{"id":7930,"date":"2022-01-17T12:00:00","date_gmt":"2022-01-17T12:00:00","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=7930"},"modified":"2024-04-11T08:00:22","modified_gmt":"2024-04-11T08:00:22","slug":"cymuned-caerdydd-yn-cael-ei-chydnabod-yn-anrhydeddau-blwyddyn-newydd-2022","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2022\/01\/17\/cymuned-caerdydd-yn-cael-ei-chydnabod-yn-anrhydeddau-blwyddyn-newydd-2022\/","title":{"rendered":"Cymuned Caerdydd yn cael ei chydnabod yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2022"},"content":{"rendered":"<p><strong><em>Mae Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines ar gyfer 2022 yn cydnabod cyflawniadau eithriadol llawer o aelodau o gymuned Prifysgol Caerdydd.<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Mae\u00a0<strong>Syr Paul Nurse (Cymrawd Anrhydeddus 2014)\u00a0<\/strong>yn enillydd Gwobr Nobel, genetegydd, biolegydd celloedd, aelod hirdymor o\u2019r Cyngor Gwyddoniaeth a Thechnoleg a chrewr Sefydliad Francis Crick. Dyfarnwyd Cydymaith Anrhydedd iddo am ei wasanaethau i wyddoniaeth a meddygaeth yn y DU a thramor.<\/p>\n<p>Dyfarnwyd CBE i\u00a0<strong>Dr Neil Wooding (PhD 2003)<\/strong>\u00a0am ei wasanaethau i gyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a\u2019r gymuned yng Nghymru. Roedd Neil yn Brif Swyddog Pobl i\u2019r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac yn ymgynghorydd i Swyddfa\u2019r Cabinet. Dywedodd Dr Neil wrth y Western Telegraph bod derbyn anrhydedd o\u2019r fath \u2018yn fraint ac yn bleser\u2019.<\/p>\n<p>Dyfarnwyd OBE i\u00a0<strong>Mr Alan Brace (BA 1983),<\/strong>\u00a0Cyfarwyddwr Cyllid GIG Cymru, am ei wasanaethau i\u2019r GIG a\u2019r ymateb i COVID-19 yng Nghymru.<\/p>\n<p>Derbyniodd\u00a0<strong>Mr Graham Edwards (MBA<\/strong>\u00a01992) OBE am ei ewasanaethau i fusnesau a\u2019r gymuned yng Nghymru. Ef yw Prif Weithredwr Wales and West Utilities ac mae wedi bod yn eiriolwr brwd dros gyfleoedd cyfartal ac yn helpu eraill i wireddu eu potensial.<\/p>\n<p>Mae\u00a0<strong>Mr Martin Lewis (Dip.\u00d4l-radd 1998, Cymrawd Anrhydeddus 2017)\u00a0<\/strong>yn newyddiadurwr ymgyrchu ac ef wnaeth sefydlu MoneySavingExpert.com ac elusen y Sefydliad Polisi Arian ac Iechyd Meddwl. Cafodd ei gydnabod gyda CBE am wasanaethau i ddarlledu a hawliau defnyddwyr. Dywedodd Mr Lewis ar Twitter ei fod wedi cael sioc a\u2019i fod wrth ei fodd yn derbyn yr anrhydedd.<\/p>\n<blockquote class=\"twitter-tweet\" data-width=\"500\" data-dnt=\"true\">\n<p lang=\"en\" dir=\"ltr\">Wow. I&#39;ve been upgraded! Shocked &amp; thrilled to get a CBE<\/p>\n<p>Huge THANKS to all who nominated me, it was unnecessary, but lovely \u2013 and to all who follow &amp; support my work. I hope it helps<\/p>\n<p>Best bit (Covid permitting) is this time my little one\u2019s old enough to be with when I get it! <a href=\"https:\/\/t.co\/7BYY4K8pMn\">pic.twitter.com\/7BYY4K8pMn<\/a><\/p>\n<p>&mdash; Martin Lewis (@MartinSLewis) <a href=\"https:\/\/twitter.com\/MartinSLewis\/status\/1477203545757822978?ref_src=twsrc%5Etfw\">January 1, 2022<\/a><\/p><\/blockquote>\n<p><script async src=\"https:\/\/platform.twitter.com\/widgets.js\" charset=\"utf-8\"><\/script><\/p>\n<p><strong>Mr Sanjiv Vedi (BSc 1984)\u00a0<\/strong>yw Cyfarwyddwr Cynorthwyol a Phennaeth Swyddfa Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Cafodd ei anrhydeddu eleni gydag OBE am wasanaethau cyhoeddus, elusennol a gwirfoddol.