{"id":8534,"date":"2022-09-30T13:05:18","date_gmt":"2022-09-30T13:05:18","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8534"},"modified":"2025-02-04T09:49:33","modified_gmt":"2025-02-04T09:49:33","slug":"newid-llwybr-yn-eich-gyrfa-bossing-it","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2022\/09\/30\/newid-llwybr-yn-eich-gyrfa-bossing-it\/","title":{"rendered":"Newid llwybr yn eich gyrfa &#8211; Bossing It"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Gall newid gyrfa fod yn frawychus, ond hefyd yn hynod werth chweil. Cawsom sgwrs gyda rhai o&#8217;n cynfyfyrwyr sydd wedi cymryd y cam mawr i lwybr gyrfa hollol newydd.<\/strong><\/em><\/p>\n<h3><strong>Kate O&#8217;Connor (BA 2012)<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/MicrosoftTeams-image-28.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-8511\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/MicrosoftTeams-image-28.jpg\" alt=\"\" width=\"218\" height=\"188\" \/><\/a><\/strong><\/h3>\n<p>Astudiodd ar gyfer BA mewn Gwleidyddiaeth ac Athroniaeth yng Nghaerdydd, ac ar \u00f4l gwneud cwpl o interniaethau, cafodd Kate gynnig o le ar gynllun i raddedigion gydag Accenture. Ar \u00f4l ychydig o flynyddoedd, sylweddolodd nad oedd yn mwynhau bod yn Ymgynghorydd Rheoli. Roedd hi\u2019n berfformiwr byrfyfyr ac yn awdur comedi brwd, ac roedd eisiau dilyn llwybr creadigol. Felly gwnaeth hi MA mewn Hysbysebu Creadigol ym Mhrifysgol Falmouth, ac yna cyfres o interniaethau yn Ad Land. Hanes, fel dywedon nhw, yw\u2019r gweddill. Mae hi bellach yn Uwch Weithiwr Creadigol ym Momentum Worldwide, yn rhan o McCann Worldgroup, ac yn mwynhau\u2019r gwaith bob dydd.<\/p>\n<p><strong>Cofiwch atgoffa eich hun pam<\/strong><\/p>\n<p>Hyd yn oed pan rydyn ni&#8217;n gwybod ein bod ni eisiau gwneud rhywbeth newydd, gall tir anghyfarwydd fod yn frawychus. Gofynnwch i chi&#8217;ch hun pam rydych chi eisiau newid gyrfa &#8211; edrychwch ar yr ateb hwnnw ac yna gofynnwch i chi&#8217;ch hun pam eto, gan barhau hyd nes y byddwch wedi dod o hyd i&#8217;r rheswm sylfaenol. Dyna&#8217;r peth fydd yn rhoi&#8217;r ysgogiad sydd ei angen arnoch chi i wneud y cam mawr. Pan oeddwn i\u2019n ceisio argyhoeddi fy hun i adael swydd \u00e2 chyflog da iawn yn y Ddinas, fe wnes i fwrdd gweledigaeth a oedd yn cynrychioli fy \u2018pam\u2019 a\u2019i osod yn gefndir ar fy ngliniadur.<\/p>\n<p><strong>Cofiwch fod gwerth i bopeth rydych chi wedi&#8217;i wneud hyd yn hyn<\/strong><\/p>\n<p>Hyd yn oed os ydych chi&#8217;n symud i faes cwbl amherthnasol ac yn gorfod dechrau ar y gris cyntaf eto, bydd yr holl brofiad rydych chi wedi&#8217;i ennill hyd yn hyn yn ddefnyddiol ar ryw adeg. Defnyddiwch eich profiad gwaith i ddrysu disgwyliadau o&#8217;r hyn y gall &#8216;gweithiwr iau&#8217; ei wneud. Defnyddiwch eich sgiliau personol i amddiffyn eich hun ac eraill rhag y tasgau afresymol a roddir yn aml i weithwyr iau, sydd ddim eto\u2019n gwybod sut i\u2019w gwrthod.<\/p>\n<h3><strong>James Orpwood (BSc 2002, PhD 2006)<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/MicrosoftTeams-image-30-e1664541206115.