{"id":6506,"date":"2021-03-25T08:45:36","date_gmt":"2021-03-25T08:45:36","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=6506"},"modified":"2023-04-20T14:38:08","modified_gmt":"2023-04-20T14:38:08","slug":"new-head-of-school-of-dentistry","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2021\/03\/25\/new-head-of-school-of-dentistry\/","title":{"rendered":"Pennaeth Newydd Ysgol Deintyddiaeth"},"content":{"rendered":"\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Ar \u00f4l saith mis yn y swydd fel Pennaeth newydd yr Ysgol Deintyddiaeth, cawsom air gyda&#8217;r Athro Nicola Innes am ei phrofiad yn y r\u00f4l, ei blaenoriaethau a&#8217;i gobeithion ar gyfer y dyfodol.<\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cymerodd yr Athro Innes yr awenau oddi wrth benaethiaid dros dro\u2019r ysgol, yr Athro Barbara Chadwick, a\u2019r Athro Ivor Chestnutt, ar 1 Awst 2020. Ymunodd \u00e2&#8217;r Ysgol ar adeg pan nad oeddem yn gwybod yn iawn sut byddai COVID-19 yn effeithio ar flwyddyn academaidd 2020\/21 ac mae wedi gweld yr Ysgol yn addasu ymhellach i&#8217;r heriau o ddysgu o bell a chyfyngiadau cenedlaethol y cyfnod clo.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ymunodd yr Athro Innes \u00e2 Chaerdydd ar \u00f4l gadael ei r\u00f4l fel Athro Deintyddiaeth i Blant ym Mhrifysgol Dundee. Yn wreiddiol roedd wedi cymhwyso i fod yn Nyrs Gyffredinol Gofrestredig ym maes Llawdriniaeth Niwroleg, ond newidiodd lwybr gyrfa i faes Deintyddiaeth a bu\u2019n ddeintydd teulu am saith mlynedd. Mae si\u0175r o fod yn fwyaf adnabyddus am ei gwaith yn ymchwilio ac yn dysgu Techneg y Neuadd ar gyfer rheoli pydredd dannedd plant.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Daeth yr Athro Innes yn ddarlithydd amser llawn yn Dundee yn 2005, yn Arbenigwr Deintyddiaeth i Blant yn 2011, gan arwain Iechyd y Dannedd a\u2019r Genau i Blant, a threuliodd bedair blynedd yn Ddeon Cyswllt dros Ddysgu ac Addysgu. Ei phrif ddiddordeb ymchwil yw carioleg gymhwysol o hyd; sef dod o hyd i ffyrdd gwell o reoli pydredd dannedd, ond yn bennaf gwella gofal deintyddol i blant.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sut brofiad ydych chi wedi&#8217;i gael yn ystod saith mis cyntaf y swydd?<\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae dechrau fel Pennaeth Ysgol Ddeintyddol newydd a symud i ddinas (a gwlad!) newydd yn heriol, heb os nac oni bai. Fodd bynnag, roedd dechrau yng nghanol pandemig COVID-19, pan nad yw wedi bod yn bosibl treulio amser i ddod i adnabod pobl na&#8217;r hyn sy&#8217;n digwydd fel arfer yn ystod y flwyddyn academaidd, wedi bod yn ddiddorol ac yn gyffrous!<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwyf wedi cael y croeso cynhesaf gan bawb yn yr Ysgol. Er nad ydym wedi gallu cwrdd \u00e2 phobl na chael y cyfarfodydd arferol wyneb yn wyneb, na chwrdd am goffi neu ddiodydd ar \u00f4l gwaith, gallaf ddweud yn onest bod fy nghydweithwyr yn yr Ysgol, a thu hwnt i hynny, ym maes Deintyddol ehangach ar draws Cymru, wedi gwneud i mi deimlo&#8217;n rhan o&#8217;r Ysgol yn syth. Rwy&#8217;n credu bod hyn yn dyst i ba mor gyfeillgar yw\u2019r Cymry hefyd.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Pa argraff gafodd Caerdydd, y ddinas, arnoch chi?<\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roeddwn i&#8217;n ddigon ffodus i gael bod yn arholwr allanol i\u2019r Ysgol, felly roeddwn eisoes wedi cael blas ar ddinas hyfryd Caerdydd. Rwyf wrth fy modd \u00e2&#8217;r naws o fod mewn dinas sy\u2019n cynnig yr holl fanteision dinesig, diwylliant y caffis, bwytai gwych a&#8217;r parciau hyfryd ond yn dal yn ddigon agos i grwydro i gefn gwlad ac i&#8217;r traethau (os yw&#8217;r cyfnodau clo yn caniat\u00e1u hynny wrth gwrs!). Rwy&#8217;n hoff iawn o gerddoriaeth ac ni allaf aros i&#8217;r neuaddau cyngerdd agor. Dyna un o&#8217;r pethau rwy&#8217;n edrych ymlaen ato fwyaf, cael gweld sioe yn Neuadd Dewi Sant.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Sut brofiad fydd gweithio gyda chymuned y cynfyfyrwyr yn y dyfodol yn eich barn chi?<\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy&#8217;n credu bod cymuned y cynfyfyrwyr yn gaffaeliad mawr i&#8217;r Ysgol a gallaf roi dwy enghraifft ddiweddar i ddangos yr hyn rwyf yn ei olygu wrth hynny.