{"id":8055,"date":"2022-03-15T08:35:21","date_gmt":"2022-03-15T08:35:21","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8055"},"modified":"2022-03-15T08:35:58","modified_gmt":"2022-03-15T08:35:58","slug":"sut-gallwn-ni-fwyta-ein-ffordd-i-blaned-iachach-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2022\/03\/15\/sut-gallwn-ni-fwyta-ein-ffordd-i-blaned-iachach-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Sut gallwn ni fwyta ein ffordd i blaned iachach &#8211; I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr"},"content":{"rendered":"<p><strong><em>Steve Garret (MSc 2009) yw Sylfaenydd Bwyd Go Iawn Glan-yr-Afon, marchnadoedd bwyd wythnosol sy&#8217;n hyrwyddo bwyd ffres, cynaliadwy a lleol. Mae Steve yn actifydd angerddol am fwyd ac yn entrepreneur cymdeithasol arobryn. Yma, mae&#8217;n esbonio pam ei bod yn bwysig bwyta&#8217;n lleol a manteision siopa mewn marchnadoedd ffermwyr lleol.\u00a0\u00a0\u00a0 <\/em><\/strong><\/p>\n<p>Faint o bethau sy&#8217;n dda i chi, yn llawer o hwyl, ac yn dda i\u2019r blaned? Dim llawer \u2014 ond mae prynu a bwyta bwyd tymhorol, wedi&#8217;i gynhyrchu&#8217;n lleol o&#8217;ch marchnad ffermwyr leol yn un ohonyn nhw.<\/p>\n<p>Gadewch i ni ddechrau gyda&#8217;r elfen amgylcheddol. Mae cynhyrchu a dosbarthu bwyd yn un o&#8217;r cyfranwyr mwyaf at nwyon t\u0177 gwydr a chynhesu byd-eang. Felly mae\u2019n gwneud synnwyr i ni brynu bwyd mor gynaliadwy \u00e2 phosibl os ydym am leihau ein heffaith ar newid yn yr hinsawdd.<\/p>\n<p>Rheol dda yw bwyta bwyd sydd wedi&#8217;i gynhyrchu mor lleol \u00e2 phosibl, oherwydd ei fod wedi teithio llai. Mae trafnidiaeth yn cynhyrchu llawer o nwyon t\u0177 gwydr. Hefyd, mae bwyd sydd wedi\u2019i gynhyrchu\u2019n organig neu gyda dulliau cynaliadwy yn well oherwydd bod llawer o olew yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu\u2019r gwrtaith mewn ffermio dwys, heb s\u00f4n am y difrod y mae\u2019n ei wneud i\u2019r tir. Os ydym yn poeni am gynaliadwyedd, heb os rydym eisiau pridd iach i genedlaethau\u2019r dyfodol dyfu eu cnydau ynddo.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/02\/Steve-shopping-edit.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-8053 alignright\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/02\/Steve-shopping-edit.jpg\" alt=\"\" width=\"166\" height=\"363\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae prosesu bwyd yn gyfrannwr mawr arall at \u00f4l troed carbon y system fwyd, ac ni fydd bwyd wedi\u2019i brosesu cystal i chi (neu mor flasus!) \u00e2 phryd o fwyd wedi\u2019i wneud o gynhwysion lleol ffres.<\/p>\n<p>Yn olaf, mae cynhyrchu cig yn defnyddio llawer mwy o adnoddau na llysiau ar gyfer pob calori a gynhyrchir, felly mae bwyta llai yn dda i&#8217;r blaned ac i&#8217;n hiechyd. Does dim angen i ni i gyd fod yn llysieuwyr ond mae bwyta cig bob dydd yn ddiangen ac yn ormodol. A phan fyddwch chi&#8217;n ei brynu, cofiwch y bydd anifeiliaid ar ffermydd bach lleol wedi cael eu trin yn llawer gwell nag ieir a gwartheg sy&#8217;n cael eu magu mewn ffatr\u00efoedd enfawr sy\u2019n cynhyrchu cig.