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-8513\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/MicrosoftTeams-image-30-e1664541206115.jpg\" alt=\"\" width=\"155\" height=\"183\" \/><\/a><\/strong><\/h3>\n<p>Ers yn ifanc iawn, roedd James yn dwlu ar unrhyw beth yn ymwneud \u00e2 physgod. Nid yw&#8217;n syndod felly bod hyn wedi datblygu\u2019n yrfa addawol yn wyddonydd pysgodfeydd. Fodd bynnag, aeth i&#8217;r Alban gyda&#8217;i yrfa wyddonol, a gan iddo gael ei amgylchynu gan olygfeydd o\u2019r mynyddoedd anhygoel, datblygodd angerdd newydd am hwyl mewn mannau uchel. Roedd ganddo awydd i newid gyrfa er mwyn iddo allu arwain pobl yn y mynyddoedd a mannau gwyllt, a chadarnhawyd hyn gan daith ddringo i&#8217;r Himalayas lle cyfarfu James \u00e2&#8217;i wraig. Yn dilyn sawl blwyddyn o ail-hyfforddi penderfynol, gwireddwyd breuddwyd James. Erbyn hyn mae&#8217;n rhedeg ei fusnes bach ei hun, <a href=\"https:\/\/www.jamesorpwoodmountaineering.co.uk\">James Orpwood Mountaineering<\/a>, ac yn gweithio\u2019n llawrydd gyda gweithgareddau awyr agored a chwmn\u00efau teithio antur.<\/p>\n<p><strong>Cyn mynd amdani &#8211; gwnewch gynllun, cadwch y ffydd, a byddwch yn hyblyg!<\/strong><\/p>\n<p>Dylai&#8217;r syniad o newid gyrfaoedd fod yn gyffrous! Fodd bynnag, gall hefyd fod yn frawychus, yn llawn ansicrwydd (cyffro!), a llawer o \u2018beth os\u2019. Gall cael cynllun ar gyfer eich newid gyrfa helpu i dawelu nerfau, a\u2019ch helpu i ganolbwyntio ar eich nod yn y pen draw. Gallai eich cynllun ganolbwyntio ar feysydd allweddol megis ail-hyfforddi, sicrhau cyllid ac amserlenni. Bydd angen chi fod yn hyblyg &#8211; ni fydd pob syniad sydd gennych yn cael ei wireddu, ond rwy&#8217;n gwarantu unwaith y byddwch chi&#8217;n cymryd y naid ffydd honno, bydd cyfleoedd ar gael i chi!<\/p>\n<p><strong>Ar \u00f4l i chi fynd amdani &#8211; cofiwch rwydweithio, manteisiwch ar bob cyfle, byddwch yn driw i chi\u2019ch hun.<\/strong><\/p>\n<p>Unwaith y bydd eich gyrfa newydd ar y gweill manteisiwch ar bob cyfle i rwydweithio \u00e2 phobl fwy profiadol yn eich maes. Peidiwch \u00e2 bod ofn cynnig \u201ccysgodi\u201d ymarferwyr sefydledig, er enghraifft. Gall hyn helpu i feithrin eich profiad gyda chleientiaid &#8220;byd go iawn&#8221; ac efallai y bydd yn eich helpu i gael gwaith gyda chyflogwyr posib. Bydd argymhellion personol, ymddygiad cyfeillgar a sgwrs dros baned yn llawer mwy buddiol nag ymholiad ebost di-wyneb. Dysgwch gan y goreuon &#8211; roedd yn rhaid i bawb ddechrau yn rhywle &#8211; ond arhoswch yn driw i chi&#8217;ch hun, eich gwerthoedd a&#8217;ch ethos eich hun.<\/p>\n<h3><strong>Steph Bird (BSc 2014)<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/MicrosoftTeams-image-29.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-8512\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/MicrosoftTeams-image-29.png\" alt=\"\" width=\"168\" height=\"168\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/MicrosoftTeams-image-29.png 1668w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/MicrosoftTeams-image-29-1536x1536.png 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/MicrosoftTeams-image-29-100x100.png 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/MicrosoftTeams-image-29-40x40.png 40w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/MicrosoftTeams-image-29-200x200.png 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 168px) 100vw, 168px\" \/><\/a><\/strong><\/h3>\n<p>Astudiodd Steph BSc Radiotherapi ac Oncoleg, ac aeth i weithio\u2019n Radiograffydd Therapiwtig yn Ysbyty Brenhinol Swydd Surrey am 3 blynedd. Arweiniodd ei hangerdd dros wirfoddoli a chodi arian iddi symud i\u2019r sector elusennol yn 2017. Dechreuodd yn Godwr Arian i\u2019r Gymuned yn Elusen Tiwmor yr Ymennydd ac yn ddiweddarach symudodd i fod yn Rheolwr Codi Arian i\u2019r Gymuned, yn rheolwr llinell t\u00eem codi arian cymunedol ledled y DU. Ar hyn o bryd, hi yw Swyddog Codi Arian Cymunedol Prifysgol Caerdydd, yn codi ymwybyddiaeth o Brifysgol Caerdydd yn elusen a chefnogi <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\">codwyr arian #TeamCardiff<\/a>.