{"id":6763,"date":"2021-05-13T15:33:07","date_gmt":"2021-05-13T15:33:07","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=6763"},"modified":"2024-10-08T12:45:03","modified_gmt":"2024-10-08T12:45:03","slug":"pam-ymunais-a-busnes-newydd-a-pham-ddylech-chi-hefyd-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2021\/05\/13\/pam-ymunais-a-busnes-newydd-a-pham-ddylech-chi-hefyd-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/","title":{"rendered":"Pam ymunais \u00e2 busnes newydd (a pham ddylech chi hefyd) &#8211; I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr"},"content":{"rendered":"\r\n<div class=\"wp-block-image\">\r\n<figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/05\/Main-image-edit.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"500\" class=\"wp-image-6750\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/05\/Main-image-edit.jpg\" alt=\"\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/05\/Main-image-edit.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/05\/Main-image-edit-600x300.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/05\/Main-image-edit-300x150.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/05\/Main-image-edit-768x384.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/a><\/figure>\r\n<\/div>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Mae Alex Moir (BA 2018) yn swyddog gweithredol marchnata a lwyddodd i gael ei swydd ddelfrydol drwy gymryd cyfle ar gwmni newydd, ar \u00f4l gweithio mewn bariau yn Llundain i gael dau ben y llinyn ynghyd. Yma, mae&#8217;n egluro pam ei fod o&#8217;r farn y gall busnesau newydd fod yn ffordd wych o ddechrau ar eich gyrfa. <\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os graddioch chi yn 2018, roeddech 33% yn debygol o sicrhau cyflogaeth cyn eich dyddiad graddio. Erbyn 2020, dim ond 18% oedd eich siawns. Rwy&#8217;n gwybod, rwy&#8217;n llawn hwyl mewn part\u00efon.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Y pwynt yw os ydych chi&#8217;n darllen hyn, efallai eich bod chi yn yr un sefyllfa ag yr oeddwn i pan adawais i&#8217;r brifysgol. Ni wnaeth y llu o gynlluniau graddedig y gwnes gais amdanynt ddwyn ffrwyth. Doedd gen i ddim wrth gefn heblaw am weithio amser llawn yn fy swydd tymor neu symud gartref, ac aros i\u2019r cynlluniau gradd o\u2019m dewis agor rowndiau derbyn eto.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn lle hynny, symudais i Lundain. Ro&#8217;n i&#8217;n gweithio mewn bar i dalu rhent, ac yn cyflwyno ceisiadau am swyddi yn fy amser sb\u00e2r.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rhoddodd y rhan fwyaf o bobl gyngor i mi beidio \u00e2 gweithio i fusnes newydd. &#8220;Gwna&#8217;n si\u0175r dy fod yn cael swydd ddiogel mewn cwmni mawr yn dy ugeiniau. Mae busnesau newydd yn peri risg ac os yw d&#8217;un di&#8217;n methu, bydd yn edrych yn wael ar dy CV.&#8221;<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond doeddwn i ddim eisiau bod yn ymgynghorydd Pedwar Mawr. Doeddwn i ddim eisiau trosi i&#8217;r gyfraith a chwilio am gontract hyfforddiant, a doeddwn i ddim eisiau mynd yn \u00f4l i&#8217;r coleg i astudio am ragor o gymwysterau. Roeddwn i eisiau gweithio ym maes technoleg &#8211; roedd i weld yn gyffrous, ac roedd digon o gyfleoedd i raddedigion yn Llundain.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Ymuno \u00e2 byd technoleg gyfreithiol<\/strong><\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<div class=\"wp-block-image\">\r\n<figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/05\/juro-zoom-edit.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-6759\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/05\/juro-zoom-edit.jpg\" alt=\"\" width=\"286\" height=\"137\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/05\/juro-zoom-edit.jpg 968w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/05\/juro-zoom-edit-300x144.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/05\/juro-zoom-edit-768x368.