217;r driniaeth ac i ba is-boblogaeth, am y cyfleoedd gorau i adfer. Er enghraifft, ceir blwch mawr yn ein dealltwriaeth o ran a yw triniaethau cyffuriau\u2019r un mor effeithiol ym mhobl o\u2019r ddau rhyw. Mae ein data ein hunain yn dangos bod effeithiau tebyg ein cyffur i&#8217;w gweld mewn dynion a menywod, ond mae rhai gwahaniaethau bach ond pwysig. Rydym yn credu bod hyn yn faes pwysig i ganolbwyntio arno.<\/p>\n<h3>Beth wnaeth eich ysbrydoli neu sydd o ddiddordeb i chi yn y maes ymchwil penodol hwn?<\/h3>\n<p>Dwi wastad wedi bod \u00e2 diddordeb yn y ffordd mae&#8217;r ymennydd yn creu ac yn defnyddio atgofion. Er gwaethaf dros 100 mlynedd o wyddoniaeth arbrofol, dydyn ni dal ddim yn deall y fioleg sylfaenol yn llwyr yn ei chymhlethdod llawn a rhyfeddol. Fodd bynnag, rydym mewn cyfnod newydd cyffrous gyda dulliau newydd o ddelweddu&#8217;r ymennydd ar waith, dod i wybod ei thirwedd enetig a deall sut mae&#8217;n rhyngweithio \u00e2 systemau eraill fel y systemau imiwnedd a pherfedd, i allu cael mewnwelediadau defnyddiol iawn i iechyd ac afiechyd. Mae&#8217;n fraint fawr cael bod yn rhan o&#8217;r broses.<\/p>\n<h3>Beth yw manteision gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd?<\/h3>\n<p>Mae&#8217;r gymuned academaidd niwrowyddorau a&#8217;r adnoddau ymchwil yn rhagorol &#8211; o safon ryngwladol. Mae Caerdydd wedi creu amgylchedd cymharol unigryw lle mae&#8217;n hawdd cydweithio \u00e2 chydweithwyr ar draws Ysgolion, a hynny drwy ofodau a rennir a mentrau ariannu eraill.<\/p>\n<h3>Beth yw eich hoff bethau am Gaerdydd?<\/h3>\n<p>Y mannau gwyrdd yn y ddinas a&#8217;r cyffiniau, ei hymdeimlad o hunaniaeth trwy ddiwylliant a chwaraeon, a&#8217;r amrywiaeth helaeth o fwyd da! Mae&#8217;n lle gwych i fagu teulu. Mae&#8217;n lle sy&#8217;n annog cymuned y tu mewn a&#8217;r tu allan i&#8217;r Brifysgol.<\/p>\n<h3>Beth byddech chi&#8217;n ei ddweud wrth roddwyr a chodwyr arian sydd wedi helpu i gefnogi eich ymchwil?<\/h3>\n<p>Diolch. Mae eich rhoddion yn rhan hanfodol o&#8217;r dirwedd ariannu. Maent yn darparu cyllid Seedcorn i&#8217;n helpu ymchwilwyr i wireddu syniad newydd, gan ei dynnu oddi ar y papur i ddangos prawf cysyniad trwy arbrawf. Mae eich cefnogaeth yn ein galluogi i fod yn wirioneddol greadigol a rhoi cyfle i ni roi cynnig ar atebion newydd i faterion hirsefydlog.<\/p>\n<p><em><strong>Rhagor o wybodaeth am ymchwil <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\/how-you-can-help\/neuroscience-and-mental-health-research\">niwrowyddorau ac iechyd meddwl<\/a> ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/strong><\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Dr Kerrie Thomas yn Ddarllenydd yn y Sefydliad Ymchwil Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NMHRI) ac yn Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Hodge ar gyfer Imiwnoleg Niwroseiciatrig. Nod ei hymchwil yw datblygu ein dealltwriaeth o PTSD (Anhwylder Straen \u00d4l-Drawmatig) ac, yn y pen draw, wella'r ffordd rydym ni'n trin y cyflwr dinistriol hwn.","protected":false},"author":904,"featured_media":8626,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[204],"tags":[],"class_list":["post-8627","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-donate-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8627","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8627"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8627\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8636,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8627\/revisions\/8636"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8626"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8627"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8627"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8627"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}