{"id":7764,"date":"2022-03-14T08:39:29","date_gmt":"2022-03-14T08:39:29","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=7764"},"modified":"2022-01-25T11:40:08","modified_gmt":"2022-01-25T11:40:08","slug":"ryseitiau-er-mwyn-llwyddo-cig-e-i-d-i-o-n-gyda-llysiaur-gwanwyn-a-mwstard","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2022\/03\/14\/ryseitiau-er-mwyn-llwyddo-cig-e-i-d-i-o-n-gyda-llysiaur-gwanwyn-a-mwstard\/","title":{"rendered":"Ryseitiau Er Mwyn Llwyddo: Cig e i d i o n gyda llysiau&#8217;r gwanwyn a mwstard"},"content":{"rendered":"<p><strong><i><span lang=\"CY\">Cyfres o ryseitiau gan arbenigwyr yn y diwydiant bwyd a diod yw Recipes for Success. Wedi&#8217;i greu yn wreiddiol fel llyfr ryseitiau ar gyfer myfyrwyr newydd, mae cogyddion cyn-fyfyrwyr, blogwyr bwyd a pherchnogion bwytai yn hael yn rhannu eu ryseitiau blasus, hawdd eu gwneud. Darganfyddwch fwy am ein cyn-fyfyrwyr disglair yn y gegin wrth wneud rhywbeth blasus!\u00a0<\/span><\/i><\/strong><\/p>\n<h3 class=\"p1\"><strong>Dyma\u2019r cogydd<a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/12\/P.5-Tomos-Parry-CHEF-edit-for-online.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-7729 alignright\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/12\/P.5-Tomos-Parry-CHEF-edit-for-online.jpg\" alt=\"\" width=\"159\" height=\"158\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/12\/P.5-Tomos-Parry-CHEF-edit-for-online.jpg 914w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/12\/P.5-Tomos-Parry-CHEF-edit-for-online-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/12\/P.5-Tomos-Parry-CHEF-edit-for-online-40x40.jpg 40w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/12\/P.5-Tomos-Parry-CHEF-edit-for-online-200x200.jpg 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 159px) 100vw, 159px\" \/><\/a><\/strong><\/h3>\n<p class=\"p2\">Mae Tomos Parry <strong>(BScEcon <\/strong><span class=\"s1\"><strong>2008)<\/strong>, <\/span>gogydd sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy&#8217;n berchen ar fwyty seren Michelin <span class=\"s1\">o&#8217;r enw <\/span>Brat, a enwyd yn un o&#8217;r 100 o fwytai gorau yn y byd. Astudiodd Wleidyddiaeth a Hanes ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae&#8217;n cofio ei gyfnod yn coginio prydau mawr i\u2019r saith oedd yn rhannu t\u0177 ag ef (gyda bwyd o Lidl yn bennaf). On\u2019d yw pethau wedi newid!<\/p>\n<p class=\"p1\">&#8220;Mae hwn yn bryd ro\u2019n i&#8217;n arfer ei goginio i&#8217;r rhai oedd yn rhannu\u2019r ty\u02c6 pan o\u2019n ni eisiau st\u00eacs ond do\u2019n ni ddim yn gallu fforddio&#8217;r toriadau drud! Ro&#8217;n i&#8217;n byw gyda saith o fechgyn a do\u2019n ni ddim yn arbennig o iach, felly ro&#8217;n i&#8217;n hoffi gwneud y pryd yma o st\u00eacs wedi&#8217;u grilio gyda digon o lysiau a mwstard sbeislyd.&#8221;<\/p>\n<h3><strong><b><span lang=\"CY\">Dewch i ni goginio&#8230;<\/span><\/b> <\/strong><\/h3>\n<p class=\"p1\"><strong>Rhestr siopa<\/strong><\/p>\n<p class=\"p2\">300g o odre (skirt) cig eidion \/toriad ystlys (flank cut) cig eidion<\/p>\n<p class=\"p2\">Halen a phupur<\/p>\n<p class=\"p2\">5 ewin garlleg (1 wedi&#8217;i gratio a 4 wedi&#8217;u sleisio\u2019n denau)<\/p>\n<p class=\"p2\">130g o fwstard Dijon<\/p>\n<p class=\"p2\">1 llwy fwrdd o finegr sieri neu finegr gwin coch<\/p>\n<p class=\"p2\">1-2 llwy de o f\u00eal<\/p>\n<p class=\"p2\">\u00f3 pinsiad o bupur cayenne<\/p>\n<p class=\"p2\">225ml o olew olewydd<\/p>\n<p class=\"p2\">1 bwnsh o shibwns\/shal\u00f3ts wedi&#8217;u sleisio&#8217;n denau<\/p>\n<p class=\"p2\">1 bag o bys wedi&#8217;u rhewi<\/p>\n<p class=\"p2\">1 bwnsh o asbaragws, wedi&#8217;u tocio, wedi&#8217;u torri&#8217;n ddarnau 3cm<\/p>\n<p class=\"p1\"><strong>Bydd arnoch angen<\/strong><\/p>\n<p class=\"p2\">Powlen ganolig<\/p>\n<p class=\"p2\">Padell ffrio neu sgilet<\/p>\n<p class=\"p1\"><strong>Dull<\/strong><\/p>\n<p class=\"p2\">Cam 1<\/p>\n<p class=\"p3\">Rhoi halen a phupur dros y st\u00eacs i gyd Chwisgo 1 ewin garlleg wedi&#8217;i gratio, mwstard, finegr, m\u00eal, pupur cayenne, 5 llwy fwrdd o olew, ac 1 llwy fwrdd o dd\u0175r mewn powlen ganolig, yna ychwanegu halen a phupur.