{"id":7292,"date":"2021-09-28T15:18:23","date_gmt":"2021-09-28T15:18:23","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=7292"},"modified":"2021-09-28T15:17:53","modified_gmt":"2021-09-28T15:17:53","slug":"dod-yn-ol-i-gaerdydd-er-mwyn-helpu-i-adeiladu-ei-ddyfodol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2021\/09\/28\/dod-yn-ol-i-gaerdydd-er-mwyn-helpu-i-adeiladu-ei-ddyfodol\/","title":{"rendered":"Dod yn \u00f4l i Gaerdydd er mwyn helpu i adeiladu ei ddyfodol"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/James-Kelly-3-pic-main-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"500\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/James-Kelly-3-pic-main-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7238\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/James-Kelly-3-pic-main-1.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/James-Kelly-3-pic-main-1-300x150.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/James-Kelly-3-pic-main-1-768x384.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Mae James Kelly (MEng 2017) yn gynfyfyriwr peirianneg a aeth o astudio yn adeiladau&#8217;r Brifysgol, i adeiladu rhai newydd sbon fel rheolwr adeiladu. Daeth yn \u00f4l rhwng 2019 a 2021 er mwyn helpu i adeiladu &#8216;Abacws&#8217;, yr adeilad cyfrifiadureg a gwybodeg newydd, ac adeilad mathemateg. Wrth iddo ddychwelyd i&#8217;r campws, fe wynebodd heriau ond roedd yn llawn balchder a chyffro.<\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Oeddech chi bob amser eisiau gweithio yn y diwydiant peirianneg?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Oeddwn, fy mwriad bob amser oedd gweithio mewn peirianneg sifil a dyna oedd fy nghynllun yn ystod fy astudiaethau Safon Uwch. Roeddwn i eisiau dilyn y trywydd contractio ac roeddwn i&#8217;n hoffi&#8217;r syniad o fod tu allan a bod &#8216;ar lawr gwlad&#8217;, yn lle bod yn beiriannydd yn y swyddfa.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Pam y gwnaethoch chi ddewis astudio ym Mhrifysgol Caerdydd?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y ddinas ei hun wnaeth fy nenu i&#8217;r Brifysgol. Roeddwn i wedi cael rhai nosweithiau allan yna gyda ffrindiau ac wedi cael teimlad da amdani, ac roeddwn i&#8217;n hoffi bod y campws wedi&#8217;i wasgaru dros y ddinas. Roeddwn i&#8217;n hoffi&#8217;r cyfleusterau peirianneg hefyd, felly roedd yn dipyn o bopeth! Gall prifysgolion da fod yn debyg iawn felly weithiau mae&#8217;n ymwneud yn fwy \u00e2&#8217;r math o deimlad rydych chi&#8217;n ei gael pan rydych chi yno.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Oes gennych chi unrhyw atgofion melys neu ddoniol o&#8217;ch cyfnod fel myfyriwr?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/FB_IMG_1631646528605.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/FB_IMG_1631646528605.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7177\" width=\"310\" height=\"174\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/FB_IMG_1631646528605.jpg 720w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/FB_IMG_1631646528605-300x169.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/FB_IMG_1631646528605-70x40.jpg 70w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/FB_IMG_1631646528605-170x96.jpg 170w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/FB_IMG_1631646528605-270x152.jpg 270w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/FB_IMG_1631646528605-370x208.jpg 370w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/FB_IMG_1631646528605-570x320.jpg 570w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/FB_IMG_1631646528605-670x376.jpg 670w\" sizes=\"auto, (max-width: 310px) 100vw, 310px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fy hoff atgof oedd chwarae i IMG Varsity am ddwy flynedd a bod yn gapten iddynt pan guron ni Abertawe 2-0. Gwnaethon ni chwarae i lawr ym Mhontcanna ac roedd hi&#8217;n awyrgylch anhygoel gyda channoedd o gefnogwyr yn gwylio. Hefyd, cefais amser gwych yn chwarae i&#8217;r t\u00eem p\u00eal-droed peirianneg a fi oedd y llywydd yn fy nwy flynedd olaf.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Cafodd unrhyw staff yn yr adran peirianneg effaith gadarnhaol ar eich amser fel myfyriwr?