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Daw&#8217;r enghraifft gyntaf o&#8217;r cyfweliadau rydw i wedi bod yn eu cynnal gydag ymgeiswyr i&#8217;n rhaglenni. Yn ddiddorol, un o&#8217;r rhesymau rwy&#8217;n ei glywed amlaf pam mae pobl yn dymuno dod i Gaerdydd i astudio, p&#8217;un ai ar gyfer gradd israddedig, \u00f4l-raddedig, deintyddiaeth, hylendid\/therapi, yw eu bod yn adnabod myfyriwr graddedig o Gaerdydd a chafodd brofiad mor wych, ei fod am argymell Ysgol Deintyddiaeth Caerdydd. Byddai\u2019n wych gallu datblygu a hwyluso hyn ymhellach.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Daw&#8217;r ail enghraifft o&#8217;n cyfathrebiadau diweddar ag ymarferwyr deintyddol lleol i weld a allai unrhyw un ohonynt fod yn barod i ddod i mewn i&#8217;r ysgol a chael rhywfaint o hyfforddiant i gefnogi ein myfyrwyr. Byddai hyn yn ei dro yn ein helpu i staffio clinigau ychwanegol er mwyn caniat\u00e1u i fyfyrwyr gael mwy o gyswllt \u00e2 chleifion i wneud iawn am yr amser a gollwyd oherwydd COVID.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Cawsom ymateb hynod gadarnhaol a&#8217;r thema gyson oedd bod ymarferwyr\/cynfyfyrwyr yn awyddus i roi rhywbeth yn \u00f4l a chefnogi ein darpar fyfyrwyr yn y ffordd yr oedden nhw&#8217;n teimlo eu bod wedi cael eu cefnogi.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rwy&#8217;n credu bod y teimlad hwn o berthyn yn rhoi sylfaen gref i ni ar gyfer ymgysylltu mwy \u00e2&#8217;n gilydd ac rydym yn bwriadu dod o hyd i&#8217;r gweithgareddau sydd o ddiddordeb i&#8217;n cynfyfyrwyr o ran cefnogi&#8217;r Ysgol a sut y gallai&#8217;r Ysgol gefnogi ein cynfyfyrwyr.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae&#8217;n ymddangos yn debygol yn yr amseroedd \u201cllai traddodiadol\u201d hyn, bod ffyrdd da o weithio o bell er mwyn meithrin y gydberthynas \u00e2&#8217;n cyn-fyfyrwyr fel ein llysgenhadon lleol a byd-eang. Gallai hyn fod yn rhywbeth mor sylfaenol \u00e2 chynnwys ein cynfyfyrwyr wrth lunio rhaglenni mentoriaeth i fyfyrwyr, cael darlithoedd gwestai rhyngwladol ac ati &#8211; mae cymaint o gyfleoedd!<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Beth yw eich gobeithion a&#8217;ch blaenoriaethau i&#8217;r Ysgol ar gyfer y dyfodol?<\/strong><\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae gwaith ymchwil yr Ysgol eisoes yn cael effaith gadarnhaol yn lleol, ledled Cymru ac yn rhyngwladol. Rydyn ni&#8217;n mynd i barhau \u00e2 hynny, wrth gwrs, ond hefyd edrych ar ffyrdd eraill o fynd i&#8217;r afael \u00e2 chwestiynau sylfaenol ar gyfer iechyd deintyddol a geneuol a manteisio ar ein cryfderau.<\/p>\r\n\r\n\r\n\r\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ein prif bwrpas yw hyfforddi ein deintyddion ar gyfer y dyfodol ac rydym yn edrych yn agos ar yr amgylchedd allanol ac i ble mae ein myfyrwyr yn mynd ar \u00f4l graddio, er mwyn sicrhau bod ein rhaglenni yn eu paratoi ar gyfer y byd pan fyddant yn cwblhau eu hastudiaethau gyda ni. Un o&#8217;n dyheadau mawr yw datblygu&#8217;r Ysgol mewn gwahanol ffyrdd &#8211; felly mwy yn y man!<\/p>\r\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ar \u00f4l saith mis yn y swydd fel Pennaeth newydd yr Ysgol Deintyddiaeth, cawsom air gyda'r Athro Nicola Innes am ei phrofiad yn y r\u00f4l, ei blaenoriaethau a'i gobeithion ar gyfer y dyfodol. ","protected":false},"author":1812,"featured_media":6503,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170],"tags":[],"class_list":["post-6506","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6506","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1812"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6506"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6506\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9048,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6506\/revisions\/9048"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6503"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6506"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6506"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6506"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}