{"id":6645,"date":"2021-04-28T07:43:09","date_gmt":"2021-04-28T07:43:09","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=6645"},"modified":"2021-04-28T08:07:05","modified_gmt":"2021-04-28T08:07:05","slug":"chwiorydd-mewn-busnes-cynnyrch-cychod-gwenyn","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2021\/04\/28\/chwiorydd-mewn-busnes-cynnyrch-cychod-gwenyn\/","title":{"rendered":"Chwiorydd mewn busnes &#8211; cynnyrch cychod gwenyn"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/04\/New-main-image-bee-sisters.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1000\" height=\"500\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/04\/New-main-image-bee-sisters.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6628\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/04\/New-main-image-bee-sisters.jpg 1000w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/04\/New-main-image-bee-sisters-600x300.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/04\/New-main-image-bee-sisters-300x150.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/04\/New-main-image-bee-sisters-768x384.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 1000px) 100vw, 1000px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Astudiodd dwy chwaer, Gillian&nbsp;Nimmo&nbsp;(BSc 1985) a Jane&nbsp;Nimmo&nbsp;(BSc 1986) yr un cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd dros 30 mlynedd yn \u00f4l ac yn ddiweddar rhoddodd y ddwy eu pennau at ei gilydd i redeg busnes bach ecogyfeillgar o\u2019r enw Let it Bee, yn gwerthu gofal croen cynaliadwy, sebon a cynhyrchion eraill o gychod gwenyn. Maen nhw&#8217;n gweithio yn eu ceginau eu hunain, gyda chymorth miloedd o wenyn prysur.&nbsp;<\/em><\/strong>&nbsp;<\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cyrhaeddodd Gillian Nimmo Brifysgol Caerdydd ym 1981, yn frwd dros ieithoedd ac yn barod i astudio a chael rhywfaint o hwyl. Flwyddyn yn ddiweddarach, cyrhaeddodd ei chwaer Jane, \u00e2\u2019i phryd ar fod yn annibynnol a gweld yr hyn roedd gan y ddinas i\u2019w chynnig.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er mor debyg oedd dewisiadau Gillian a Jane, eu gwahaniaethau a lywiodd eu hamser ym Mhrifysgol Caerdydd a\u2019u perthynas fel partneriaid busnes yn y pen draw yn y dyfodol.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Dewisais Brifysgol Caerdydd gan fy mod wrth fy modd ag ieithoedd,&#8221; meddai Gillian i ddechrau. &#8220;Ffrangeg a Sbaeneg oedd fy hoff bynciau ac roeddwn i eisiau parhau \u00e2 nhw. Roedd cwrs Caerdydd yn cynnig cyfuniad unigryw o ddwy iaith gydag elfen fusnes.&#8221;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;I mi, roedd y lleoliad yn hollbwysig,&#8221; meddai Jane, &#8220;cawson ni ein magu yn Abertawe, felly Caerdydd oedd y ddinas fawr. Roedden ni&#8217;n arfer mynd i Ynys y Barri i flasu\u2019r hufen i\u00e2 ymhell cyn Gavin and Stacey wneud y lle\u2019n enwog! Roedd Caerdydd yn lle c\u0175l iawn i fod.&#8221;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Ac yn ddigon agos i fynd \u00e2 llwyth o olch adref at mam a dad!&#8221; ychwanega Gillian gan chwerthin.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Er syndod efallai, roedd Gillian a Jane yn byw bywydau gweddol ar wah\u00e2n yn ystod eu hamser yn y brifysgol.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Gan fy mod flwyddyn yn h\u0177n&#8221;, meddai Gillian, &#8220;Roeddwn eisoes wedi ymgartrefu pan gyrhaeddodd Jane yn fy ail flwyddyn, ac roeddwn yn astudio dramor yn fy nhrydedd flwyddyn. Pan ddes i yn \u00f4l, roedd Jane ar ei blwyddyn dramor. Roedden ni yn dod ar draws ein gilydd o bryd i\u2019w gilydd \u2013 fel arfer wrth far yr undeb!