{"id":6840,"date":"2021-06-23T09:50:34","date_gmt":"2021-06-23T09:50:34","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=6840"},"modified":"2021-06-23T09:50:54","modified_gmt":"2021-06-23T09:50:54","slug":"pam-mae-bod-yn-llywodraethwr-ysgol-yn-rhoi-cymaint-o-foddhad-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2021\/06\/23\/pam-mae-bod-yn-llywodraethwr-ysgol-yn-rhoi-cymaint-o-foddhad-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Pam mae bod yn Llywodraethwr Ysgol yn rhoi cymaint o foddhad \u2013 I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/06\/Richard-Ayling-crop.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"974\" height=\"595\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/06\/Richard-Ayling-crop.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6830\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/06\/Richard-Ayling-crop.jpg 974w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/06\/Richard-Ayling-crop-553x338.jpg 553w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/06\/Richard-Ayling-crop-300x183.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/06\/Richard-Ayling-crop-768x469.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 974px) 100vw, 974px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Pan ymddeolodd Richard Ayling (BA 1968) o fyd busnes, roedd am barhau i wneud y gorau o\u2019i sgiliau a&#8217;i brofiad yn ogystal \u00e2 dod o hyd i ffordd newydd o gyfrannu at y gymdeithas. Yma mae\u2019n disgrifio, ar \u00f4l iddo wneud cais i fod yn Llywodraethwr Ysgol, y llwybr heriol sy\u2019n rhoi cymaint o foddhad iddo.<\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Beth sy\u2019n digwydd i rywun rhwng astudio llenyddiaeth Almaeneg ganoloesol ym 1966 a bod yn Gyd-gadeirydd Llywodraethwyr ysgol i blant awtistig yn 2021?<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Arweiniodd fy ngyrfa, ar \u00f4l gadael Prifysgol Caerdydd gyda Gradd Anrhydedd mewn Almaeneg, at nifer o swyddi ym maes datblygu busnes ac ymgynghori ac arweinyddiaeth ryngwladol, gan gynnwys cyfnod o bedair blynedd yn byw yn Frankfurt a dwy flynedd y tu allan i Baris.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ymddeolais i o&#8217;r diwedd yn 2017 ac roeddwn i eisiau rhoi rhywbeth yn \u00f4l i&#8217;r gymdeithas. Roeddwn i&#8217;n gwybod bod yn rhaid i fy mhrofiad ym maes rheoli busnes a gwybodaeth am seicoleg sefydliadol fod o ddefnydd i rywun, ac roeddwn i&#8217;n falch o wirfoddoli fy amser. Yn ystod fy ngyrfa, b\u00fbm yn hyfforddi ac yn datblygu llawer o gydweithwyr a chleientiaid, a chefais fwynhad o wylio pobl iau yn tyfu ac yn datblygu. Roedd swydd debyg mewn ysgol yn ymddangos fel y dewis cywir imi.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong><em><strong><em>Cymryd y cam cyntaf hwnnw<\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er bod angen Llywodraethwyr ar bob ysgol, maen nhw&#8217;n ofalus yngl\u0177n \u00e2 phwy maen nhw&#8217;n ei benodi gan eu bod nhw&#8217;n chwilio am bobl ag ystod o sgiliau i ymuno \u00e2&#8217;u byrddau. Ymgeisiais i drwy sefydliad <a href=\"https:\/\/governorsforschools.org.uk\/\">Governors for Schools<\/a> a chefais bedwar cyfweliad cyn cael fy ngwahodd i ymuno \u00e2 bwrdd llywodraethu Ysgol Forest Bridge ym Maidenhead.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong><em><strong><em>Cyd-destunau sy\u2019n ysgogi<\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd rhywun yn dysgu\u2019n hynod o gyflym, ac mae hynny ynddo ei hun yn ysgogi dyn. Llywodraeth ganolog sy\u2019n rheoli\u2019r ysgolion, ac mae angen rhywfaint o amser i ymgyfarwyddo \u00e2 hyn. Mae yna ystod eang o ddeddfwriaeth sy\u2019n ymwneud \u00e2&#8217;r hyn y gallwch ac na allwch ei wneud fel academi ac fel Llywodraethwr. Mae&#8217;n ofynnol imi yn gyfreithiol sicrhau bod yr ysgol yn dilyn y rheolau. Mae&#8217;r fframwaith cyfreithiol yn golygu bod fy atebolrwydd yn debyg iawn i rai cyfarwyddwr cwmni cyfyngedig cyhoeddus.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong><em><strong><em>Dysgu am awtistiaeth<\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ysgol i blant awtistig yw Ysgol Forest Bridge. Roedd angen imi ddyfnhau fy nealltwriaeth o awtistiaeth a&#8217;r goblygiadau i&#8217;r ysgol o reoli ystod eang o fathau o ymddygiad gan y disgyblion. Mae mynd o amgylch yr ysgol unwaith y tymor yng nghwmni un o&#8217;r uwch-athrawon wedi bod o gymorth dirfawr imi ddeall yr ystod o heriau, yn ogystal \u00e2\u2019r llawenydd, wrth i\u2019r plant ddysgu yn Forest Bridge.