{"id":6892,"date":"2021-07-14T10:57:36","date_gmt":"2021-07-14T10:57:36","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=6892"},"modified":"2024-10-08T12:44:39","modified_gmt":"2024-10-08T12:44:39","slug":"gwersi-mewn-bywyd-gan-leonardo-da-vinci-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2021\/07\/14\/gwersi-mewn-bywyd-gan-leonardo-da-vinci-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Gwersi mewn bywyd gan Leonardo da Vinci &#8211; I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr"},"content":{"rendered":"\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Mae Rose Sgueglia (BA 2008, PGDip 2009) yn awdur, newyddiadurwr ac ymgynghorydd marchnata wedi&#8217;i lleoli yng Nghaerdydd. Sefydlodd Miss Squiggles, cylchgrawn digidol ac asiantaeth marchnata cynnwys ac mae ei gwaith wedi&#8217;i gyhoeddi yn GQ, La Repubblica, Yahoo a WI Life. Yma mae hi&#8217;n disgrifio&#8217;r gwersi bywyd annisgwyl a ddysgodd gan ddyn a oedd yn byw dros 500 mlynedd yn \u00f4l.<\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<div class=\"wp-block-image\">\r\n<figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/07\/IMG_8580-1-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-6906\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/07\/IMG_8580-1-1.jpg\" alt=\"\" width=\"320\" height=\"397\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/07\/IMG_8580-1-1.jpg 750w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/07\/IMG_8580-1-1-242x300.jpg 242w\" sizes=\"auto, (max-width: 320px) 100vw, 320px\" \/><\/a><\/figure>\r\n<\/div>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os yw&#8217;r pandemig hwn wedi dysgu unrhyw beth i ni, os dymunwn, gallwn archwilio ac ymddiddori mewn amrywiaeth o bethau. O bobyddion bara banana i gariad newydd at yr awyr agored, a gyrfaoedd newydd sbon yn dilyn angerdd yn hytrach na dyletswyddau, mae&#8217;r flwyddyn ddiwethaf hon wedi dangos i ni, os nad ydym yn hoffi pwy ydym ni, lle&#8217;r ydym ni, neu\u2019r hyn yr ydym yn ei wneud gyda&#8217;n bywydau, gallwn symud, newid ac esblygu.\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Arloesodd Leonardo da Vinci y cysyniad hwn fwy na 500 mlynedd yn \u00f4l. Roedd yn dalentog, yn glyfar a gyda meddwl chwyldroadol, ac eto roedd yn un o&#8217;r artistiaid mwyaf anghyson sydd wedi byw erioed &#8230;. neu a oedd e? Gellid dadlau ei fod yn hynod angerddol am wahanol bethau. Roedd yn mwynhau dysgu am gysyniadau newydd, hynod ddiddorol a byddai\u2019n astudio am oriau maith.\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn \u00f4l yn 2019 pan ddechreuais ysgrifennu fy llyfr am y tro cyntaf, rwy\u2019n cofio bod braidd yn ansicr am ei bersona a\u2019i gymeriad. Roedd Leonardo yn wych mewn sawl ffordd, ond yn aml fe&#8217;i hystyriwyd yn ddifflach, yn anghyson ac yn anodd gweithio gyda fe. Er gwaethaf hyn, rwy&#8217;n medru uniaethu \u00e2 Leonardo. Roedd yn wych ond eto dim ond person dynol ydoedd wedi\u2019r cyfan. Yn ystod y cyfnod clo hir, cefais fy nghymell trwy ysgrifennu amdano, ei anturiaethau, ei ddarganfyddiadau a&#8217;i weithiau. Fe ddysgodd sawl gwers bywyd i mi<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fy hoff wersi bywyd gan Leonardo yw\u2019r canlynol:<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong><strong>Peidiwch \u00e2 bod ofn arbrofi<\/strong><\/strong><\/h3>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hynny yw, rhowch gynnig ar wahanol bethau. Cymrwch amser i ddysgu a deall yr hyn rydych chi&#8217;n ei hoffi. Arlunydd, pensaer, awdur a pheiriannydd oedd Leonardo. Roedd hefyd yn gynllunydd tref, yn athronydd ac yn anatomegydd ymhlith sawl peth arall. Ef oedd dyn quintessential y Dadeni, rhywun a fyddai\u2019n cymysgu ac yn paru gwahanol broffesiynau trwy fod yn anhygoel o graff ond hefyd trwy fod yn fyfyriwr yn gyntaf.\u00a0 Byddai&#8217;n rhoi cynnig ar unrhyw beth yr oedd yn apelio ato. Gellid ystyried bod hyn yn anymarferol heddiw ond gallai hynny ddatgloi rhai talentau nad ydym hyd yn oed wedi eu darganfod eto.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong><strong>Sefydlwch gr\u0175p cymorth<\/strong><\/strong><\/h3>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid oedd Leonardo yn arbennig o agos at ei deulu gwreiddiol, ond daeth ei ffrindiau&#8217;n deulu iddo a gyda nhw cafodd yr anturiaethau mwyaf rhyfeddol a&#8217;r prosiectau gwaith mwyaf diddorol. Gweithiodd gyda&#8217;r gwleidydd, awdur ac aelod arall o gyfnod y Dadeni, Niccolo Machiavelli ar strategaeth ar gyfer dargyfeirio Afon Arno. Fe wnaeth hyd yn oed agor bwyty gyda Sandro Botticelli yn Fflorens a symud i Ffrainc gyda Francesco Melzi, un o&#8217;i fyfyrwyr yr oedd yn ymddiried ynddo fwyaf.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong><strong>Gweithio gyda mentor da<\/strong><\/strong><\/h3>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd yr arlunydd a&#8217;r cerflunydd Andrea del Verrocchio yn fentor eithriadol i Leonardo da Vinci ac i sawl artist arall ar y pryd gan gynnwys Sandro Botticelli. Yn \u00f4l y chwedl, ni chododd frwsh eto ar \u00f4l gweld angel Leonardo wedi paentio yn un o&#8217;i weithiau.