{"id":7475,"date":"2022-01-24T11:35:57","date_gmt":"2022-01-24T11:35:57","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=7475"},"modified":"2024-10-08T12:43:39","modified_gmt":"2024-10-08T12:43:39","slug":"newid-gyrfa-o-fydwraig-i-gyflwynydd-radio-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2022\/01\/24\/newid-gyrfa-o-fydwraig-i-gyflwynydd-radio-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Newid gyrfa o fydwraig i gyflwynydd radio \u2013 I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr"},"content":{"rendered":"\r\n<div class=\"wp-block-image\">\r\n<figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Lizzie-radio-to-nursing-2.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"500\" class=\"wp-image-7407\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Lizzie-radio-to-nursing-2.jpg\" alt=\"\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Lizzie-radio-to-nursing-2.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Lizzie-radio-to-nursing-2-300x150.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Lizzie-radio-to-nursing-2-768x384.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/a><\/figure>\r\n<\/div>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Mae Lizzie Romain (BMid 2014) yn fydwraig mewn ysbyty mamolaeth preifat yn Llundain, ond mae hi bob amser wedi brwydro i gydbwyso ei gyrfa bydwreigiaeth gyda&#8217;i hochr greadigol. Ychydig cyn y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020, ymunodd \u00e2&#8217;i gorsaf radio gymunedol leol yng Ngorllewin Llundain, a nawr yn 2022 mae&#8217;n mynd amdani ac yn pontio i yrfa lawn amser mewn darlledu.<\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ni allaf gofio sawl gwaith yn ystod y deng mlynedd diwethaf y gofynnwyd i mi: &#8220;Oeddech chi bob amser eisiau bod yn fydwraig?&#8221; Fy nghof cynharaf oedd eisiau trin gwallt! Yna yn 16 oed, ar \u00f4l gwasanaeth arbennig am y pwnc brawychus o geisio penderfynu beth rydych chi am ei wneud am weddill eich bywyd, fe wnaethon ni i gyd dreulio sawl egwyl cinio yn edrych ar UCAS ac yn ceisio penderfynu beth i&#8217;w wneud. Clywais am fydwreigiaeth, a meddyliais y byddai\u2019n swydd werth chweil! Roedd y syniad o wneud yn si\u0175r bod genedigaeth yn achlysur arbennig i rieni newydd yn apelio ataf yn fawr. Hefyd, gyda gradd alwedigaethol, roeddech chi&#8217;n gweithio tuag at gymhwyster a fyddai&#8217;n arwain yn uniongyrchol i swydd ar \u00f4l graddio. Perffaith!<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<div class=\"wp-block-image\">\r\n<figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-094414_Facebook.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-7410\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-094414_Facebook-1024x1024.jpg\" alt=\"\" width=\"223\" height=\"223\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-094414_Facebook-1024x1024.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-094414_Facebook-300x300.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-094414_Facebook-150x150.jpg 150w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-094414_Facebook-768x767.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-094414_Facebook-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-094414_Facebook-40x40.jpg 40w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-094414_Facebook-200x200.jpg 200w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-094414_Facebook.jpg 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 223px) 100vw, 223px\" \/><\/a><\/figure>\r\n<\/div>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dechreuais ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2011, ac erbyn mis Rhagfyr, roeddwn eisoes wedi cynorthwyo yn fy ngenedigaeth gyntaf (yn Ysbyty Brenhinol Gwent). Deunaw oed oeddwn i ar y pryd. Roedd yn brofiad brawychus ac yn wefreiddiol ond hefyd gwnaeth i mi deimlo&#8217;n aeddfed. Dysgais lawer, ac roeddwn yn angerddol iawn am fy nghwrs. Roedd llawer o ddarlithwyr gwych yn dysgu Bydwreigiaeth, ac roedd ein carfan fach o 30 yn teimlo&#8217;n debycach i deulu na dosbarth.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ochr yn ochr \u00e2 bydwreigiaeth, roeddwn i eisiau ymuno \u00e2 chymdeithas. Treuliais bymtheg mlynedd yn mwynhau dawnsio ac roedd awydd arnaf ail-ddechrau. Felly penderfynais roi cynnig ar D\u00eem Codi Hwyl (Cheerleading) y Brifysgol a threuliais dair blynedd hapus iawn yn Codi Hwyl gyda Snakecharmers Caerdydd. Mae gen i lawer o atgofion hapus yn y sesiynau ymarfer yn y dojo, cystadlaethau codi hwyl ryngwladol a rhanbarthol, a chymdeithasu gyda th\u00eem P\u00eal-droed Americanaidd Cobras Caerdydd.