{"id":8018,"date":"2022-02-15T09:17:28","date_gmt":"2022-02-15T09:17:28","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8018"},"modified":"2022-02-15T09:17:50","modified_gmt":"2022-02-15T09:17:50","slug":"hanner-marathon-caerdydd-ffordd-berffaith-i-ddathlu-sul-y-mamau","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2022\/02\/15\/hanner-marathon-caerdydd-ffordd-berffaith-i-ddathlu-sul-y-mamau\/","title":{"rendered":"Hanner Marathon Caerdydd: Ffordd berffaith i ddathlu Sul y Mamau"},"content":{"rendered":"<p><b><i><span data-contrast=\"auto\">Mae Kate Morgan (BA 2017, MA 2020) yn rhedeg ei hanner marathon cyntaf ym mis Mawrth 2022 i godi arian ar gyfer ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Caerdydd. Nid yw wedi bod yr amser hawsaf i hyfforddi, ac esbonia Kate beth sy\u2019n ei chymell hi a sut y mae hi wedi gwneud ei gorau glas i aros ar y trywydd iawn, er gwaethaf y cyfnodau clo, y cyfyngiadau a\u2019r oedi.\u00a0<\/span><\/i><\/b><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Yn y lle cyntaf, roeddwn eisiau rhedeg y marathon gan fy mod yn adnabod rhai eraill oedd yn cymryd rhan ac roedden nhw\u2019n canmol y digwyddiad i\u2019r cymylau. Penderfynais ymuno \u00e2 #TeamCardiff oherwydd, fel cynfyfyriwr ac un o weithwyr Prifysgol Caerdydd, rwy&#8217;n cael gweld yr ymchwil a&#8217;r gwaith anhygoel sy&#8217;n digwydd yn y maes hwn a chwrdd \u00e2 rhai o&#8217;r ymchwilwyr. Mae&#8217;n wirioneddol ysbrydoledig. Mae&#8217;n eich gwneud chi fod eisiau bod yn rhan ohono, hyd yn oed mewn ffordd fach.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Dewisais ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl yn benodol gan fod rhai o\u2019r bobl sy\u2019n annwyl i mi yn dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl ac anhwylderau niwroddatblygiadol. Mae gen i ffrindiau sy&#8217;n gweithio&#8217;n galed bob dydd i reoli eu cyflyrau iechyd meddwl eu hunain ac i annog eraill; maen nhw&#8217;n hynod o ysbrydoledig. Mae cyflyrau iechyd meddwl ac anhwylderau niwrolegol mor amrywiol ac yn gyffredin mewn cymdeithas. Mae&#8217;r rhan fwyaf ohonom naill ai wedi profi cyflwr ein hunain neu&#8217;n adnabod rhywun sydd wedi.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/02\/MicrosoftTeams-image-85.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-8023 alignright\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/02\/MicrosoftTeams-image-85.jpg\" alt=\"\" width=\"190\" height=\"254\" \/><\/a>Fy modryb yw prif ffocws fy rhediad. Roedd hi&#8217;n fenyw anhygoel o gryf a bywiog a gyflawnodd bethau gwych, er gwaethaf y ffaith iddi dreulio\u2019r rhan fwyaf o\u2019i bywyd yn brwydro ag iselder. Roedd hi wrth ei bodd yn dysgu a darganfod pethau newydd, helpu eraill, a chyfrannu rhywbeth da at y byd. Mae fy ngwaith codi arian, o&#8217;i gymharu, yn ymddangos yn fach iawn, ond mae&#8217;n &#8216;gam&#8217; i&#8217;r cyfeiriad cywir (j\u00f4c fwriadol!).\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Fe wnaeth y pandemig gymhlethu pethau i lawer o bobl yn y maes ffitrwydd\/awyr agored. Ac i&#8217;r rhai ohonom a oedd yn hyfforddi ar gyfer digwyddiadau, roedd yn rhaid i ni ailasesu ac addasu. Roeddwn i\u2019n ei gweld hi\u2019n galed ar adegau gyda chymhelliant a dilyn cynllun hyfforddi llym. Rwy&#8217;n rhedeg yn rheolaidd ond nid yw&#8217;n rhywbeth rydw i erioed wedi&#8217;i ddisgrifio fel rhywbeth &#8216;pleserus&#8217;, felly mae&#8217;n ymdrech feddyliol a chorfforol i&#8217;m cadw ar y trywydd iawn. Rwyf hefyd yn ei chael hi&#8217;n anodd peidio \u00e2 chymharu fy hun ag eraill, neu&#8217;n waeth, fy nghymharu \u00e2 fi fy hun pan oeddwn i&#8217;n iau (ac yn fwy heini). Mae Strava yn wych i lawer o bobl, ond nid ydw i\u2019n hoff ohono. Mae angen i mi ganolbwyntio ar fy hyfforddiant fy hun, o ddydd i ddydd, yn hytrach na chanolbwyntio ar hyfforddiant unrhyw un arall. Rhai dyddiau, mae\u2019n gamp hyd yn oed os ydw i\u2019n camu allan drwy\u2019r drws ac yn gwisgo fy nillad rhedeg!