Mae pob un o fy ngyrfaoedd wedi dysgu set wahanol o sgiliau i mi. Ac roedd y sgiliau a ddysgais ym mhob un o’r rolau gwahanol hynny yn hanfodol ar gyfer y nesaf. Fe wnaeth pob gyrfa baratoi’r ffordd ar gyfer y nesaf. Ond fwy na thebyg, fi yw\u2019r unig gyfreithiwr sydd wedi geni dros 60 o fababod!
Person Indiaidd Malaysiaidd Prydeinig sy\u2019n fy nisgrifio orau; ces i fy ngeni a\u2019m magu ym Malaysia, rydw i wedi bod yn y DU ers dros 40 mlynedd, ac Indiaidd yw fy nharddiad ethnig. Pan briodais i, fe wnes i gadw fy enw cyn priodi, sef Xavier, er cof am fy nhad, fy nylanwad mwyaf a\u2019m mentor, a fe sydd wedi meithrin pwy ydw i heddiw.
Es i ysgol lleiandy ym Malaysia ac ar \u00f4l gorffen fy astudiaethau, daeth cyfle yn fy ysgol imi fod yn athro cyflenwi. Roedd yn gyfle rhy dda i\u2019w golli ac fe\u2019m gosododd ar lwybr dysgu. Fe wnes i ei fwynhau’n fawr a bues i\u2019n athrawes am bron i ddwy flynedd. Ar \u00f4l dwy flynedd, fe ges i gynnig i ystyried gyrfa mewn addysgu a dilyn cwrs hyfforddi athrawon ond gwrthodais, oherwydd roedd gen i uchelgais i fod yn gyfreithiwr.
Ar y pryd, roedd nifer o fy nghyd-ddisgyblion a\u2019m cydweithwyr yn dod i’r DU i hyfforddi fel nyrsys. Byddent yn anfon cardiau post ataf ar eu teithiau o amgylch Ewrop ac roeddwn yn llawn eiddigedd! Pa ffordd well o deithio’r byd na mewn swydd? Felly penderfynais y byddwn i’n dod yn nyrs, teithio ac yna astudio’r gyfraith yn hwyrach. Cefais fy nerbyn yn Ysbyty Coffa’r Brenin Edward yn Ealing a des i Lundain.
Roedd nyrsio yn waith caled corfforol ond doeddwn i ddim am adael i bethau\u2019n fynd yn drech na mi felly fe wnes i ddyfalbarhau, rhagori yn fy ngwaith, a dechrau mwynhau. Rhoddais gyfnod prawf o dri mis i mi fy hun a drodd yn dair blynedd ,ac fe wnes i gymhwyso yn Nyrs Gofrestredig gyda\u2019r Wladwriaeth (SRN), ac ar \u00f4l 10 mis arall o hyfforddiant, fe wnes i gymhwyso yn Fydwraig Ardystiedig gyda\u2019r Wladwriaeth. Yn dilyn hynny, cefais gynnig swydd Nyrs Staff a chefais fy nyrchafu’n ddiweddarach i fod yn un o\u2019r Uwch Staff ar ward gynaecoleg. Ar \u00f4l chwe mis cefais fy nyrchafu’n Brif Nyrs a chymerais gyfrifoldeb o ward brysur 33 gwely gyda 3 Ymgynghorydd, 3 Cofrestrydd, 3 Meddyg T\u0177, myfyrwyr meddygol a 10 aelod o staff nyrsio. Roeddwn yn falch iawn o fy ward a oedd yn rhedeg i\u2019r funud! Fe wnes i barhau yn fy r\u00f4l fel Chwaer am ddwy flynedd ac yna cefais y dewis i ddod yn Swyddog Nyrsio. Roedd yn anrhydedd, ond bu\u2019n rhaid imi ei wrthod oherwydd erbyn hynny roeddwn wedi sicrhau fy lle ym Mhrifysgol Caerdydd i ddilyn fy uchelgais i ddarllen y gyfraith! Roeddwn yn falch iawn o’m cynnydd anhygoel yn fy ngyrfa nyrsio.
Fe ddes i i Gaerdydd, ac roedd hi\u2019n anodd dod i arfer \u00e2\u2019r ddinas ar \u00f4l bod yn Llundain, ond ar \u00f4l tri mis o deithio yn \u00f4l i Lundain bob penwythnos, fe wnes i ymgartrefu. Llwyddais i gwblhau fy ngradd yn y gyfraith ac es i Guilford i sefyll arholiadau terfynol Cymdeithas y Gyfraith. Yna, des i yn \u00f4l i Gaerdydd a chwblhau fy nghontract hyfforddi gydag Edwards, Geldard a Shepherd a chymhwyso fel cyfreithiwr ac aros yno i fod yn gyfreithiwr cynorthwyol am ddwy flynedd yn arbenigo mewn ymgyfreitha sifil.