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 286px) 100vw, 286px\" \/><\/a><\/figure>\r\n<\/div>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Trwy farchnad swyddi busnesau newydd o&#8217;r enw Joblab (<a href=\"https:\/\/www.stride.io\/\">Stride<\/a> bellach), gwelais r\u00f4l i raddedigion mewn cwmni a oedd yn swnio&#8217;n ddiddorol ac yn berthnasol. Gwahoddodd y cwmni yr ymunais ag ef, <a href=\"http:\/\/juro.com\/\">Juro<\/a>, fi i mewn, a threuliais fwyafrif y broses gyfweld yn dysgu am weledigaeth y cwmni gan ei sylfaenwyr. Cefais gynnig, a derbyniais swydd fel eu cynrychiolydd datblygu busnes cyntaf. Cymerodd y broses o&#8217;r dechrau i&#8217;r diwedd bythefnos; fi oedd cyflogai rhif 15.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ddwy flynedd i mewn i&#8217;m gyrfa \u00f4l-brifysgol, ble ydw i? Ydw, rwy&#8217;n dal i weithio gyda Juro.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">A fydden i&#8217;n ei argymell? Yn bendant. Dyma pam:<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>1. Ni fydd unrhyw ddau ddiwrnod yr un peth. <\/strong><\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mewn dwy flynedd, rwyf wedi gweld y cwmni&#8217;n dyblu o ran nifer y bobl ac yn codi dros $7m mewn cyfalaf menter gan y buddsoddwyr y tu \u00f4l i Twitter. Rydw i wedi helpu i siapio sylfeini ein prosesau gwerthu a marchnata ac wedi gweithio gyda phob adran yn y cwmni mewn un ffordd neu&#8217;i gilydd. Y rhan orau yw bod hyn yn dal i deimlo fel dechrau antur.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>2. Rydych wedi buddsoddi yn llwyddiant y cwmni, ac maen nhw&#8217;n buddsoddi yn eich llwyddiant chi. <\/strong><\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae penodi, i fusnesau newydd cam cynnar, yn bwysig iawn. Gall penodiad gwael fod yn drychinebus ac yn gamgymeriad drud iawn. Os yw busnes newydd yn dewis eich penodi, mae&#8217;n si\u0175r eu bod nhw&#8217;n eich hoffi chi ac yn bwriadu eich cadw chi o gwmpas am sbel.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">I wneud hynny, mae&#8217;n bosibl y byddant yn rhoi opsiynau ar gyfer cyfrannau i chi yn y cwmni sy&#8217;n tyfu dros amser. Dyma&#8217;ch rhan chi yn llwyddiant y cwmni, felly po fwyaf y mae&#8217;r cwmni&#8217;n tyfu, mwyaf gwerthfawr fydd eich rhan chi. Yn yr un modd, mae&#8217;ch cydweithwyr wedi buddsoddi yn eich helpu chi i dyfu gyda&#8217;r cwmni a llwyddo yn eich gyrfa.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>3. Rydych chi&#8217;n dysgu&#8217;n gyflym.<\/strong><\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<div class=\"wp-block-image\">\r\n<figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/05\/Lisbon-office-edit.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"wp-image-6753\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/05\/Lisbon-office-edit.jpg\" alt=\"\" width=\"266\" height=\"199\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/05\/Lisbon-office-edit.jpg 964w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/05\/Lisbon-office-edit-300x225.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/05\/Lisbon-office-edit-768x577.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 266px) 100vw, 266px\" \/><\/a><\/figure>\r\n<\/div>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gan weithio mewn busnes newydd, rydych yn gweld sut mae&#8217;r busnes yn ei gyfanrwydd yn gweithredu ac yn gweithio gyda&#8217;i gilydd. Rydych chi ar daith ddysgu fawr, ac yn gwella ychydig bob dydd. Mae gennych hefyd gyfrifoldeb mawr iawn o&#8217;r diwrnod cyntaf, a gall eich perfformiad gael effaith fawr ar y cwmni.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall fod yn anodd. Weithiau, byddwch yn cael deilliant i&#8217;w gyflawni, heb unrhyw ffordd amlwg o ran sut i gyrraedd yna. Ond dyna sy&#8217;n ei wneud yn gyffrous hefyd. Mae i fyny i chi i arbrofi, rhoi cynnig ar bethau newydd, ac adeiladu gwybodaeth fydd yn werthfawr i chi drwy gydol eich gyrfa. Byddwch yn deall beth sy&#8217;n gwneud cwmni&#8217;n llwyddiannus ac yn cael syniad gwych o ran i ble yr hoffech chi i\u2019ch gyrfa fynd.