{"id":8047,"date":"2022-02-16T09:24:19","date_gmt":"2022-02-16T09:24:19","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8047"},"modified":"2022-02-16T09:24:01","modified_gmt":"2022-02-16T09:24:01","slug":"syndrom-ofariau-polysystig-a-phwysigrwydd-ymchwil-endocrinaidd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2022\/02\/16\/syndrom-ofariau-polysystig-a-phwysigrwydd-ymchwil-endocrinaidd\/","title":{"rendered":"Syndrom ofar\u00efau polysystig a phwysigrwydd ymchwil endocrinaidd"},"content":{"rendered":"<p><strong><em>Mae&#8217;r Athro Aled Rees (MBBCh 1993, PhD 2002) wedi cysegru ei fywyd i endocrinoleg \u2013 un o&#8217;r meysydd ymchwil llai adnabyddus sy&#8217;n effeithio ar bob un ohonom. Yma, mae&#8217;n esbonio beth yw endocrinoleg, pam mae\u2019n bwysig a sut mae ei ymchwil yn edrych ar y cyflyrau iechyd hirdymor sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 syndrom ofar\u00efau polysystig.<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Cafodd yr Athro Aled Rees ei fagu yn Sir Benfro, a theithiodd ychydig ymhellach oddi cartref i Gaerdydd er mwyn astudio meddygaeth. Cafodd ei ddenu i Brifysgol Caerdydd oherwydd ei henw da rhyngwladol am ei gwaith ym maes anhwylderau pit\u1e85idol\/endocrinoleg. Ers gorffen ei addysg, mae wedi bod yn glinigwr ac yn ymchwilydd yng Nghaerdydd sydd wedi rhannu ei waith rhwng y GIG a&#8217;r Brifysgol.<\/p>\n<h3><strong>Esbonio endocrinoleg <\/strong><\/h3>\n<p>Nid yw llawer o bobl yn gwybod beth yw endocrinoleg, a phan fydd rhywun (yn anochel) yn gofyn i Aled beth ydyw, mae\u2019n ei ateb drwy roi esboniad gwych.<\/p>\n<p>\u201cDychmygwch mai cerddorfa yw eich hormonau \u2013 yr hormonau sy\u2019n cael eu cynhyrchu gan y thyroid, hormonau steroid, testosteron ac ati. Maint pysen yw\u2019r chwarren bit\u1e85idol, ac mae ar waelod yr ymennydd y tu \u00f4l i&#8217;r trwyn. Dyma arweinydd y gerddorfa. Mae\u2019r arweinydd yn cael adborth gan y gerddorfa\/hormonau, ac mae\u2019r naill yn cadw\u2019r llall dan reolaeth.\u201d<\/p>\n<p>Mae hormonau\u2019n rheoli sawl peth fel eich metaboledd, eich pwysau, eich pwysedd gwaed, faint o destosteron sy\u2019n cael ei gynhyrchu ac ati. Bydd diffyg hormonau neu ormod ohonynt yn effeithio ar sut mae&#8217;r pethau hyn yn gweithio. Mae diabetes, isthyroidedd (thyroid tanweithredol) a syndrom ofar\u00efau polysystig yn enghreifftiau mwy adnabyddus o anhwylderau endocrinaidd. Er hynny, ceir sbectrwm eang o anhwylderau a chlefydau endocrinaidd.<\/p>\n<h3><strong>Syndrom ofar\u00efau polysystig a chyflyrau iechyd hirdymor<\/strong><\/h3>\n<p>Mae llawer o waith Aled yn canolbwyntio ar niwroendocrinoleg, sef sut mae anhwylderau endocrinaidd yn effeithio ar yr ymennydd. Mae hyn yn cynnwys astudio syndrom ofar\u00efau polysystig, yr anhwylder endocrinaidd mwyaf cyffredin ymhlith menywod ifanc, sy&#8217;n effeithio ar 5-10% o\u2019r rhai nad ydynt wedi bod drwy\u2019r menopos. Mae&#8217;n gyflwr lle gwelir ymwrthedd i inswlin, gormod o androgenau yn y corff a morffoleg ofar\u00efaidd annormal.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/02\/Screenshot-2022-02-15-at-09.06.04.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-8038 aligncenter\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/02\/Screenshot-2022-02-15-at-09.06.04.png\" alt=\"\" width=\"494\" height=\"237\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae rhywfaint o waith Aled yn ymwneud \u00e2 darganfod a yw hyn yn arwain at risgiau iechyd eraill, fel diabetes a chlefyd cardiofasgwlaidd. Mae hyn yn cynnwys dadansoddi llawer iawn o ddata, edrych ar bethau fel demograffeg cleifion, barnau meddygol a gofnodwyd, presgripsiynau ac ati. Mae hefyd yn cynnwys delweddu\u2019r ymennydd, sy\u2019n un o gryfderau\u2019r Brifysgol ym maes ymchwil oherwydd Canolfan Ymchwil Delweddu\u2019r Ymennydd Prifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>\u201cRydym wedi gallu dangos bod angen codi ymwybyddiaeth pobl o\u2019u tebygolrwydd o ddatblygu diabetes neu glefyd cardiofasgwlaidd, a chael str\u00f4c hyd yn oed, yn y tymor hir. Mae&#8217;n hollbwysig cynnal pwysau iach ac atal y problemau hyn ar gam cynnar.&#8221;<\/p>\n<p>O ran triniaeth, cynhaliodd Aled a&#8217;i d\u00eem dreial safon aur: hap-dreial trawsgroesi, dwbl-ddall wedi\u2019i reoli \u00e2 phlasebo i ymchwilio i effeithiau cyffur o&#8217;r enw \u2018metformin\u2019 ar debygolrwydd menywod \u00e2 syndrom ofar\u00efau polysystig o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd a metabolaidd. Hyd yn hyn, mae&#8217;r canfyddiadau&#8217;n awgrymu y gall y cyffur hwn leihau&#8217;r tebygolrwydd o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd a metabolig, ond mae angen gwneud mwy o ymchwil.