{"id":7313,"date":"2021-10-20T08:12:35","date_gmt":"2021-10-20T08:12:35","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=7313"},"modified":"2024-10-08T12:44:15","modified_gmt":"2024-10-08T12:44:15","slug":"gwerth-gradd-yn-y-dyniaethau-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2021\/10\/20\/gwerth-gradd-yn-y-dyniaethau-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Gwerth gradd yn y dyniaethau \u2013 I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr"},"content":{"rendered":"\r\n<div class=\"wp-block-image\">\r\n<figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/Tim-edited-image.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"925\" height=\"606\" class=\"wp-image-7310\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/Tim-edited-image.jpg\" alt=\"\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/Tim-edited-image.jpg 925w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/Tim-edited-image-516x338.jpg 516w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/Tim-edited-image-300x197.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/10\/Tim-edited-image-768x503.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 925px) 100vw, 925px\" \/><\/a><\/figure>\r\n<\/div>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Tim Edwards (BA 2005, MA 2007) yw Prif Swyddog Marchnata QS Quacquarelli Symonds. Nid oedd llwybr ei yrfa wedi&#8217;i bennu ymlaen llaw ac nid oedd ganddo unrhyw syniad beth oedd am ei wneud pan gyrhaeddodd y campws yn fyfyriwr crefydd a diwinyddiaeth. Mae&#8217;n esbonio sut gwnaeth astudio gradd yn y dyniaethau gynnig cyfoeth o brofiadau newydd, gyrfa lwyddiannus, a hyder gydol oes yn y sgiliau a ddysgodd ym Mhrifysgol Caerdydd.\u00a0<\/em><\/strong>\u00a0<\/em><\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y tro cyntaf y gofynnwyd i mi am fy nyheadau gyrfa oedd ym mis Hydref 2002. Rwy&#8217;n ei gofio&#8217;n glir, mewn digwyddiad croesawu myfyrwyr yn Adeilad y Dyniaethau ger Rhodfa Colum.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Does dim llwybr gyrfa penodol gen i,&#8221; dywedais yn hyderus, yng nghanol ficeriaid dan hyfforddiant.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ni wnaeth y syniad o fynd i\u2019r weinidogaeth erioed groesi fy meddwl, am lawer o resymau.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn yr un modd, nid oedd gennyf unrhyw awydd i addysgu addysg grefyddol.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Felly, beth yw dy gynllun?&#8221; \u2013 gofynnodd fy nghariad ar y pryd, ac sydd bellach yn wraig ers pedair blynedd ar ddeg.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fy ymateb oedd, &#8220;Duw a \u0175yr!&#8221;\u00a0\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pan ddewisais astudio&#8217;r dyniaethau, yn enwedig hanes a chrefydd, fe&#8217;i dewisais yn union am nad oeddwn yn gwybod pa yrfa i\u2019w dilyn. Doeddwn i ddim am ddysgu&#8217;r sgiliau mwyaf amlwg er mwyn chwilio am swydd, ond roeddwn i&#8217;n gwybod fy mod am ymgolli yn y byd academaidd. Dechreuais feddwl am rai o gwestiynau pwysicaf bywyd yn y gobaith y byddai\u2019r hyn y byddwn yn ei ddysgu yn fy helpu i ddod o hyd i swydd a fyddai\u2019n talu cyflog imi ryw ddydd.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Beth fyddai fy swydd? Doedd gen i ddim syniad. Doedd dim brys \u2013 roeddwn i&#8217;n paratoi fy hun ac yn paratoi ar gyfer fy nyfodol. Doeddwn i ddim yn gwybod\u00a0<em>sut<\/em>\u00a0roeddwn i&#8217;n mynd i ddefnyddio&#8217;r hyn roeddwn i&#8217;n ei ddysgu, neu&#8217;n hytrach \u2013\u00a0<em>sut<\/em>\u00a0roeddwn i&#8217;n dysgu. Ar \u00f4l diwallu fy anghenion cynhaliaeth sylfaenol, roedd y celfyddydau a&#8217;r dyniaethau&#8217;n cwmpasu&#8217;r holl bethau hynny a oedd, i mi, yn gwneud bywyd yn werth ei fyw.\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy&#8217;n defnyddio&#8217;r pethau a ddysgais yn ystod fy astudiaethau yng Nghaerdydd bob dydd. Ar un olwg ac yn seiliedig ar waith ddylunio pwrpasol i raddau helaeth, cefais fy nysgu sut i feddwl yn feirniadol mewn amgylchedd academaidd trylwyr a diffiniol. Ond beth wnes i ei ddysgu mewn gwirionedd oedd sut i ofyn y cwestiynau cywir, sut i wneud penderfyniadau gwybodus, sut i gysylltu a gweld pethau mewn ffyrdd na all pobl eraill, a sut i gwestiynu rhagdybiaethau.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Meddwl yn feirniadol, gwrando&#8217;n ofalus, siarad yn glir ac ysgrifennu mewn modd argyhoeddiadol; pob un yn sgil hanfodol mewn ystafell bwrdd. Ar ben hynny, ni ddylid diystyru dylunio a meddwl yn greadigol, yn ogystal \u00e2 chyfuniad amlddisgyblaethol sy&#8217;n ystyried potensial ac anghenion dynol.