{"id":8578,"date":"2022-10-11T15:50:37","date_gmt":"2022-10-11T15:50:37","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8578"},"modified":"2022-10-11T15:51:33","modified_gmt":"2022-10-11T15:51:33","slug":"cefnogir-genhedlaeth-nesaf-o-fyfyrwyr-caerdydd-golwg-yn-ol-ar-y-flwyddyn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2022\/10\/11\/cefnogir-genhedlaeth-nesaf-o-fyfyrwyr-caerdydd-golwg-yn-ol-ar-y-flwyddyn\/","title":{"rendered":"Cefnogi\u2019r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr Caerdydd \u2013 golwg yn \u00f4l ar y flwyddyn"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae myfyrwyr wrth galon Prifysgol Caerdydd, ond gall heriau ariannol atal y meddyliau gorau a mwyaf disglair rhag cael mynediad at yr addysg a&#8217;r cyfleoedd y maent yn eu haeddu.<\/strong><\/em><\/p>\n<p>Y llynedd rhoddodd ein cefnogwyr swm syfrdanol o \u00a368,000 tuag at gefnogi myfyrwyr Caerdydd i gyflawni eu llawn botensial, trwy <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\/how-you-can-help\">roddion hael<\/a>, yn ogystal ag <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\/give-in-your-will\">anrhegion mewn Ewyllysiau<\/a> ac er <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\/other-ways-to-give\/in-memoriam\">cof am anwyliaid<\/a>.\u00a0Rhoddodd ein cynfyfyrwyr eu <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/get-involved\">hamser a\u2019u harbenigedd<\/a> hefyd i gefnogi ein myfyrwyr trwy fentora, gwneud cyflwyniadau am yrfaoedd a chynnig interniaethau i\u2019w helpu i baratoi ar gyfer bywyd ar \u00f4l Caerdydd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r cymorth hwn wedi\u2019i gwneud hi\u2019n bosibl i gannoedd o fyfyrwyr barhau \u00e2\u2019u hastudiaethau mewn cyfnodau anodd, cael mynediad at gyfleoedd efallai na fyddent wedi gallu eu gwneud, a datblygu\u2019r sgiliau a\u2019r profiad sydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd ar \u00f4l y brifysgol.<\/p>\n<h2><strong>Cymorth ariannol mewn argyfwng costau byw <\/strong><\/h2>\n<p>Gall caledi ariannol gael effaith enfawr ar ein myfyrwyr, ac yn aml mae\u2019n anodd iddynt gydbwyso gwaith ac astudiaethau. Gall yr anawsterau hyn olygu eu bod yn cael trafferth gyda\u2019u hiechyd meddwl, yn colli cyfleoedd, neu weithiau\u2019n rhoi\u2019r gorau i\u2019w hastudiaethau\u2019n gyfangwbl. Diolch i roddwyr hael, gellir lleddfu\u2019r pwysau ariannol hyn, a gall y cymorth a gynigir helpu i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cwblhau eu hastudiaethau a manteisio i\u2019r eithaf ar eu hamser yn y brifysgol. Eleni cefnogwyd dros 200 o fyfyrwyr trwy fwrsariaethau, ysgoloriaethau a gwobrau .<\/p>\n<p><em>\u201cSylweddolais fy mod eisiau astudio Meddygaeth tra&#8217;n gweithi<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/Med-student-in-cohrane-scaled.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-8586\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/Med-student-in-cohrane-scaled.jpg\" alt=\"\" width=\"275\" height=\"183\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/Med-student-in-cohrane-scaled.jpg 2560w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/Med-student-in-cohrane-1536x1022.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/Med-student-in-cohrane-2048x1363.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 275px) 100vw, 275px\" \/><\/a>o mewn cartref gofal i oedolion ag anafiadau i&#8217;r ymennydd. Ond roedd astudio Meddygaeth yn fyfyriwr aeddfed yn heriol yn ariannol. Roeddwn yn 36 ac wedi cael plentyn yn ddiweddar. Roeddem yn dibynnu ar incwm fy mhartner, felly roedd yn anodd talu am ofal plant ac roedd hyn yn effeithio ar ba mor aml y gallai fy mab fynd i feithrinfa. Roedd cost tanwydd i deithio yn \u00f4l ac ymlaen i&#8217;m lleoliadau clinigol yn cynyddu\u2019r costau a oedd yn ein hwynebu.<\/em><\/p>\n<p><em>\u201cCafodd Bwrsari Rashid Domingo effaith enfawr ar fy sefyllfa. Roedd yn lleddfu\u2019r beichiau ariannol hyn a\u2019r straen sy\u2019n dod gyda nhw, gan ganiat\u00e1u i mi ymgolli\u2019n llwyr yn fy ngradd. Mae wedi helpu fy nheulu\u2019n aruthrol ac rwy\u2019n gwybod y bydd yn cael effaith barhaus wrth i mi ddechrau fy ngyrfa yn feddyg.