{"id":8064,"date":"2022-03-10T16:17:23","date_gmt":"2022-03-10T16:17:23","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8064"},"modified":"2024-04-11T07:59:26","modified_gmt":"2024-04-11T07:59:26","slug":"gwella-diagnosis-canser-y-prostad-gyda-phrawf-gwaed-syml","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2022\/03\/10\/gwella-diagnosis-canser-y-prostad-gyda-phrawf-gwaed-syml\/","title":{"rendered":"Gwella diagnosis canser y prostad gyda phrawf gwaed syml"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/MicrosoftTeams-image-62-scaled.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-1536x1536 wp-image-8061\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/03\/MicrosoftTeams-image-62-1536x1024.jpg\" alt=\"\" width=\"1536\" height=\"1024\" \/><\/a><\/p>\n<p><em><strong>Mae\u2019r Athro Aled Clayton (BSc 1993, PhD 1997) wedi\u2019i leoli yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru. Mae ei d\u00eem ymchwil, y Gr\u0175p Micro-amgylchedd Meinwe, yn gr\u0175p o ymchwilwyr ymroddedig ac amrywiol sydd \u00e2\u2019r nod o ddatgelu gwybodaeth hanfodol a fydd yn gwella&#8217;r ffordd yr ydym yn gwneud diagnosis ac yn trin canser y prostad. <\/strong><\/em><\/p>\n<p>Mae ymchwil yr Athro Clayton yn canolbwyntio&#8217;n benodol ar ganser y prostad, sef y canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion yn y DU. Bob blwyddyn mae tua 50,000 o ddynion yn y DU yn cael diagnosis o ganser y brostad, a thra bod cyfraddau goroesi tua 78%, yn anffodus mae\u2019r clefyd yn profi\u2019n angheuol i lawer, gydag un farwolaeth yn digwydd bob 45 munud.<\/p>\n<p>Er gwaethaf yr achosion uchel, mae gan ddiagnosis a thriniaeth, yn enwedig ar gyfer canser datblygedig y prostad, dipyn o ffordd i fynd o hyd. Yn wahanol i lawer o ganserau, nid oes rhaglen sgrinio reolaidd, ac yn rhy aml o lawer, bydd dynion yn dangos symptomau yn hwyr iawn pan fydd y clefyd eisoes wedi ymledu. Ar hyn o bryd mae diagnosis yn seiliedig ar sawl prawf. Gan ei fod yn dra gymhleth, mae angen timau o feddygon, llawfeddygon, patholegwyr a biocemegwyr labordy. Yr hyn y mae\u2019r t\u00eem yn ceisio\u2019i gyflawni yw symleiddio diagnosis a dod o hyd i\u2019r clefyd yn llawer cynharach.<\/p>\n<h2>Ansicrwydd wrth brofi<\/h2>\n<p>Mae profion cyfredol yn dechrau trwy fesur lefelau Antigen Penodol i\u2019r Prostad, neu PSA. Mae hwn yn brotein sy&#8217;n cael ei gynhyrchu gan gelloedd canser y prostad. Fodd bynnag, mae celloedd normal y brostad hefyd yn cynhyrchu PSA, felly nid yw&#8217;n brawf gwych i adnabod canser. Yn ogystal, gan y gall y brostad dyfu&#8217;n naturiol gydag oedran, gall lefelau PSA godi, a gall lefelau PSA newid o ddydd i ddydd, yn dibynnu ar ystod o ffactorau.<\/p>\n<p>Mae\u2019r Athro Clayton yn esbonio dibynadwyedd amheus profion PSA a\u2019r effaith y mae hyn yn ei chael ar gleifion:<\/p>\n<p>\u201cMae yna ganllawiau cenedlaethol dros ragoriaeth glinigol ar gyfer beth ddylai lefelau PSA yn y gwaed fod mewn dynion iach, ac mae\u2019r lefel hon o \u201cnormal\u201d yn mynd i fyny gydag oedran. Mae PSA hefyd yn amrywio&#8217;n fawr yn dibynnu ar yr hyn rydych chi wedi bod yn ei wneud. Mae reidio beic, gweithgarwch rhywiol, a heintiau wrolegol i gyd yn effeithio ar lefelau PSA. Gall fynd i fyny ac i lawr &#8211; felly nid yw ceisio