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<div class=\"wp-block-image\">\r\n<figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-103824_Instagram.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-7413\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-103824_Instagram-1024x1016.jpg\" alt=\"\" width=\"213\" height=\"211\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-103824_Instagram-1024x1016.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-103824_Instagram-300x298.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-103824_Instagram-150x150.jpg 150w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-103824_Instagram-768x762.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-103824_Instagram-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-103824_Instagram-40x40.jpg 40w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-103824_Instagram.jpg 1080w\" sizes=\"auto, (max-width: 213px) 100vw, 213px\" \/><\/a><\/figure>\r\n<\/div>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru am ddwy flynedd, symudais i Lundain. Unwaith eto, roeddwn angen hobi creadigol yn fy mywyd, felly gwnes gais i asiantaethau i fod yn unigolyn dros dro mewn ffilm neu deledu ochr yn ochr \u00e2 fy swydd amser llawn. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, rydw i wedi bod yn rhan o dros 70 o gynyrchiadau teledu \/ ffilm ac wedi mwynhau bob munud! Y profiad gorau oedd bod ar set ar gyfer y ffilm &#8216;Bohemian Rhapsody,&#8217; ond rydw i hefyd wedi bod yn y Queen Vic ar Eastenders, ymwelydd yn Holby City, coblyn yn &#8216;The Witcher,&#8217; cynghorydd bydwraig ar set nifer helaeth o weithiau, ac ar hyn o bryd fi yw\u2019r fydwraig ar hysbyseb recriwtio&#8217;r GIG ar y teledu &#8211; 1000 o fywydau.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe wnaeth yr awydd creadigol daro eto ar ddiwedd 2019 ac ar \u00f4l mynd ar gwrs Cyflwynydd Teledu, gwnes gais am swydd cyflwynydd radio gyda Hayes FM 91.8. Y peth anodd yw, bob tro y byddwch yn rhoi cynnig ar rywbeth &#8216;newydd,&#8217; mae&#8217;n rhaid i chi fod yn fodlon mentro a chael eich profi i\u2019r eithaf. Ar y radio cefais fy mhrofiad mwyaf brawychus ond hefyd mwyaf gwerth chweil hyd yma. Fis ar \u00f4l i mi ddechrau, fe darodd y pandemig, a chaeodd y stiwdios. Fe wnes i greu stiwdio gartref a dysgais fy hun sut i ddefnyddio Adobe Audition a Premiere Pro i recordio a golygu, a hefyd Photoshop i hyrwyddo. Rydw i mor falch o&#8217;m sioe aml-genre &#8216;+ve New Music Releases&#8217; sydd wedi esblygu&#8217;n naturiol dros amser, yn bennaf o wrando&#8217;n \u00f4l a beirniadu fy llais fy hun, techneg meic a sgiliau cynhyrchu.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<div class=\"wp-block-image\">\r\n<figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-093921_Instagram.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-7416\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-093921_Instagram-1024x1024.jpg\" alt=\"\" width=\"235\" height=\"235\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-093921_Instagram-1024x1024.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-093921_Instagram-300x300.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-093921_Instagram-150x150.jpg 150w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-093921_Instagram-768x767.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-093921_Instagram-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-093921_Instagram-40x40.jpg 40w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-093921_Instagram-200x200.jpg 200w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/11\/Screenshot_20211110-093921_Instagram.jpg 1079w\" sizes=\"auto, (max-width: 235px) 100vw, 235px\" \/><\/a><\/figure>\r\n<\/div>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Deuddeg mis ar \u00f4l cychwyn ar fy nhaith radio, torrais fy nhroed rywsut wrth groesi fy ystafell fyw, a thrwy hap a damwain des i ar draws Cystadleuaeth Radio Ryngwladol &#8211; o&#8217;r enw Radio Star. Roeddwn yn emosiynol pan gysylltodd Nails Mahoney a Tracey Lee o On Air Coach Presenter Training \u00e2 mi i ddweud fy mod wedi cyrraedd y 25 olaf (allan o 350 o ymgeiswyr!) Roeddent yn credu ynof fi! Ar \u00f4l wyth mis a phum her sain \/ fideo anodd, rydw i\u2019n un o\u2019r pum ymgeisydd yn y Rownd Derfynol. Y goron ar y cyfan yw dwi newydd dderbyn swydd radio arall gyda Radio Cardiff! Ar \u00f4l blynyddoedd lawer yn rhedeg o amgylch Cathays mewn gwisgoedd ffansi ac yn gwrando ar Radio Cardiff ar y ffordd i ymarfer codi hwyl, rydw i wir yn teimlo fy mod i&#8217;n dod adref.