\u201d&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Am eu bod yn astudio&#8217;r un cwrs, cawsant gyfle unigryw hefyd i dreulio rhywfaint o amser gwerthfawr gyda&#8217;i gilydd fel chwiorydd.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Cawsom gyfle i fynd ar gwrs am fis i ddysgu Catalaneg yng ngogledd Sbaen ac fe wnaethom dreulio llawer o amser gyda&#8217;n gilydd yn y mynyddoedd gyda myfyrwyr eraill o Ewrop. Roedd yn brofiad gwych,&#8221; meddai Jane.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Wrth gwrs, mae ganddynt rai atgofion cyffredin o Brifysgol Caerdydd hefyd.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Gill yn gwenu o glust i glust ac yn dweud, &#8220;Roedd pob math o ddrygioni yn digwydd yn Neuadd y Brifysgol \u2013 dwi ddim yn si\u0175r y galla i eu hailadrodd! Roedd yn llawer o sbort. Roeddwn wrth fy modd gyda&#8217;r diwrnodau rygbi rhyngwladol yng nghanol Caerdydd. Byddem&nbsp;bob amser yn prynu bag o sglodion ar y ffordd adref i geisio sobri rhywfaint. Roedden nhw\u2019n ddyddiau da.&#8221;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar \u00f4l graddio, dilynodd y chwiorydd lwybrau gwahanol ym myd gwaith.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Aeth Gillian i Lundain a chwrdd \u00e2&#8217;i g\u0175r. Symudodd i Seland Newydd a threuliodd 27 mlynedd yn Awstralia, Seland Newydd a Fiji. Dychwelodd i&#8217;r DU dair blynedd yn \u00f4l ar \u00f4l gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau di-elw a llywodraeth leol.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Syrthiodd Jane dros ei phen \u00e2\u2019i chlustiau mewn cariad \u00e2 Sbaen a Sbaeneg, felly yn syth ar \u00f4l graddio roedd hi ar yr awyren. Bu&#8217;n gweithio yn y diwydiant twristiaeth ac yna&#8217;n gweithio mewn iard llongau yn Galicia.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Roedd yn eithaf anarferol ond roedd yn rhoi boddhad mawr i mi. Dwi&#8217;n meddwl y byddwn i wedi aros yno ond daeth fy chwaer arall i fy n\u00f4l a\u2019m llusgo adref!&#8221; Meddai Jane. Daeth yn \u00f4l a gweithio yng Nghaerdydd i Awdurdod Datblygu Cymru a threuliodd 30 mlynedd yn gweithio ar faterion Ewropeaidd a gweithio ar brosiectau&#8217;r Comisiwn Ewropeaidd.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Rwy&#8217;n Europhile go iawn a&#8217;m cwrs i yng Nghaerdydd a\u2019m helpodd i lywio pwy ydw i,&#8221; esbonia Jane.&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ond dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Jane wedi bod yn meithrin angerdd arall: cadw gwenyn.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignleft size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/04\/Bee-hives-edit.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/04\/Bee-hives-edit.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6599\" width=\"254\" height=\"191\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/04\/Bee-hives-edit.jpg 932w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/04\/Bee-hives-edit-300x225.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/04\/Bee-hives-edit-768x576.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 254px) 100vw, 254px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Fe wnes i hynny am resymau amgylcheddol i ddechrau, ac fe ddatblygodd o hynny. Dechreuodd gyda dim ond ambell haid o wenyn ond o fewn dim roedd gen i 6,7,8 haid, a chyda cymaint \u00e2 hynny mae gennych dipyn o f\u00eal yn sb\u00e2r!&#8221; Eglura Jane.