{"id":8156,"date":"2022-04-20T07:13:43","date_gmt":"2022-04-20T07:13:43","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8156"},"modified":"2024-10-08T12:42:57","modified_gmt":"2024-10-08T12:42:57","slug":"o-lawfeddyg-i-brif-swyddog-gweithredol-technoleg-pam-wnes-i-newid-fy-ngyrfa-i-helpu-i-achub-y-gig-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2022\/04\/20\/o-lawfeddyg-i-brif-swyddog-gweithredol-technoleg-pam-wnes-i-newid-fy-ngyrfa-i-helpu-i-achub-y-gig-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/","title":{"rendered":"O lawfeddyg i Brif Swyddog Gweithredol technoleg: pam wnes i newid fy ngyrfa i helpu i achub y GIG \u2013 I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Llawfeddyg clust, trwyn, gwddf (ENT) yw Dr Owain Rhys Hughes (MBBCh 2005). Mae\u2019n entrepreneur technoleg iechyd llwyddiannus, ac mae ei fenter <a href=\"https:\/\/www.cinapsis.org\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cinapsis<\/a> yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r argyfwng \u00f4l-groniad presennol yn y GIG ac yn lleihau gorludded ar draws y gweithlu gofal iechyd. Mae&#8217;n rhannu ei brofiad o droi gyrfa, pwysigrwydd cydweithredu a sut mae gwneud newid go iawn yn bosibl. <\/strong><\/em><\/p>\n<p>Pan gyrhaeddais i Gaerdydd yn 1999 yn fyfyriwr cyffrous i astudio Meddygaeth, roeddwn i&#8217;n meddwl mai bod yn feddyg fyddai fy nghyfle gorau i gael effaith gadarnhaol yn y GIG. Fodd bynnag, yn fuan newidiais fy meddwl!<\/p>\n<p>Ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach, ar \u00f4l graddio, teithiais ar draws Cefnfor yr Iwerydd i astudio yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Harvard gyda lleoliad yn Ysbyty Llygaid a Chlustiau byd-enwog Massachusetts. Roedd hwn yn brofiad gwirioneddol anhygoel, a dysgais lawer iawn gan rai o feddygon mwyaf talentog y byd. Dychwelais adref yn ddiweddarach, i weithio\u2019n llawfeddyg ENT yn y GIG, ac wrth weithio yn gofrestrydd yn Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG yn Royal Marsden, ac yn ddiweddarach yn Great Ormond Street, a Choleg Prifysgol Llundain, Ymddiriedolaethau Sefydledig y GIG, cefais dro annisgwyl yn fy llwybr gyrfaol.<\/p>\n<p>Ar lawr yr ysbyty, cefais fy syfrdanu gan y problemau amlwg &#8211; o aneffeithlonrwydd i oedi &#8211; a oedd yn ganlyniad i systemau cyfathrebu clinigol hen ffasiwn oedd wedi&#8217;u datgysylltu. Nid oedd meddygon yn gallu rhannu gwybodaeth na chydweithio ar driniaeth cleifion. Roedd atgyfeiriadau ar bapur a chadwyni ebost yn rhwystro darpariaeth gofal, ac roedd cleifion yn cael eu hanwybyddu yn anfwriadol. Roeddwn yn gwybod bod angen dewis amgen gwell ar y GIG, felly, gyda chyngor a chymorth gan gydweithwyr, es ati i greu un.<\/p>\n<p>Sefydlais <a href=\"https:\/\/eur03.safelinks.protection.outlook.com\/?url=https%3A%2F%2Fwww.cinapsis.org%2F&amp;data=04%7C01%7CGartonA2%40cardiff.ac.uk%7Ce6e15031b5294f64355808da1c85d2ca%7Cbdb74b3095684856bdbf06759778fcbc%7C1%7C0%7C637853658404722061%7CUnknown%7CTWFpbGZsb3d8eyJWIjoiMC4wLjAwMDAiLCJQIjoiV2luMzIiLCJBTiI6Ik1haWwiLCJXVCI6Mn0%3D%7C3000&amp;sdata=nnfeEpO5L65inzd5kH4fh0zFVUiG1LIxHANz%2FrbxxPE%3D&amp;reserved=0\">Cinapsis<\/a> gyda\u2019r nod o ddarparu offer digidol diogel a phwrpasol i glinigwyr i symleiddio atgyfeiriadau a gwella canlyniadau cleifion. Mae ein platfform SmartReferrals yn cysylltu clinigwyr ag arbenigwyr er mwyn iddynt allu rhannu cyngor ac arbenigedd: mae hyn yn helpu meddygon teulu, parafeddygon ac optometryddion i wneud penderfyniadau cyflymach, mwy gwybodus a chywir am ddarparu gofal.<\/p>\n<p>Dwi wedi cael llawer o foddhad wrth weld y dechnoleg hon yn helpu i symleiddio llwyth gwaith clinigwyr, lleihau atgyfeiriadau diangen a chyflymu canlyniadau cadarnhaol i gleifion. Yn Norfolk a Waveney, mae ein prosiect dermatoleg yn helpu i leihau amseroedd aros am gyngor arbenigol o 50 wythnos i ddim ond 48 awr, ac mae prosiect tebyg yn Swydd Gaer a Glannau Mersi yn arbed tua \u00a31m y flwyddyn i&#8217;r GIG.<\/p>\n<p>Mae effaith y pandemig wedi golygu bod angen mwy o atebion arloesol ar y GIG nag erioed o&#8217;r blaen, a chredaf mai clinigwyr sydd yn aml yn y sefyllfa orau i gynllunio&#8217;r atebion hyn. Gobeithio, drwy rannu fy stori, y gallaf ysbrydoli meddygon eraill i ystyried yr hyn y gallant ei gyfrannu at fyd technoleg iechyd hefyd. Dyma fy awgrymiadau defnyddiol i unrhyw un sydd eisiau creu eu hateb eu hunain i broblem y maen nhw&#8217;n credu sydd angen ei datrys:<\/p>\n<h3>Peidiwch ag ofni herio\u2019r sefyllfa bresennol<\/h3>\n<p>Os ydych chi&#8217;n sicr bod angen i rywbeth newid, mae&#8217;n debyg nad chi yw&#8217;r unig un sy&#8217;n meddwl felly. Ond yn hollbwysig, mae gennych y p\u0175er i wneud gwahaniaeth. Heriwch y sefyllfa sydd ohoni trwy gyflwyno ffordd newydd o wneud pethau. Siaradwch \u00e2&#8217;r rhai o&#8217;ch cwmpas a byddwch yn hyderus wrth hyrwyddo newid.