<\/p>\n<p>Y newyddion da arall yw y bydd y bwyd sy&#8217;n cael ei gynhyrchu&#8217;n gynaliadwy gan ddefnyddio dulliau iachach i&#8217;r pridd hefyd yn iachach i chi \u2014 ac, yn fy marn i, yn fwy blasus! Os ydych chi wedi blasu tomato sydd wedi ei gludo o Sbaen a&#8217;i gymharu ag un mewn marchnad leol a gafodd ei dynnu&#8217;n ffres oddi ar y planhigyn gan y ffermwr, mae&#8217;r gwahaniaeth yn rhyfeddol, ac mae hynny&#8217;n berthnasol i&#8217;r rhan fwyaf o lysiau.<\/p>\n<p>Wrth gwrs, mae rhai ohonom yn bryderus am bris prynu bwyd lleol o gymharu \u00e2 phrynu o gadwyn archfarchnad. Mae bag o salad lleol yn cadw\u2019n ffres am o leiaf pythefnos. Byddai&#8217;r un bag o archfarchnad yn slwtsh gwyrdd ar \u00f4l ychydig ddyddiau, oherwydd ei fod eisoes wedi cael ei storio am gyfnod cyn cyrraedd y silffoedd. Mae hyn yn lleihau ei gynnwys maeth yn sylweddol, heb s\u00f4n am ladd y blas.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n anodd dod o hyd i ffyrdd y gallwch gael effaith ar gynaliadwyedd a gwneud y newid rydych chi eisiau ei weld. Os ydych chi&#8217;n cefnogi cynhyrchwyr lleol rydych chi&#8217;n cyfrannu at system gynhyrchu bwyd lleol ffyniannus, sy&#8217;n creu pobl iach a phlaned iach.<\/p>\n<p>Mae llawer o bobl yn meddwl mwy ar hyn o bryd am sut mae eu ffordd o fyw yn effeithio ar eu hiechyd a&#8217;r blaned, ac mae hyn yn sicr yn amlwg gyda phrynu bwyd. Mae mwy o bobl eisiau gwybod o ble mae eu bwyd yn dod, a chael y cynnyrch gorau, mwyaf ffres a blasus sydd ar gael, gyda&#8217;r difrod amgylcheddol lleiaf. Dyna pam sefydlon ni Farchnad Glan-yr-Afon a Marchnad y Rhath dros ugain mlynedd yn \u00f4l. Ein rheolau yw bod yn rhaid i stondinwyr fod wedi tyfu, cynhyrchu neu wneud yr hyn y maent yn ei werthu.<\/p>\n<p>Mae siopa mewn marchnad ffermwyr yn achlysur cymdeithasol rhyfeddol \u2014 hollol wahanol i gerdded o amgylch archfarchnad wedi&#8217;u oleuo&#8217;n llachar ac yn llawn bwyd wedi&#8217;i becynnu a&#8217;i brosesu. Gallwch chi siarad \u00e2&#8217;r cynhyrchwyr, cael syniadau ar gyfer ryseitiau, blasu samplau, cwrdd \u00e2 ffrindiau \u2013 a chael y coffi Masnach Deg gorau yn y ddinas. Rhowch gynnig arni rywbryd!<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.riversidemarket.org.uk\/\">https:\/\/www.riversidemarket.org.uk\/<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Steve Garret (MSc 2009) yw Sylfaenydd Bwyd Go Iawn Glan-yr-Afon, marchnadoedd bwyd wythnosol sy'n hyrwyddo bwyd ffres, cynaliadwy a lleol. Mae Steve yn actifydd angerddol am fwyd ac yn entrepreneur cymdeithasol arobryn. Yma, mae'n esbonio pam ei bod yn bwysig bwyta'n lleol a manteision siopa mewn marchnadoedd ffermwyr lleol.\u00a0\u00a0\u00a0","protected":false},"author":904,"featured_media":8049,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,202,203],"tags":[],"class_list":["post-8055","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8055","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8055"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8055\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8057,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8055\/revisions\/8057"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8049"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8055"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8055"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8055"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}