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Mae croen sensitif gyda fi a Gill, felly dechreuais ddefnyddio&#8217;r cwyr gwenyn a&#8217;r m\u00eal fel gofal croen naturiol a rhoi potiau i ffwrdd fel anrhegion Nadolig. Hwyl oedd y cyfan mewn gwirionedd a dywedodd pobl y dylem ni sefydlu fel busnes, felly dyna beth wnaethon ni.&#8221;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Jane yw&#8217;r gwenynwr, yn creu&#8217;r fformiwl\u00e2u ar gyfer y sebon a&#8217;r eli. Mae Gillian yn eu profi, yn dylunio&#8217;r pecynnu, ac yn gwneud cynhyrchion gwenyn eraill ar gyfer y cartref.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Mae cyfuniad da o sgiliau gyda ni,&#8221; meddai Jane, &#8220;Pe byddwn i&#8217;n ceisio gwneud hyn ar fy mhen fy hun, byddai hi\u2019n anodd iawn arna i gan fod cymaint o beli i\u2019w jyglo. A dydw i ddim yn meddwl ein bod ni erioed wedi bod mor agos fel chwiorydd. Mae&#8217;r teulu yn cael llond bol ar adegau oherwydd pryd bynnag y byddwn yn dod at ei gilydd ar gyfer pryd o fwyd fel teulu, maent yn tynnu ein sylw at y ffaith fy mod i Gill wedi bod yn cael cyfarfod pwyllgor Let It Bee wrth un pen o\u2019r bwrdd!&#8221;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Mae ein teulu ehangach yn wych yn ein cefnogi,&#8221; ychwanega Gillian, &#8220;Mae partner Jane yn mynd ar ei feic i ddanfon peth cynnyrch yn lleol ac mae ei mab wedi gwneud rhai fideos i ni. Mae hyd yn oed ein mam (yn ei 80au hwyr) yn Abertawe yn dweud wrth ei ffrindiau i gyd. Rydyn ni\u2019n ei hystyried hi fel prif hyrwyddwr ein cynnyrch yng Nghymru!&#8221;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Tyfodd angerdd Jane dros wenyn a chadw gwenyn dros y blynyddoedd. Yn ogystal \u00e2 rhedeg Let It Bee, mae hi&#8217;n ymwneud \u00e2 Chymdeithas Gwenynwyr Swydd Warwick ac mae&#8217;n arweinydd addysg ar draws Birmingham, gan annog ac addysgu ei chyd wenynwyr.\u00a0\u00a0<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-block-embed-youtube wp-embed-aspect-16-9 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<iframe loading=\"lazy\" title=\"Let It Bee - honey we love you\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/_2It7nsuR0A?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Mae cadw gwenyn yn llawer mwy cymhleth nag y tybiwch, ac mae llawer o wenynwyr yn rhoi&#8217;r gorau iddi yn ystod eu blwyddyn gyntaf. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod gwenynwyr newydd yn mynd ar gyrsiau ac yn cael mentor i roi cefnogaeth iddynt. Nid yw&#8217;n fater o gael y cwch gwenyn a&#8217;i adael ar waelod eich gardd. Mae angen dysgu am heidio, pl\u00e2u a chlefydau, a beth mae&#8217;r gwenyn yn chwilio amdano,&#8221; esbonia Jane.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">&#8220;Mae gwenyn yn greaduriaid diddorol,&#8221; meddai Gillian, &#8220;a dydw i ddim yn credu bod llawer o bobl yn sylweddoli faint rydym yn dibynnu arnynt ar gyfer ein bwyd. Rwy&#8217;n caru fy nghoffi a&#8217;m siocled \u2013 ond heb wenyn ni fyddem yn cael y pethau hynny.&#8221;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Daw Jane i&#8217;r casgliad: &#8220;Pe bawn i&#8217;n gallu cyfleu un neges, dyma hi: cefnogwch eich gwenynwr lleol a phrynwch f\u00eal leol, naturiol, amrwd. Yn ogystal \u00e2 bod yn dda i&#8217;r amgylchedd, mae&#8217;n blasu&#8217;n hollol wahanol i\u2019r hyn a geir yn yr archfarchnad!&#8221;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/04\/bee-flower-edit-1-1.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/04\/bee-flower-edit-1-1-1024x595.