{"id":8407,"date":"2022-09-12T09:10:32","date_gmt":"2022-09-12T09:10:32","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8407"},"modified":"2024-10-08T12:42:35","modified_gmt":"2024-10-08T12:42:35","slug":"cwblhau-fy-pgdip-tran-byw-gydag-endometriosis-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2022\/09\/12\/cwblhau-fy-pgdip-tran-byw-gydag-endometriosis-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Cwblhau fy PGDip tra&#8217;n byw gydag Endometriosis &#8211; I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Myfyrwraig raddedig (PgDip 2022) a astudiodd Meddygaeth Newyddenedigol yw Nickie Broadbent a chafodd ddiagnosis o Endometriosis yn 2014. Mae&#8217;n rhannu ei phrofiad o gwblhau ei gradd yn ystod y pandemig wrth reoli ei chyflwr, manteision dysgu o bell, a&#8217;i chyngor i eraill a allai fod yn dioddef o Endometriosis.<\/strong><\/em><\/p>\n<p>Yn swyddogol, rwyf wedi bod yn dioddef gydag Endometriosis ers 7 mlynedd, ond dechreuais gael symptomau yn 15 oed, dim ond cwpl o flynyddoedd ar \u00f4l i&#8217;m mislif ddechrau. Rydw i nawr yn 33 ac mae gen i gam pedwar Endometriosis (difrifol).<\/p>\n<p>Endometriosis yw&#8217;r enw a roddir ar y cyflwr lle mae celloedd tebyg i&#8217;r rhai yn leinin y groth i&#8217;w cael mewn mannau eraill yn y corff. Bob mis mae&#8217;r celloedd hyn yn ymateb yn yr un ffordd i&#8217;r rhai yn y groth, yn cronni ac yna&#8217;n torri i lawr ond yn wahanol i&#8217;r rhai yn y groth nid oes ganddynt unrhyw ffordd uniongyrchol o adael y corff.<\/p>\n<p>Mae tua 1.5 miliwn o fenywod a phobl a anwyd yn ferched yn y DU yn byw gyda&#8217;r cyflwr ar hyn o bryd.<br \/>\nMae endometriosis yn ddi-baid ac nid yw&#8217;n hawdd ei reoli gan nad oes modd ei ragweld. Gallwch chi fod yn iawn rhai dyddiau ond ar adegau eraill rydych chi&#8217;n gaeth i&#8217;r gwely ac angen cymorth ysbyty.<\/p>\n<p>Cefais fy ysbrydoli i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd oherwydd y modiwlau a gynigiwyd ar y cwrs a\u2019r perthnasedd i ymarfer clinigol. Hefyd, arbenigedd y darlithwyr a&#8217;r ffaith eu bod i gyd yn gweithio&#8217;n glinigol yn y maes newyddenedigol.<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/image006-scaled.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright wp-image-8419\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/image006-scaled.jpg\" alt=\"\" width=\"250\" height=\"333\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/image006-scaled.jpg 1920w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/image006-1152x1536.jpg 1152w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/09\/image006-1536x2048.jpg 1536w\" sizes=\"auto, (max-width: 250px) 100vw, 250px\" \/><\/a><\/p>\n<p>Dechreuais fy nghwrs ym mis Medi 2020. Yn ffodus, roedd y cwrs eisoes wedi&#8217;i sefydlu i fod yn dysgu o bell ar-lein. Symudwyd y sesiynau wyneb yn wyneb i fod ar-lein hefyd. Roeddwn i&#8217;n gallu cymryd rhan mewn sesiynau Zoom, hyd yn oed os oeddwn i&#8217;n teimlo&#8217;n s\u00e2l. Roedd hynny&#8217;n ffodus, oherwydd efallai na fyddwn wedi gallu ymdopi \u00e2\u2019r daith i Gaerdydd ar gyfer addysgu arferol.<\/p>\n<p>Bu\u2019n rhaid i mi ysgrifennu llawer o fy aseiniadau o&#8217;r gwely yn ystod cyfnodau poenus gyda chymorth potel d\u0175r poeth. Fodd bynnag, roedd yn braf cael cyfarfodydd rheolaidd ar-lein, gan fy mod yn gallu gweld fy nghydweithwyr a chyd-fyfyrwyr a chofio nad oeddwn ar fy mhen fy hun.<\/p>\n<p>Roedd y Brifysgol yn cydnabod bod terfynau amser weithiau&#8217;n her, felly roeddent yn gallu cynnig estyniadau i mi. Roedd modd cysylltu \u00e2 gweinyddwr y cwrs a fy nhiwtor personol drwy ebost unrhyw bryd, ac roeddwn yn teimlo fy mod yn cael llawer o gefnogaeth.