{"id":6613,"date":"2021-04-28T07:44:06","date_gmt":"2021-04-28T07:44:06","guid":{"rendered":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=6613"},"modified":"2023-04-20T14:37:02","modified_gmt":"2023-04-20T14:37:02","slug":"dewch-i-gwrdd-a-phennaeth-newydd-yr-ysgol-peirianneg","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2021\/04\/28\/dewch-i-gwrdd-a-phennaeth-newydd-yr-ysgol-peirianneg\/","title":{"rendered":"Dewch i gwrdd \u00e2 Phennaeth newydd yr Ysgol Peirianneg"},"content":{"rendered":"\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Ar \u00f4l deuddeng mlynedd yn yr Ysgol Peirianneg, penodwyd yr Athro Jianzhong Wu yn Bennaeth yr Ysgol ym mis Medi 2020, yng nghanol y pandemig. Buon ni\u2019n ei holi am arwain yr Ysgol yn ystod y cyfnod heriol hwn, ei flaenoriaethau, a&#8217;i ddyheadau ar gyfer y dyfodol.<\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn 2008 derbyniodd Prifysgol Caerdydd gyllid gan Gyngor Ymchwil y DU i sefydlu canolfan ynni adnewyddadwy newydd. Daeth Jianzhong Wu o Brifysgol Manceinion i ddarlithio yn y ganolfan.<br \/><br \/>Fe wnaeth ddatblygu ei yrfa ym Mhrifysgol Caerdydd a chafodd ddyrchafiad i fod yn Uwch-ddarlithydd yn 2013, yn Ddarllenydd yn 2014 ac yn Athro yn 2015. Treuliodd ddwy flynedd yn Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Manceinion, blwyddyn yn Athro Cyswllt a dwy flynedd yn Gydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Tianjin.<br \/><br \/><strong>Sut hwyl rydych chi wedi&#8217;i chael yn eich wyth mis cyntaf yn y swydd?<\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy\u2019n mwynhau fy r\u00f4l newydd yn fawr, er iddi fod yn heriol oherwydd pandemig COVID-19. Rwy\u2019n ffodus bod t\u00eem cryf yn gweithio gyda mi ac rwy\u2019 wedi derbyn cefnogaeth ardderchog gan yr Ysgol, y Coleg a&#8217;r Brifysgol. Mae holl staff yr Ysgol Peirianneg wedi bod yn brysur ofnadwy ers dechrau&#8217;r flwyddyn academaidd hon ond maent wedi llwyddo i ailagor ein hadeilad i&#8217;n staff a&#8217;n myfyrwyr, gyda mesurau diogelwch llym ar waith. Fe weithion ni\u2019n galed i sefydlu ffordd effeithiol i addysgu\u2019n gyfunol a chadw ein myfyrwyr a&#8217;n staff yn ddiogel.<br \/><br \/>Rydym hefyd wedi bod yn gweithio&#8217;n galed i gyflwyno\u2019n Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, ac rwy&#8217;n falch o ddweud bod yr hyn a gyflawnwyd gennym yn waith o safon.<br \/><br \/><strong>Beth oedd eich argraffiadau cyntaf o&#8217;r Ysgol a&#8217;i phobl?<\/strong><br \/><br \/>Ymunais \u00e2 Phrifysgol Caerdydd yn Ddarlithydd yn 2008 a chefais brofiad gwych yn elwa o amgylchedd cefnogol yr Ysgol, yn enwedig fel ymchwilydd o gefndir lleiafrif ethnig ar ddechrau ei yrfa. Roedd fy nghydweithwyr yn yr Ysgol yn gwneud i mi deimlo&#8217;n gartrefol. Rwy&#8217;n awyddus i helpu sicrhau y gall myfyrwyr a staff presennol yr Ysgol ac yn y dyfodol elwa mewn ffordd debyg.<br \/><br \/><strong>Beth yw eich barn am Gaerdydd fel dinas?<\/strong><br \/><br \/>Rwy\u2019n enedigol o ddinas Tangshan yn Tsieina, sy&#8217;n enwog am ei gweithfeydd glo a agorwyd 1879. I gymharu, mae gan Dde Cymru hanes hir o fwyngloddio glo ac roedd Caerdydd yn borthladd allforio glo mawr i&#8217;r byd. Yn ddiddorol ddigon, roedd gen i gysylltiad emosiynol naturiol \u00e2 Chaerdydd, ac roeddwn yn dechrau hoffi\u2019r ddinas hon y tro cyntaf i mi ymweld \u00e2 hi.<br \/><br \/><strong>Sut brofiad fydd gweithio gyda chymuned y cynfyfyrwyr yn y dyfodol yn eich barn chi?<\/strong><br \/><br \/>Rydym yn cadw mewn cysylltiad cyson \u00e2 thua 20,000 o gyn-fyfyrwyr yr Ysgol Peirianneg. Rwy&#8217;n mwynhau gwylio ein cyn-fyfyrwyr yn trawsnewid o fod yn raddedigion i fod yn weithwyr proffesiynol, a llawer wedyn i fod yn arweinwyr yn eu sefydliadau. Rwy\u2019n falch o weld bod ein haddysg yn gwneud gwahaniaeth mawr yn natblygiad eu gyrfa, a bod ein haddysg, trwy ein cyn-fyfyrwyr, yn cyfrannu at gynnydd cymunedau ledled y byd.<br \/><br \/>Yn raddedigion o\u2019r Ysgol, mae gan ein cynfyfyrwyr gysylltiad arbennig \u00e2&#8217;r Brifysgol drwy fod yn gefnogwyr ffyddlon a&#8217;n llysgenhadon gorau, gan eu bod yn ffordd amhrisiadwy o\u2019n hyrwyddo ar draws eu rhwydweithiau personol a phroffesiynol. Rwy&#8217;n awyddus iawn i gryfhau&#8217;r cysylltiadau \u00e2&#8217;n cymuned o gynfyfyrwyr, sy&#8217;n caniat\u00e1u i&#8217;r Ysgol a&#8217;n cynfyfyrwyr elwa o sgiliau a phrofiad ein graddedigion.