<\/p>\n<p><strong>Ennill profiad cyn symud.<\/strong><\/p>\n<p>Roedd cael gwybodaeth am y sector elusennol wedi helpu fy mhroses benderfynu a hefyd wedi helpu yn y trafodaethau mewn cyfweliadau. Fe wnes i chwiliad Google, yna gwnes gais a llwyddais i gael lle yn Charity Apprentice, cwrs blwyddyn rhan-amser a roddodd sylfaen gadarn i mi o wybodaeth am y sector elusennol a swyddi posibl. Rhoddodd gyfleoedd rhwydweithio i mi ofyn cwestiynau i&#8217;r rhai sy&#8217;n gweithio&#8217;n uniongyrchol yn y sector a roddodd y sicrwydd a&#8217;r hyder i mi i wybod bod y penderfyniad yn iawn i mi.<\/p>\n<p><strong>Cadwch eich opsiynau ar agor<\/strong><\/p>\n<p>Mae bob amser yn syniad da meddwl ymlaen llaw ac ystyried eich opsiynau cyn newid gyrfaoedd. Efallai na fydd pethau&#8217;n gweithio&#8217;n union yn y ffordd roeddech wedi\u2019i gynllunio neu&#8217;n gobeithio i ddechrau, felly gwnewch yn si\u0175r eich bod yn agored i gyfleoedd a llwybrau eraill. Mae cymaint o rolau o fewn sector ac mae&#8217;n dda cofio bod rolau&#8217;n gallu amrywio mewn gwahanol sefydliadau hefyd. Peidiwch \u00e2 bod ofn cael sgyrsiau gyda&#8217;ch rheolwr llinell, cydweithwyr, ffrindiau a theulu am opsiynau gan y gallent helpu i roi cyngor cyfeillgar neu dynnu sylw at gyfleoedd hyfforddi er enghraifft.<\/p>\n<h3><strong>Hannah Jefferys (MArch 2009)<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/Hannah-Jefferys.jpeg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-8523\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/Hannah-Jefferys.jpeg\" alt=\"\" width=\"167\" height=\"167\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/Hannah-Jefferys.jpeg 800w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/Hannah-Jefferys-100x100.jpeg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/Hannah-Jefferys-40x40.jpeg 40w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/Hannah-Jefferys-200x200.jpeg 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 167px) 100vw, 167px\" \/><\/a><br \/>\n<\/strong><\/h3>\n<p>Astudiodd Hannah ym Mhrifysgol Caerdydd am 5 mlynedd, gan gwblhau ei MArch mewn Dylunio Pensaern\u00efol yn 2009. Ar \u00f4l graddio, bu Hannah yn Ddylunydd ac yn Bensaer, ond ochr yn ochr \u00e2 hyn penderfynodd ddilyn ei hangerdd dros Seidr, gan sefydlu <a href=\"https:\/\/www.saigoncider.com\">S\u00e0i G\u00f2n Cider<\/a> yn Fietnam yn 2013. Mae\u2019r brand yn 9 oed ac wrth i\u2019r busnes fynd o nerth i nerth, Hannah sydd bellach yn Gyfarwyddwr Sefydlu a Gwneuthurwr Seidr yn y cwmni\u2019n llawn amser. Seidr S\u00e0i G\u00f2n yw prif frand seidr Fietnam, ac mae\u2019n cynnig seidr organig arobryn wedi\u2019i wneud yn Fietnam, gan ddefnyddio sudd 100% pur, fel y dylai seidr fod.