Daeth cyfle i weithio’n fewnol i NatWest Bank yng Nghaerdydd fel Uwch Gwnsler Cyfreithiol, a derbyniais y swydd. Fe wnes i fwynhau fy swydd yn fawr a chynrychioli’r cwmni gyda chyrff masnach ac roeddwn i’n aelod o’r Gweithgor Mynediad at Gyfiawnder ar Ddiwygiadau Woolf – y diwygiad mwyaf radical i reolau’r llysoedd mewn 30 mlynedd! Fe wnes i hefyd gymhwyso fel Cyfryngwr a threuliais y 12 mlynedd nesaf yn NatWest, ac fe es i o fod yn Uwch Gwnsler Cyfreithiol i reoli’r adran ymgyfreitha.
Yn dilyn proses gyfuno, cefais gyfle i weithio i Abbey National yn Llundain. Gan fod hynny’n golygu adleoli, cytunais i oruchwylio’r cyfnod pontio am gyfnod o dri mis yn unig. Ond fe wnes i fwynhau\u2019r her, a phenderfynais gymryd y swydd yn barhaol a chefais fy nyrchafu’n Bennaeth y Gyfraith. Ar \u00f4l blwyddyn neu ddwy arall, fe aethon ni drwy broses gyfuno arall, gyda GE y tro hwn, cwmni rhyngwladol byd-eang. B\u00fbm yn gweithio iddynt tan 2015 ac yn ystod yr amser hwnnw cefais fy nyrchafu’n Gwnsler Cyffredinol ac roeddwn yn rhan o’r Uwch D\u00eem Rheoli Gweithredol. Cefais fy mhenodi hefyd yn Arweinydd Hwb Rhwydwaith Merched GE ac roeddwn yn gyfrifol am ei ymgorffori’n llwyddiannus yn y busnes.
Erbyn 2015 Roeddwn i wedi bod yn cymudo yn \u00f4l ac ymlaen rhwng Cymru a Llundain am bron i 15 mlynedd, ac ar \u00f4l cyrraedd uchafbwynt fy ngyrfa gyfreithiol, penderfynais ei bod yn amser i roi’r gorau i weithio\u2019n amser llawn. Dechreuais ar gynllun teithio tair blynedd a theithiais y byd heb unrhyw fwriad i weithio. Yn y cyfamser, wrth imi gael sawl galwad, penderfynais ddilyn gyrfa bortffolio yn seiliedig yn bennaf ar waith gwirfoddol. Roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn \u00f4l a defnyddio fy sgiliau, fy arbenigedd a\u2019m profiad er budd sefydliadau eraill a’r gymuned.
Ar \u00f4l absenoldeb hir bu\u2019n rhaid imi ailgysylltu \u00e2 Chaerdydd, ac ymuno \u00e2 Chlwb Busnes Caerdydd, a dod yn Aelod Is-lywydd. Yna des i yn aelod o D\u0175r Cymru ac roedd yn chwa o awyr iach ar \u00f4l blynyddoedd o weithio i sefydliadau ariannol i gefnogi cwmni dielw.
Yn ddiweddarach, cefais fy mhenodi’n YH \/ Ynad i Fainc Canolbarth Cymru ac wedi hynny fe\u2019m penodwyd yn Aelod o Bwyllgor y Cyngor, a Phwyllgor Archwilio a Risg Prifysgol Caerdydd. Yn ogystal \u00e2 bod yn Rhyddfreiniwr yn Ninas Llundain, rydw i’n Lifreiwr Cyfreithwyr, Cyflafareddwyr a Chwmn\u00efau Lifrai Cymru ac yn Uwch Gynorthwyydd Llys a Chadeirydd Pwyllgor Cysylltiadau Cyhoeddus Lifrai Cymru. Ym mis Hydref 2019 roedd yn anrhydedd cael fy mhenodi’n Ddirprwy Raglaw Gwent.
Mae gen i brofiad o weithio mewn nifer o rolau, ond rwy\u2019n troi fy llaw at swyddi lle gallaf wneud gwahaniaeth. Rwy’n teimlo\u2019n angerddol iawn dros y gwaith rwy’n ei wneud ac yn gosod safonau uchel i mi fy hun, gan fy mod bob amser yn anelu at lwyddo a rhagori.
Fy arwyddair yw; chi yw chi oherwydd y penderfyniadau rydych chi’n eu gwneud drwy gydol eich bywyd. Fi yw fi heddiw oherwydd y penderfyniadau rydw i wedi’u gwneud. Nhw sydd wedi fy arwain i yma!
<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Agnes Xavier-Phillips JP DR (LLB 1983) yn fenyw nad yw'n ofni manteisio ar gyfle. Yn ystod ei gyrfa bu\u2019n gweithio fel athrawes, nyrs, cyfreithiwr, ac mae bellach yn gwirfoddoli ei hamser a\u2019i harbenigedd i gefnogi ystod o sefydliadau gan gynnwys Prifysgol Caerdydd. ","protected":false},"author":1812,"featured_media":6873,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,169,170,203],"tags":[],"class_list":["post-6868","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-examined-life-cy","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6868","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1812"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6868"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6868\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6879,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6868\/revisions\/6879"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6873"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6868"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6868"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6868"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}