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mewn unrhyw sector neu r\u00f4l sy&#8217;n canolbwyntio ar bobl, mae&#8217;r gallu i gyfathrebu&#8217;n effeithiol, yn hyderus a meddwl yn eglur, yn sgiliau gwerthfawr iawn \u2013 fel yn Silicon Valley.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n wir y gall y dyniaethau eich paratoi \u00e2 sgiliau trosglwyddadwy. Nid wyf yn ystyried fy hun yn rhywun sy\u2019n defnyddio fy sgiliau yma ac acw (sef neges anfwriadol trosglwyddo sgiliau), ond yn hytrach, yn weithiwr proffesiynol busnes rhesymegol. Rwy&#8217;n dod \u00e2 barn cydweithwyr ag arbenigedd ynghyd ac yn gweithio gyda nhw i ddod o hyd i ateb.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r gallu hwn i fod yn hwylusydd ac arweinydd, i mi, yn dangos gwir werth gradd yn y dyniaethau a pham mai&#8217;r sefydliadau gorau yw&#8217;r rhai sy&#8217;n sylweddoli bod angen sgiliau graddedigion y dyniaethau ar weithle modern i ategu gwaith y rhai sydd \u00e2 graddau galwedigaethol neu arbenigol. Yn fy r\u00f4l yn Brif Swyddog Marchnata, yn ddyddiol mae angen i mi gyfosod arbenigedd dwfn y rhai sy&#8217;n arbenigwyr marchnata, datblygwyr ochr flaen, dylunwyr graffig, a gweithwyr proffesiynol cysylltiadau cyhoeddus, ymysg eraill.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Diolch byth, tra roeddwn yn brysur yn dysgu ieithoedd hynafol yng Nghaerdydd, cefais amser i weithio\u2019n rhan-amser yn Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol. Nid oeddwn yn sylweddoli y byddai pacio prosbectysau mewn blychau ar gyfer arddangosfeydd tramor i ddenu myfyrwyr rhyngwladol yn newid fy mywyd am byth, ac yn rhoi cyfoeth o gyfleoedd i mi deithio&#8217;r byd (86 o wledydd a mwy). Er na wnes i fynd yn syth o bacio blychau i bacio fy ngh\u00eas, ond fe wnaeth y profiad hwn agor drysau a fy nghyflwyno i sector rwy\u2019n angerddol iawn amdano &#8211; addysg uwch ryngwladol. Dyma\u2019r astudiaethau israddedig a graddedig yn y dyniaethau a wnaeth fy mharatoi i fod yn llwyddiannus.\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Felly, er nad wyf wedi defnyddio fy hen Roeg, Lladin nac Hebraeg yn fy nghyfarfodydd arwain gweithredol &#8211; rwy&#8217;n defnyddio&#8217;r hyn\u00a0<em>a ddysgais<\/em>\u00a0wrth astudio yng Nghaerdydd bob dydd yn fy mywyd proffesiynol.\u00a0\u00a0\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong><strong>Dywedwch wrthym beth sy&#8217;n bwysig i chi\u00a0<\/strong><\/strong><\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong><strong>Rydym wedi cyflwyno \u2018I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr\u2019\u00a0gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal \u00e2 chi! Byddem\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">wrth ein bodd yn clywed gennych\u00a0i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau<\/a> neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw&#8217;r stori! Edrychwch ar ein\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhestr lawn o erthyglau<\/a>, a gwyliwch ein\u00a0<a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cardiff-connect\/for-alumni-by-alumni\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhestr o <\/a><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cyswllt-caerdydd\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/?lang=cy\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ddigwyddiadau<\/a><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cardiff-connect\/for-alumni-by-alumni\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"> byw<\/a>\u00a0eto.\u00a0<\/strong><\/strong><\/strong><\/p>\r\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Tim Edwards (BA 2005, MA 2007) yw Prif Swyddog Marchnata QS Quacquarelli Symonds. Nid oedd llwybr ei yrfa wedi'i bennu ymlaen llaw ac nid oedd ganddo unrhyw syniad beth oedd am ei wneud pan gyrhaeddodd y campws yn fyfyriwr crefydd a diwinyddiaeth. Mae'n esbonio sut gwnaeth astudio gradd yn y dyniaethau gynnig cyfoeth o brofiadau newydd, gyrfa lwyddiannus, a hyder gydol oes yn y sgiliau a ddysgodd ym Mhrifysgol Caerdydd.  ","protected":false},"author":904,"featured_media":7310,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,202,170,203],"tags":[],"class_list":["post-7313","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7313","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7313"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7313\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10054,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7313\/revisions\/10054"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7310"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7313"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7313"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7313"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}