{"id":7071,"date":"2021-09-07T10:59:43","date_gmt":"2021-09-07T10:59:43","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=7071"},"modified":"2021-09-07T10:59:31","modified_gmt":"2021-09-07T10:59:31","slug":"bwrsariaeth-gwerth-10k-er-cof-am-beilot-a-fu-farw-yn-yr-ail-ryfel-byd-i-gefnogi-myfyrwyr-y-dyfodol","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2021\/09\/07\/bwrsariaeth-gwerth-10k-er-cof-am-beilot-a-fu-farw-yn-yr-ail-ryfel-byd-i-gefnogi-myfyrwyr-y-dyfodol\/","title":{"rendered":"Bwrsariaeth gwerth \u00a310k, er cof am beilot a fu farw yn yr ail ryfel byd, i gefnogi myfyrwyr y dyfodol"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/In-memory-image-4-copy.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"500\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/In-memory-image-4-copy.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-7060\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/In-memory-image-4-copy.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/In-memory-image-4-copy-600x300.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/In-memory-image-4-copy-300x150.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/09\/In-memory-image-4-copy-768x384.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Ym mis Gorffennaf 1940, graddiodd Donald Philip Glynn Miller (BSc 1940) yn Faglor Gwyddoniaeth mewn peirianneg mwyngloddio yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, coleg sefydlol Prifysgol Caerdydd.<\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd Donald, a oedd yn byw yn Richmond Crescent yng Nghaerdydd, wedi astudio cyn hynny yn Ysgol Uwchradd Bechgyn Caerdydd, a chafodd Dystysgrif Ysgol Bwrdd Canolog Cymru yno ym 1936.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn fuan ar \u00f4l gorffen ei astudiaethau, ymrestrodd yn Lluoedd Awyr y Cynghreiriaid gan hyfforddi\u2019n llywiwr-arsyllwr. Bu\u2019n gwasanaethu yng Ngwarchae Malta a thrwy gydol ymgyrch Gogledd Affrica gan gynnwys Alamein a Tiwnisia. Yn dilyn hyfforddiant ychwanegol, aeth i Wlad Belg ym mis Ionawr 1945 i wasanaethu gyda&#8217;r Llu Awyr Tactegol ar Ffrynt y Gorllewin.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fis yn ddiweddarach ym mis Chwefror 1945, ac yntau ond yn 24 oed, cafodd Swyddog Gwarantedig Miller ei ladd yn drasig gan deilchyn siel fflac yn ystod cyrch awyr. Cipiwyd y pedwar aelod arall o\u2019r criw yn Garcharorion Rhyfel ar \u00f4l iddyn nhw lanio mewn argyfwng mewn maes awyr yn Eindhoven.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fwy na 75 mlynedd yn ddiweddarach, mae ei nai, sydd hefyd yn dwyn yr enw Donald Miller, wedi cyflwyno rhodd gwerth \u00a310,000 er cof am ei ewythr, gyda\u2019r bwriad o gefnogi myfyrwyr Prifysgol Caerdydd y dyfodol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l cael ei fagu yng Nghaerdydd, symudodd Don i Malaysia ym 1978. Yno, cyfarfu \u00e2&#8217;i wraig a chafodd yrfa lwyddiannus mewn gwlad sydd yr un mor groesawgar a chyfeillgar \u00e2 Chymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cMae gwahodd myfyrwyr sy\u2019n preswylio ym Malaysia i elwa ar y wobr hon yn arwydd bach o ddiolchgarwch i\u2019r bobl ryfeddol hynny a\u2019r wlad sydd wedi bod yn gartref imi ers deugain mlynedd.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">\u201cWnes i erioed gwrdd \u00e2\u2019r Ewythr Donald, sydd o\u2019r un enw \u00e2 mi, ond ugain mlynedd ar \u00f4l iddo farw, pan wnes i gais am ysgoloriaeth yn y Bwrdd Glo roedd swyddog yn dal i\u2019w gofio oherwydd ei ddoniau nas gwireddwyd. Yn ddi-os, byddai wedi cael bywyd, gyrfa a theulu ardderchog.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Mae&#8217;r fwrsariaeth hon yn gydnabyddiaeth bersonol iawn o&#8217;r aberth a wnaeth fy ewythr Donald. Ef oedd yr unig aelod o&#8217;n teulu i gael ei niweidio neu ei ladd yn yr Ail Ryfel Byd, ac roedd ei farwolaeth gynnar, yn ystod misoedd olaf yr Ail Ryfel Byd yn ergyd drom. \u201d<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd Bwrsariaeth DPG Miller yn cefnogi myfyrwyr sy&#8217;n hanu o Malaysia ac sy\u2019n dymuno mynd i Brifysgol Caerdydd i astudio peirianneg.<br><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong><em>Dewch i wybod rhagor am gofio rhywun annwyl ichi <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/donate\/other-ways-to-give\/in-memoriam\">drwy roddi anrheg i Brifysgol Caerdydd, <\/a>a helpwch i achub, newid a chyfoethogi bywydau yng Nghymru a thu hwnt.<\/em><\/strong><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ym mis Gorffennaf 1940, graddiodd Donald Philip Glynn Miller (BSc 1940) yn Faglor Gwyddoniaeth mewn peirianneg mwyngloddio yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, coleg sefydlol Prifysgol Caerdydd.","protected":false},"author":904,"featured_media":7060,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,204,170,203],"tags":[],"class_list":["post-7071","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-donate-cy","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7071","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7071"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7071\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7074,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7071\/revisions\/7074"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7060"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7071"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7071"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7071"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}