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae rhai darlithwyr yn sefyll allan, fel yr Athro Alan Kwan. Roedd y ffordd roedd yn dysgu yn dda iawn ac roeddwn i bob amser yn cofio ei ddarlithoedd. Roedd yr Athro Tony Jefferson yn wych hefyd. Yn ein pedwaredd flwyddyn o astudio aethon ni i Ddulyn ac aethon ni o amgylch ffatri Guinness i edrych ar y gwaith peirianneg. Rydych chi wir yn cael cyfle i fondio gyda&#8217;ch blwyddyn a&#8217;r darlithwyr felly roedd hynny&#8217;n brofiad da hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Sut gwnaeth y cwrs eich paratoi ar gyfer bywyd fel peiriannydd neu ar gyfer rheoli t\u00eem?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwnes i flwyddyn mewn diwydiant, felly roedd yn radd pum mlynedd i gyd, ond roedd y flwyddyn honno mewn diwydiant yn gwbl hanfodol. Ar ddiwedd y cyfnod mae gennych chi radd a blwyddyn o brofiad, ac rydych yn gwybod beth i&#8217;w wneud, sut i weithredu a sut i gyflwyno&#8217;ch hun ym maes adeiladu a pha sgiliau sydd eu hangen arnoch chi. Mae wir yn rhoi blas i chi o sut brofiad yw bod yn beiriannydd ac rydych chi&#8217;n dysgu llawer. Mae&#8217;n eich helpu chi yn eich trydedd, pedwaredd a&#8217;ch pumed flwyddyn i wir fireinio&#8217;r sgiliau hynny. Ar yr ochr arall, efallai y byddech chi&#8217;n mynd allan fel contractwr sy&#8217;n gweithio ar y safle ac efallai y byddech chi&#8217;n ei gas\u00e1u, ond yna gallwch chi ailasesu&#8217;ch dewis o yrfa hefyd. Yn y pen draw, fe helpodd fi i gadarnhau mai dyma oedd beth roeddwn i eisiau ei wneud.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Beth yw eich meddyliau am ddychwelyd i gampws Caerdydd, fel gweithiwr proffesiynol?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roeddwn i&#8217;n gyffrous. Hwn oedd fy amser cyntaf yn \u00f4l ers gadael y brifysgol. Roedd y safle tafliad carreg o&#8217;r lle roeddwn i&#8217;n byw fel myfyriwr yn Cathays. Mae&#8217;n braf bod yn \u00f4l ac mae yna wir ymdeimlad o falchder. Mae&#8217;r Brifysgol yn eich llywio chi, ac yna rydych chi&#8217;n mynd allan i&#8217;r byd, ac yna byddwch chi&#8217;n dychwelyd fel rheolwr adeiladu yn barod i ymgymryd \u00e2&#8217;r her hon a gwneud rhywbeth i&#8217;r Brifysgol. Ac mae&#8217;r manteision y bydd adeilad cyfrifiadureg a mathemateg newydd yn eu cynnig yn anhygoel, a bydd llawer o fyfyrwyr yn elwa ohono. Rwy&#8217;n teimlo&#8217;n falch iawn, yn enwedig gan fod gen i gysylltiad personol \u00e2&#8217;r Brifysgol.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/James-at-site.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/James-at-site.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7184\" width=\"173\" height=\"246\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/James-at-site.jpg 352w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/James-at-site-211x300.jpg 211w\" sizes=\"auto, (max-width: 173px) 100vw, 173px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Beth oedd eich r\u00f4l wrth adeiladu&#8217;r adeilad newydd?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fi yw&#8217;r rheolwr adeiladu. Goruchwyliais yr holl ffas\u00e2d, yr is-strwythur a&#8217;r uwch-strwythur, sef strwythur cyfan y yn y b\u00f4n yn ogystal \u00e2&#8217;r holl waith allanol. Roedd yn heriol iawn oherwydd pa mor dynn oedd y safle, mae ganddo \u00f4l troed bach iawn. Mae&#8217;n anhygoel sefyll yn \u00f4l ac edrych ar yr adeilad a meddwl fy mod wedi cyfrannu at hynny.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>A oedd unrhyw heriau y bu&#8217;n rhaid i chi eu hwynebu neu eu goresgyn fel rhan o&#8217;r prosiect hwn?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd yn hollol wallgof ar y dechrau &#8211; doeddech chi ddim yn gwybod a oeddech chi&#8217;n dod neu&#8217;n mynd gyda rheolau a rheoliadau&#8217;r pandemig! Roeddem yn ffodus na fu&#8217;n rhaid i ni gau&#8217;r safle erioed. Pan ddechreuodd y pandenig ym mis Mawrth y llynedd, dim ond tua 25 oedd gennym fel gweithwyr ar y safle, roeddem ar y cam gwaith sylfaenol. Llwyddon ni i gadw pellter cymdeithasol ond pe bai wedi dod blwyddyn yn ddiweddarach, pan oedd yr adeilad yn gaeedig a bod gennym 100 o bobl ar y safle, ni fyddem wedi cael unrhyw ddewis ond cau i lawr. Ond fe lwyddon ni i weithredu mesurau wrth i ni fynd ymlaen. Gwnaethon ni gwblhau ardal yn gynnar er mwyn i ni allu defnyddio&#8217;r gofod ffreutur y tu mewn i&#8217;r adeilad. Ar ein prysuraf roedd gennym tua 160 o weithwyr ar y safle. Cadw pellter cymdeithasol oedd yr her fwyaf gan fod y safle dynn ond gwnaethon ni reoli hyn yn dda gan gadw pawb yn ddiogel. Roedd yn rhaid i ni hefyd gynnal mynediad i Undeb y Myfyrwyr a&#8217;u holl ddanfoniadau. Felly, yn rhesymegol roedd hynny&#8217;n eithaf heriol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Wnaethoch chi weld unrhyw wynebau cyfarwydd?