{"id":8198,"date":"2022-05-23T12:45:40","date_gmt":"2022-05-23T12:45:40","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8198"},"modified":"2025-02-03T15:27:11","modified_gmt":"2025-02-03T15:27:11","slug":"cael-eich-troed-yn-y-drws-bossing-it","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2022\/05\/23\/cael-eich-troed-yn-y-drws-bossing-it\/","title":{"rendered":"Cael eich troed yn y drws &#8211; Bossing It"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Gall dechrau yn y &#8216;byd go iawn&#8217; ar \u00f4l graddio ymddangos yn frawychus, a chanfod (a sicrhau) y swydd berffaith honno, yn dasg amhosibl. Rydym wedi siarad \u00e2 chynfyfyrwyr o Gaerdydd sy&#8217;n dechrau ar eu gwaith o lywio llwybr eu gyrfa fel graddedigion newydd. Dyma eu cynghorion ar gyfer cael eich troed yn y drws&#8230;<\/strong><\/em><\/p>\n<h3>Imogen Carter (BSc 2018)<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/05\/Imogen-Headshot.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright size-full wp-image-8190\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/05\/Imogen-Headshot.jpg\" alt=\"Imogen Carter (BSc 2018) \" width=\"200\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/05\/Imogen-Headshot.jpg 200w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/05\/Imogen-Headshot-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/05\/Imogen-Headshot-40x40.jpg 40w\" sizes=\"auto, (max-width: 200px) 100vw, 200px\" \/><\/a><\/h3>\n<p>Mae Imogen yn Gyfrifydd Siartredig sydd wedi cymhwyso\u2019n llawn. Treuliodd dair blynedd yn hyfforddi yn KPMG, a hynny\u2019n rhan o\u2019r cynllun i raddedigion. Mae bellach yn Uwch Ddadansoddwr Cyllid ar y T\u00eem Dychweliadau yn ASOS. O ganlyniad i\u2019w blwyddyn ar leoliad ym Mhrifysgol Caerdydd, lle bu\u2019n Intern Cyllid yn Walt Disney Company a mwynhau\u2019n fawr, neidiodd o faes archwilio a chyfrifo ariannol i faes cyllid masnachol.<\/p>\n<p><strong>Ymgeisiwch ymgeisiwch ymgeisiwch!<br \/>\n<\/strong>Gall ymgeisio am swydd fod yn rhywbeth hynod ddiflas sy\u2019n cymryd llawer iawn o amser (credwch chi fi, rwy\u2019n gwybod). Fodd bynnag, os cymerwch yr amser yn gwneud ymdrech ar bob cais, gan sicrhau eich bod yn ei deilwra i\u2019r r\u00f4l\/cwmni dan sylw, ni fyddwch wedi gwastraffu eich amser! Yn fy mhrofiad i, roedd ceisiadau brysiog ac amhersonol yn cael eu gwrthod bob tro, tra bod y ceisiadau y cymerais ofal drostynt yn symud ymlaen i\u2019r cam nesaf bob tro. Hyd yn oed os na fyddwch yn llwyddiannus yn nes ymlaen, rydych yn cael profiad gwerthfawr o symud drwy wahanol gamau gwahanol brosesau recriwtio, a fydd yn eich helpu i lwyddo yn y pen draw.<\/p>\n<p><strong>Recriwtwyr yw eich ffrindiau gorau newydd.<br \/>\n<\/strong>Efallai eu bod yn gorlwytho eich mewnflwch LinkedIn, ond hebddynt, ni fyddwn gydag ASOS heddiw. Maent yn gweithio\u2019n galed i ddod o hyd i swyddi a fydd yn amlygu eich sgiliau, yn ogystal \u00e2 chwilio am swyddi y byddwch yn eu hoffi. Os na fyddant yn cysylltu \u00e2 chi i ddechrau, sicrhewch eich bod yn gwneud pob ymdrech i gysylltu \u00e2 nhw. Er hynny, peidiwch \u00e2 bod ofn dweud eich barn! Os byddant yn anfon manyleb swydd atoch nad ydych yn ei hoffi, dywedwch wrthynt! Mae hynny&#8217;n eich helpu i hidlo swyddi anaddas a dod o hyd i\u2019r swydd berffaith yn gyflymach.<\/p>\n<h3>Nicole Jay (BA 2018, MA 2022)<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/05\/Nicole-Jay.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright size-full wp-image-8210\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/05\/Nicole-Jay.jpg\" alt=\"Nicole Jay\" width=\"200\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/05\/Nicole-Jay.jpg 200w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/05\/Nicole-Jay-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/05\/Nicole-Jay-40x40.jpg 40w\" sizes=\"auto, (max-width: 200px) 100vw, 200px\" \/><\/a><\/h3>\n<p>Mae Nicole yn Weithredwr Cyfrifon Digidol yn Helpful Digital, sy\u2019n asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus. Mae\u2019n rheoli hyfforddiant ar gyfathrebu a rheoli argyfyngau i sefydliadau preifat a chyhoeddus ledled y byd. Mae ganddi MA mewn Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a BA mewn Ffrangeg ac Almaeneg.<\/p>\n<p><strong>Peidiwch \u00e2 theimlo eich bod ar ei h\u00f4l hi<br \/>\n<\/strong>Gall graddio deimlo\u2019n debyg i ras i weld pwy all sicrhau\u2019r swydd orau\u2019n gyntaf. Os ydych yn gwybod yn barod beth rydych am ei wneud, mae hynny&#8217;n wych, ond mae\u2019n iawn hefyd os nad oes gennych syniad. Ar \u00f4l i mi orffen astudio ar gyfer fy ngradd gyntaf, rhoddais gynnig ar amrywiaeth o swyddi gwahanol, cyn sylweddoli bod cysylltiadau cyhoeddus yn rhywbeth roeddwn yn ei fwynhau. Felly, penderfynais ddechrau ar fy ngyrfa ym maes cyfathrebu proffesiynol. Mae mor bwysig cymryd yr amser i roi cynnig ar bethau gwahanol, darganfod beth rydych yn frwd drosto a nodi pa fath o amgylchedd sy&#8217;n addas i chi.