<\/p>\n<p><strong>Mae cymaint o werth i&#8217;ch gradd o hyd<\/strong><\/p>\n<p>Cefais lawer o sgiliau trosglwyddadwy yn fy ngradd Meistr mewn Pensaern\u00efaeth. Rwy&#8217;n dal i&#8217;w defnyddio heddiw, er enghraifft:<\/p>\n<ul>\n<li>Gwerthu syniadau &#8211; mae hyn yn ddefnyddiol wrth wynebu cwsmeriaid a buddsoddwyr, yn ogystal \u00e2 chleientiaid a datblygwyr. Boed yn gynnig ar gyfer canolfan addysg neu\u2019n frand, mae&#8217;r un egwyddorion yn berthnasol.<\/li>\n<li>Aros yn driw i&#8217;r cysyniad &#8211; o adeiladu manylion mawr i fach, rhaid i bopeth fod yn gysylltiedig \u00e2&#8217;r un syniad. Mae&#8217;r un peth yn berthnasol i frandiau. Os organig a chrefftwrol yw eich ffocws, dylai hynny effeithio ar bopeth o gynhwysion y cynnyrch i&#8217;r arddull cyfathrebu.<\/li>\n<li>Creadigrwydd, dyfeisgarwch, sylw i fanylion, y gallu i weithio dan bwysau &#8230; mae&#8217;r rhestr yn ddiddiwedd!<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Ewch amdani!<\/strong><\/p>\n<p>Bydd yr awydd tanbaid hwnnw i redeg eich busnes eich hun yn eich poeni, felly gwnewch gynllun ac ewch amdani! Ni fydd y busnes hwnnw o reidrwydd yn deillio o\u2019r pwnc rydych chi wedi astudio. Os nad yw&#8217;r llwybr yn ymddangos yn glir ac yn gyraeddadwy yn y dyfodol agos, yna ceisiwch fodloni&#8217;r awydd hwn mewn ffordd arall. Rwy\u2019n angerddol am bensaern\u00efaeth a dylunio, ond ni fyddai creu busnes yn y maes wedi apelio. Dim ond wrth edrych yn \u00f4l y sylweddolais hyn, ar \u00f4l i mi greu brand seidr. Beth bynnag fo&#8217;ch meysydd o ddiddordeb, bydd gorfodi eich hun i osod cynllun 5 mlynedd tuag at nod terfynol sy&#8217;n eich bodloni, yn eich annog i ddod o hyd i fusnes sy&#8217;n addas i chi cyn gynted \u00e2 phosibl. Penderfynwch. Cynlluniwch. Gwnewch!<\/p>\n<p><strong>Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw o bobl sy\u2019n barod iawn eu cymwynas ac yma i&#8217;ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Gallwch bori drwy eu cyngor a&#8217;u hawgrymiadau ar ystod eang o bynciau busnes yn ein cyfres <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/category\/cyswllt-caerdydd\/bossing-it-cy\/\">\u2018Bossing It\u2019.<\/a><\/strong><\/p>\n<p><b>Yn barod i gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch \u00e2\u2019n\u00a0<\/b><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\"><b>gr\u0175p LinkedIn<\/b><\/a><b>\u00a0a dechrau rhwydweithio.<\/b><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gall newid gyrfa fod yn frawychus, ond hefyd yn hynod werth chweil. Cawsom sgwrs gyda rhai o'n cynfyfyrwyr sydd wedi cymryd y cam mawr i lwybr gyrfa hollol newydd.","protected":false},"author":6913,"featured_media":8510,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[207,166,170],"tags":[],"class_list":["post-8534","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bossing-it-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8534","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6913"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8534"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8534\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10157,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8534\/revisions\/10157"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8510"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8534"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8534"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8534"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}