<\/p>\n<p class=\"p4\">Cam 2<\/p>\n<p class=\"p3\">Cynhesu padell ffrio dros wres canolig uchel. Rhwbio pob st\u00eac ag 1 llwy fwrdd o olew a\u2019i goginio, gan droi bob 2 funud a gwneud yn si\u0175r bod lliw ar y braster, nes ei fod wedi\u2019i goginio ond yn dal yn waedlyd. Symud y st\u00eacs i bl\u00e2t am ychydig. Arllwys yr olew o\u2019r badell ffrio.<\/p>\n<p class=\"p4\">Cam 3<\/p>\n<p class=\"p3\">Cynhesu\u2019r olew sy&#8217;n weddill yn yr un badell ffrio dros wres isel. Ychwanegu 4 ewin garlleg wedi&#8217;u tafellu a&#8217;r rhan fwyaf o\u2019r shibwns\/shal\u00f3ts a&#8217;u coginio, gan droi&#8217;n aml, nes eu bod wedi&#8217;u meddalu.<\/p>\n<p class=\"p4\">Cam 4<\/p>\n<p class=\"p3\">Ychwanegu\u2019r pys a sblash o dd\u0175r a&#8217;u coginio nes bod y pys yn dyner. Ychwanegu\u2019r asbaragws a rhoi sesnin o halen a phupur. Coginio am tua 3-4 munud, gan droi&#8217;n aml, nes bod yr asbaragws yn dyner. Tynnu\u2019r llysiau o&#8217;r gwres.<\/p>\n<p class=\"p4\">Cam 5<\/p>\n<p class=\"p3\">Sleisio\u2019r st\u00eacs a&#8217;u taenu dros y llysiau yn y badell ffrio. Ysgeintio ychydig o saws mwstard dros y st\u00eacs a rhoi\u2019r shibwns\/shal\u00f3ts drostyn nhw.<\/p>\n<p class=\"p5\"><strong>Dewisol<\/strong><\/p>\n<p class=\"p3\">Gallwch weini&#8217;r pryd hwn gydag unrhyw saws mwstard sy&#8217;n weddill, rhowch ychydig ar ochr y pl\u00e2t!<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-7731 alignright\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/12\/P.5-Sebastian-Ripley-SU-tester.jpg\" alt=\"\" width=\"178\" height=\"178\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/12\/P.5-Sebastian-Ripley-SU-tester.jpg 800w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/12\/P.5-Sebastian-Ripley-SU-tester-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/12\/P.5-Sebastian-Ripley-SU-tester-40x40.jpg 40w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/12\/P.5-Sebastian-Ripley-SU-tester-200x200.jpg 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 178px) 100vw, 178px\" \/><\/p>\n<p class=\"p1\"><strong>Yn \u00f4l ein profwr o Undeb y Myfyrwyr, Sebastian Ripley (Ffisiotherapi 2018-) Dirprwy Lywydd Parc y Mynydd Bychan&#8230;<\/strong><\/p>\n<p class=\"p2\">&#8220;Mae hwn yn bryd gwych i&#8217;w gael gyda\u2019r rhai sy\u2019n rhannu\u2019r ty\u02c6, a gallwch roi sosban fawr yng nghanol y bwrdd a bwrw ati i fwyta. Mae&#8217;r dresin ar gyfer hwn yn flasus iawn.&#8221;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><em><strong><i><span lang=\"CY\">Wedi mwynhau\u2019r rys\u00e1it hon? Mae gennym lawer mwy o le y daeth honno yn <a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cardiff-connect\/recipes-for-success-2\/\">Recipes for Success<\/a>. Ewch amdani!<\/span><\/i> <\/strong><\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Tomos Parry (BScEcon 2008), gogydd sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy'n berchen ar fwyty seren Michelin o'r enw Brat, a enwyd yn un o'r 100 o fwytai gorau yn y byd. Yn ein cyfres Ryseitiau sy\u2019n llwyddo, mae Tomos yn rhannu'r rys\u00e1it berffaith ar gyfer noson st\u00eac ar gyllideb.","protected":false},"author":904,"featured_media":7736,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[208],"tags":[],"class_list":["post-7764","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-recipes-for-success-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7764","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7764"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7764\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7766,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7764\/revisions\/7766"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7736"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7764"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7764"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7764"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}