<br \/><br \/>Rydym am ddathlu llwyddiannau ein cynfyfyrwyr cymaint ag y gallwn a byddem wrth ein bodd yn rhannu straeon a newyddion gan ein cynfyfyrwyr, sy&#8217;n enghreifftiau disglair o&#8217;r math o bobl y mae&#8217;r Ysgol yn eu datblygu.<br \/><br \/>Hoffem hefyd ddenu ein cynfyfyrwyr i gynnig cefnogaeth ymarferol i&#8217;n myfyrwyr trwy leoliadau gwaith a mentora i&#8217;w helpu i lansio eu gyrfaoedd. Rydym yn gwahodd ein cynfyfyrwyr i rannu eu profiadau gyda&#8217;n darpar fyfyrwyr a\u2019n myfyrwyr presennol yn ddigidol ac wyneb yn wyneb lle bo hynny&#8217;n bosibl.<br \/><br \/><strong>Beth yw eich gobeithion a&#8217;ch blaenoriaethau ar gyfer dyfodol yr Ysgol?<\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae peirianneg yn sbardun i ddatblygu gwareiddiad a gwella ansawdd bywyd, ac mae&#8217;n beiriant arloesedd, cynhyrchiant a thwf. Mae&#8217;r byd ar drothwy chwyldro diwydiannol gwyrdd newydd gyda chryn dipyn o ansicrwydd a newid o&#8217;n blaenau, ond cyfleoedd gwych hefyd. Rydym yn bwriadu gweithio&#8217;n agos gyda&#8217;n myfyrwyr, staff, cynfyfyrwyr a rhanddeiliaid eraill i greu a gweithredu cynllun newydd ar gyfer dyfodol yr Ysgol.<br \/><br \/>Ein cenhadaeth yw sbarduno dyfodol cynaliadwy a mwy disglair i Gymru, y DU a&#8217;r byd trwy ddatblygu arweinwyr ym maes peirianneg, creu technoleg arloesol, a chreu gwir effaith. Ein gweledigaeth yw bod yn ganolfan ragoriaeth ryngwladol lewyrchus, cefnogol a chynhwysol mewn addysg peirianneg newydd, a darparu ymchwil effeithiol ac arloesi cyfrifol sy&#8217;n mynd i&#8217;r afael \u00e2&#8217;r heriau byd-eang allweddol.<br \/><br \/>O ran dysgu ac addysgu, ein blaenoriaeth yw parhau i arloesi dull newydd a chyffrous ar gyfer addysg israddedig ac \u00f4l-raddedig. Bydd y dull hwn yn canolbwyntio ar ddysgu ar sail problemau, gwella creadigrwydd, rhyngddisgyblaeth a phrofiad dysgu.<br \/><br \/>Rydym yn gobeithio y bydd ein rhaglenni israddedig ac \u00f4l-raddedig gwell, sy&#8217;n fwy deniadol yn fyd-eang ac yn berthnasol yn lleol, yn denu myfyrwyr dawnus ac ysbrydoledig o amrywiaeth eang o gefndiroedd.<br \/><br \/>Yn y dyfodol byddwn yn cryfhau ein sylfaen academaidd ac yn parhau i adeiladu dyfnder, gallu, a m\u00e0s critigol yn ein pum maes ymchwil blaenoriaeth rhyngddisgyblaethol allweddol &#8211; Ynni Cynaliadwy, Gweithgynhyrchu Uwch, Seilwaith Sifil, Lled-ddargludyddion a Chymwysiadau Cyfansawdd, a Pheirianneg ar gyfer Iechyd &#8211; i alluogi prosiectau cydweithredol ar raddfa fawr sy&#8217;n cyflawni ystod eang o effaith.<br \/>Rydym yn bwriadu buddsoddi&#8217;n strategol i foderneiddio ein hadeiladau a&#8217;n seilwaith. Yn benodol, byddwn yn creu gwell lleoedd addysgu a dysgu, labordai ymchwil newydd a chyfleusterau gwell.<br \/><br \/>Rydym yn ddiolchgar i&#8217;n cynfyfyrwyr am eu cyfraniad gwerthfawr i&#8217;n cymuned peirianneg ac rydym yn gobeithio cynnal cysylltiad cryf \u00e2 nhw yn y dyfodol.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em><strong><em>Darganfyddwch fwy am\u00a0<a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/get-involved\">wirfoddoli\u2019ch amser i helpu i ysbrydoli<\/a>\u00a0a chefnogi\u2019r genhedlaeth nesaf o fyfyrwragedd a chyn-fyfyrwragedd Prifysgol Caerdydd.\u00a0<\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/p>\r\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ar \u00f4l deuddeng mlynedd yn yr Ysgol Peirianneg, penodwyd yr Athro Jianzhong Wu yn Bennaeth yr Ysgol ym mis Medi 2020, yng nghanol y pandemig. Buon ni\u2019n ei holi am arwain yr Ysgol yn ystod y cyfnod heriol hwn, ei flaenoriaethau, a'i ddyheadau ar gyfer y dyfodol. ","protected":false},"author":1812,"featured_media":6622,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170],"tags":[],"class_list":["post-6613","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6613","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1812"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6613"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6613\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9046,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6613\/revisions\/9046"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6622"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6613"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6613"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6613"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}