{"id":7337,"date":"2021-10-26T14:42:01","date_gmt":"2021-10-26T14:42:01","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=7337"},"modified":"2021-10-28T09:22:44","modified_gmt":"2021-10-28T09:22:44","slug":"meet-the-new-head-of-the-welsh-school-of-architecture","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2021\/10\/26\/meet-the-new-head-of-the-welsh-school-of-architecture\/","title":{"rendered":"Cwrdd \u00e2 Phennaeth newydd Ysgol Pensaern\u00efaeth Cymru"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em><strong><strong>Ym mis Awst 2021, cafodd yr Athro Juliet Davis ei phenodi yn Bennaeth Ysgol Pensaern\u00efaeth Cymru yn dilyn bron i ddeng mlynedd yn yr Ysgol. Sawl mis ar \u00f4l dechrau ei swydd newydd, mae&#8217;r Athro Davis yn rhannu&#8217;r hyn a&#8217;i harweiniodd i Gaerdydd, ei blaenoriaethau fel Pennaeth yr Ysgol, a&#8217;i huchelgais ar gyfer y dyfodol.<\/strong><\/strong><\/em><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Dywedwch wrthym am eich gyrfa a beth a&#8217;ch arweiniodd i Gaerdydd?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe wnes i astudio pensaern\u00efaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt, gan ddechrau fy ngyrfa ym 1992. Fel gyda&#8217;r rhan fwyaf o benseiri, fe wnes i radd gyntaf ac yna treulio cyfnod yn gweithio, ac yn ystod y cyfnod hwnnw cefais weithio ar ddau brosiect anhygoel gyda Phenseiri Stanton Williams \u2013 Banc Hadau&#8217;r Mileniwm ar gyfer Gerddi Kew ac adnewyddu Theatr Genedlaethol Frenhinol Denys Lasdun.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cwblheais ail ran fy addysg bensaern\u00efol yng Nghaergrawnt ym 1999, gan symud ymlaen i weithio i Eric Parry Architects yn Llundain. Tra oeddwn yno rhwng 1999 a 2006, roeddwn yn gweithio ar y stiwdios newydd ar gyfer Ysgol Gelf Wimbledon ac adfywio St. Martin-in-the-Fields.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ystod y cyfnod hwnnw, roeddwn yn byw yn nwyrain Llundain. Pan dorrodd y newyddion fod Gemau Olympaidd 2012 yn dod i Lundain, cefais fy nghyfareddu gan y potensial oedd gan y digwyddiad mega hwn i drawsnewid yr ardal. Gwnes gais am gyllid gan yr AHRC i gynnal ymchwil ddoethurol ar ymddangosiad ac addewid etifeddiaeth Olympaidd drefol, gan archwilio r\u00f4l a photensial dylunio trefol a phensaern\u00efol i sicrhau adfywio cynaliadwy. Cynhaliais yr ymchwil honno yn LSE Cities yn Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddol Llundain, gan gwblhau fy thesis, o&#8217;r enw &#8216;Urbanising the Event,&#8217; yn 2012. Yn y flwyddyn honno, dim ond mis ar \u00f4l fy viva, y daeth swydd i fyny ar gyfer Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roeddwn yn ymwybodol o Ysgol Pensaern\u00efaeth Cymru (WSA) drwy ei chyhoeddiadau, ei hymchwil a\u2019i statws cryf yn Nhablau&#8217;r Gynghrair ers peth amser. Roeddwn yn awyddus i gael cyflog eto ac yn barod am newid a her newydd ar \u00f4l blynyddoedd yn byw yn Llundain. Fe wnes i gais a chefais gynnig am swydd ym mis Mawrth 2012.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dros y naw mlynedd diwethaf, rydw i wedi cael fy nhrochi mewn addysgu, rheoli a chynnal ymchwil yn yr ysgol. Rydw i wedi dysgu ar raglenni israddedig ac \u00f4l-raddedig yr ysgol, yn rhedeg yr MArch ac MA Dylunio Trefol ac, yn fwyaf diweddar, wedi bod yn Gyfarwyddwr Addysgu \u00d4l-raddedig.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fodd bynnag, rydw i wedi parhau i wneud gwaith ymchwil ar Etifeddiaeth Olympaidd Llundain, a thros y tair blynedd diwethaf rydw i wedi bod yn gweithio ar lyfr sy&#8217;n agor maes ymchwil newydd \u2013 &#8216;Gofal a&#8217;r Ddinas: Moeseg Trefolaeth.\u2019 Mae hyn yn tynnu ar ymchwil ryngwladol a bydd yn cael ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Bryste ym mis Mawrth 2022.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sut mae\u2019r misoedd cyntaf fel Pennaeth yr Ysgol wedi bod?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae wedi bod yn gyfnos heriol ond gwerth chweil. Rwyf wedi elwa o ddyfnder y wybodaeth a ges i yn fy swydd fel Cyfarwyddwr PGT yr Ysgol, a thrwy\u2019r Coleg a\u2019r Brifysgol gyfan. Ond rydw i wedi gorfod dod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o ardaloedd newydd hefyd mewn cyfnod eithaf byr. Yn gyffredinol, rwy\u2019n teimlo ei bod yn anrhydedd cael fy mhenodi&#8217;n Bennaeth yr ysgol ac mae\u2019n fraint arwain Ysgol gystal ag Ysgol Pensaern\u00efaeth Cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sut mae&#8217;r Ysgol wedi ymdopi \u00e2&#8217;r pandemig?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r Ysgol wedi ymdopi&#8217;n rhagorol, o gofio bod COVID-19 wedi dod yr un pryd \u00e2 charfan fawr ar ein rhaglenni israddedig, a&#8217;r cyfnod mwyaf dwys o adnewyddu ein cartref, Adeilad Bute. Roedd yna adeg pan na allwn fod wedi dychmygu cynnig addysg dylunio y tu hwnt i\u2019r stiwdio a chyd-destun hyfforddiant 1:1 wyneb yn wyneb. Dangosodd ein staff allu i ymaddasu&#8217;n gyflym i&#8217;r angen i gefnogi myfyrwyr dylunio o bell a chynnal darlithoedd a seminarau mewn fformatau newydd. Fodd bynnag, cymerodd hyn lawer iawn o ymroddiad, ymrwymiad ac amser.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-medium\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/FBGVzCdX0AEkeJX-scaled.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"300\" height=\"225\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/FBGVzCdX0AEkeJX-300x225.