<\/p>\n<p><strong>Ewch ati i feithrin cysylltiadau<br \/>\n<\/strong>Peidiwch ag ofni estyn allan! Mae meithrin cysylltiadau\u2019n bwysig, ac mae\u2019r rhan fwyaf o bobl yn fwy na pharod i helpu! Dechreuais astudio ar gyfer fy MA heb unrhyw brofiad blaenorol. Roedd LinkedIn mor ddefnyddiol ar gyfer meithrin cysylltiadau yn y diwydiant a gofyn cyngor y rhai a oedd yn dal swyddi proffesiynol yn barod. Gwnaeth un ymarferydd cysylltiadau cyhoeddus fy helpu i ailysgrifennu fy CV i gyd-fynd \u00e2&#8217;r math o swydd a apeliodd ataf, gan gynnwys mynd drwy gwestiynau cyfweliad. Gwnaeth hynny i gyd fy helpu cymaint i sicrhau\u2019r swydd sydd gennyf heddiw.<\/p>\n<h3>Marielle Wilkinson (BA 2017, MA 2018)<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/05\/Marielle.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright size-full wp-image-8192\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/05\/Marielle.jpg\" alt=\"Marielle Wilkinson (BA 2017, MA 2018)\" width=\"200\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/05\/Marielle.jpg 200w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/05\/Marielle-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/05\/Marielle-40x40.jpg 40w\" sizes=\"auto, (max-width: 200px) 100vw, 200px\" \/><\/a><\/h3>\n<p>Mae Marielle yn Gynhyrchydd Cynorthwyol sy\u2019n gweithio ar gyfres i National Geographic ar hyn o bryd. Mae\u2019n cyfuno straeon a ffilmiwyd dros y byd i gyd ac yn goruchwylio cynyrchiadau o&#8217;r dechrau i&#8217;r diwedd. Yn flaenorol, mae wedi bod yn Ymchwilydd ac yn Gyfieithydd i\u2019r BBC, Netflix a sianel YouTube swyddogol y Gemau Olympaidd.<\/p>\n<p><strong>Chwiliwch am brofiadau yn eich diwydiant dewisol<br \/>\n<\/strong>Roedd mynd i gymaint o ddosbarthiadau meistr ag y gallwn ym maes y cyfryngau o fudd mawr i mi. Mae gweithwyr llawrydd profiadol hefyd yn mynd i\u2019r rhain, a gallwch hefyd gwrdd ag unigolion profiadol eraill yn eich diwydiant. Mae dosbarthiadau meistr yn ffordd wych o gael siarad \u00e2 gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant sydd yno i ateb eich cwestiynau \u00e2 pharodrwydd. Manteisiwch arnynt! Ymhlith sefydliadau\u2019r cyfryngau yng Nghaerdydd sy\u2019n trefnu\u2019r rhain yw <a href=\"https:\/\/www.bafta.org\/television\/cymru-awards\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">BAFTA Cymru<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.creativecardiff.org.uk\/cy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Caerdydd Creadigol<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.screenskills.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ScreenSkills<\/a>.<\/p>\n<p><strong>Byddwch yn dryloyw<br \/>\n<\/strong>Yn ansicr sut i wneud rhywbeth? Gofynnwch! Peidiwch ag esgus eich bod yn gwybod! Bydd bod o ddifrif a dangos parodrwydd i ddysgu\u2019n gwneud i chi sefyll allan i\u2019ch cyflogwr, a fydd yn eich helpu i ddatblygu yn eich gyrfa. Os na ofynnwch am gymorth, ni chewch mohono!<\/p>\n<p><strong>Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw sy\u2019n barod iawn eu cymwynas ac yma i\u2019ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Gallwch bori drwy eu cyngor a\u2019u hawgrymiadau ar ystod eang o bynciau busnes yn ein cyfres &#8216;<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cardiff-connect\/bossing-it\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Bossing It\u2019<\/a>.<\/strong><\/p>\n<p><b>Yn barod i gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch \u00e2\u2019n\u00a0<\/b><a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\"><b>gr\u0175p LinkedIn<\/b><\/a><b>\u00a0a dechrau rhwydweithio.<\/b><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gall dechrau yn y 'byd go iawn' ar \u00f4l graddio ymddangos yn frawychus, a chanfod (a sicrhau) y swydd berffaith honno, yn dasg amhosibl. Rydym wedi siarad \u00e2 chynfyfyrwyr o Gaerdydd sy'n dechrau ar eu gwaith o lywio llwybr eu gyrfa fel graddedigion newydd. Dyma eu cynghorion ar gyfer cael eich troed yn y drws...","protected":false},"author":6913,"featured_media":8185,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[207,166,170],"tags":[],"class_list":["post-8198","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bossing-it-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8198","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6913"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8198"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8198\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10152,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8198\/revisions\/10152"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8185"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8198"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8198"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8198"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}