<\/p>\n<p>Roedd yn rhaid i mi fynd i&#8217;r ysbyty ar wahanol adegau a chael llawdriniaeth frys yn ystod y cyfnod hwn. Roedd yn unig yno gan nad oedden ni&#8217;n cael ymwelwyr. Rwy&#8217;n ddiolchgar iawn bod Wi-Fi yn yr ysbyty, felly llwyddais i gael negeseuon o\u2019r cwrs a chymryd rhan mewn trafodaethau.<\/p>\n<p>Mae bod yn agored am y cyflwr gyda theulu a ffrindiau wedi bod o gymorth mawr wrth i bobl ddechrau deall pam fy mod mewn poen neu\u2019n teimlo\u2019n s\u00e2l. Byddwn yn cynghori unrhyw un sydd \u00e2 symptomau i gadw \u201cdyddiadur poen\u201d a&#8217;i ddefnyddio i wthio am driniaeth.<\/p>\n<p>Nid wyf yn rhannu fy stori i gael cydymdeimlad, ond i adael i eraill wybod pa mor ddifrifol a dinistriol y gall Endometriosis fod &#8211; nid mislif gwael ydyw. Mae&#8217;n effeithio arnaf mewn sawl ffordd bob dydd o&#8217;r mis.<br \/>\nMae fy ngwaith yn nyrs newyddenedigol yn y GIG wedi fy nysgu i beidio \u00e2 rhoi&#8217;r gorau iddi, gan fy mod wedi gwylio fy nghleifion bach yn brwydro gyda chymaint o nerth.<\/p>\n<p>Ar \u00f4l fy llawdriniaeth, rwy&#8217;n gobeithio y byddaf yn gallu gwireddu fy uchelgais i ddod yn addysgwr ymarfer mewn uned newyddenedigol ac yn gallu ysbrydoli myfyrwyr ifanc sy&#8217;n dod drwy&#8217;r GIG bod rhagolygon gyrfa gwych ym maes nyrsio newyddenedigol.<\/p>\n<p>Ar adegau roeddwn i wir eisiau rhoi&#8217;r gorau iddi. Roedd yn anhygoel cael yr ebost oedd yn dweud fy mod i wedi pasio. Mae&#8217;n dangos yr hyn y gallwch ei gyflawni wrth ddioddef o Endometriosis. Rwy\u2019n hapus iawn fy mod wedi cael fy PGDip mewn Meddygaeth Newyddenedigol o Brifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p><strong>Dywedwch wrthym beth sy\u2019n bwysig i chi\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Rydym wedi cyflwyno \u2018I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr\u2019\u00a0gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal \u00e2 chi! Byddem\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">wrth ein bodd yn clywed gennych\u00a0i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau<\/a>\u00a0neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw\u2019r stori! Edrychwch ar ein\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhestr lawn o erthyglau<\/a>, a gwyliwch ein\u00a0<a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cardiff-connect\/for-alumni-by-alumni\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhestr o\u00a0<\/a><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cyswllt-caerdydd\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/?lang=cy\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ddigwyddiadau<\/a><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cardiff-connect\/for-alumni-by-alumni\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">\u00a0byw<\/a>\u00a0eto.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Myfyrwraig raddedig (PgDip 2022) a astudiodd Meddygaeth Newyddenedigol yw Nickie Broadbent a chafodd ddiagnosis o Endometriosis yn 2014. Mae'n rhannu ei phrofiad o gwblhau ei gradd yn ystod y pandemig wrth reoli ei chyflwr, manteision dysgu o bell, a'i chyngor i eraill a allai fod yn dioddef o Endometriosis.","protected":false},"author":904,"featured_media":8414,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,202,170,203],"tags":[],"class_list":["post-8407","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8407","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8407"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8407\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10049,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8407\/revisions\/10049"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8414"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8407"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8407"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8407"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}