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7327\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/FBGVzCdX0AEkeJX-300x225.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/FBGVzCdX0AEkeJX-1024x768.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/FBGVzCdX0AEkeJX-768x576.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/FBGVzCdX0AEkeJX-1536x1152.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/FBGVzCdX0AEkeJX-2048x1536.jpg 2048w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth yw eich gobeithion a&#8217;ch blaenoriaethau ar gyfer dyfodol yr Ysgol?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fy nod ar gyfer yr Ysgol yw cynnal ei statws uchel yn nhablau&#8217;r gynghrair, a&#8217;i henw da am addysgu ac ymchwil dylunio o ansawdd rhagorol. Rwy\u2019n ceisio pwysleisio pwysigrwydd amgylchedd dysgu lle gall penseiri ifanc ddatblygu eu creadigrwydd a dysgu wynebu sefyllfaoedd cymhleth yn hyderus, a meithrin dylunwyr cymdeithasol gyfrifol sydd \u00e2\u2019r gallu i greu newid. Byddaf hefyd yn gweithio i sicrhau bod pob aelod o&#8217;n t\u00eem yn cael cyfleoedd ar gyfer twf a datblygiad personol yn yr Ysgol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hoffwn weld WSA yn cael ei hadnabod fel Ysgol ragorol o ran sut y mae&#8217;n meithrin cydraddoldeb a chynhwysiant. Rwyf hefyd yn bwriadu annog cyfleoedd i gael effaith ar arferion dylunio a datblygu yng Nghymru ac yn rhyngwladol drwy ein haddysg a&#8217;n hymchwil.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-medium\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/WSA-03-Apr-2019-Bute-Workshop-Social-Media-Size-48.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"300\" height=\"200\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/WSA-03-Apr-2019-Bute-Workshop-Social-Media-Size-48-300x200.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7331\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/WSA-03-Apr-2019-Bute-Workshop-Social-Media-Size-48-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/WSA-03-Apr-2019-Bute-Workshop-Social-Media-Size-48-1024x683.jpg 1024w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/WSA-03-Apr-2019-Bute-Workshop-Social-Media-Size-48-768x512.jpg 768w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/WSA-03-Apr-2019-Bute-Workshop-Social-Media-Size-48-1536x1024.jpg 1536w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/WSA-03-Apr-2019-Bute-Workshop-Social-Media-Size-48.jpg 2047w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sut brofiad fydd gweithio gyda chymuned y cynfyfyrwyr yn y dyfodol yn eich barn chi?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy&#8217;n awyddus i feithrin Ysgol lle mae myfyrwyr yn teimlo eu bod yn perthyn. Bydd hynny\u2019n golygu eu bod yn teimlo&#8217;n rhan o gymuned sy&#8217;n esblygu&#8217;n barhaus. Rwy\u2019n gobeithio y bydd ein cyn-fyfyrwyr yn dymuno cadw mewn cysylltiad \u00e2 ni, i&#8217;n helpu i hyrwyddo&#8217;r Ysgol yn rhyngwladol, ac i ddychwelyd i rannu eu profiadau a&#8217;u gwybodaeth gyda\u2019r staff a\u2019r myfyrwyr presennol.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-medium\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/Fieldtrip.154435.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"300\" height=\"200\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/Fieldtrip.154435-300x200.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7329\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/Fieldtrip.154435-300x200.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/Fieldtrip.154435.jpg 580w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth yw eich hoff bethau am Gaerdydd?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ymhlith fy hoff bethau am Gaerdydd mae ansawdd yr aer a harddwch y mannau awyr agored. Mae parciau&#8217;r ddinas yn wych. Rwyf hefyd wrth fy modd gyda\u2019r golygfeydd gwych a\u2019r tirwedd amrywiol sydd mor agos \u2013 o Arfordir Treftadaeth Morgannwg i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Un o&#8217;r pethau, yn ei dro, rydw i wedi&#8217;i werthfawrogi fwyaf am y Brifysgol yw ei hymrwymiad i gynwysoldeb a chefnogaeth i mi fel aelod o\u2019r gymuned LGTBQ ac fel academydd benywaidd wrth i mi ddatblygu fy ngyrfa.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">.<br><\/p>\n\n\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ym mis Awst 2021, cafodd Dr Juliet Davis ei phenodi yn Bennaeth Ysgol Pensaern\u00efaeth Cymru yn dilyn bron i ddeng mlynedd yn yr Ysgol. Sawl mis ar \u00f4l dechrau ei swydd newydd, mae'r Athro Davis yn rhannu'r hyn a'i harweiniodd i Gaerdydd, ei blaenoriaethau fel Pennaeth yr Ysgol, a'i huchelgais ar gyfer y dyfodol.","protected":false},"author":904,"featured_media":7348,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170],"tags":[],"class_list":["post-7337","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7337","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7337"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7337\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7353,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7337\/revisions\/7353"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7348"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7337"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7337"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7337"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}