{"id":8174,"date":"2022-04-27T07:13:40","date_gmt":"2022-04-27T07:13:40","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8174"},"modified":"2024-01-05T14:32:16","modified_gmt":"2024-01-05T14:32:16","slug":"menywod-syn-mentora-22-cysylltu-cyn-fyfyrwragedd-caerdydd-ai-gilydd-drwy-fentora","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2022\/04\/27\/menywod-syn-mentora-22-cysylltu-cyn-fyfyrwragedd-caerdydd-ai-gilydd-drwy-fentora\/","title":{"rendered":"Menywod sy\u2019n mentora \u201822 &#8211; Cysylltu cyn-fyfyrwragedd Caerdydd \u00e2\u2019i gilydd drwy fentora"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Yn ystod mis Mawrth, i ddathlu Mis Hanes Menywod, cynhaliwyd ein digwyddiad fflach-fentora blynyddol ar gyfer cyn-fyfyrwragedd Caerdydd, sef Menywod sy\u2019n mentora.<\/strong><\/em><\/p>\n<p>Daethon ni \u00e2 22 o gyn-fyfyrwragedd llwyddiannus Caerdydd a ddewiswyd yn ofalus yn fentoriaid at ei gilydd, i rannu eu profiad a&#8217;u harbenigedd gwerthfawr.\u00a0Mae ein mentoriaid, sydd ar frig eu maes mewn diwydiannau megis y gyfraith, technoleg, cyllid, marchnata, recriwtio, gwyddorau bywyd a\u2019r trydydd sector, wedi cefnogi ein mentoreion mewn digwyddiadau rhithwir, sesiynau gr\u0175p a chyfarfodydd un i un.<\/p>\n<p>Cafodd ein 62 o fentoreion ar ddechrau eu gyrfa\u2019r cyfle i ddatblygu eu gwybodaeth, meithrin rhwydweithiau, gofyn cwestiynau, a chael sawl cipolwg ar y diwydiant. Drwy eu cysylltu&#8217;n uniongyrchol \u00e2 chyn-fyfyrwragedd llwyddiannus Caerdydd, rydyn ni\u2019n grymuso graddedigion benywaidd o Gaerdydd i gyflawni eu potensial llawn.<\/p>\n<p>Dyma\u2019r hyn roedd gan rhai o&#8217;n mentoreion i&#8217;w ddweud;<\/p>\n<blockquote><p><em>\u201cCefais fy mharu \u00e2 mentor a oedd mor wych, ac rydyn ni\u2019n mynd i gadw mewn cysylltiad \u00e2\u2019n gilydd . Mae cwrdd \u00e2 menyw arall yn fy maes cystadleuol a heriol a chlywed am ei phrofiadau a&#8217;r heriau y mae wedi&#8217;u goresgyn wedi bod mor ddefnyddiol.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Lucy Sutcliffe (LLB 2013)<br \/>\n<\/strong>Cyfreithiwr Cyswllt yn Osborne Clarke, wedi\u2019i mentora gan Carolyn Pepper (LLB 1993, PGDip 1994), Partner yn Reed Smith.<\/p>\n<blockquote><p><em>\u201cRoedd y profiad yn wych ac rwy\u2019n hynod ddiolchgar i&#8217;r rhaglen Menywod sy\u2019n mentora am fy nghysylltu \u00e2&#8217;m mentor ysbrydoledig.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Lauren Sourbutts (BA 2013)<br \/>\n<\/strong>Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Caerdydd, wedi&#8217;i mentora gan Amanda Cairo (MA 2001), Rheolwr Cyfathrebu yn UC Berkeley.<\/p>\n<blockquote><p><em>\u201cDes i ymlaen yn dda iawn gyda fy mentor. Gofynnodd hi gwestiynau craff gan roi cyngor cadarn. Gwnes i fwynhau\u2019r sesiynau mentora mewn gr\u0175p yn fawr wrth iddyn nhw roddi sicrwydd imi nad ydw i ar fy mhen fy hun yn fy nheimladau ac oherwydd hynny ces i hwb mawr wrth edrych ymlaen tuag at y dyfodol.\u201d<\/em><\/p><\/blockquote>\n<p><strong>Lea Sanford-Opatz (myfyriwr Erasmus 2015)<br \/>\n<\/strong>Lea Sanford-Opatz, (myfyriwr Erasmus 2015), Seicolegydd Cynorthwyol yn GIG Cymru, wedi&#8217;i mentora gan Anne Hill (BSc 1980), Uwch Is-lywydd a Phrif Swyddog Adnoddau Dynol yn Avery Dennison (Wedi Ymddeol).<\/p>\n<p>Rydyn ni mor ddiolchgar i&#8217;n holl fentoriaid a roddodd o&#8217;u hamser i gefnogi&#8217;r genhedlaeth nesaf o Brif Weithredwyr, cyfarwyddwyr, llywyddion a phartneriaid benywaidd, trwy rannu eu harbenigedd a&#8217;u profiad.<\/p>\n<p><strong>Os ydych chi&#8217;n gyn-fyfyrwraig o Gaerdydd sy&#8217;n awyddus i ddod o hyd i rywun arall sydd wedi graddio neu i fod yn fentor, mae ein platfform rhwydweithio i gyn-fyfyrwyr <a href=\"https:\/\/connected.cardiff.ac.uk\/feed\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cysylltiad Caerdydd<\/a> yn eich helpu i ddod o hyd i&#8217;r person cywir. Mae cofrestru&#8217;n gyflym ac yn hawdd, a gallwch chi hidlo yn \u00f4l y diwydiant a\u2019r lleoliad i chwilio am y rheiny sydd naill ai\u2019n cynnig helpu neu\u2019n gofyn am gymorth.<br \/>\n<\/strong><br \/>\n<strong>Mae yna hefyd lawer o ffyrdd eraill y gallwch chi <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/get-involved\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">wirfoddoli eich amser a&#8217;ch arbenigedd<\/a> i helpu i ysbrydoli a chefnogi&#8217;r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Daethon ni \u00e2 22 o gyn-fyfyrwragedd llwyddiannus Caerdydd, a ddewiswyd yn ofalus i fod yn fentoriaid, ynghyd, i rannu eu profiad a'u harbenigedd gwerthfawr gyda dros 60 o fentoreion sydd ar ddechrau eu gyrfa.","protected":false},"author":1812,"featured_media":8168,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170,2067],"tags":[],"class_list":["post-8174","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-womentoring-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8174","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1812"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8174"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8174\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8180,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8174\/revisions\/8180"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8168"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8174"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8174"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8174"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}