{"id":8001,"date":"2022-01-26T14:29:35","date_gmt":"2022-01-26T14:29:35","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=8001"},"modified":"2025-02-03T15:21:27","modified_gmt":"2025-02-03T15:21:27","slug":"awgrymiadau-ar-gyfer-adnewyddu-eich-cv-bossing-it","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2022\/01\/26\/awgrymiadau-ar-gyfer-adnewyddu-eich-cv-bossing-it\/","title":{"rendered":"Awgrymiadau ar gyfer adnewyddu eich CV \u2014 Bossing It"},"content":{"rendered":"<p><strong><em>P&#8217;un a ydych yn dechrau CV o&#8217;r newydd neu&#8217;n rhoi sglein newydd ar hen un, mae cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yma i helpu. Cewch wybod beth mae ein harbenigwyr ym maes recriwtio ac Adnoddau Dynol yn ei argymell ar gyfer creu CV trawiadol yn y byd cystadleuol sydd ohoni. <\/em><\/strong><\/p>\n<h3><strong>Rebecca Sherlock (MSc 2020)<\/strong><\/h3>\n<p><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/01\/Rebecca.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-7965 alignright\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/01\/Rebecca.png\" alt=\"\" width=\"189\" height=\"181\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae Rebecca Sherlock yn Bartner Pobl yn The Wallich. Nod yr elusen hon yw helpu&#8217;r digartref yng Nghymru. Mae ganddi bron i ddegawd o brofiad ym myd Adnoddau Dynol ac mae ganddi MSc mewn Rheoli Adnoddau Dynol. Mae hi wedi bod ar ddwy ochr y broses recriwtio, ac mae hi\u2019n ystyried y rhain fel y ddau awgrym pwysicaf ar gyfer ysgrifennu CV:<\/p>\n<p><strong><u>Teilwra<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Fel aelod o&#8217;r panel rydw i bob amser yn ymdrechu i ddod o hyd i wybodaeth\/sgiliau trosglwyddadwy. O weld y rhain, gallaf ychwanegu sg\u00f4r o blaid yr ymgeisydd. Nid oes gan rai recriwtwyr, fodd bynnag, yr amser i wneud hyn, felly mae sicrhau eich bod yn cyrraedd eu meini prawf yn bwysig er mwyn sicrhau cyfweliad. Mae recriwtwyr yn aml, yn defnyddio eu manyleb person fel sylfaen ar gyfer y sgorio, ac ni allant ychwanegu sg\u00f4r i&#8217;ch cais os nad yw&#8217;r wybodaeth yno, neu&#8217;n hawdd ei chanfod.<\/p>\n<p>Os oes gennych gyfle i ddarparu llythyr eglurhaol hefyd, gwnewch hynny. Mae hyn yn golygu y gallwch sicrhau bod y teilwra ar gyfer y swydd, yn digwydd yn eich llythyr eglurhaol, yn hytrach na&#8217;ch CV. Bydd hyn yn arbed amser i chi.<\/p>\n<p>Ychydig iawn o bobl fydd yn taro deuddeg yn gyfan gwbl o ran y disgrifiad swydd, a hynny o ganlyniad i gyd-destunau sefydliadol amrywiol y gweithle modern, felly os oes rhai sgiliau ar goll yna nodwch hynny, gan esbonio beth fyddech chi&#8217;n barod i\u2019w wneud i bontio&#8217;r bwlch. Mae hyn yn dangos egni ac ymrwymiad, ond mae hefyd yn dangos eich gallu i fynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r bylchau.<\/p>\n<p><strong><u>Prif CV<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Pan fyddwch yn derbyn swydd, mae cadw prif CV er mwyn cofnodi profiadau newydd sydd \u00e2 rhagor o gyfrifoldebau ac atebolrwydd, yn ddefnyddiol. Mae&#8217;n hawdd anghofio&#8217;r profiadau wrth edrych yn \u00f4l ar eich swydd. O gofnodi wrth fynd ymlaen, byddwch chi&#8217;n arbed amser ac ymdrech i chi&#8217;ch hun o ran ceisio cofio, a gallai fod yn hwb da i\u2019r hyder braf pan fyddwch chi&#8217;n darllen drwyddo, gan eich atgoffa o&#8217;r hyn rydych chi wedi&#8217;i gyflawni.<\/p>\n<p>Nid yn unig y mae hyn yn gyngor gwych ar gyfer paratoi i wneud cais am ddyrchafiad, ond mae hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer nodi eich datblygiad proffesiynol parhaus os nad ydych yn yr arfer o wneud hynny.