{"id":8463,"date":"2022-09-20T08:55:23","date_gmt":"2022-09-20T08:55:23","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8463"},"modified":"2024-04-11T07:58:03","modified_gmt":"2024-04-11T07:58:03","slug":"rhedeg-dros-ymchwil-iechyd-meddwl-gethin-bennett-2","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2022\/09\/20\/rhedeg-dros-ymchwil-iechyd-meddwl-gethin-bennett-2\/","title":{"rendered":"Rhedeg dros ymchwil iechyd meddwl &#8211; Gethin Bennett"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae Gethin Bennett (LLB 2015, PgDip 2016) yn rhedeg <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\/run-the-cardiff-half-marathon\">Hanner Marathon Caerdydd<\/a> ym mis Hydref er cof am ei dad, a fu farw yn 2007 o ganlyniad i iselder. Cafodd Gethin yr ysfa i redeg tra&#8217;n astudio dramor yn 2016 ac mae wedi rhedeg yr hanner marathon ddwywaith o&#8217;r blaen. Mae&#8217;n rhannu ei awgrymiadau gyda\u2019r rhai sy&#8217;n ystyried dechrau rhedeg yn ogystal \u00e2&#8217;r hyn y mae&#8217;n edrych ymlaen ato ar y diwrnod.<\/strong><\/em><\/p>\n<p>Dechreuais redeg pan oeddwn ar fy mlwyddyn Erasmus dramor yn Toulouse, Ffrainc ( yn 2016). Roeddwn dros bwysau gydag arferion gwael bryd hynny, ac felly penderfynais un bore roi trefn ar bethau &#8211; dechreuais gyda theithiau cerdded hir, yna symud ymlaen i loncian ysgafn, a gorffen gyda\u2019r ysfa i redeg.<\/p>\n<p>Ers hynny, mae rhedeg wedi bod yn donic i mi (wel, y math heb gin o leiaf!) ar gyfer lleddfu straen, cael yr hwb endorffin hwnnw, a gofalu am fy iechyd (corfforol a meddyliol) a lles yn gyffredinol.<\/p>\n<p>Hwn fydd fy nhrydydd Hanner Marathon Caerdydd. Fe wnes i godi arian ar gyfer Mind y ddau dro diwethaf. Yn anffodus bu farw fy nhad yn 2007 o ganlyniad i iselder pan oeddwn yn 14. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydw i wedi ceisio codi arian i gefnogi elusennau a sefydliadau iechyd meddwl.<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/image002.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-8437 \" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/image002-e1663245028671.jpg\" alt=\"\" width=\"240\" height=\"366\" \/><\/a><\/p>\n<p>Gan fy mod yn un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, rwy\u2019n cofio derbyn yr e-bost yn dweud y byddai cefnogaeth eleni yn cael ei neilltuo\u2019n rhannol i ymchwil iechyd meddwl \u2013 felly roedd yn gwneud synnwyr i mi gofrestru a chefnogi fy hen brifysgol eleni!<\/p>\n<p>Ar wah\u00e2n i arholiadau a gwaith cwrs, mae gen i atgofion gwych o fy amser ym Mhrifysgol Caerdydd &#8211; ac rydw i wir yn gweld eisiau\u2019r dyddiau hynny. Rydw i&#8217;n dod o Orllewin Cymru, felly roedd Caerdydd yn gydbwysedd perffaith o fod yn ddigon agos at adref ar gyfer ambell i olch dillad (diolch Mam!), ond yn ddigon pell i ffwrdd i fod yn annibynnol mewn dinas wych. Ers graddio, dwi wedi aros yng Nghaerdydd, ac allaf i ddim dychmygu byw yn unman arall.<\/p>\n<p>O ran codi arian, rhoddais wybod i bawb ar lafar ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Rhannais y neges ar Facebook, Twitter, Instagram, a LinkedIn, a gwnaeth yr arian lifo i mewn. Mae cael teulu enfawr o fantais hefyd!<\/p>\n<p>Rwy\u2019n ffodus fy mod yn gweithio i sefydliad sy\u2019n wirioneddol hyrwyddo iechyd meddwl a lles ac mae gen i gydweithwyr gwych. Rydw i wedi cael llawer o gefnogaeth ganddynt sydd wedi bod o gymorth mawr wrth godi arian a hyfforddi.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r gefnogaeth gan Brifysgol Caerdydd wedi bod yn anhygoel! Rwy&#8217;n cael ebyst rheolaidd gan y t\u00eem yn rhannu awgrymiadau, anogaeth, a chefnogaeth gyffredinol yn y cyfnod cyn y ras. Mae wedi gwneud y broses codi arian (a hybu mor\u00e2l) yn llawer haws!