<\/p>\n<h3><strong>Effaith ar iechyd meddwl a chanlyniadau niwroddatblygiadol<\/strong><\/h3>\n<p>\u201cMae syndrom ofar\u00efau polysystig yn gyflwr nad yw\u2019n cael ei gydnabod na\u2019i werthfawrogi ddigon, ac mae\u2019n cael effaith sylweddol iawn ar fywyd y menywod sy\u2019n byw gydag ef.\u201d<\/p>\n<p>Gall amlygiad y cyflwr ar y croen, ar ffurf colled gwallt ac acne, achosi gofid emosiynol, yn ogystal \u00e2 phryderon ynghylch ffrwythlondeb a materion eraill. Gallai hyn gyfrannu at fwy o iselder a gorbryder uwch ymhlith y rhai \u00e2 syndrom ofar\u00efau polysystig.<\/p>\n<p>Mae astudiaethau eraill wedi&#8217;u cynnal i arsylwi canlyniadau niwroddatblygiadol, yn arbennig awtistiaeth ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, i blant y rhai \u00e2 syndrom ofar\u00efau polysystig. Mae canfyddiadau cynnar yn dangos bod y risg gymharol yn uwch ymhlith menywod beichiog \u00e2 syndrom ofar\u00efau polysystig, ond mae&#8217;r risg wirioneddol (nifer y bobl yr effeithir arnynt) yn isel iawn yn y boblogaeth gyffredinol. Gallai&#8217;r cynnydd cymharol fod o ganlyniad i lefel yr androgenau, neu destosteron, sy&#8217;n tueddu i fod yn uwch ymhlith menywod beichiog \u00e2 syndrom ofar\u00efau polysystig. Fel arall, gallai fod o ganlyniad i ffactorau teuluol a rennir.<\/p>\n<p>Mae Aled yn cyflwyno&#8217;r ymchwil hon yn ein digwyddiad Arddangos Ymchwil. Mae\u2019n mynd i fwy o fanylder ac yn pwysleisio\u2019r angen \u201cam ymchwil bellach i ddeall beth sy\u2019n digwydd er mwyn gwella ymyriadau cymaint \u00e2 phosibl a lleihau morbidrwydd seiciatrig, cardiofasgwlaidd a metabolaidd sy\u2019n gysylltiedig \u00e2 syndrom ofar\u00efau polysystig.\u201d<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Polycystic Ovary Syndrome | Syndrom Ofari Polycystig\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/TzVIlAc2ft4?start=852&#038;feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<h3><strong>Cynlluniau ar gyfer y dyfodol <\/strong><\/h3>\n<p>Mae Aled yn frwdfrydig dros ddyfodol niwroendocrinoleg. \u201cPeth cyffrous yw gallu gweithio gyda chydweithwyr mewn disgyblaethau eraill sy\u2019n dod o gefndiroedd amrywiol. Mae\u2019n mynd i fod yn gyfnod cyffrous iawn i ni oherwydd yr adnoddau a\u2019r cyfleoedd cwbl arbennig sydd ar gael yng Nghaerdydd.\u201d<\/p>\n<p>\u201cRydym yn bwriadu ailgynllunio gwasanaethau yng Nghymru i gefnogi proses gomisiynu fwy ffurfiol ar gyfer ein gwaith a chanolbwyntio ar yr amodau prinnach rydym yn eu hwynebu. Hoffwn weld ein data\u2019n llywio polisi, gan fod hynny\u2019n rhywbeth effeithiol iawn y gallwn ei wneud i ddeall risg ac anelu adnoddau.\u201d<\/p>\n<h3><strong>Haelioni pobl eraill<\/strong><\/h3>\n<p>\u201cRwy\u2019n hynod o ddiolchgar am y rhoddion anhygoel sydd wedi dod i law ar gyfer yr ymchwil hon, yn enwedig rhodd a adawyd yn ddiweddar mewn ewyllys. Mae\u2019n anrhydedd eu derbyn, ac maent yn cynnig cyfle gwych i wneud gwaith a fydd yn cael effaith a gwaith sy\u2019n uniongyrchol berthnasol i gleifion.<\/p>\n<p>Mae ymchwil yn dibynnu ar roddion. Hyd yn oed os mai dim ond newidiadau bach sy\u2019n bosibl ar y pryd, mae\u2019r rhain yn arwain at newidiadau mwy yn y pen draw.\u201d<\/p>\n<p><strong>Darganfyddwch ragor am sut y gallwch <\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/donate\"><strong>gefnogi ymchwil<\/strong><\/a><strong> sy\u2019n debyg i ymchwil Aled. <\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae'r Athro Aled Rees (MBBCh 1993, PhD 2002) wedi cysegru ei fywyd i endocrinoleg \u2013 un o'r meysydd ymchwil llai adnabyddus sy'n effeithio ar bob un ohonom. Yma, mae'n esbonio beth yw endocrinoleg, pam mae\u2019n bwysig a sut mae ei ymchwil yn edrych ar y cyflyrau iechyd hirdymor sy'n gysylltiedig \u00e2 syndrom ofar\u00efau polysystig.","protected":false},"author":1811,"featured_media":8044,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[204,170,203],"tags":[],"class_list":["post-8047","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-donate-cy","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8047","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8047"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8047\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8048,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8047\/revisions\/8048"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8044"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8047"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8047"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8047"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}