<\/p>\n<p>Dyfarnwyd MBE i\u2019r\u00a0<strong>Parchedig Steven Bunting (BTh 2012)<\/strong>\u00a0am ei wasanaethau elusennol i\u2019r gymuned yn Abertawe. Mae\u2019r Parchedig Bunting yn eiriolwr brwd dros y rhai mewn angen a\u2019r rhai sy\u2019n dioddef o dlodi bwyd. Ar \u00f4l derbyn ei MBE, mynegodd ei ddiolch ar Twitter.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/twitter.com\/StevenBunting\/status\/1477923213162303489?ref_src=twsrc%5Etfw%7Ctwcamp%5Etweetembed%7Ctwterm%5E1477923213162303489%7Ctwgr%5E%7Ctwcon%5Es1_&#038;ref_url=https%3A%2F%2Fblogs.cardiff.ac.uk%2Falumni%2F%3Fp%3D7918lang%3Dcy\">https:\/\/twitter.com\/StevenBunting\/status\/1477923213162303489?ref_src=twsrc%5Etfw%7Ctwcamp%5Etweetembed%7Ctwterm%5E1477923213162303489%7Ctwgr%5E%7Ctwcon%5Es1_&amp;ref_url=https%3A%2F%2Fblogs.cardiff.ac.uk%2Falumni%2F%3Fp%3D7918lang%3Dcy<\/a><\/p>\n<p>Dyfarnwyd MBE i\u00a0<strong>Dr Seema Arif (PGCert 2011)<\/strong>\u00a0am ei wasanaethau i ofal iechyd ymhlith y gymuned Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae hi wedi gweithio\u2019n ddiflino i wynebu a herio rhwystrau diwylliannol i ofal iechyd ac i daflu goleuni ar addysg iechyd mewn cymunedau BAME.<\/p>\n<p>Derbyniodd\u00a0<strong>yr Athro Euan Hails (EdD 2012)<\/strong>, nyrs ymgynghorol ac athro a arweiniodd y gwaith o ddatblygu\u2019r gwasanaethau Seicosis Ymyrraeth Gynnar (EIP) cenedlaethol ledled Cymru, MBE am ei wasanaethau i iechyd meddwl plant a phobl ifanc.<\/p>\n<p>Dyfarnwyd MBE i\u00a0<strong>Dr Edward Roberts (MBBCh 1970)<\/strong>\u00a0am ei wasanaethau i feddygaeth ac i\u2019r gymuned yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.<\/p>\n<p>Derbyniodd\u00a0<strong>Mr Craiger Solomans (BSc<\/strong>\u00a02011) MBE am wasanaeth cyhoeddus am ei waith yn Ddadansoddwr Arweiniol yng Nghell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru.<\/p>\n<p>Dyfarnwyd MBE i\u00a0<strong>Miss Katherine Sparkes (BA 2002)<\/strong>, Cymrawd Academaidd Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd a Sylfaenydd Flamingo Chicks, am ei gwasanaethau i blant ag anableddau a\u2019u teuluoedd. Dywedodd Miss Sparkes wrth BristolWorld: \u201cRoeddwn i\u2019n hapus ac yn methu credu\u2019r peth. Roedd yn anodd ei gadw\u2019n gyfrinach. Wnes i ddim dweud wrth neb nes iddo gael ei gyhoeddi.\u201d<\/p>\n<p>Mae\u00a0<strong>Dr Bnar Talabani (MBBCh 2013)<\/strong>\u00a0yn Gymrawd Academaidd Clinigol Ymddiriedolaeth Wellcome GW4 ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Wyddonydd Imiwnoleg sydd wedi bod yn mynd i\u2019r afael \u00e2 chelwyddau am y brechlyn ar TikTok. Dyfarnwyd MBE iddi am wasanaethau i\u2019r GIG ac i\u2019r cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, yn enwedig yn ystod COVID-19.<\/p>\n<p>Dywedodd wrth y BBC: \u201cRoedd yn sioc enfawr ac mae\u2019n parhau i fod felly. Rydw i mor ddiolchgar am y gydnabyddiaeth ond rydw i\u2019n gwybod hefyd bod cynifer o\u2019r rhai yr ydw i wedi gweithio gyda nhw yn haeddu\u2019r gydnabyddiaeth hon hefyd.\u201d<\/p>\n<blockquote class=\"twitter-tweet\" data-width=\"500\" data-dnt=\"true\">\n<p lang=\"en\" dir=\"ltr\">Honoured &amp; humbled to have been appointed <a href=\"https:\/\/twitter.com\/hashtag\/MBE?src=hash&amp;ref_src=twsrc%5Etfw\">#MBE<\/a> in the <a href=\"https:\/\/twitter.com\/hashtag\/NewYearsHonoursList?src=hash&amp;ref_src=twsrc%5Etfw\">#NewYearsHonoursList<\/a> Thank you to my amazing colleagues at <a href=\"https:\/\/twitter.com\/muslimdoccymru?ref_src=twsrc%5Etfw\">@muslimdoccymru<\/a> <a