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dechreuodd y prosiect hwn ym mis Medi 2019 ac fe wnes i ymgysylltu \u00e2&#8217;r adran peirianneg a mentora ychydig o fyfyrwyr. Es i i gwpl o ddarlithoedd gwadd hefyd ond yna wrth i&#8217;r pandemig fynd yn ei flaen daeth y pethau hyn i ben.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Sut brofiad oedd mentora myfyrwyr cyfredol?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/James-football.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/James-football.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7181\" width=\"200\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/James-football.jpg 500w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/James-football-300x300.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/James-football-150x150.jpg 150w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/James-football-100x100.jpg 100w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/James-football-40x40.jpg 40w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/James-football-200x200.jpg 200w\" sizes=\"auto, (max-width: 200px) 100vw, 200px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd yn dda iawn. Pan oeddwn yn mentora&#8217;r myfyrwyr, roeddwn i&#8217;n mynd \u00e2 nhw allan ac yn dangos iddyn nhw beth roedden ni&#8217;n gweithio arno a&#8217;i drafod gyda nhw.<br><br>Mae mentora myfyrwyr prifysgol yn wych oherwydd eu bod nhw&#8217;n gwybod beth maen nhw eisiau, mae ganddyn nhw nod ac maen nhw&#8217;n gwybod beth maen nhw eisiau ei wneud. Mae ganddyn nhw awydd a diddordeb mawr ac maen nhw&#8217;n gofyn cwestiynau diddorol da, ac roeddwn i&#8217;n gallu eu hateb yn iawn. Mae&#8217;n bendant yn rhywbeth y byddwn i&#8217;n ei wneud eto.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Os gallech chi ddychwelyd i&#8217;r campws nawr fel myfyriwr beth yw&#8217;r lle cyntaf y byddech chi&#8217;n mynd iddo a pham?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dwi wrth fy modd efo&#8217;r gampfa, felly byddwn i&#8217;n mynd yno si\u0175r o fod! Roedd y cyfleusterau yn y gampfa yn anhygoel. Neu byddwn i si\u0175r o fod yn mynd lawr i&#8217;r caeau ac yn chwarae p\u00eal-droed eto, gyda&#8217;r t\u00eem peirianneg. Roeddwn i wrth fy modd yn gwneud hynny. Fel y gallwch ddyfalu si\u0175r o fod, rydw i wrth fy modd \u00e2 chwaraeon a phopeth sy&#8217;n ymwneud ag ef. Gweithiais mor galed wrth astudio fy ngradd, ond roedd angen cyfle i mi ddianc sef y gampfa neu&#8217;r caeau p\u00eal-droed. Roedd y ddau beth hynny&#8217;n rhan fawr o fy mhum mlynedd yn y brifysgol \u2013 yn adolygu, yn chwarae p\u00eal-droed, yn mynd i ddarlithoedd, yn chwarae mwy o b\u00eal-droed!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae James Kelly (MEng 2017) yn gynfyfyriwr peirianneg a aeth o astudio yn adeiladau'r Brifysgol, i adeiladu rhai newydd sbon fel rheolwr adeiladu. Daeth yn \u00f4l rhwng 2019 a 2021 er mwyn helpu i adeiladu 'Abacws', yr adeilad cyfrifiadureg a gwybodeg newydd, ac adeilad mathemateg. Wrth iddo ddychwelyd i'r campws, fe wynebodd heriau ond roedd yn llawn balchder a chyffro. ","protected":false},"author":1811,"featured_media":7172,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170,203],"tags":[],"class_list":["post-7292","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7292","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7292"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7292\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7293,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7292\/revisions\/7293"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7172"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7292"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7292"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7292"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}