{"id":8230,"date":"2022-05-25T12:45:54","date_gmt":"2022-05-25T12:45:54","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8230"},"modified":"2022-06-15T08:36:46","modified_gmt":"2022-06-15T08:36:46","slug":"cofio-reesh-dweud-ie-i-fywyd-a-rhedeg-hanner-marathon-caerdydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2022\/05\/25\/cofio-reesh-dweud-ie-i-fywyd-a-rhedeg-hanner-marathon-caerdydd\/","title":{"rendered":"Cofio Reesh &#8211; dweud \u2018ie\u2019 i fywyd a rhedeg Hanner Marathon Caerdydd"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Mae Laura Stephenson (BA 2008) wedi cofrestru i redeg <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\/run-the-cardiff-half-marathon\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Hanner Marathon Caerdydd<\/a> ym mis Medi er cof am ei ffrind, Areesha. Mae hi\u2019n codi arian ar gyfer ymchwil canser Prifysgol Caerdydd a chafodd ei hysbrydoli gan gryfder ei ffrind yn wyneb diagnosis dinistriol, ac agwedd \u2018dweud ie i bopeth\u2019.<\/strong><\/em><\/p>\n<p>Roeddwn i&#8217;n actif ac yn hoffi chwaraeon o oedran ifanc. Roeddwn hefyd &#8211; ac yn parhau i fod &#8211; yn hynod gystadleuol. O feicio, llafnrolio, p\u00eal-droed, p\u00eal-rwyd a hoci \u2013 enwch gamp, mi wnes i roi cynnig arni. Yr unig beth na wnes i roi cynnig arno oedd rhedeg. Nid oedd rhedeg at fy nant i.<\/p>\n<p>Pan roeddwn yn 23 oed, mi wnes i ddarganfod camp o\u2019r enw Ras Sglefrolio (Roller Derby) sydd yn gamp gyswllt lawn a chwaraeir ar esgidiau sglefrio cwad. Chwaraeais y gamp hon am chwe blynedd. Yn ogystal \u00e2 gwella fy nghryfder a ffitrwydd, mi wnes i gwrdd \u00e2 gr\u0175p arbennig o ffrindiau. Cawsom ein taflu at ein gilydd fel cyd-chwaraewyr, ond rydym wedi aros yn agos. Rydym yn fwy na ffrindiau sglefrio, rydym yn ffrindiau agos. Rydym wedi sefyll ochr yn ochr \u00e2\u2019n gilydd wrth i ni briodi a chael plant, wedi bod yno i\u2019n gilydd trwy dorcalon a phrynu tai ac, yn fwyaf diweddar, wedi cysuro ein gilydd ar \u00f4l colli un o\u2019n criw, Areesha (Reesh). Roedd hi\u2019n 35 oed.<\/p>\n<p>Grym oedd Reesh. Roedd hi&#8217;n uchelgeisiol, yn hyderus ac yn gystadleuol. Roedd hi&#8217;n swnllyd, yn ddramatig, yn siaradus, ac yn ddiymdrech o ddoniol &#8211; fel arfer pan nad oedd unrhyw reswm i fod. Roedd hi\u2019n gallu bod yn hi ei hun heb orfod ymddiheuro ac roedd hi\u2019n gwneud ffrindiau gyda phawb roedd hi\u2019n ei chyfarfod. Roedd Reesh yn manteisio ar bob cyfle a roddwyd iddi. Hi yw&#8217;r unig berson dwi&#8217;n ei nabod sydd wedi cael nifer o wyliau unwaith-mewn-oes ac sydd methu\u2019n l\u00e2n a gwybod beth yw FOMO gan nad oedd hi byth yn methu allan ar unrhyw beth! Rwyf mor falch ei bod wedi byw felly.<\/p>\n<p>Ym mis Mawrth 2021, cafodd Reesh ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd. Credai mai&#8217;r ffordd orau o wynebu triniaeth oedd meddwl yn gadarnhaol. Ac, ar yr arwyneb o leiaf, fe wnaeth hi. Canolbwyntiodd yn llwyr ar godi arian ar gyfer elusennau ac archwilio triniaethau a allai fod o gymorth. Ni oedd ei chefnogwyr &#8211; roedden ni\u2019n gadarnhaol ar y diwrnodau lle nad oedd hi\u2019n gallu bod ac yn dal i wneud y pethau \u2018normal\u2019. Doedd hi ddim eisiau cael ei diffinio gan ei salwch, felly fe wnaethon ni wneud yn si\u0175r nad oedd hi.<\/p>\n<p>Yn anffodus, ar 19 Chwefror 2022, bu farw Reesh. Dydw i erioed wedi teimlo colled o&#8217;r fath. Ni allaf ddod \u00e2 fy hun i ddweud ei bod wedi &#8216;colli&#8217; ei brwydr \u00e2 chanser oherwydd nid wyf yn hoffi goblygiadau\u2019r geiriau hynny. Pe bai canser yn beth y gellid ei guro, yna byddai rhywun \u00e2 chryfder a phenderfyniad Reesh yn gallu ei guro. Ac o fewn ein gr\u0175p o ffrindiau, gan gynnwys rheolwyr, hyfforddwyr, peirianwyr, strategwyr ac ystadegwyr, byddem wedi meddwl am gynllun a&#8217;i gyflawni. Ond nid dyna sut mae hyn yn gweithio.<\/p>\n<p>Wedi fy ysbrydoli gan agwedd gadarnhaol Reesh i fanteisio ar bopeth a ddaw fy ffordd i ac ar \u00f4l sylweddoli pa mor fyr yw bywyd, sylweddolais fy mod wedi bod yn cymryd fy iechyd a\u2019m lles yn ganiataol. Rwyf, felly, wedi cofrestru ar gyfer rhedeg yr <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\/run-the-cardiff-half-marathon\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">hanner marathon gyda #TeamCardiff<\/a> i godi arian dros ymchwil canser (roeddwn hefyd ychydig yn genfigennus o gyflawniadau\u2019r rhai a redodd yr hanner marathon ym mis Mawrth (sylwch, dyna fy elfen gystadleuol!)).<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/05\/Photo4-small.