{"id":7548,"date":"2021-11-30T15:26:13","date_gmt":"2021-11-30T15:26:13","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=7548"},"modified":"2021-11-30T15:26:04","modified_gmt":"2021-11-30T15:26:04","slug":"gobaith-newydd-ar-gyfer-triniaeth-canser-y-dechneg-lawfeddygol-ar-gyfer-cemotherapi-wedii-dargedu%e2%80%af","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2021\/11\/30\/gobaith-newydd-ar-gyfer-triniaeth-canser-y-dechneg-lawfeddygol-ar-gyfer-cemotherapi-wedii-dargedu%e2%80%af\/","title":{"rendered":"Gobaith newydd ar gyfer triniaeth canser: y dechneg lawfeddygol ar gyfer cemotherapi wedi&#8217;i dargedu\u202f"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Sadie-Jones-photo-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Sadie-Jones-photo-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7535\" width=\"232\" height=\"310\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Sadie-Jones-photo-1.jpg 298w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Sadie-Jones-photo-1-225x300.jpg 225w\" sizes=\"auto, (max-width: 232px) 100vw, 232px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd yn amrywio o ran ei chyrhaeddiad. O ddarganfod bioleg y clefyd a deall ffyrdd o atal canser, i chwilio am driniaethau newydd a gwell. Nod ein gwaith yw achub a gwella bywydau.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid ffrwyth un person dros nos yw ymchwil lwyddiannus sy&#8217;n gwneud gwahaniaeth. Mae&#8217;n cael ei hysbarduno gan ymchwilwyr sy&#8217;n cydweithio ar draws sawl disgyblaeth ac arbenigedd, gan rannu gwybodaeth ac arbenigedd mewn rhaglenni a phrosiectau gwahanol, ac yn bwydo&#8217;n \u00f4l yn barhaus i wella\u2019r ffordd mae\u2019r wyddoniaeth yn cael ei rhoi ar waith yn glinigol o ran yr hyn sy\u2019n cael ei gynnig.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yma, mae Dr Sadie Jones (PhD 2016, MBBCh 2006) Uwch-ddarlithydd Clinigol a&nbsp;Llawfeddyg Ymgynghorol Oncoleg Gynaecoleg&nbsp;yn rhannu gyda ni fanylion treial clinigol hynod ddiddorol i&#8217;w gynnal yng Nghaerdydd, gan weithio gyda\u2019i chydweithwyr llawfeddygol a\u2019r gwyddonwyr yn y labordy. Arbenigedd Sadie yw canser yr ofari, canser sydd \u00e2 chyfraddau goroesi gwael gan nad yw cleifion fel arfer yn sylwi ar y symptomau tan nes ymlaen.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Enw treial clinigol Sadie a&#8217;i chydweithwyr yw PIPAC&nbsp;(Cemotherapi Aerosol dan wasgedd yn y peritonewm) a defnyddirllawdriniaeth twll clo, techneg lawfeddygol sefydledig, i roi cemotherapi drwy chwistrell aerosol yn uniongyrchol i diwmorau cleifion \u00e2 chanser eilaidd yn yr abdomen (y stumog, y coluddyn a\u2019r ofari). Mae&#8217;r dull hwn yn taro&#8217;r tiwmor yn uniongyrchol \u00e2&#8217;r cyffur, gan ddefnyddio ei effaith i\u2019r eithaf ac yn lleihau&#8217;r sgil-effeithiau tocsig sydd yn gysylltiedig yn aml \u00e2 chemotherapi pan gaiff ei roi yn y gwaed drwy&#8217;r corff. Mae hyn yn gadarnhaol iawn i gleifion ac yn helpu i wella safon eu bywyd wrth iddyn nhw gael y driniaeth.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gan weithio&#8217;n agos gyda chydweithwyr amlddisgyblaethol yn labordai Prifysgol Caerdydd, bydd y treial hefyd yn bwydo&#8217;n \u00f4l i wella datblygiad cyffuriau ar gyfer y targed gorau posibl, y ffordd orau o gyflwyno\u2019r cyffuriau a\u2019r ymateb. Mae hyn yn troi\u2019n adborth cadarnhaol parhaus i wella pob agwedd ar y driniaeth i gleifion a gobeithir y bydd yn arbed ac yn gwella bywydau llawer o bobl.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Rhagor o wybodaeth drwy wylio sgwrs hynod o ddiddorol Sadie.&nbsp;&nbsp;<\/strong><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed aligncenter is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Surgical techniques for targeted chemotherapy | Gobaith newydd ar gyfer triniaeth canser\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/2K7ePOPGY6M?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Mae ein digwyddiadau Arddangos Ymchwil yn gyfle i glywed am yr ystod eang o waith sy&#8217;n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Caerdydd i achub, newid a chyfoethogi bywydau. <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.youtube.com\/playlist?list=PLBbUDRHpmzVvnodMkGn5A1CA4gEka_sK9\" data-type=\"URL\" data-id=\"https:\/\/www.youtube.com\/playlist?list=PLBbUDRHpmzVvnodMkGn5A1CA4gEka_sK9\" target=\"_blank\">Ail-wylio digwyddiadau eraill yn y gyfres yn y gorffennol.<\/a><\/em><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd yn amrywio o ran ei chyrhaeddiad. O ddarganfod bioleg y clefyd a deall ffyrdd o atal canser, i chwilio am driniaethau newydd a gwell. Nod ein gwaith yw achub a gwella bywydau. ","protected":false},"author":904,"featured_media":7544,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[204,170],"tags":[],"class_list":["post-7548","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-donate-cy","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7548","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7548"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7548\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7554,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7548\/revisions\/7554"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7544"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7548"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7548"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7548"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}