gwneud penderfyniadau clinigol cadarn yn seiliedig ar fesuriadau PSA yn unig yn ddoeth iawn. Er mwyn profi a yw&#8217;r lefel uchel yn arwydd o rywbeth sydd o\u2019i le, efallai y byddwch yn rhedeg y prawf eto fis yn ddiweddarach. Os byddwch yn parhau i wneud hyn, byddwch yn cael syniad a yw&#8217;n gyson annormal neu os yw\u2019r mesuriad twyllodrus yn ddim byd ond gwall. Yn ystod yr amser hwn, mae llawer o ansicrwydd i&#8217;r claf. \u201d<\/p>\n<p>Gall hyn olygu misoedd o aros a phryder i ddynion sydd efallai ddim hyd yn oed \u00e2 chanser y prostad, neu&#8217;n fwy pryderus, achosi oedi posibl i driniaeth i&#8217;r rhai sydd \u00e2 chanser y prostad. Unwaith y profir bod patrwm o lefelau PSA uchel, cynhelir mwy o brofion, sy&#8217;n cynnwys archwiliad rhefrol digidol a sgan MRI. Os yw&#8217;r rhain yn peri pryder, yna fel arfer bydd biopsi nodwydd o&#8217;r brostad yn cael ei berfformio er mwyn rhoi diagnosis pendant. Er bod profion ychwanegol o&#8217;r fath yn weithdrefnau cymharol gyflym, mae biops\u00efau yn ymledol ac yn arwain at risg o haint. Ar gyfer rhwng 1% a 3% o ddynion, gall yr heintiau fod yn ddifrifol a bydd angen mynd i&#8217;r ysbyty.<\/p>\n<p>\u201cGall sganio MRI roi gwybodaeth ychwanegol i ni o ran unrhyw annormaleddau yn y brostad a\u2019r nodau lymff sy\u2019n agos, a dweud wrthym ble mae\u2019r annormaledd hwnnw. Erbyn hyn mae gennym ni ddadansoddiad delwedd soffistigedig iawn a all ragweld pa mor ymosodol y gall y canser fod. Ond i gyfran o gleifion nid yw canlyniadau MRI bob amser yn amlwg, a gall cleifion gael triniaeth biopsi a allai fod yn ddiangen yn y pen draw.<\/p>\n<p>\u201cO&#8217;r wybodaeth MRI, mae yna barth lle rydych chi&#8217;n ddiogel, ble mae&#8217;n debyg eich bod chi&#8217;n iawn a does dim angen i ni wneud biopsi. Mae yna barth lle yn ddi-os mae angen i chi gael biopsi ac mae&#8217;n debygol y byddwch chi&#8217;n dechrau triniaeth ar unwaith, oherwydd bod pethau&#8217;n edrych yn bryderus iawn. Ac mae yna barth ansicr yn y canol, lle nad ydym yn si\u0175r. Mae honno&#8217;n sgwrs anodd iawn i&#8217;w chael gyda chlaf. I ddweud nad ydym yn si\u0175r a dydyn ni ddim yn gwybod pa mor beryglus ydyw.\u201d<\/p>\n<h2>Gwella dyfodol diagnosis<\/h2>\n<p>Yr union ansicrwydd hwn y mae&#8217;r Athro Clayton a&#8217;i d\u00eem ymchwil yn ceisio ei oresgyn trwy ddatblygu prawf gwaed diagnostig newydd. Mae&#8217;r prawf hwn yn gweithio trwy fesur proteinau neu foleciwlau RNA sy&#8217;n bresennol yn y gwaed mewn &#8216;fesiclau&#8217; bach sy&#8217;n tarddu o feinwe&#8217;r tiwmor.<\/p>\n<p>Mae fesiclau yn strwythurau sfferig bach iawn y mae celloedd yn eu cynhyrchu i drosglwyddo cyfarwyddiadau i gelloedd eraill. Yn y b\u00f4n, fersiynau bach o&#8217;r gell ydyn nhw. Mae rhai o&#8217;r fesiclau&#8217;n gwneud eu ffordd i mewn i&#8217;r llif gwaed, neu i&#8217;r wrin, ac o bosibl yn cynnig llu o gyfleoedd i wneud diagnosis a monitro clefydau.<\/p>\n<p>\u201cMae fesiclau canser yn wahanol &#8211; maen nhw&#8217;n cario rhai nodweddion canser ac yn adlewyrchu cyflwr straen neu ddifrod y gell a&#8217;u cynhyrchodd. Trwy ddadansoddi&#8217;r fesiclau rydyn ni&#8217;n dod o hyd iddyn nhw mewn gwaed, rydyn ni&#8217;n gallu chwilio am arwyddion o ganser yn llawer haws, yn enwedig mewn perthynas \u00e2 chanserau solet nad ydyn nhw&#8217;n hygyrch iawn fel canser yr ysgyfaint, y prostad neu&#8217;r afu.