<\/p>\n<h3><strong>Ffion Lovell Meijer (BSc 2016)<\/strong><\/h3>\n<p><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/01\/Ffion.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-7970 alignright\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/01\/Ffion.jpg\" alt=\"\" width=\"170\" height=\"182\" \/><\/a><\/p>\n<p>Ffion yw Pennaeth Adnoddau Dynol, Cyfryngau a Digwyddiadau Orchard, a bu\u2019n Gydlynydd Pobl a Chydymaith Adnoddau Dynol cyn hynny. Astudiodd Gymdeithaseg ym Mhrifysgol Caerdydd ac aeth ymlaen i gwblhau gradd meistr mewn Rheoli Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol De Cymru.<\/p>\n<p>Dyma ei phrif gynghorion ar gyfer ysgrifennu CV trawiadol:<\/p>\n<p><strong><u>Hoelio Sylw<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Mae recriwtwyr yn aml yn derbyn cannoedd o geisiadau. Gwnewch yn si\u0175r bod eich CV yn hoelio eu sylw. Un tro, fe ddefnyddiodd ymgeisydd liwiau a naws-llais ein cwmni yn eu C.V \u2013 mae\u2019r C.V hwnnw yn un o\u2019r goreuon i mi ei weld erioed. Fe fynnodd ein sylw yn fwy na\u2019r ceisiadau eraill, ac roeddem wrth ein bodd bod yr ymgeisydd wedi cymryd amser i sicrhau bod eu CV yn cyd-fynd \u00e2&#8217;n brand. Yn hytrach, felly, na defnyddio templed safonol, wedi&#8217;i gynhyrchu&#8217;n awtomatig, treuliwch ychydig o amser a gofal ar ei bersonoli er mwyn iddo\u2019ch adlewyrchu chi, a&#8217;r swydd rydych chi&#8217;n gwneud cais amdani. Gwnewch yn si\u0175r eich bod yn prawf ddarllen popeth a\u2019ch bod wedi ymchwilio i&#8217;r swydd ymlaen llaw.<\/p>\n<p><strong><u>Peidiwch \u00e2 chynnwys popeth<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Camsyniad cyffredin yw bod yn rhaid i chi ffitio popeth rydych wedi&#8217;i gyflawni yn eich CV. Golyga hyn, yn aml, bod y CV yn hir a di-ffocws, ac felly, ni fydd yn dal sylw recriwtwyr. Meddyliwch yn hytrach am y CV fel eich cyfle i dynnu sylw at gyflawniadau allweddol sy&#8217;n berthnasol i&#8217;r swydd rydych chi&#8217;n mynd amdani. Ceisiwch gadw eich CV i ddwy dudalen o hyd a&#8217;i deilwra ar gyfer y swydd a&#8217;r fanyleb person dan sylw. Os nad oes gennych yr union brofiad, neu os mai dyma&#8217;r tro cyntaf i chi chwilio am waith, yna byddwch yn greadigol! Defnyddiwch eich profiad o&#8217;r brifysgol, o wirfoddoli neu o waith rhan-amser i dynnu sylw at sgiliau trosglwyddadwy a&#8217;r hyn y gallwch ei gyflwyno i&#8217;r r\u00f4l na allai eraill ei wneud.<\/p>\n<h3><strong>Anna Griffin (BA 2016)<\/strong><\/h3>\n<p><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/01\/Anna-CV-tips-copy.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-7967 alignright\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/01\/Anna-CV-tips-copy.jpg\" alt=\"\" width=\"211\" height=\"196\" \/><\/a><\/p>\n<p>Mae Anna yn Bartner Caffael Talent yn Starling Bank, ac mae ganddi brofiad helaeth o recriwtio ac Adnoddau Dynol ar lefel ymgynghorol a rheoli. Mae ganddi BA o Brifysgol Caerdydd mewn Cymraeg a Newyddiaduraeth a CIPD lefel 5 mewn Rheoli Adnoddau Dynol. Mae hi&#8217;n credu bod pedair prif elfen i unrhyw CV gwych:<\/p>\n<p><strong><u>Gonestrwydd<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Oes, mae angen i chi sicrhau eich bod chi&#8217;n hoelio sylw yn ystod y broses recriwtio, ond gwnewch hynny trwy fod yn chi eich hun. Pwysleisiwch eich cryfderau, a nodwch yn glir pam mai chi yw&#8217;r ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd benodol honno. Does dim pwynt dweud celwydd na gor-ddweud ynghylch eich profiad, fe ddaw hynny i\u2019r fei, ac ni fydd yn rhoi gogwydd positif ar bethau i chi. Byddai&#8217;n well gan y rhan fwyaf o gyflogwyr gyflogi rhywun sydd \u00e2 meysydd i\u2019w datblygu, yn hytrach na&#8217;r \u201cymgeisydd perffaith\u201d sydd, yn sydyn, angen cymorth annisgwyl.