{"id":8123,"date":"2022-03-24T14:12:07","date_gmt":"2022-03-24T14:12:07","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8123"},"modified":"2025-02-03T15:24:01","modified_gmt":"2025-02-03T15:24:01","slug":"eich-llwybr-at-hyder-gyrfaol-bossing-it","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2022\/03\/24\/eich-llwybr-at-hyder-gyrfaol-bossing-it\/","title":{"rendered":"Eich llwybr at hyder gyrfaol \u2013 Bossing It"},"content":{"rendered":"<p><em><strong>Yn y farchnad swyddi gystadleuol, a\u2019r byd cyflym sydd ohoni heddiw, mae hunan-gred yn bwysicach nag erioed. Yn aml, gall deimlo fel petai gan gydweithwyr, cyfoedion a&#8217;r rhai yr ydym yn eu hedmygu yn ein diwydiannau, beth wmbreth ohono, ond ydi hynny&#8217;n wir mewn gwirionedd? Fe fuom yn siarad \u00e2 rhai o&#8217;n cynfyfyrwyr llwyddiannus am hyder o ran gyrfa, a gofynnwyd iddyn nhw rannu eu hawgrymiadau a&#8217;u triciau ar gyfer teimlo&#8217;n ddi-ofn a bod yn feiddgar yn eich gyrfa.<\/strong><\/em><\/p>\n<h3>Shreya Sharma (LLB 2021)<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Shreya-crop.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright size-profile-large wp-image-8113\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Shreya-crop-200x200.jpg\" alt=\"Shreya Sharma (LLB 2021)\" width=\"200\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Shreya-crop-200x200.jpg 200w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Shreya-crop-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Shreya-crop-40x40.jpg 40w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Shreya-crop.jpg 1336w\" sizes=\"auto, (max-width: 200px) 100vw, 200px\" \/><\/a><\/h3>\n<p>Mae Shreya Sharma (LLB 2021) yn entrepreneur ifanc uchelgeisiol ac mae hi wedi cyflwyno ar TEDx. Mae hi wedi llwyddo i adeiladu platfform cydgasglu cyfreithiol, <a href=\"https:\/\/restthecase.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Rest The Case<\/a>, sy&#8217;n ymdrechu i wneud gwybodaeth a gwasanaethau cyfreithiol yn fwy hygyrch i bobl yn India. Dyma ddau awgrym yr oedd Shreya yn dymuno iddi wybod ar ddechrau ei gyrfa:<\/p>\n<p><strong>Credu ynoch chi eich hun<\/strong><br \/>\nGall ymddangos yn ystrydebol, ond mae&#8217;n graidd dechrau unrhyw beth newydd. Y rhan bwysicaf o&#8217;r broses o greu rhywbeth newydd yw credu y gallwch chi wneud hyn. Dechreuais fy nghwmni yn ifanc. Roeddwn yn cwestiynu a oeddwn mewn gwirionedd yn gallu gwneud y pethau yr oeddwn am eu gwneud. Dyna pryd y des i ar draws y ffenomen &#8216;Syndrom y Ffugiwr.&#8217; Gall hyn effeithio ar unrhyw un a gall wneud i chi amau eich hun neu deimlo nad ydych yn haeddu eich llwyddiant. Dwi bellach wedi sylweddoli mai&#8217;r unig ffordd i oresgyn hyn yw credu yn eich ymdrechion, ystyried eich cyflawniadau, ac edrych ymlaen bob amser. Nid yw credu yn eich hun yn rhywbeth rydych chi&#8217;n ei gyflawni dros nos, mae&#8217;n broses y mae angen i chi weithio arni bob dydd. Wrth i chi wynebu heriau newydd, hunan-gred fydd yn eich cadw i fynd.<\/p>\n<p><strong>Bod ag angerdd a phwrpas <\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Angerdd &#8211; Mae fy nhad-cu bob amser wedi dweud wrtha i, \u201cgwna yr hyn rwyt yn ei garu, ac ni fydd yn rhaid i ti weithio un diwrnod yn dy fywyd\u201d ac rwy&#8217;n dilyn yr egwyddor yma bob dydd. Rydw i wrth fy modd yn mynd i\u2019r gwaith ac wrth fy modd yn gweithio oriau hir. Bydd angerdd yn gwneud yn si\u0175r nad oes unrhyw beth yn eich atal rhag cyflawni eich nodau.