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong><em><strong><em>Rolau a chyfrifoldebau<\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gennym gyfanswm o bum pwyllgor, a bydd pob un yn cyfarfod unwaith y tymor. Mae pob Llywodraethwr yn aelod o\u2019r Bwrdd Llywodraethu Llawn, ac fel arfer bydd yn aelod o ddau fwrdd arall. Rwy&#8217;n cadeirio&#8217;r Pwyllgor Adnoddau (cyllid ysgolion, adnoddau gan gynnwys staff, rheoli\u2019r safleoedd a\u2019r&nbsp; adeiladau gan gynnwys iechyd a diogelwch) ac yn aelod o\u2019r Pwyllgor Archwilio. Mae ein cyfarfodydd, sydd fel arfer yn parhau am tua dwy awr, yn cael eu rhoi yn y dyddiadur ar gyfer y flwyddyn gyfan fel y gall pawb gynllunio ymlaen llaw. Rwy hefyd wedi bod yn cymryd rhan yn y dasg o godi arian i helpu&#8217;r ysgol i brynu&#8217;r cyfarpar arbenigol sydd ei angen.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong><em><strong><em>Cadw llygad ar bethau &#8211; ond heb ymyrryd gormod!<\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roeddwn i\u2019n ysu am gymryd rhan ym materion beunyddiol yr ysgol, ond cefais i fy nghywiro yn gyflym. Mae r\u00f4l Llywodraethwr yn golygu cadw llygad ar bethau, ond yn bendant heb ymyrryd yn ormodol! Ein r\u00f4l yw adolygu, arwain, trafod, herio, cymeradwyo pan fydd angen, gwerthuso ac, yn fwy na dim, cefnogi. Er enghraifft, gwnaethon ni benderfyniadau ar y cyd \u00e2 th\u00eem arweinyddiaeth yr ysgol ynghylch a ddylid cadw&#8217;r ysgol ar agor yn ystod y cyfnod clo yn sg\u00eel COVID-19. Dyn oedd un o&#8217;r pethau anoddaf imi orfod ei wneud yn ystod fy ngyrfa gyfan.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong><em><strong><em>Yr hyn sy&#8217;n ei gwneud yn hwyl<\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae cymaint o agweddau ar y r\u00f4l hon sy&#8217;n ei gwneud yn werth ei gwneud. Gweld y llawenydd yn wyneb athro pan fydd wedi cael sesiwn ddatblygu lwyddiannus gyda disgybl, rhyngweithio \u00e2&#8217;r person cyfatebol ar y CRhA sy\u2019n gyfrifol am godi arian a chyflawni targedau heriol, sicrhau adroddiad OFSTED \u201cDa\u201d, ac yna weld bod yr holl staff yn mwynhau\u2019r cyflawniadau hyn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cefais i\u2019r cyfle hefyd i fod yn Si\u00f4n Corn mewn gwisg goslyd iawn a hyfrydwch pur oedd gweld ymatebion gwahanol y plant wrth iddyn nhw ddod i mewn i dderbyn eu hanrhegion!<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;r r\u00f4l hon wedi rhoi\u2019r cyfle imi ddelio \u00e2 rhai materion anodd iawn yn ogystal \u00e2 defnyddio\u2019r holl sgiliau sydd gen i yn sg\u00eel fy ngyrfa fasnachol flaenorol mewn modd ystyrlon.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ac i goroni\u2019r cwbl, y teimlad fy mod i&#8217;n cyfrannu at y gymdeithas, er gwaethaf mai cyfraniad bach yw hwn.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong><em><strong><em>Ydych chi\u2019n difaru o gwbl?<\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Dim ond mewn un ffordd; hoffwn i fod wedi gwneud hyn yn gynharach yn fy ngyrfa. Mae gan fy holl gyd-lywodraethwyr swyddi amser llawn ac maen nhw&#8217;n rheoli&#8217;r ymrwymiad sydd ganddyn nhw o ran eu hamser. Mae wedi bod yn brofiad mor foddhaus ac ysgogol ac er fy mod bellach yn fy 70au, rwy wedi dysgu cymaint yn fy r\u00f4l. Byddwn i\u2019n argymell yn frwd iawn i unrhyw un ohonoch chi sy&#8217;n darllen yr erthygl hon fynd yn Llywodraethwr. Mae&#8217;n rhoi cymaint o foddhad.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Ystyried mynd yn Llywodraethwr Ysgol? Cofrestrwch \u00e2<\/em><\/strong> <a href=\"https:\/\/connected.cardiff.ac.uk\/\"><strong><em>Chyswllt Caerdydd<\/em><\/strong><\/a> <strong><em>ac ymunwch \u00e2&#8217;n gr\u0175p Llywodraethwyr Ysgol i gael mynediad at gymuned gefnogol a rhagor o wybodaeth. <\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Pan ymddeolodd Richard Ayling (BA 1968) o fyd busnes, roedd am barhau i wneud y gorau o\u2019i sgiliau a'i brofiad yn ogystal \u00e2 dod o hyd i ffordd newydd o gyfrannu at y gymdeithas. Yma mae\u2019n disgrifio, ar \u00f4l iddo wneud cais i fod yn Llywodraethwr Ysgol, y llwybr heriol sy\u2019n rhoi cymaint o foddhad iddo. ","protected":false},"author":904,"featured_media":6830,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,202,170,203],"tags":[],"class_list":["post-6840","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6840","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6840"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6840\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6864,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6840\/revisions\/6864"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6830"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6840"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6840"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6840"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}