<\/p>\n<h3>Ystyried y newidiadau cynnil bob amser<\/h3>\n<p>Mae wedi bod yn hanfodol ystyried y newidiadau cynnil wrth ddatblygu Cinapsis. Roedd yn rhaid i ni ystyried y manylion &#8211; megis sut roedd gwahanol glinigwyr yn gweithio, pa systemau yr oeddent eisoes yn eu defnyddio a sut y byddai platfform digidol newydd yn cydweddu i&#8217;r rhain &#8211; er mwyn gwneud yn si\u0175r bod ein hateb wedi&#8217;i deilwra&#8217;n effeithiol i&#8217;w helpu. Dylech bob amser ymchwilio&#8217;n ddyfnach i&#8217;r broblem neu&#8217;r rhwystr rydych chi&#8217;n mynd i&#8217;r afael \u00e2 hi. Cadwch olwg ar y newidiadau cynnil gan y bydd hyn yn eich helpu i nodi achosion sylfaenol y problemau ac yn y pen draw yn eich helpu i fynd i&#8217;r afael \u00e2 nhw&#8217;n fwy effeithiol.<\/p>\n<h3>Bod yn barod i fynd i gyfeiriad gwahanol<\/h3>\n<p>Tra&#8217;n hyfforddi i fod yn feddyg doedd gen i ddim syniad y byddwn i&#8217;n ddigon ffodus i arloesi hefyd o fewn y sector technoleg iechyd. Yn wir, awgrymodd rhai pobl ei bod yn \u2018wastraff\u2019 ar hyfforddiant meddygol camu\u2019n \u00f4l o ymarfer meddygol rheng flaen! Ond ar \u00f4l bod trwy&#8217;r profiad fy hun, rydw i&#8217;n hynod falch o&#8217;r hyn rydw i wedi&#8217;i gyflawni gyda Cinapsis. Felly byddwch yn barod i ddilyn llwybrau newydd, oherwydd ni wyddoch ble y gallent eich arwain.<\/p>\n<p>Nid oes amheuaeth nad oedd fy nghyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd yn allweddol wrth lunio&#8217;r meddyg a&#8217;r entrepreneur rydw i heddiw. Fyddwn i ddim lle&#8217;r ydw i heb yr addysg a&#8217;r gefnogaeth a gefais pan oeddwn yn fyfyriwr israddedig yng Nghaerdydd. Efallai fod fy ngyrfa wedi mynd ar drywydd annisgwyl, ond rwyf wedi dysgu a phrofi mwy nag y gallwn fod wedi&#8217;i ragweld erioed. Rwy&#8217;n edrych ymlaen at weld beth mae&#8217;r genhedlaeth nesaf o gynfyfyrwyr Caerdydd yn ei gyflawni!<\/p>\n<p><strong>Dywedwch wrthym beth sy\u2019n bwysig i chi\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><strong>Rydym wedi cyflwyno \u2018I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr\u2019\u00a0gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal \u00e2 chi! Byddem\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">wrth ein bodd yn clywed gennych\u00a0i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau<\/a>\u00a0neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw\u2019r stori! Edrychwch ar ein\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhestr lawn o erthyglau<\/a>, a gwyliwch ein\u00a0<a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cardiff-connect\/for-alumni-by-alumni\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhestr o\u00a0<\/a><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cyswllt-caerdydd\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/?lang=cy\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ddigwyddiadau<\/a><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cardiff-connect\/for-alumni-by-alumni\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">\u00a0byw<\/a>\u00a0eto.\u00a0<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Llawfeddyg clust, trwyn, gwddf (ENT) yw Dr Owain Rhys Hughes (MBBCh 2005). Mae\u2019n entrepreneur technoleg iechyd llwyddiannus, ac mae ei fenter Cinapsis yn helpu i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r argyfwng \u00f4l-groniad presennol yn y GIG ac yn lleihau gorludded ar draws y gweithlu gofal iechyd. Mae'n rhannu ei brofiad o droi gyrfa, pwysigrwydd cydweithredu a sut mae gwneud newid go iawn yn bosibl.","protected":false},"author":904,"featured_media":8153,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,202,170,203],"tags":[],"class_list":["post-8156","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8156","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8156"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8156\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10050,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8156\/revisions\/10050"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8153"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8156"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8156"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8156"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}