<\/li>\n<li>Pwrpas \u2013 Mae\u2019n bwysig gwybod pam rydych chi\u2019n gwneud rhywbeth a pham mae\u2019r peth hwnnw\u2019n bwysig i chi. Pan fydd gennych ddiben, mae&#8217;n eich gwthio i&#8217;r cyfeiriad cywir. Rydw i wedi ceisio meithrin y dull o osod nodau o fewn fy musnes, waeth pa mor fawr neu fach. Mae hyn wedi ei gwneud hi&#8217;n haws cyflawni fy nodau oherwydd mae gen i syniadau clir am yr hyn rydw i am ei gyflawni.<\/li>\n<\/ul>\n<h3>Anita Gohil-Thorp (LLB 1993)<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Anita-Gohil-Thorp.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright size-profile-large wp-image-8111\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Anita-Gohil-Thorp-200x200.jpg\" alt=\"Anita Gohil-Thorp (LLB 1993)\" width=\"200\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Anita-Gohil-Thorp-200x200.jpg 200w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Anita-Gohil-Thorp-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Anita-Gohil-Thorp-40x40.jpg 40w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Anita-Gohil-Thorp.jpg 868w\" sizes=\"auto, (max-width: 200px) 100vw, 200px\" \/><\/a><\/h3>\n<p>Ar \u00f4l ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd, aeth Anita Gohil-Thorp (LLB 1993) ymlaen i Brifysgol y Gyfraith, Guildford. Mae hi bellach yn hyfforddwr a mentor gyrfa ac amrywiaeth cyflogadwyedd ardystiedig. Mae\u2019n gweithio gyda gweithwyr proffesiynol uchelgeisiol a llwyddiannus, yn eu cefnogi i ffynnu yn y gweithle. Dyma ei hawgrymiadau gorau i&#8217;w cadw mewn cof bob amser:<\/p>\n<p><strong>Dathlu eich cyflawniadau<\/strong><br \/>\nWrth ddechrau yn fy ngyrfa, hoffwn pe bawn wedi sylweddoli bod fy nghyflawniadau a sgiliau yn cyfrif cymaint \u00e2 rhai unrhyw un arall. Mae&#8217;r farchnad swyddi mor gystadleuol, mae&#8217;n hawdd bod yn feirniadol iawn ohonoch chi\u2019ch hun. Rydym yn tueddu i ganolbwyntio ar yr hyn y mae eraill yn ei wneud neu wedi&#8217;i gyflawni, ond nid ydym ni wedi&#8217;i gyflawni; fodd bynnag, trwy ymfalch\u00efo yn ein cyflawniadau ein hunain, gallwn fod yn fwy hyderus wrth i ni ddechrau yn y byd gwaith.<\/p>\n<p><strong>Grym rhwydweithio<\/strong><br \/>\nYn gynnar yn fy ngyrfa, hoffwn pe bawn yn gwybod bod rhwydweithio yn golygu gwneud cysylltiadau \u00e2 phobl o\u2019r un anian, a bod \u00e2 hunan-gred wrth i chi wneud hynny, yn gwneud y profiad yn fwy gwerth chweil. Pan fyddwn yn newid ein meddylfryd ac yn deall yr hyn y gall rhwydweithio ei gynnig i ni ac eraill, mae&#8217;n fwy hygyrch ac yn llai brawychus. Gall rhwydweithio fod yn frawychus i bobl ar bob lefel proffesiynol, ond gall fanteisio ar y cyfle i wneud ffrindiau neu bartneriaid gwaith newydd fod yn hwyl a gwella eich hunanhyder.<\/p>\n<h3>Megan Wesley (BA 2015)<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Megan-Wesley-copy.