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6635\" width=\"254\" height=\"171\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\"><strong><strong><strong>Awgrymiadau garddio sydd o les i wenyn<\/strong>&nbsp;<\/strong><\/strong><\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Jane a Gillian yn annog pobl i wneud pethau syml yn eu hamgylchedd i helpu pryfed peillio. Dyma rai o&#8217;u hawgrymiadau:&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Peidiwch \u00e2 defnyddio plaladdwyr yn yr ardd a gadewch i bethau dyfu ychydig yn wyllt.&nbsp;&nbsp;<\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Hyd yn oed os oes gennych falconi bach, bydd un neu o botiau&#8217;n gwneud byd o wahaniaeth.&nbsp;&nbsp;<\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Casglwch bennau hadau a&#8217;u taflu ar ddarnau o dir diffaith. Taflwch hadau i gornel o&#8217;ch gardd sydd wedi\u2019i esgeuluso, neu os ydych yn mynd am dro, dewch o hyd i ddarn o dir moel a&#8217;u hau.&nbsp;&nbsp;<\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Mae angen llawer iawn o dd\u0175r ar wenyn i oeri&#8217;r cwch gwenyn a phrosesu&#8217;r m\u00eal. Felly, rhowch botiau bach o dd\u0175r allan gydag ychydig o gerrig m\u00e2n ynddyn nhw fel nad yw&#8217;r gwenyn yn mynd i nofio!&nbsp;&nbsp;<\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Os ydych chi&#8217;n mynd i ganolfan arddio, chwiliwch am labeli &#8216;sydd o les i bryfed peillio&#8217;. Nid yw pob blodyn yn dda i\u2019r holl bryfed peillio. Tafodau bach iawn sydd gan wenyn m\u00eal, felly dim ond i rai blodau y maen nhw\u2019n gallu mynd i mewn iddyn nhw.&nbsp;&nbsp;<\/li><\/ul>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li>Peidiwch \u00e2 thorri eich chwyn. Mae dant y llew a blodau menyn yn ffynonellau pwysig o neithdar. Gall iorwg achosi llawer o niwed, ond bydd gwenyn meirch, pryfed a gwenyn yn heidio i\u2019r blodau bach sydd arnyn nhw nes ymlaen yn y tymor pan nad oes fawr ddim arall ar gael.&nbsp;&nbsp;<\/li><\/ul>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Mae gan Jane a Gillian lu o&nbsp;<\/em><\/strong><a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/let-it-bee.co.uk\/\" target=\"_blank\"><strong><em>awgrymiadau eraill am gadw gwenyn, cynhyrchion gwenyn a garddio mewn ffyrdd sydd o les i\u2019r amgylchedd<\/em><\/strong><\/a>&nbsp;ar eu gwefan.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/em><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Astudiodd dwy chwaer, Gillian Nimmo (BSc 1985) a Jane Nimmo (BSc 1986) yr un cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd dros 30 mlynedd yn \u00f4l ac yn ddiweddar rhoddodd y ddwy eu pennau at ei gilydd i redeg busnes bach ecogyfeillgar o\u2019r enw Let it Bee, yn gwerthu gofal croen cynaliadwy, sebon a cynhyrchion eraill o gychod gwenyn. Maen nhw'n gweithio yn eu ceginau eu hunain, gyda chymorth miloedd o wenyn prysur.  ","protected":false},"author":1811,"featured_media":6628,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170,203],"tags":[],"class_list":["post-6645","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy","category-alumni-stories-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6645","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1811"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6645"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6645\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6651,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6645\/revisions\/6651"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6628"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6645"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6645"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6645"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}