{"id":7208,"date":"2021-11-29T09:47:59","date_gmt":"2021-11-29T09:47:59","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=7208"},"modified":"2021-11-29T09:48:22","modified_gmt":"2021-11-29T09:48:22","slug":"ymchwilio-ir-cysylltiadau-rhwng-anhwylder-deubegynol-seicosis-a-genedigaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2021\/11\/29\/ymchwilio-ir-cysylltiadau-rhwng-anhwylder-deubegynol-seicosis-a-genedigaeth\/","title":{"rendered":"Ymchwilio i\u2019r cysylltiadau rhwng anhwylder deubegynol, seicosis a genedigaeth"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/Ian-Jones-image-edit.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"662\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/Ian-Jones-image-edit.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7200\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/Ian-Jones-image-edit.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/Ian-Jones-image-edit-511x338.jpg 511w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/Ian-Jones-image-edit-300x199.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/Ian-Jones-image-edit-768x508.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><strong>Mae&#8217;r Athro Ian Jones (MSc 1997) yn Seiciatrydd Ymgynghorol Anrhydeddus ac Athro Seiciatreg. Ef hefyd yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar anhwylder deubegynol a seicosis \u00f4l-enedigol ymhlith menywod. Yma, mae&#8217;n egluro beth yw anhwylder deubegynol, sut mae&#8217;n effeithio ar unigolion a pham mae menywod yn fwy tebygol o gael eu derbyn i&#8217;r ysbyty ar \u00f4l rhoi genedigaeth nag ar unrhyw adeg arall yn eu bywyd.<\/strong><\/strong><\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyflwr iechyd meddwl difrifol yw anhwylder deubegynol. Mae\u2019n effeithio ar rhwng 2 a 5% o&#8217;r boblogaeth ac yn achosi amrywiadau hwyl difrifol. Mae pobl ag anhwylder deubegynol (a gafodd ei alw\u2019n \u2018iselder manig\u2019 yn flaenorol) yn gallu teimlo\u2019n isel am gyfnod ond hefyd yn uchel am gyfnod, yr hyn sy\u2019n cael ei alw weithiau\u2019n \u2018cyfnod manig\u2019. Un o nodau ein hymchwil yw gwella ein dealltwriaeth o\u2019r ffactorau biolegol, seicolegol a chymdeithasol sy&#8217;n arwain at anhwylder deubegynol. Mae hyn yn bwysig dros ben er mwyn i ni allu datblygu ffyrdd gwell o ragweld pwy y gallai\u2019r cyflwr effeithio arno, ymyrryd a datblygu triniaethau gwell.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym yn gwneud hynny drwy ddefnyddio cliwiau genetig i geisio dod o hyd i\u2019r atebion. Rydym wedi gwybod ers cryn amser y gall cyflyrau fel anhwylder deubegynol redeg mewn teuluoedd, ac rydym yn ceisio nodi&#8217;r amrywiadau unigol yng ngenynnau pobl a all gynyddu neu leihau&#8217;r risg honno. Os gallwn nodi\u2019r rheini \u2013 ac mae&#8217;n debygol y bydd cannoedd, os nad miloedd, o amrywiadau unigol \u2013 bydd gennym rai syniadau go iawn o fioleg y cyflwr hwn.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong><strong><strong>Byw gydag anhwylder deubegynol<\/strong><\/strong><\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym yn gwybod bod y bobl hynny \u00e2 math mwy difrifol o\u2019r cyflwr yn teimlo effaith y cyflwr ar eu bywyd yn fawr. Pan fyddant yn teimlo\u2019n isel, ni allant godi o&#8217;r gwely. Mae\u2019n bosibl na fyddant yn ymolchi am ddyddiau neu wythnosau bwygilydd, ac efallai y byddant hyd yn oed yn meddwl am roi pen ar y cwbl. Yn anffodus, mae hunanladdiad yn ganlyniad trasig i rai \u00e2\u2019r cyflwr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym hefyd yn gweld cyfnodau manig. Ar yr adegau hyn, gall pobl fod yn llon a theimlo\u2019n ewfforig, ond gallant hefyd fod yn bigog ac yn ddig. Mae\u2019n bosibl na fydd angen llawer iawn o gwsg arnynt, a gallant fod yn orfywiog. Gall y cyfnodau hyn achosi problemau go iawn i bobl. Efallai y byddant yn gwario arian nad oes ganddynt ac yn mynd i ddyled. Efallai y byddant yn ffraeo ac yn cweryla \u00e2\u2019u ffrindiau a\u2019u teulu. Gall tua 70% o bobl ag anhwylder deubegynol hefyd fod \u00e2 symptomau seicotig (e.e. rhith-weld pethau a chael camddychmygion).<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yr hyn sy\u2019n glir yw ei bod yn cymryd amser hir iawn i bobl ag anhwylder deubegynol gael diagnosis. Rydym wedi gweithio gyda&#8217;r elusen Bipolar UK a darganfod y gall gymryd deng mlynedd neu fwy i bobl gael y diagnosis cywir a dechrau cael y driniaeth gywir. Nid yw&#8217;r cyflwr yn cael ei gydnabod ddigon nac yn cael ei drin ddigon. Yn sicr, nid oes digon o ymchwil yn cael ei wneud iddo.