\u00a0\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Fe wnaeth y cyfnod clo fy helpu i feddwl am redeg mewn ffordd wahanol. Roedd yn wych cael mynd allan a rhedeg i rywle a gweld ychydig bach o&#8217;r byd y tu allan i&#8217;m hystafell flaen fach. Ar y dechrau, roeddwn i&#8217;n ei chael hi&#8217;n anodd peidio \u00e2 chael pyliau o banig bach ar fy rhediadau, wrth i bobl ddweud yn gyson fod treulio amser tu allan, a bod o amgylch pobl eraill, yn beryglus. Ond, o fewn dim, fe wnaeth i mi werthfawrogi pa mor anhygoel yw&#8217;r corff dynol. Mae symud yn ffordd wych o ryddhau straen a phryder a gall wneud i chi deimlo&#8217;n fwy byw ac yn fwy rhydd nag unrhyw beth arall. Rywsut, mae\u2019n addas bod yr hyn yr oeddwn yn ei wneud i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer ymchwil iechyd meddwl wedi helpu fy iechyd meddwl fy hun yn y broses.\u00a0\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/02\/MicrosoftTeams-image-87.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-8025 alignright\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/02\/MicrosoftTeams-image-87.jpg\" alt=\"\" width=\"202\" height=\"269\" \/><\/a><\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Fel llawer o bobl yn ystod y cyfnod clo, treuliais lawer o amser ar fy mhen fy hun ac weithiau dim ond drwy fynd am dro neu fynd i redeg y byddwn i\u2019n cael cipolwg ar bobl. Roedd yna ymdeimlad o gyfeillgarwch gydag unrhyw redwr, beiciwr, neu gerddwr a wnes i basio. Efallai nad oeddem yn gallu mynd yn bell, na gadael y t\u0177 mwy nag unwaith y dydd, ond byddem yn gwneud y gorau o&#8217;r ychydig o ryddid a oedd gennym.\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Nawr bod diwrnod y ras yn prysur agos\u00e1u, rwy&#8217;n cynyddu fy hyfforddiant ac yn gosod nodau cyraeddadwy i mi fy hun bob dydd. Rydw i newydd wella o COVID-19, a oedd yn golygu seibiant o 10 diwrnod o fy hyfforddiant (mor agos at ddiwrnod y ras!). Ond, y peth pwysicaf i mi yw peidio \u00e2 bod yn galed ar fy hun os nad ydw i\u2019n mynd mor gyflym neu cyn belled ag oeddwn i wedi\u2019i obeithio. Ni allaf aros i groesi&#8217;r llinell derfyn ar \u00f4l yr holl oedi, y cyfnodau clo a\u2019r holl ffactorau anhysbys, a chwblhau&#8217;r hyn yr oeddwn wedi bwriadu ei wneud. Ac ar ben hynny oll, mae\u2019r digwyddiad nawr yn digwydd ar Sul y Mamau, a bydd fy mab yn y dorf yn fy nghefnogi. Am ffordd berffaith i ddathlu&#8217;r diwrnod!\u00a0<\/span><span data-ccp-props=\"{}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Kate Morgan (BA 2017, MA 2020) yn rhedeg ei hanner marathon cyntaf ym mis Mawrth 2022 i godi arian ar gyfer ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl Caerdydd. Nid yw wedi bod yr amser hawsaf i hyfforddi, ac esbonia Kate beth sy\u2019n ei chymell hi a sut y mae hi wedi gwneud ei gorau glas i aros ar y trywydd iawn, er gwaethaf y cyfnodau clo, y cyfyngiadau a\u2019r oedi.\u00a0\u00a0","protected":false},"author":1811,"featured_media":8020,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[212,204,170,203],"tags":[],"class_list":["post-8018","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-teamcardiff-cy","category-donate-cy","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8018","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8018"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8018\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8032,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8018\/revisions\/8032"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8020"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8018"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8018"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8018"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}