\u201d <strong>Anhysbys (MBBCh 2022)<\/strong><\/em><\/p>\n<h2><strong>Sgiliau a Phrofiad<\/strong><\/h2>\n<p>Mae ein gwasanaeth Dyfodol Myfyrwyr yn cynnig cyfleoedd profiad gwaith trwy fentora, interniaethau a lleoliadau ymchwil i helpu ein myfyrwyr i gael gwybodaeth, sgiliau a thanio angerdd am yrfaoedd yn y dyfodol. Yn aml, interniaeth yw\u2019r tro cyntaf i fyfyriwr gael profiad \u201cgo-iawn\u201d o waith \u00e2 th\u00e2l ac mae ein cefnogwyr yn ein helpu i hwyluso interniaethau \u00e2 chyflog a fydd yn gwella cyflogadwyedd, ac yn aml yn arwain at fwy o gyfleoedd cyflogaeth. Mae\u2019r cyfleoedd hyn yn aml yn cael eu cynnig gan ein cynfyfyrwyr, gan helpu ein myfyrwyr i ddatblygu eu rhwydweithiau, a meithrin cysylltiadau defnyddiol. Eleni gwnaeth 217 o gynfyfyrwyr gynnig interniaethau neu fentora, i gefnogi cenhedlaeth nesaf cynfyfyrwyr Caerdydd.<\/p>\n<p><em>\u201cAr ddechrau fy ail flwyddyn, doedd gen i ddim syniad beth roeddwn i eisiau <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/Ally-Joh-1-scaled-e1664985174116.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-8587\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/Ally-Joh-1-scaled-e1664985174116.jpg\" alt=\"\" width=\"206\" height=\"178\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/Ally-Joh-1-scaled-e1664985174116.jpg 1921w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/Ally-Joh-1-scaled-e1664985174116-1536x1330.jpg 1536w\" sizes=\"auto, (max-width: 206px) 100vw, 206px\" \/><\/a>ei wneud ar \u00f4l y brifysgol na ble i ddechrau. Gwnes i gais ar gyfer y cynllun mentora a chefais interniaeth trwy fy mentor. Trwy hyn rydw i wedi dysgu llawer iawn am y diwydiant celfyddydol ac wedi cael nifer o sgiliau newydd.&#8221;<\/em><\/p>\n<p>&#8220;Cyn hynny, doedd gen i ddim syniad am fyd gwaith mewn gwirionedd, ac roedd hyn yn fy ngwneud yn nerfus ac yn bryderus. Er nad wyf yn gwybod o hyd sut olwg fydd ar fywyd ar \u00f4l prifysgol i mi, nid wyf bellach yn poeni am y dyfodol, a\u2019r peth mwyaf gwerthfawr i mi ei gael o\u2019r profiad hwn yw hyder.\u201d \u00a0<strong>Ally-Joh Gowan-Day (Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol 2020-)<\/strong><\/p>\n<h2><strong>Gweithio, astudio neu wirfoddoli dramor<\/strong><\/h2>\n<p>Mae ein cefnogwyr wedi helpu i gael gwared ar y rhwystrau ariannol i weithio, astudio neu wirfoddoli dramor i lawer o&#8217;n myfyrwyr na fyddent efallai wedi gallu fforddio gwneud hynny fel arall. Mae\u2019r rhaglen Cyfleoedd Byd-eang yn cefnogi ein myfyrwyr i ddarganfod diwylliannau eraill, dysgu sgiliau ac ieithoedd newydd, a ffurfio cyfeillgarwch gydol oes. Mae&#8217;r profiadau hyn yn rhoi hwb i&#8217;w hyder, eu CV a&#8217;u cyflogadwyedd, ac yn helpu i ddatblygu dinasyddion gwirioneddol fyd-eang. Eleni, cefnogwyd miloedd o fyfyrwyr i weithio neu wirfoddoli dramor.<\/p>\n<p><em>\u201cYr haf hwn cefais gyfle i ymweld \u00e2 Washington DC lle bues i\u2019n gweithio yng ngwersyll diwrnod Sandy Spring i<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/MicrosoftTeams-image-37.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-8583\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/MicrosoftTeams-image-37.jpg\" alt=\"\" width=\"190\" height=\"191\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/MicrosoftTeams-image-37.jpg 1728w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/MicrosoftTeams-image-37-1525x1536.jpg 1525w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/MicrosoftTeams-image-37-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/MicrosoftTeams-image-37-40x40.jpg 40w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/MicrosoftTeams-image-37-200x200.jpg 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 190px) 100vw, 190px\" \/><\/a> blant rhwng pedair a 12 oed. Cynghorwr oeddwn i ac yn y boreau roeddwn i&#8217;n arbenigwr cyfrifiadurol, ac yn defnyddio\u2019r hyn a ddysgais yn fy ngradd cyfrifiadureg i addysgu rhaglenni cyfrifiadurol amrywiol i&#8217;r myfyrwyr.\u00a0Dydw i erioed wedi bod yn yr Unol Daleithiau o&#8217;r blaen ac nid oedd cyfle tebyg i hwn o fewn cyrraedd i rywun fel fi.&#8221;<\/em><\/p>\n<p><em>&#8220;Cefais gefnogaeth anhygoel, gan gynnwys y cyllid i\u2019m helpu i reoli cost y daith a\u2019r cymorth gan y rhwydwaith o staff i\u2019m helpu i gynllunio\u2019r daith a\u2019i gwneud mor hawdd \u00e2 phosibl. Roedd cael y gefnogaeth hon wedi rhoi\u2019r hyder i mi gamu allan o\u2019m hardal gysur a gwneud rhywbeth nad wyf erioed wedi meddwl oedd yn bosibl o\u2019r blaen.