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright size-full wp-image-8237\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/05\/Photo4-small.jpg\" alt=\"Laura Stephenson training\" width=\"384\" height=\"500\" \/><\/a>Ar wah\u00e2n i wneud Couch i 5k ddiwedd 2021, a hyd yn oed ar \u00f4l hynny dychwelais i&#8217;r soffa, nid wyf erioed wedi rhedeg o&#8217;r blaen. Nid wyf yn rhedwr. Fodd bynnag, rwy\u2019n cael fy ngyrru ymlaen gan nodau. Os byddaf yn gosod nod i fy hun, byddaf yn ei gyflawni. Roedd meddwl am yr holl hyfforddiant yn frawychus i ddechrau, ond rwyf wedi ailymweld \u00e2 rhediadau C25K, dod o hyd i gynllun hyfforddi wedi\u2019i deilwra, ac mae rhywun o\u2019n gr\u0175p ni wedi cytuno i redeg gyda mi. Fe ysgogodd yr olaf i mi ddechrau cyfeirio at yr hanner marathon fel ras! Rwyf hyd yn oed wedi troi fy ymdrechion <a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/fundraising\/LauSteph13\">codi arian<\/a> yn gystadleuaeth.<\/p>\n<p>Rwyf wedi cael fy syfrdanu gan haelioni&#8217;r rhai sydd wedi rhoi yn barod. Mae&#8217;n ychwanegu tanwydd ychwanegol at fy nh\u00e2n ar y dyddiau hynny lle nad wyf eisiau gwisgo fy esgidiau rhedeg, neu pan mae dechrau pennod newydd ar Netflix yn llawer mwy apelgar na\u2019r ysfa i fynd allan i redeg. Rydw i wedi cael cyngor gwych gan ffrindiau am amrywio fy llwybrau rhedeg fel nad ydw i\u2019n diflasu, yn ogystal \u00e2 gwrando ar bodlediadau ar gyfer rhediadau hirach ac arbrofi gyda maeth hefyd. Rwyf wedi dod o hyd i rai cymunedau rhedeg gwych ar Twitter.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n gyffredin i bobl sy&#8217;n mynd yn s\u00e2l neu sy&#8217;n cael newyddion sy&#8217;n newid bywyd ysgrifennu rhestr o\u2019r hyn y maent eisiau ei gyflawni. Nid oedd Reesh angen gwneud hynny oherwydd dyna sut roedd hi\u2019n byw beth bynnag. Rwy\u2019n meddwl bod hynny\u2019n wers i ni gyd, ac rwy\u2019n gobeithio mai cofrestru i redeg yr hanner marathon yw&#8217;r cam cyntaf ar fy nghenhadaeth i #BeMoreReesh.<\/p>\n<p><strong><em>Gallwch gefnogi ymdrechion codi arian Laura drwy ei <\/em><\/strong><a href=\"https:\/\/www.justgiving.com\/fundraising\/LauSteph13\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong><em>thudalen JustGiving<\/em><\/strong><\/a><\/p>\n<p><strong><em>Os hoffech chi redeg Hanner Marathon Caerdydd er cof, dathliad, neu i roi her i chi\u2019ch hun a chadw\u2019n heini, <\/em><\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/community\/fundraise-for-our-research\/take-on-an-active-challenge\/run-the-cardiff-half-marathon\"><strong><em>gwnewch gais am le elusennol #TeamCardiff rhad ac am ddim<\/em><\/strong><\/a><strong><em>. <\/em><\/strong><\/p>\n<p><em><strong><span class=\"TextRun SCXW259881637 BCX9\" lang=\"CY-GB\" xml:lang=\"CY-GB\" data-contrast=\"auto\"><span class=\"NormalTextRun SCXW259881637 BCX9\">Mae gwaith codi arian #TeamCardiff yn cefnogi ymchwil Prifysgol Caerdydd i niwrowyddoniaeth, iechyd meddwl, a chanser. Drwy gefnogi&#8217;r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch helpu i gyflymu <\/span><span class=\"NormalTextRun SCXW259881637 BCX9\">darganfyddiadau sy&#8217;n newid bywydau er mwyn gwella atal, diagnosis a thriniaeth i bobl sy&#8217;n byw gydag ystod eang o gyflyrau.<\/span><\/span><\/strong><\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Laura Stephenson (BA 2008) wedi cofrestru i redeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Medi er cof am ei ffrind, Areesha. Mae hi\u2019n codi arian ar gyfer ymchwil canser Prifysgol Caerdydd a chafodd ei hysbrydoli gan gryfder ei ffrind yn wyneb diagnosis dinistriol, ac agwedd \u2018dweud ie i bopeth\u2019.","protected":false},"author":934,"featured_media":8217,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[212,166,170,203],"tags":[],"class_list":["post-8230","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-teamcardiff-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8230","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/934"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8230"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8230\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8267,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8230\/revisions\/8267"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8217"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8230"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8230"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8230"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}