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong><strong><strong>Trafod iechyd meddwl<\/strong><\/strong><\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Peth hynod gadarnhaol yw bod pobl yn barod i drafod eu hiechyd meddwl a\u2019r trafferthion y maent yn eu cael. Pan ffilmiodd Stephen Fry (Anrh 2010) ei raglen ddogfen ar anhwylder deubegynol, rhoddodd sylw mawr i ymchwil Prifysgol Caerdydd. Gwnaeth hyd yn oed gynnig ei DNA. Mae bellach yn un o destunau ein hymchwil. Arweiniodd hyn at gynnydd enfawr yn nifer y bobl a recriwtiwyd, ac roedd pobl yn cysylltu \u00e2 ni i ddweud eu bod wedi clywed s\u00f4n am y gwaith pwysig hwn ym Mhrifysgol Caerdydd ac am helpu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Prifysgol Caerdydd wedi gweithio gyda nifer o oper\u00e2u sebon, sydd wedi rhoi sylw i\u2019r cyflwr hwn drwy eu cymeriadau. Mae cymeriad o&#8217;r enw Stacey yn EastEnders yn cael diagnosis o anhwylder deubegynol ac yn dioddef o seicosis \u00f4l-enedigol ar \u00f4l cael baban. Gwnaeth hyn godi ymwybyddiaeth llawer iawn o bobl o anhwylder deubegynol a seicosis \u00f4l-enedigol. Roedd o gymorth mawr wrth geisio cyfleu gwybodaeth am y cyflyrau hyn ac, eto, o gymorth mawr wrth geisio recriwtio pobl ar gyfer gwaith ymchwil.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong><strong><strong>Anhwylder deubegynol ymhlith menywod beichiog<\/strong><\/strong><\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l gorffen fy hyfforddiant clinigol, dechreuais fy swydd ymchwil gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd gofyn i mi deithio ledled y DU er mwyn cyfweld \u00e2 phobl \u00e2 phrofiad go iawn o anhwylder deubegynol. Yr hyn a wnaeth fy synnu oedd nifer y menywod a oedd wedi dioddef yn ddifrifol o\u2019r cyflwr ar \u00f4l rhoi genedigaeth. Yn aml, hwn oedd y tro cyntaf iddynt ddioddef o\u2019r cyflwr neu\u2019r tro cyntaf i\u2019r cyflwr gael effaith o bwys arnynt.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cadarnhaodd ein hymchwil fod cael baban yn ysgogi\u2019r cyflwr yn gryf. Mae menywod 23 gwaith yn fwy tebygol o gael eu derbyn i&#8217;r ysbyty yn y mis wedi iddynt gael baban nag ar unrhyw adeg arall yn eu bywyd. Nid ydych yn gweld y mathau hynny o gymarebau ods, effaith ar y raddfa honno, ym maes seiciatreg yn aml iawn. Roeddem am weld yn union beth ar \u00f4l rhoi genedigaeth sy&#8217;n arwain at y cynnydd enfawr hwn mewn risg o ddioddef yn ddifrifol o\u2019r cyflwr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019n ddigon posibl bod y newid enfawr yn lefelau hormonau ar yr adeg hon yn chwarae rhan, ond gall pethau fel aflonyddwch cwsg, ffactorau imiwnolegol a genynnau chwarae rhan, hefyd. Rydym wedi cyhoeddi ymchwil sy&#8217;n awgrymu bod gallu menyw i ddioddef o aflonyddwch cwsg, ac aflonyddwch rhythm circadaidd oherwydd hynny, yn ein helpu i ragweld a all y fenyw honno ddioddef o seicosis \u00f4l-enedigol yn y dyfodol. Mae ein hymchwil yn dangos bod ffactorau genetig yn allweddol, hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cynnwys clinigwyr yn yr ymchwil hon o gymorth mawr, gan y gallwn ddefnyddio canfyddiadau&#8217;r ymchwil yn y clinig lle gallant wneud gwahaniaeth go iawn. Mae hefyd yn helpu i gryfhau&#8217;r cydweithredu rhwng y Brifysgol a&#8217;r GIG ac yn ein cysylltu \u00e2 phobl \u00e2 phrofiadau go iawn o\u2019r cyflyrau rydym yn eu hastudio. Mae hyn yn bwysig ar gyfer recriwtio ond hefyd i\u2019n helpu i ddeall y materion y mae angen i ni eu targedu er mwyn nodi\u2019r cwestiynau ymchwil i fynd i\u2019r afael \u00e2 nhw.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Prifysgol Caerdydd yn lle mor wych i wneud y gwaith hwn, oherwydd gallwch droi gwybodaeth newydd yn driniaethau newydd i bobl. Yn y pen draw, dyna sut y bydd y gwaith yn cael ei fesur yn y dyfodol. Sut mae&#8217;r ymchwil hon wedi gwneud gwahaniaeth i bobl sy&#8217;n dioddef o anhwylder deubegynol a seicosis \u00f4l-enedigol? Ein nod yw ceisio meddwl am ffyrdd o helpu pobl \u00e2&#8217;r cyflyrau hyn i fyw bywydau gwell.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em><strong><em><strong><a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/donate\/how-you-can-help\/neuroscience-and-mental-health-research\" target=\"_blank\">Darganfyddwch fwy am sut y gallwch gefnogi ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd.<\/a><\/strong><\/em><\/strong><\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae'r Athro Ian Jones (MSc 1997) yn Seiciatrydd Ymgynghorol Anrhydeddus ac Athro Seiciatreg yn yr Isadran Meddygaeth Seicolegol a\u2019r Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar anhwylder deubegynol a chyfnodau o seicosis \u00f4l-enedigol mewn menywod deubegynol. Yma mae'n egluro beth yw bod yn ddeubegynol, sut mae'n effeithio ar unigolion, a pham mae menywod yn fwy tebygol o fynd i'r ysbyty ar \u00f4l rhoi genedigaeth nag ar unrhyw adeg arall yn eu bywydau. ","protected":false},"author":1811,"featured_media":7200,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[204,170,203],"tags":[],"class_list":["post-7208","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-donate-cy","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7208","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7208"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7208\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7481,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7208\/revisions\/7481"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7200"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7208"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7208"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7208"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}