\u201d<\/em> <strong>Zaria Cameron (Cyfrifiadureg 2020-)<\/strong><\/p>\n<h2><strong>Canolfan Bywyd y Myfyrwyr newydd<\/strong><\/h2>\n<p>Ym mis Medi 2021, lansiwyd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr newydd yng nghano<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/Centre-for-Student-Life.jpeg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-8588\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/Centre-for-Student-Life.jpeg\" alt=\"\" width=\"291\" height=\"164\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/Centre-for-Student-Life.jpeg 937w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/Centre-for-Student-Life-70x40.jpeg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/Centre-for-Student-Life-170x96.jpeg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/Centre-for-Student-Life-270x152.jpeg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/Centre-for-Student-Life-370x208.jpeg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/Centre-for-Student-Life-570x320.jpeg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/Centre-for-Student-Life-670x376.jpeg 670w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/Centre-for-Student-Life-770x433.jpeg 770w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/10\/Centre-for-Student-Life-870x489.jpeg 870w\" sizes=\"auto, (max-width: 291px) 100vw, 291px\" \/><\/a>l y campws, gan ddod ag ystod o wasanaethau myfyrwyr ynghyd o dan yr un to. Yn ystod y deuddeg mis diwethaf mae miloedd o fyfyrwyr wedi dod i\u2019r adeilad deinamig hwn i gael cymorth gyrfaol, cwnsela a gwasanaethau lles, a chyngor ar arian a thai.<\/p>\n<p>Ym mis Mehefin 2022, lansiwyd gwasanaeth <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/news\/view\/2632012-new-student-mental-health-service-officially-launches-in-cardiff\">iechyd meddwl<\/a> GIG newydd ar gyfer myfyrwyr Caerdydd, i helpu i bontio\u2019r bwlch rhwng gwasanaethau\u2019r Brifysgol ei hun a gwasanaethau\u2019r GIG. Bydd y gwasanaeth hwn, sydd wedi\u2019i leoli yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, yn helpu gydag asesiadau iechyd meddwl manwl ac atgyfeiriadau ac arweiniad drwy wasanaethau\u2019r GIG, i wneud yn si\u0175r bod pob myfyriwr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.<\/p>\n<p>Diolch enfawr i&#8217;n holl gefnogwyr am wneud cymaint o wahaniaeth y llynedd i&#8217;n myfyrwyr.<\/p>\n<p><em><strong>Rhagor o wybodaeth am gefnogi myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a gwneud pob cyfle yn hygyrch i genhedlaeth nesaf cyn-fyfyrwyr Caerdydd. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\/how-you-can-help\/student-support\">Cyflwynwch anrheg ariannol<\/a>. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/get-involved\">Rhowch eich amser neu arbenigedd.<\/a><\/strong><\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae myfyrwyr wrth galon Prifysgol Caerdydd, ond gall heriau ariannol atal y meddyliau gorau a mwyaf disglair rhag cael mynediad at yr addysg a'r cyfleoedd y maent yn eu haeddu.\r\n\r\nY llynedd rhoddodd ein cefnogwyr swm syfrdanol o \u00a368,000 tuag at gefnogi myfyrwyr Caerdydd i gyflawni eu llawn botensial, trwy roddion hael, yn ogystal ag anrhegion mewn Ewyllysiau ac er cof am anwyliaid.\u00a0Rhoddodd ein cynfyfyrwyr eu hamser a\u2019u harbenigedd hefyd i gefnogi ein myfyrwyr trwy fentora, gwneud cyflwyniadau am yrfaoedd a chynnig interniaethau i\u2019w helpu i baratoi ar gyfer bywyd ar \u00f4l Caerdydd.","protected":false},"author":904,"featured_media":8584,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[204,203],"tags":[],"class_list":["post-8578","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-donate-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8578","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8578"}],"version-history":[{"count":15,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8578\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8613,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8578\/revisions\/8613"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8584"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8578"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8578"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8578"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}