\u201d<\/p>\n<p>Y gobaith yw y bydd y prawf gwaed newydd yn helpu clinigwyr i adnabod canser y prostad yn gynt. Gan fod y prawf yn mesur llawer o foleciwlau, ac nid PSA yn unig, mae ganddo&#8217;r potensial i ddarparu gwybodaeth hanfodol am sut y bydd canser y prostad yn datblygu.<\/p>\n<p>&#8220;Ein huchelgais yw y bydd y prawf hwn yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i feddygon sy&#8217;n caniat\u00e1u iddynt fod yn fwy sicr am yr angen am biopsi. Os yw&#8217;r prawf yn gweithio&#8217;n dda, gall ddisodli biopsi yn gyfan gwbl &#8211; a fyddai&#8217;n ddatblygiad gwych. Yn y pen draw, bydd yn helpu meddygon i wneud y penderfyniad cywir ar gyfer triniaeth unigolyn, er mwyn iddynt gael y canlyniadau a&#8217;r gofal gorau.&#8221;<\/p>\n<h2>Edrych i&#8217;r dyfodol<\/h2>\n<p>Er ei bod yn ddyddiau cynnar o hyd, mae&#8217;r Athro Clayton yn obeithiol y gallai&#8217;r dechneg diagnosis newydd hon fod ar gael i gleifion mewn cyn lleied \u00e2 phum mlynedd.<\/p>\n<p>\u201cAr hyn o bryd mae angen uwchraddio\u2019r data, fel y gallwn ddechrau adeiladu hyder ystadegol. Yn syml, ni allem wneud hyn heb i gleifion roi eu samplau gwaed a\u2019u meinweoedd at ddibenion ymchwil. Diolch iddyn nhw, rydyn ni&#8217;n gallu dechrau mynd i&#8217;r afael \u00e2 rhai o&#8217;r cwestiynau pwysig hyn.<\/p>\n<p>\u201cUnwaith y bydd gennym hyder yn y data, gallwn ddechrau dibynnu ar y profion hyn yn fwy a dechrau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddiagnosis a thriniaeth, gan, yn y pen draw, achub a gwella bywydau dynion \u00e2 chanser y prostad.\u201d<\/p>\n<p><em><strong>Mae&#8217;r ymchwil canser sy&#8217;n digwydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn bosib diolch i gefnogaeth rhoddwyr a chodwyr arian. <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\">Rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gefnogi ymchwil Prifysgol Caerdydd<\/a>.<\/strong><\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae\u2019r Athro Aled Clayton (BSc 1993, PhD 1997) wedi\u2019i leoli yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru. Mae ei d\u00eem ymchwil, y Gr\u0175p Micro-amgylchedd Meinwe, yn gr\u0175p o ymchwilwyr ymroddedig ac amrywiol sydd \u00e2\u2019r nod o ddatgelu gwybodaeth hanfodol a fydd yn gwella'r ffordd yr ydym yn gwneud diagnosis ac yn trin canser y prostad.","protected":false},"author":1812,"featured_media":8061,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[204,203],"tags":[],"class_list":["post-8064","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-donate-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8064","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1812"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8064"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8064\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8068,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8064\/revisions\/8068"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8061"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8064"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8064"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8064"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}