<\/p>\n<p>Os ydych chi&#8217;n rhedwr newydd neu&#8217;n meddwl ymuno \u00e2 ras, rwy&#8217;n credu ei bod yn bwysig cymryd pethau gam wrth gam. Mae&#8217;n ystrydeb mor hen ag amser, ond am reswm da &#8211; peidiwch \u00e2 rhedeg cyn y gallwch gerdded! Mae digonedd o ganllawiau gwych (ac yn rhad ac am ddim) ar-lein, gydag awgrymiadau ar ba bellteroedd i redeg a phryd, yn y cyfnod cyn yr Hanner Marathon.<\/p>\n<p>Fel gydag unrhyw beth, fe sylwch po fwyaf y byddwch chi&#8217;n ymarfer, y mwyaf o gynnydd y byddwch chi&#8217;n ei weld. Mae&#8217;n anodd curo&#8217;r teimlad o falchder wrth sylweddoli pa mor bell rydych chi wedi dod ers i chi ddechrau hyfforddi.<\/p>\n<p>Rwy&#8217;n edrych ymlaen yn fawr at groesi&#8217;r llinell derfyn. Rwy\u2019n mwynhau bwrlwm ac awyrgylch y diwrnod. O&#8217;i gymharu \u00e2&#8217;m llwybr rhedeg arferol (gyda defaid yn fy ngwylio), mae&#8217;n wych gweld cannoedd o gefnogwyr wedi ymgasglu i&#8217;ch cefnogi &#8211; ac mae&#8217;r jelly babies rhad ac am ddim yn help! Yn wir, yn ogystal \u00e2 jelly babies, tua diwedd Hanner Marathon 2019, cefais dun oer o lager gan fyfyriwr caredig iawn ar Cathays Terrace \u2013 roedd yn wych i dorri syched, ond nid oedd o gymorth pan gefais boen sydyn yn ochr fy nghorff ( stitch) wrth i mi groesi\u2019r llinell derfyn!<\/p>\n<p>Os ydych yn ystyried codi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd, gwnewch hynny! Yn amlwg, mae codi arian ar gyfer unrhyw elusen neu sefydliad pro-bono yn wych, ac nid yw ymchwil y Brifysgol yn wahanol. Rwy&#8217;n edrych ymlaen at weld canlyniadau terfynol gwaith caled y t\u00eem.<\/p>\n<p><em><strong>Gallwch gefnogi ymdrechion codi arian Gethin drwy ei <a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/fundraising\/gethin-bennett1\">dudalen JustGiving<\/a>. Oes gennych diddordeb rhedeg Hanner Marathon Caerdydd yn 2023? <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\/run-the-cardiff-half-marathon\">Mynegi eich diddordeb<\/a>.<\/strong><\/em><\/p>\n<p><em><strong>Mae gwaith codi arian #TeamCardiff yn cefnogi ymchwil Prifysgol Caerdydd i niwrowyddoniaeth, iechyd meddwl, a chanser. Drwy gefnogi&#8217;r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch helpu i gyflymu darganfyddiadau sy&#8217;n newid bywydau er mwyn gwella atal, diagnosis a thriniaeth i bobl sy&#8217;n byw gydag ystod eang o gyflyrau.<\/strong><\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Gethin Bennett (LLB 2015, PgDip 2016) yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref er cof am ei dad, a fu farw yn 2007 o ganlyniad i iselder. Cafodd Gethin yr ysfa i redeg tra'n astudio dramor yn 2016 ac mae wedi rhedeg yr hanner marathon ddwywaith o'r blaen. Mae'n rhannu ei awgrymiadau gyda\u2019r rhai sy'n ystyried dechrau rhedeg yn ogystal \u00e2'r hyn y mae'n edrych ymlaen ato ar y diwrnod.","protected":false},"author":904,"featured_media":8436,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[212,166,170,203],"tags":[],"class_list":["post-8463","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-teamcardiff-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8463","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8463"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8463\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8464,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8463\/revisions\/8464"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8436"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8463"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8463"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8463"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}