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n rhyfedd pan rydych chi&#8217;n newid gyrfa. Rydych chi&#8217;n dechrau ar y dechrau eto, ond hefyd mae pawb yn eich adnabod chi yn y r\u00f4l arall. Rwy&#8217;n teimlo mai bydwreigiaeth fu&#8217;r dirgelwch yn fy mywyd ac nid y nodwedd fwyaf amlwg amdanaf. Mewn ffordd, hoffwn pe gallwn fod yn fydwraig nes ymddeol, ond rydw i wedi dod i&#8217;r casgliad y byddaf ond yn hapus ac yn fodlon yn fy ngyrfa os gallaf fod yn greadigol, mewn diwydiant creadigol, a pharhau i chwilio am gyfleoedd newydd a chyffrous ar gyfer datblygiad proffesiynol. Dwi wastad wedi mwynhau cael newid a mentro i feysydd eraill!<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ymddangosodd un o fy sioeau cyntaf yn ddamweiniol ar Mixcloud yn ddiweddar, a fy ymateb cyntaf oedd teimlo cywilydd ac eisiau ei ddileu. Yna, fe wnes i stopio. Fyddwn i ddim lle rydw i nawr pe na bawn i wedi magu&#8217;r dewrder a bod yn fodlon mentro a recordio&#8217;r sioe gyntaf honno. Yr unig beth dwi\u2019n difaru yw na wnes i hyn yn gynt!<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Felly, dyma gymhelliant dydd Llun. Os ydych chi eisiau gwneud rhywbeth &#8216;anghonfensiynol&#8217; ond yn ofni dechrau arni \u2013 peidiwch \u00e2 bod! Os oes gennych yr angerdd, byddwch chi&#8217;n dysgu, yn tyfu ac yn cael eich synnu gyda&#8217;ch cyflawniadau. Ni fyddwch wedyn yn pendroni beth allai fod wedi digwydd? Dechrau arni a bydd popeth arall yn dilyn.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Lizzie? Gallwch ddilyn ei gyrfa ar <\/em><\/strong><a href=\"http:\/\/www.lizzieromain.co.uk\/\"><strong><em>ei gwefan<\/em><\/strong><\/a><strong><em> a chysylltu \u00e2 hi ar Gyswllt Caerdydd. <\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&nbsp;<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong><strong>Dywedwch wrthym beth sy&#8217;n bwysig i chi\u00a0<\/strong><\/strong><\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong><strong>Rydym wedi cyflwyno \u2018I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr\u2019\u00a0gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal \u00e2 chi! Byddem\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">wrth ein bodd yn clywed gennych\u00a0i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau<\/a> neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw&#8217;r stori! Edrychwch ar ein\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhestr lawn o erthyglau<\/a>, a gwyliwch ein\u00a0<a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cardiff-connect\/for-alumni-by-alumni\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhestr o <\/a><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cyswllt-caerdydd\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/?lang=cy\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ddigwyddiadau<\/a><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cardiff-connect\/for-alumni-by-alumni\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"> byw<\/a>\u00a0eto.\u00a0<\/strong><\/strong><\/strong><\/p>\r\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Lizzie Romain (BMid 2014) yn fydwraig mewn ysbyty mamolaeth preifat yn Llundain, ond mae hi bob amser wedi brwydro i gydbwyso ei gyrfa bydwreigiaeth gyda'i hochr greadigol. Ychydig cyn y cyfnod clo ym mis Mawrth 2020, ymunodd \u00e2'i gorsaf radio gymunedol leol yng Ngorllewin Llundain, a nawr yn 2022 mae'n mynd amdani ac yn pontio i yrfa lawn amser mewn darlledu.","protected":false},"author":1811,"featured_media":7404,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,202,170,203],"tags":[],"class_list":["post-7475","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7475","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7475"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7475\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10052,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7475\/revisions\/10052"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7404"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7475"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7475"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7475"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}