{"id":7273,"date":"2021-09-22T13:02:58","date_gmt":"2021-09-22T13:02:58","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=7273"},"modified":"2021-09-22T13:02:41","modified_gmt":"2021-09-22T13:02:41","slug":"rhedwyr-marathon-llundain-timcaerdydd-yn-codi-arian-i-ymchwil-ym-mhrifysgol-caerdydd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2021\/09\/22\/rhedwyr-marathon-llundain-timcaerdydd-yn-codi-arian-i-ymchwil-ym-mhrifysgol-caerdydd\/","title":{"rendered":"Rhedwyr Marathon Llundain #T\u00eemCaerdydd yn codi arian i ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/miguel-a-amutio-QDv-uBc-poY-unsplash.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"546\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/miguel-a-amutio-QDv-uBc-poY-unsplash.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7261\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/miguel-a-amutio-QDv-uBc-poY-unsplash.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/miguel-a-amutio-QDv-uBc-poY-unsplash-600x328.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/miguel-a-amutio-QDv-uBc-poY-unsplash-300x164.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/miguel-a-amutio-QDv-uBc-poY-unsplash-768x419.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Marathon Llundain yw un o ddigwyddiadau rhedeg mwyaf poblogaidd y byd ac mae&#8217;n codi miliynau i elusennau bob blwyddyn. Ar \u00f4l cael ei ohirio yn 2020, mae&#8217;r byd yn fwy awyddus nag erioed i fwynhau\u2019r digwyddiad eleni a gynhelir ddydd Sul 3 Hydref 2021. Gydag ond ychydig o wythnosau ar \u00f4l i hyfforddi, mae rhedwyr #T\u00eemCaerdydd eleni yn ymateb i\u2019r her.<\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong><strong>Dewch i gwrdd \u00e2: Nic Clarke<\/strong><\/strong><\/h3>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/Nic-edit-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/Nic-edit-1.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7256\" width=\"248\" height=\"330\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/Nic-edit-1.jpg 375w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/Nic-edit-1-225x300.jpg 225w\" sizes=\"auto, (max-width: 248px) 100vw, 248px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nic Clarke yw Rheolwr Gweithredu Canolfan Ymchwil Canser Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd le ym Marathon Llundain drwy&#8217;r balot ac mae wedi dewis codi arian ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, a chanser ym Mhrifysgol Caerdydd, a\u2019i ddewis elusen arall, Movember.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Beth oedd wedi eich ysbrydoli i redeg Marathon Llundain ar gyfer ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gen i flog o&#8217;r enw <a href=\"https:\/\/www.1small-step.com\/\">1 small-step<\/a>, y dechreuais ei ysgrifennu pan roeddwn i&#8217;n gwella ar \u00f4l wynebu problemau iechyd meddwl fy hun. Sylweddolais i fod rhaid imi reoli fy mywyd drwy wneud un peth yn wahanol, drwy gymryd yr un cam bach hwnnw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Marathon Llundain bob amser yn rhywbeth roeddwn i wedi meddwl cymryd rhan ynddo. Mae&#8217;n ddoniol \u2013 dwi&#8217;n gwybod cymaint am logisteg rasys, a minnau\u2019n sefyll ar y llinell derfyn fel trefnydd digwyddiadau rhedeg ers blynyddoedd, ond y gwir amdani nad ydw i erioed wedi cymryd rhan mewn ras o&#8217;r blaen. Fues i ddim yn rhedeg yn ystod 50 mlynedd gyntaf fy mywyd!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid oedd yn anodd iawn imi ddewis cefnogi achos lleol ochr yn ochr \u00e2 Movember, lle rwy&#8217;n llysgennad iechyd meddwl. Gan wybod y gallai&#8217;r arian y byddwn i\u2019n ei godi ar gyfer y Brifysgol gael ei gyfeirio tuag at ymchwil niwrowyddoniaeth, iechyd meddwl a chanser, dyna imi oedd y dewis perffaith ar gyfer y gwaith o godi arian.\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Sut mae\u2019r hyfforddiant yn dod ymlaen? <\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae fy mywyd fel pe bai\u2019n yn troi o amgylch rhedeg, meddwl am redeg, tanwydd ar gyfer rhedeg, deall y logisteg, felly mae wedi mynd \u00e2 llawer iawn o fy amser i. Mae trefnwyr Marathon Llundain wedi rhoi llawer o gefnogaeth imi ac mae nhw wedi bod yn anfon negeseuon rheolaidd cyn y digwyddiad ei hun. Y cerrig milltir hynny a dod yn nes at ddiwedd fy nghynllun hyfforddi sy&#8217;n fy nghadw ar y ddaear.