{"id":7235,"date":"2021-09-16T12:46:43","date_gmt":"2021-09-16T12:46:43","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=7235"},"modified":"2024-04-11T08:02:10","modified_gmt":"2024-04-11T08:02:10","slug":"cwrdd-ar-ymchwilydd-oliver-scourfield-bsc-2018-msc-2020","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2021\/09\/16\/cwrdd-ar-ymchwilydd-oliver-scourfield-bsc-2018-msc-2020\/","title":{"rendered":"Cwrdd \u00e2&#8217;r Ymchwilydd \u2013 Oliver Scourfield (BSc 2018, MSc 2020)"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/MicrosoftTeams-image-15.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/MicrosoftTeams-image-15.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7213\" width=\"241\" height=\"321\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/MicrosoftTeams-image-15.jpg 650w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/MicrosoftTeams-image-15-225x300.jpg 225w\" sizes=\"auto, (max-width: 241px) 100vw, 241px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Mae <strong>Oliver Scourfield (BSc 2018, MSc 2020)<\/strong> yn gynorthwyydd ymchwil yn labordy Gallimore\/Godkin yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar mesothelioma malaen, math o ganser sy&#8217;n effeithio ar yr ysgyfaint. Fel arfer, dod i gysylltiad ag asbestos sy\u2019n achosi\u2019r canser hwn, sy\u2019n angheuol yn y rhan fwyaf o achosion.<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Dywedwch ychydig wrthym am eich ymchwil<\/strong><\/strong>?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae labordy Gallimore\/Godkin yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng y system imiwnedd a chanser. Mae ein system imiwnedd, sy&#8217;n ein hamddiffyn rhag feirysau a chlefydau eraill, hefyd yn helpu i ladd canserau. Rydym yn gobeithio datblygu triniaethau newydd a fydd yn rhoi hwb i gelloedd penodol y system imiwnedd o&#8217;r enw \u201ccelloedd T\u201d a\u2019i gwneud yn bosibl lladd canserau drwy eu targedu.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae fy PhD yn canolbwyntio ar fath penodol o ganser, sef mesothelioma malaen. Fel arfer, mae mesothelioma\u2019n effeithio ar yr ysgyfaint, a dod i gysylltiad ag asbestos sy\u2019n ei achosi bron bob amser. Yn anffodus, mae\u2019r canser hwn yn angheuol yn y rhan fwyaf o achosion, sy\u2019n golygu bod angen gwneud ymchwil a datblygu triniaethau newydd ar frys.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn rhan o\u2019m PhD, byddaf yn ymchwilio i&#8217;r berthynas rhwng y system imiwnedd a mesothelioma, yn ogystal \u00e2 nodi ffyrdd o wella ymateb y system imiwnedd i&#8217;r canser hwn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer eich ymchwil a\u2019i budd i bobl yn y dyfodol?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae celloedd mesothelioma\u2019n dangos moleciwl penodol, sef 5T4. Anaml y bydd celloedd iach yn dangos y moleciwl hwn. Gallai trin y system imiwnedd i dargedu&#8217;r moleciwl hwn fod yn therapi penodol iawn, lle byddai pobl yn ddioddef llawer llai o sg\u00eel-effeithiau nag y byddent yn eu dioddef o bosibl wrth gael cemotherapi.&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Beth a apeliodd atoch am ymchwil canser? <\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Drwy gydol fy addysg, rwyf bob amser wedi mwynhau gwyddoniaeth, ac wrth i mi symud drwy&#8217;r Brifysgol, sylweddolais yn fuan fy mod eisiau gweithio ym maes ymchwil canser. Mae canser yn effeithio ar bawb, ac mae&#8217;r cyfle i gyfrannu at faes gwyddoniaeth cyffrous yn fy ysgogi&#8217;n fawr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth wnaeth eich annog i chi ddod i astudio yng Nghaerdydd?<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mwynheais fy astudiaethau blaenorol ym Mhrifysgol Caerdydd yn fawr, ac roeddwn i\u2019n teimlo mai hwn oedd y lle a&#8217;r amgylchedd iawn imi wneud fy PhD. Mae Caerdydd yn fyd-enwog am ei hymchwil academaidd a chredaf y bydd astudio yma yn rhoi profiadau gwych i mi ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Pa r\u00f4l y mae rhoddwyr wedi\u2019i chwarae yn eich ymchwil?<\/strong><strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy&#8217;n ddigon ffodus bod fy ymchwil wedi&#8217;i hariannu gan roddwr, sy\u2019n golygu fy mod yn gallu cynnal ysgoloriaeth PhD sydd wedi&#8217;i hariannu&#8217;n llawn. Gyda lwc, trwy gydol cyfnod fy astudiaethau, byddaf yn cyflawni canfyddiadau newydd cyffrous ym maes mesothelioma ac imiwnotherapi canser, ac y byddaf yn gallu rhannu\u2019r rhain \u00e2 fy rhoddwr, sydd \u00e2 diddordeb yn y clefyd hwn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><br>Beth yw eich hoff bethau am Gaerdydd?<\/strong>\u00a0 <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Caerdydd yn ddinas fywiog sy\u2019n cynnig llawer o bethau i&#8217;w profi a&#8217;u mwynhau. Fel person ifanc, rwy&#8217;n gwerthfawrogi&#8217;r holl gyfleoedd i gael bywyd cymdeithasol gwych fydd yn helpu i gael cydbwysedd bywyd a gwaith fel myfyriwr PhD. Rwy\u2019n mwynhau bod mewn prifddinas amrywiol, yn ogystal \u00e2 bod mor agos at ardaloedd arfordirol gan fy mod wedi cael fy magu ger yr arfordir yn Abertawe.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&nbsp;<strong><strong><br>Beth rydych yn mwynhau ei wneud yn eich amser hamdden?<\/strong><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy\u2019n hoff iawn o chwaraeon ac yn mwynhau gwylio p\u00eal-droed, tennis a rygbi\u2019n arbennig. Rwy&#8217;n aml yn mynd i wylio fy nh\u00eem lleol, Dinas Abertawe, yn chwarae ar y penwythnosau. Ar wah\u00e2n i chwaraeon, rwyf hefyd wrth fy modd yn gwylio&#8217;r ffilmiau diweddaraf yn y sinema ac yn mynd i ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/donate\/how-you-can-help\/cancer-research\" target=\"_blank\"><strong><em><a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/donate\/how-you-can-help\/cancer-research\"><strong><em>Darganfyddwch ragor am ymchwil canser ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/em><\/strong><\/a><\/em><\/strong><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Oliver Scourfield (BSc 2018, MSc 2020) yn gynorthwyydd ymchwil yn labordy Gallimore\/Godkin yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar mesothelioma malaen, math o ganser sy'n effeithio ar yr ysgyfaint. Fel arfer, dod i gysylltiad ag asbestos sy\u2019n achosi\u2019r canser hwn, sy\u2019n angheuol yn y rhan fwyaf o achosion.","protected":false},"author":904,"featured_media":7222,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[204,170,203],"tags":[],"class_list":["post-7235","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-donate-cy","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7235","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7235"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7235\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7266,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7235\/revisions\/7266"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7222"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7235"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7235"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7235"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}