href=\"https:\/\/twitter.com\/projecthalo?ref_src=twsrc%5Etfw\">@projecthalo<\/a> <a href=\"https:\/\/twitter.com\/britsocimm?ref_src=twsrc%5Etfw\">@britsocimm<\/a> who have worked tirelessly over the past year to combat <a href=\"https:\/\/twitter.com\/hashtag\/covidvaccine?src=hash&amp;ref_src=twsrc%5Etfw\">#covidvaccine<\/a> <a href=\"https:\/\/twitter.com\/hashtag\/misinformation?src=hash&amp;ref_src=twsrc%5Etfw\">#misinformation<\/a>. <a href=\"https:\/\/twitter.com\/gw4_cat?ref_src=twsrc%5Etfw\">@gw4_cat<\/a> <a href=\"https:\/\/twitter.com\/cardiffuni?ref_src=twsrc%5Etfw\">@cardiffuni<\/a> <a href=\"https:\/\/twitter.com\/CardiffMBBChC21?ref_src=twsrc%5Etfw\">@CardiffMBBChC21<\/a> <a href=\"https:\/\/t.co\/q83WkUlX1j\">https:\/\/t.co\/q83WkUlX1j<\/a><\/p>\n<p>&mdash; Dr Bnar Talabani MBE (@bnar) <a href=\"https:\/\/twitter.com\/bnar\/status\/1477062789562781700?ref_src=twsrc%5Etfw\">December 31, 2021<\/a><\/p><\/blockquote>\n<p><script async src=\"https:\/\/platform.twitter.com\/widgets.js\" charset=\"utf-8\"><\/script><\/p>\n<p>Mae\u2019r<strong>\u00a0Athro Nalin Chandra Wickramasinghe<\/strong>\u00a0yn arfer bod yn Athro ac yn Bennaeth Adran Mathemateg Gymhwysol a Ffiseg Fathemategol ym Mhrifysgol Caerdydd. Dyfarnwyd MBE iddo am ei wasanaethau i wyddoniaeth, seryddiaeth ac astrofioleg.<\/p>\n<p>Mae<strong>\u00a0Miss Linda Alexander (LLM 2003)<\/strong>\u00a0yn Ddirprwy Gyfarwyddwr nyrsio a dyfarnwyd BEM iddi am ei gwasanaethau i ofal cleifion ac atebion amgen i\u2019r gweithlu yn GIG Cymru.<\/p>\n<p>Derbyniodd\u00a0<strong>Miss Charlotte Butter (BA 2015)<\/strong>\u00a0a\u00a0<strong>Dr John Manly (MBBCh 2016)<\/strong>, sylfaenwyr DeliverAid, BEM am eu gwasanaethau i weithwyr rheng flaen a\u2019r GIG yn ystod COVID-19.<\/p>\n<p>Cafodd\u00a0<strong>Miss Ceri Jones (Dip 1995)<\/strong>, Prif Nyrs Arbenigol Diabetes Cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ei hanrhydeddu \u00e2 BEM am ei gwasanaethau i ofal diabetes. Dywedodd Miss Jones wrth Nursing Times: \u201cMae\u2019n braf cael fy nghydnabod ond mae fy nh\u00eem yno, yn gwneud y gwaith hefyd \u2013 maen nhw\u2019n anhygoel.\u201d<\/p>\n<p>Dyfarnwyd DBE\u00a0<strong>i\u2019r Fonesig Jennifer Harries (MPH 2000),<\/strong>\u00a0Prif Weithredwr Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, am ei gwasanaeth rhagorol i iechyd y cyhoedd. Chwaraeodd ran hanfodol yn yr ymateb i COVID, Ebola, Zika, monkeypox, MERS ac ymosodiadau Novichok.<\/p>\n<p><strong>Rydym mor falch o\u2019n cymuned o gynfyfyrwyr yng Nghaerdydd. Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi\u2019u cydnabod am eu hymroddiad a\u2019u cyflawniadau.<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines ar gyfer 2022 yn cydnabod cyflawniadau eithriadol llawer o aelodau o gymuned Prifysgol Caerdydd.","protected":false},"author":1811,"featured_media":7933,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170,203],"tags":[],"class_list":["post-7930","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7930","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7930"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7930\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7935,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7930\/revisions\/7935"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7933"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7930"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7930"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7930"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}