<\/p>\n<p>Mae gonestrwydd drwy gydol y broses recriwtio yr un fath \u00e2 didwylledd mewn gweithiwr da; mae\u2019n nodwedd allweddol y mae cyflogwyr yn edrych amdani!<\/p>\n<p><strong><u>Ymchwilio <\/u><\/strong><\/p>\n<p>Hyd yn oed os ydych yn gwneud cannoedd o geisiadau er mwyn cael swydd am y tro cyntaf, bydd llond llaw o f\u00e2n newidiadau ar gyfer pob cais yn gwneud gwahaniaeth enfawr! Yn adran bywgraffiad eich CV, ychwanegwch deitl y swydd ac enw&#8217;r cwmni. Mae hyn yn dangos eich bod yn gwneud cais \u00e2 gwir fwriad a diddordeb. Rhowch enw\u2019r cwmni ar y CV wrth safio\u2019r ddogfen e.e. \u201cAnna Griffin CV Starling Bank.\u201d Bydd hyn yn eich helpu i gyflwyno&#8217;r CV cywir, a hefyd yn dangos eich bod wedi gwneud yr ymdrech a theilwra eich CV ar gyfer y swydd honno. Rydym yn aml yn derbyn cannoedd o geisiadau felly mae&#8217;r camau bach hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr.<\/p>\n<p><strong><u>A yw\u2019n berthnasol?<\/u><\/strong><\/p>\n<p>Efallai eich bod yn falch iawn o wobr y gwnaethoch chi ei hennill yn yr ysgol\/prifysgol, ond a yw&#8217;n ddigon diweddar? A yw&#8217;n berthnasol i&#8217;r r\u00f4l? Os mai \u2018na\u2019 yw&#8217;r ateb, peidio \u00e2\u2019i gynnwys sydd orau! A yw TGAU yn rhan o ofynion y swydd? Na? Yna peidiwch \u00e2\u2019u cynnwys! Os oes maen prawf hanfodol fel lefel 5 CIPD, a bod gennych chi\u2019r cymhwyster dan sylw, nodwch hynny yn agos i frig y ddalen fel y gall recriwtwyr weld eich bod yn bodloni&#8217;r gofyniad yn rhwydd.<\/p>\n<p><strong><u>Diweddaru LinkedIn <\/u><\/strong><\/p>\n<p>Fy awgrym olaf yw; rydw i\u2019n cadw fy mhroffil LinkedIn yn gyfredol o ran unrhyw gyrsiau rwy&#8217;n eu cwblhau neu rolau rwy&#8217;n ymgymryd \u00e2 nhw. Rwy\u2019n gallu gwneud hyn ar yr ap, yn hawdd, ac yna pan fydd angen i mi ddiweddaru fy CV, rydw i\u2019n syml yn defnyddio\u2019r broses \u2018copi a gludo\u2019 i drosglwyddo\u2019r wybodaeth berthnasol.<\/p>\n<h3><b><span data-contrast=\"auto\">Ricky Martin (BSc 2006)\u202f\u202f<\/span><\/b><span data-ccp-props=\"{&quot;134233117&quot;:true,&quot;134233118&quot;:true,&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/01\/ricky-martin.png\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-8011 alignright\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2022\/01\/ricky-martin.png\" alt=\"\" width=\"202\" height=\"248\" \/><\/a><\/h3>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae Ricky yn arbenigwr recriwtio enwog ac yn enillydd cyfres deledu 2012, The Apprentice. Ef hefyd yw Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr ei asiantaeth recriwtio arbenigol ei hun o&#8217;r enw <\/span><a href=\"https:\/\/www.hyperec.com\/\"><span data-contrast=\"none\">Hyper Recruitment Solutions<\/span><\/a><span data-contrast=\"auto\">. Fel rhywun sy&#8217;n darllen CVs bob dydd<\/span> <span data-contrast=\"auto\">\u202fam yr 16 mlynedd diwethaf mae ganddo gyfrinachau ardderchog i ysgrifennu&#8217;r CV perffaith:\u202f<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;134233117&quot;:true,&quot;134233118&quot;:true,&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><strong>Dangos rhywfaint o