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright size-profile-large wp-image-8117\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Megan-Wesley-copy-200x200.jpg\" alt=\"Megan Wesley (BA 2015) \" width=\"200\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Megan-Wesley-copy-200x200.jpg 200w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Megan-Wesley-copy-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Megan-Wesley-copy-40x40.jpg 40w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Megan-Wesley-copy.jpg 800w\" sizes=\"auto, (max-width: 200px) 100vw, 200px\" \/><\/a><\/h3>\n<p>Mae Megan Wesley (BA 2015) yn gyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr yn Libratum, cwmni &#8216;lles yn y gweithle&#8217; a sefydlodd gyda&#8217;i mam. Mae Megan yn rhannu ei geiriau doeth am fod yn hyderus o ran gyrfa.<\/p>\n<p><strong>Peidiwch \u00e2 bod ofn newid llwybr gyrfa<\/strong><br \/>\nNid yw\u2019n rhwydd derbyn ac addasu i newid, ond mae\u2019n hollol rhesymol newid eich llwybr gyrfa os nad ydych chi\u2019n hapus. Gall newid i yrfa newydd deimlo\u2019n frawychus, ond mae\u2019n gyfle i ddod o hyd i rywbeth yr ydych wrth eich bodd yn ei wneud. Mae\u2019r person cyffredin ym Mhrydain yn treulio 84,365 o oriau yn gweithio yn ystod eu hoes, felly mae\u2019n bwysig eich bod chi\u2019n cael gafael ar yrfa sy\u2019n gwneud i chi deimlo\u2019n gyffrous a bodlon, hyd yn oed os yw hynny\u2019n golygu ambell dro ar y ffordd.<\/p>\n<p><strong>Nid oes rhaid i chi dderbyn diwylliant gwael<\/strong><br \/>\nMae\u2019n anodd ffynnu a theimlo\u2019n hyderus mewn cwmni \u00e2 diwylliant gwael. Pa bynnag ddiwydiant rydych chi&#8217;n gweithio ynddo, os nad yw&#8217;ch gwerthoedd craidd yn cyd-fynd \u00e2 diwylliant y cwmni, gall greu amgylchedd gweithio gwenwynig. Os ydych mewn gweithle gwenwynig, gallwch adael a dod o hyd i weithle sy&#8217;n gefnogol ac yn fwy addas i chi. Mae yna lawer o weithleoedd gwych ar gael, sy\u2019n gofalu am eu gweithwyr ac yn eu cefnogi, yn annog creadigrwydd a chyfathrebu agored, felly peidiwch \u00e2 theimlo bod yn rhaid i chi dderbyn amgylcheddau gwaith gwael.<\/p>\n<h3>Anjana Nathwani (BSc 1983)<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Anjana-Nathwani-copy.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"alignright size-profile-large wp-image-8115\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Anjana-Nathwani-copy-200x200.jpg\" alt=\"Anjana Nathwani (BSc 1983)\" width=\"200\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Anjana-Nathwani-copy-200x200.jpg 200w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Anjana-Nathwani-copy-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Anjana-Nathwani-copy-40x40.jpg 40w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/Anjana-Nathwani-copy.jpg 800w\" sizes=\"auto, (max-width: 200px) 100vw, 200px\" \/><\/a><\/h3>\n<p>Mae Anjana Nathwani (BSc 1983) yn Seicolegydd Busnes gyda phrofiad byd-eang dros 35 mlynedd. Mae hi wedi cael swyddi uwch-arweinyddiaeth, wedi bod yn ymgynghorydd ac wedi sefydlu ei busnes ei hun. Mae hi\u2019n \u2018ffynnwr\u2019 canser ddwywaith, ac mae hi bellach yn gweithio gyda chleifion a goroeswyr. Mae hi hefyd yn athrawes ioga, yn ymarferydd Ayurveda ac yn hyfforddwr Ymwybyddiaeth Ofalgar. Mae hi&#8217;n blogio&#8217;n aml ac wedi cyd-ysgrifennu dau lyfr. A hithau\u2019n fentor, mae Anjana yn rhannu&#8217;r hyn y byddai wedi bod yn fuddiol i&#8217;w wybod pan oedd hi\u2019n fyfyriwr. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i&#8217;r rhai sy\u2019n astudio graddau analwedigaethol:<\/p>\n<p><strong>Arbenigedd<\/strong><br \/>\nPan oeddwn i&#8217;n dechrau arni, byddwn wedi hoffi cael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau oedd ar gael i mi a sut i arbenigo ymhellach. Er bod gennyf ddiddordeb mewn Seicoleg Glinigol, teimlais nad oedd dulliau&#8217;r Gorllewin yn cyd-fynd \u00e2&#8217;m hegwyddorion i. Wrth gwrs, ers hynny mae rhaglenni wedi eu hadnewyddu ac maent yn fwy rhyngddiwylliannol. Mae&#8217;n bwysig ystyried eich opsiynau er mwyn teimlo&#8217;n hyderus a mwynhau&#8217;ch llwybr gyrfa.<\/p>\n<p><strong>Canfod y canolwyr cywir<br \/>\n<\/strong>Mewn un cyfweliad, roeddwn yn ffodus bod cyflogwr wedi rhannu rhan o eirda yn amlygu fy mod yn berson swil; ond roedden nhw&#8217;n meddwl mai&#8217;r gwrthwyneb oeddwn i. Yn yr un modd, pan oeddwn yn dechrau arni, gofynnais i ddarlithydd a oedd yn fy adnabod i fod yn ganolwr i mi. Mae&#8217;n hollbwysig nodi cysylltiadau sydd \u00e2 pherthynas dda \u00e2 chi, a all amlygu eich cryfderau gan fod llawer o&#8217;m darpar gyflogwyr wedi gofyn am eirdaon cyn y cyfweliad, ac roeddwn yn synnu na chefais wahoddiad i gyfweliadau cyn deall hyn.<\/p>\n<p><strong>Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw sy\u2019n barod iawn eu cymwynas ac yma i\u2019ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Gallwch bori drwy eu cyngor a\u2019u hawgrymiadau ar ystod eang o bynciau busnes yn ein cyfres &#8216;<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cardiff-connect\/bossing-it\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Bossing It\u2019<\/a>.<\/strong><\/p>\n<p><strong>Yn barod i gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch \u00e2\u2019n\u00a0<a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\">gr\u0175p LinkedIn<\/a>\u00a0a dechrau rhwydweithio.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Yn y farchnad swyddi gystadleuol, a\u2019r byd cyflym sydd ohoni heddiw, mae hunan-gred yn bwysicach nag erioed. Yn aml, gall deimlo fel petai gan gydweithwyr, cyfoedion a'r rhai yr ydym yn eu hedmygu yn ein diwydiannau, beth wmbreth ohono, ond ydi hynny'n wir mewn gwirionedd? Fe fuom yn siarad \u00e2 rhai o'n cynfyfyrwyr llwyddiannus am hyder o ran gyrfa, a gofynnwyd iddyn nhw rannu eu hawgrymiadau a'u triciau ar gyfer teimlo'n ddi-ofn a bod yn feiddgar yn eich gyrfa.","protected":false},"author":6913,"featured_media":8107,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[207,166,170],"tags":[],"class_list":["post-8123","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bossing-it-cy","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8123","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6913"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8123"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8123\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10150,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8123\/revisions\/10150"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8107"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8123"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8123"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8123"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}