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Sut aethoch chi ati i godi arian? <\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae yna lawer o weithgareddau codi arian clasurol o hyd sy&#8217;n cael eu gwahardd o dan reoliadau COVID-19, ond trefnais i lotri ar gyfer pencampwriaeth yr Ewros a ohiriwyd ac ar hyn o bryd rydw i&#8217;n cynnal raffl sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Beth sy&#8217;n eich cymell yn ystod cyfnod hir o redeg? <\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bwyd! Mae fy meddwl bob tro\u2019n troi&#8217;n anochel at fwyd ac ar \u00f4l rhedeg am gyfnod hir, mae angen mwy o danwydd! Rwyf i hefyd yn gwrando ar bodlediadau ac yn ceisio tynnu sylw fy ymennydd oddi ar y rhedeg.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Beth ydych chi\u2019n edrych ymlaen ato fwyaf ar ddiwrnod y ras?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Alla i ddim aros i groesi&#8217;r llinell derfyn ar \u00f4l gweld miloedd o bobl yn ei wneud pan oeddwn i&#8217;n drefnydd yn hytrach nag yn gyfranogwr, a\u2019r tro hwn, fi fydd yn ei wneud! Rwyf i&#8217;n awyddus i allu mwynhau\u2019r golygfeydd, y bobl, y bloeddio a&#8217;r gerddoriaeth ac rwyf i am wneud yn si\u0175r fod gen i ddigon o egni ar y diwedd i gael llun ohonof yn w\u00ean o glust i glust wrth groesi&#8217;r llinell derfyn!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Pa gyngor sydd gennych chi i bobl sydd eisiau cofrestru ar gyfer her megis rhedeg marathon?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy\u2019n meddwl bod yr heriau pellter hir pan fyddwch chi\u2019n rhedeg ychydig o filltiroedd bob dydd yn wych i gymell rhywun, yn enwedig cyn i\u2019r digwyddiadau corfforol ddychwelyd. Rwy wedi gwneud her rithwir Llwybr Arfordirol Cymru yn ogystal \u00e2 Llwybr Rhithwir 66.\u00a0<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pan fydda i\u2019n croesi&#8217;r llinell derfyn honno ar 3 Hydref, bydda i\u2019n gwybod fy mod wedi cyrraedd pen y daith \u2013 os na fydda i byth yn cael lle ar gyfer marathon Lundain byth eto, mae hynny&#8217;n iawn. Ond rwy eisoes yn chwilio am y peth nesaf. Wrth gwrs, gan fy mod wedi byw yng Nghaerdydd y rhan fwyaf o fy mywyd, bydd yn rhaid imi redeg <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/donate\/fundraise-for-cardiff-university\/run-the-cardiff-half-marathon\">Hanner Marathon Caerdydd<\/a>rywbryd!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallwch chi gefnogi taith Marathon Nic drwy gyfrannu at ei dudalen ar <a href=\"https:\/\/uk.virginmoneygiving.com\/fundraiser-display\/showROFundraiserPage?userUrl=NicClarke1small-step&amp;pageUrl=1\">Virgin Money Giving<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong><strong>Dewch i gwrdd \u00e2: Ed Wilson (Meddygaeth 2017-)<\/strong><\/strong><\/h3>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/Ed-Wilson-Marathon-3-edit.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/Ed-Wilson-Marathon-3-edit.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7164\" width=\"229\" height=\"329\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/Ed-Wilson-Marathon-3-edit.jpg 348w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/Ed-Wilson-Marathon-3-edit-209x300.jpg 209w\" sizes=\"auto, (max-width: 229px) 100vw, 229px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Ed Wilson yn ei bedwaredd flwyddyn yn astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd le elusennol gyda Phrifysgol Caerdydd i redeg ym Marathon Llundain eleni ac mae wedi dewis codi arian ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Beth oedd wedi eich ysbrydoli i redeg Marathon Llundain ar gyfer ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y ras gyntaf imi ei rhedeg oedd <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/donate\/fundraise-for-cardiff-university\/run-the-cardiff-half-marathon\">Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd\/Caerdydd<\/a> yn 2018 ac roedd yn brofiad gwych. Dyna oedd y digwyddiad rhedeg cyntaf ar fy rhestr bersonol \u2013 yr ail oedd Marathon Llundain. Rwy wedi rhedeg dros ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd o&#8217;r blaen, felly dw i&#8217;n gwybod popeth am yr achos.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Sut mae\u2019r hyfforddiant yn dod ymlaen?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy i wedi bod yn defnyddio&#8217;r ap Run With Hal sydd wedi bod yn wych gan ei fod yn cydamseru \u00e2 fy watsh Garmin ac mae&#8217;n dda o ran sicrhau na fydda i\u2019n cystadlu \u00e2 phobl eraill. Rwy&#8217;n hoffi fy watsh redeg i gadw\u2019r cyflymder, ond mae\u2019n rhaid imi gofio nad yr efengyl yw hi, ac weithiau bydd gweld yr union bellter rwy wedi&#8217;i redeg yn fy nigalonni ac mae gen i gymaint i\u2019w redeg o hyd!