bersonoliaeth\u202f\u202f\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">\u202fY rhan fwyaf o&#8217;r amser, bydd eich CV naill ai&#8217;n cael ei ddarllen gan arbenigwr llogi sy&#8217;n edrych ar CVs bob dydd, neu reolwr cyflogi sydd am gyflogi rhywun y gallan nhw weithio gydag ef\/hi. Os mai dim ond swyddogaethol yw&#8217;r CV a dim ond yn dweud y ffeithiau, yna, a dweud y gwir<\/span><span data-contrast=\"none\">,<\/span><span data-contrast=\"auto\"> efallai y daw ar draws fel diflas. Os ydych am fanteisio i&#8217;r eithaf ar eich siawns o gael eich cyflogi, neu o leiaf cyrraedd y cam cyfweld, yna mae angen i chi adlewyrchu eich hun ar eich CV. Gall proffil hynod ar y brig neu rai hob\u00efau a diddordebau go iawn helpu i roi&#8217;r Ffactor X hwnnw i chi.\u202f<\/span><\/p>\n<p><strong>Dangos cyflawniadau personol\u202f\u00a0<\/strong><\/p>\n<p><span data-contrast=\"auto\">Mae CVs yn wych am ddweud wrth bobl beth rydych chi wedi&#8217;i wneud, ond dydyn nhw ddim bob amser yn dweud wrth bobl beth rydych chi wedi bod yn &#8220;wych am ei wneud&#8221;. Y ffordd orau o gyflwyno hyn yw nodi 1-2 gyflawniad allweddol fesul r\u00f4l ar eich CV. Meddyliwch am ble rydych chi wedi arbed amser neu arian cwmni, meddyliwch sut cyfrannoch chi&#8217;n bersonol at wneud hyn ac nid beth \u201cwnaethon ni&#8221;. I fi, dyma\u2019r gwahaniaeth rhwng rhywun rwy\u2019n ei benodi i wneud swydd, a rhywun rwy\u2019n ei benodi a fydd yn ardderchog mewn swydd.\u202f<\/span><span data-ccp-props=\"{&quot;134233117&quot;:true,&quot;134233118&quot;:true,&quot;201341983&quot;:0,&quot;335559740&quot;:240}\">\u00a0<\/span><\/p>\n<p><strong>Mae cymuned Prifysgol Caerdydd yn griw sy\u2019n barod iawn eu cymwynas ac yma i&#8217;ch helpu yn eich gyrfa ddewisol. Gallwch bori drwy eu cyngor a&#8217;u hawgrymiadau ar ystod eang o bynciau busnes yn ein cyfres &#8216;<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cardiff-connect\/bossing-it\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\" data-type=\"URL\" data-id=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cardiff-connect\/bossing-it\/\">Bossing It&#8217;.<\/a><\/strong><\/p>\n<p><strong>Yn barod i gysylltu \u00e2 chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch \u00e2\u2019n\u00a0<a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/groups\/112830\/\">gr\u0175p LinkedIn<\/a>\u00a0a dechrau rhwydweithio.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"P'un a ydych yn dechrau CV o'r newydd neu'n rhoi sglein newydd ar hen un, mae cynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yma i helpu. Cewch wybod beth mae ein harbenigwyr ym maes recriwtio ac Adnoddau Dynol yn ei argymell ar gyfer creu CV trawiadol yn y byd cystadleuol sydd ohoni.","protected":false},"author":1811,"featured_media":7990,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[207,170],"tags":[],"class_list":["post-8001","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-bossing-it-cy","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8001","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8001"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8001\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10148,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8001\/revisions\/10148"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7990"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8001"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8001"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8001"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}