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>4. Rydych chi&#8217;n siapio&#8217;ch r\u00f4l.<\/strong><\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mewn busnes newydd, rydych yn gyson yn cydweithio gyda thimau eraill ac yn dysgu am eu rolau. Efallai y byddwch hyd yn oed yn penderfynu newid eich llwybr yn y cwmni. Efallai eich bod wedi dechrau yn yr adran werthu, cyn sylweddoli eich bod eisiau symud at farchnata.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Felly, ewch amdani! Wrth i&#8217;r cwmni dyfu, mae swyddi newydd yn dod i&#8217;r amlwg trwy&#8217;r amser ac yn aml mae penodi mewnol yn gynt ac yn rhwyddach. Rhowch wybod i&#8217;ch t\u00eem i ble rydych chi am fynd, a byddan nhw&#8217;n eich helpu chi i gyrraedd yno.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ddwy flynedd i mewn i fywyd dechrau busnes, bu uchafbwyntiau ac isafbwyntiau &#8211; nid yw bob amser mor foethus a dramatig \u00e2&#8217;r hyn rydych yn ei weld mewn rhaglenni fel Silicon Valley. Ond pan rydych yn gwylio refeniw eich cwmni&#8217;n treblu mewn blwyddyn, byddwch yn sylweddoli ei fod yn antur sy\u2019n werth parhau \u00e2 hi. Felly beth am gychwyn ar eich antur eich hun?<br \/><br \/><br \/><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Dywedwch wrthym beth sy&#8217;n bwysig i chi\u00a0<\/strong><\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><strong>Rydym wedi cyflwyno \u2018I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr\u2019\u00a0gan nad oes neb yn adnabod ein cymuned o gynfyfyrwyr gystal \u00e2 chi! Byddem\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">wrth ein bodd yn clywed gennych\u00a0i gael eich syniadau ar gyfer erthyglau<\/a> neu ddigwyddiadau ar-lein sydd o ddiddordeb i chi, neu rai y gallwch roi mewnwelediad iddynt, neu efallai mai CHI yw&#8217;r stori! Edrychwch ar ein\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/our-alumni\/for-alumni-by-alumni\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhestr lawn o erthyglau<\/a>, a gwyliwch ein\u00a0<a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cardiff-connect\/for-alumni-by-alumni\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">rhestr o <\/a><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cyswllt-caerdydd\/i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr\/?lang=cy\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">ddigwyddiadau<\/a><a href=\"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/category\/cardiff-connect\/for-alumni-by-alumni\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\"> byw<\/a>\u00a0eto.\u00a0<\/strong><\/strong><\/p>\r\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Mae Alex Moir (BA 2018) yn swyddog gweithredol marchnata a lwyddodd i gael ei swydd ddelfrydol drwy gymryd cyfle ar gwmni newydd, ar \u00f4l gweithio mewn bariau yn Llundain i gael dau ben y llinyn ynghyd. Yma, mae'n egluro pam ei fod o'r farn y gall busnesau newydd fod yn ffordd wych o ddechrau ar eich gyrfa. ","protected":false},"author":904,"featured_media":6750,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,202,170],"tags":[],"class_list":["post-6763","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-i-gynfyfyrwyr-gan-gynfyfyrwyr","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6763","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6763"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6763\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10056,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6763\/revisions\/10056"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6750"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6763"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6763"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6763"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}