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Sut aethoch chi ati i godi arian? <\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae fy ffrindiau a fy nheulu wedi bod yn wych o ran rhwydweithio \u00e2 nifer ehangach o bobl. Mae gen i dipyn o ffafrau o hyd y mae\u2019n rhaid imi fanteisio arnyn nhw! Mae wedi bod yn anos yn ystod y pandemig gan fy mod i\u2019n ymwybodol o reoliadau COVID-19 o ran trefnu gweithgareddau codi arian torfol. Gwych o beth yw meddwl faint o elusennau sy&#8217;n cael eu cefnogi gan redwyr Marathon Llundain ar yr un diwrnod &#8211; erbyn 2020, mae Marathon Llundain wedi codi \u00a31biliwn at achosion da sy&#8217;n anhygoel o beth erbyn meddwl!\u00a0 <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Beth sy&#8217;n eich cymell yn ystod cyfnod hir o redeg?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy&#8217;n gwrando ar bodlediadau gwirion oherwydd mae&#8217;n rhaid iddo fod yn rhywbeth digon gwirion fel nad oes rhaid i mi wrando bob munud os wyf i&#8217;n canolbwyntio ar y rhedeg. Rwy&#8217;n mwynhau Off Menu gyda James Acaster ac rwy&#8217;n hoff iawn o griced felly rwy&#8217;n gwrando ar Tailenders sy&#8217;n bodlediad criced. Mae&#8217;n ddefnyddiol cael pobl yn siarad fel bod gennych chi gwmni ar y rhediadau hirach!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Beth ydych chi\u2019n edrych ymlaen ato fwyaf ar ddiwrnod y ras?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae llwybr y ras yn pasio cymaint o olygfeydd eiconig ond dwyf i ddim erioed wedi cerdded heibio iddyn nhw. Rwy&#8217;n edrych ymlaen at ddathlu gyda chwrw oer a byrgyr &#8211; pryd clasurol i ddathlu. Hefyd, peidio \u00e2 gorfod poeni am redeg am rai wythnosau! Rwyf i hefyd wedi gweld rhestr o&#8217;r holl bethau y gallwch chi eu cael drwy ddangos eich medal ar benwythnos y ras, felly bydda i&#8217;n mynd amdani &#8211; mae tua 20 o bethau am ddim y gallwch chi eu cael!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Pa gyngor sydd gennych chi i bobl sydd eisiau cofrestru ar gyfer her megis rhedeg marathon?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mynd amdani fyddwn i&#8217;n ei ddweud. Wedyn, gallwch chi feddwl am y penderfyniad a&#8217;r goblygiadau yn nes ymlaen! Mae cael y cyfle i wneud rhywbeth mor anhygoel fel Marathon Llundain wedi bod yn wych, felly mynd amdani yn ddi-os yw\u2019r hyn byddwn i\u2019n ei argymell.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gallwch chi gefnogi taith Marathon Ed trwy gyfrannu at ei dudalen <a href=\"https:\/\/uk.virginmoneygiving.com\/fundraiser-display\/showROFundraiserPage?userUrl=eds177&amp;pageUrl=3\">Virgin Money Giving<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Yn teimlo&#8217;n ysbrydoledig ac yn barod am her? Efallai ei bod yn rhy hwyr i gofrestru ar gyfer Marathon Llundain eleni, ond mae nifer gyfyngedig o leoedd ar \u00f4l o hyd i ymuno \u00e2 <\/em><\/strong><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/alumni\/get-involved\/fundraise-for-cardiff-university\/run-the-cardiff-half-marathon\"><strong><em>#T\u00eemCaerdydd yn Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd\/Caerdydd<\/em><\/strong><\/a><strong><em> ym mis Mawrth 2022. Digon o amser i ddechrau hyfforddi!<\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Marathon Llundain yw un o ddigwyddiadau rhedeg mwyaf poblogaidd y byd ac mae'n codi miliynau i elusennau bob blwyddyn. Ar \u00f4l cael ei ohirio yn 2020, mae'r byd yn fwy awyddus nag erioed i fwynhau\u2019r digwyddiad eleni a gynhelir ddydd Sul 3 Hydref 2021. Gydag ond ychydig o wythnosau ar \u00f4l i hyfforddi, mae rhedwyr #T\u00eemCaerdydd eleni yn ymateb i\u2019r her.","protected":false},"author":1811,"featured_media":7260,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[212,204,170],"tags":[],"class_list":["post-7273","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-teamcardiff-cy","category-donate-cy","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7273","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7273"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7273\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7281,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7273\/revisions\/7281"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7260"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7273"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7273"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7273"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}