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong><strong>Dywedwch na, yn amlach<\/strong><\/strong><\/h3>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwrthododd Leonardo gwblhau neu hyd yn oed ddechrau rhai o&#8217;i weithiau celf, gan gynnwys Brwydr enwog Anghiari.\u00a0Ar gyfer y paentiad penodol hwn, roedd am arbrofi gyda thechneg lliw newydd wedi&#8217;i seilio ar gwyr, ond ni lwyddodd ei gynllun. Er gwaethaf maint y prosiect a chael sawl person yn ei erlid ac yn ceisio ei orfodi i orffen y prosiect, gwrthododd yn l\u00e2n. Roedd yn ystyfnig, roedd ganddo bersonoliaeth gref a byddai&#8217;n gwrthod a chamu&#8217;n \u00f4l pe bai&#8217;n penderfynu gwneud hynny.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong><strong>Cydnabod yr ofn, ac yna ei wthio o&#8217;r neilltu<\/strong><\/strong><\/h3>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ei nodiadau, mae Leonardo yn ysgrifennu am bennod benodol. Pan oedd yn ifanc, roedd ar goll yn anialwch Vinci (cartref ei blentyndod) ac ysgrifennodd am weld ogof dywyll. Cyfaddefodd ei ofn, nid oedd am fentro ac archwilio&#8217;r ogof gan nad oedd yn gwybod beth oedd wedi&#8217;i guddio y tu mewn, ac eto ni allai droi yn \u00f4l a\u2019i adael. Roedd e\u2019n awyddus i ddysgu ac yn chwilfrydig tu hwnt. Yn \u00f4l ei gyfnodolion, gwnaeth ddarganfod ffosil o forfil.\u00a0<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Nid oedd Leonardo yn ddyn perffaith, ac mae llawer yn credu ei fod yn fedrus am wastraffu amser yn hytrach nag yn athrylith angerddol. Er gwaethaf hyn, mae wedi rhoi syniadau gwerthfawr i fi am fywyd a dealltwriaeth ohonynt. Credaf yn gryf ei fod yn dipyn o&#8217;r ddau, a thrwy fod mor ddynol ac amherffaith, daeth yn anorchfygol. Pe bai wedi bod yn fwy cyson, byddai wedi ein gadael gyda nifer helaeth o weithiau celf ond, yn anffodus, dim ond llond llaw sydd gennym. Pe bai wedi bod yn fwy cyson, fodd bynnag, ni fyddai wedi bod yn Leonardo da Vinci.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&nbsp;<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Cyhoeddir llyfr newydd Rose, The Real Leonardo da Vinci, ym mis Awst 2021 a gallwch weld mwy o&#8217;i gwaith<\/em><\/strong> <a href=\"https:\/\/www.pen-and-sword.co.uk\/Rose-Sgueglia\/a\/3907\"><strong><em>yma.<\/em><\/strong><\/a><\/em><\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong><strong>Dywedwch wrthym beth sy&#8217;n bwysig i chi\u00a0<\/strong><\/strong><\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong><strong>Rydym wedi cyflwyno \u2018I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr\u2019\u00a0gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal \u00e2 chi! Byddem\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">wrth ein bodd yn clywed gennych\u00a0i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau<\/a> neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw&#8217;r stori! Edrychwch ar ein\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhestr lawn o erthyglau<\/a>, a gwyliwch ein\u00a0<a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cardiff-connect\/for-alumni-by-alumni\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhestr o <\/a><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cyswllt-caerdydd\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/?lang=cy\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ddigwyddiadau<\/a><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cardiff-connect\/for-alumni-by-alumni\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"> byw<\/a>\u00a0eto.\u00a0<\/strong><\/strong><\/strong><\/p>\r\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Rose Sgueglia (BA 2008, PGDip 2009) yn awdur, newyddiadurwr ac ymgynghorydd marchnata wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Sefydlodd Miss Squiggles, cylchgrawn digidol ac asiantaeth marchnata cynnwys ac mae ei gwaith wedi'i gyhoeddi yn GQ, La Repubblica, Yahoo a WI Life. Yma mae hi'n disgrifio'r gwersi bywyd annisgwyl a ddysgodd gan ddyn a oedd yn byw dros 500 mlynedd yn \u00f4l.","protected":false},"author":904,"featured_media":6910,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,202,170,203],"tags":[],"class_list":["post-6892","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6892","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6892"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6892\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10055,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6892\/revisions\/10055"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6910"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6892"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6892"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6892"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}