{"id":6455,"date":"2021-03-17T09:41:51","date_gmt":"2021-03-17T09:41:51","guid":{"rendered":"http:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/?p=6455"},"modified":"2021-03-22T10:58:47","modified_gmt":"2021-03-22T10:58:47","slug":"pam-roedd-2020-yn-gyfnod-pwysig-i-epidemiolegwyr","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/cy\/2021\/03\/17\/pam-roedd-2020-yn-gyfnod-pwysig-i-epidemiolegwyr\/","title":{"rendered":"Pam roedd 2020 yn gyfnod pwysig i epidemiolegwyr"},"content":{"rendered":"\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"aligncenter size-large\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/main-image-2.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"967\" height=\"440\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/main-image-2.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6448\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/main-image-2.jpg 967w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/main-image-2-600x273.jpg 600w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/main-image-2-300x137.jpg 300w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/main-image-2-768x349.jpg 768w\" sizes=\"auto, (max-width: 967px) 100vw, 967px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em><strong><em>Aeth bywyd proffesiynol a phersonol Adetoun Mustapha (MPH 1999) yn Nigeria yn brysur iawn pan darodd COVID-19. Cafodd ei hun mewn sefyllfa i helpu i ysgogi newid go iawn a brwydro yn erbyn newyddion ffug o amgylch iechyd y cyhoedd. Yma, mae&#8217;n disgrifio ei phrofiad o lywio ffordd newydd o weithio a byw, astudio lledaeniad COVID-19, a siarad allan am faterion cyfiawnder amgylcheddol.&nbsp;<\/em><\/strong><\/em><\/strong><\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn 2020 dechreuais swydd newydd, ac, am y rheswm hwn, roeddwn yn rhagweld y byddai&#8217;r flwyddyn yn wahanol i flynyddoedd blaenorol. Fodd bynnag, roedd yr her i&#8217;m bywyd proffesiynol a phersonol oherwydd COVID-19 y tu hwnt i&#8217;r hyn y gallwn fod wedi&#8217;i ddychmygu.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd bod yn epidemiolegydd yn 2020 yn golygu cymryd rhan mewn gweithgareddau y tu hwnt i&#8217;m disgrifiad swydd arferol a chydweithio ar draws disgyblaethau i hybu iechyd y cyhoedd. Daeth cyfeirio pobl at ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am sefyllfa COVID-19 mewn grwpiau WhatsApp proffesiynol a chymdeithasol yn rhan o fy nhrefn ddyddiol i ddatgymalu&#8217;r newyddion ffug a ddaeth yn rhemp ar gyfryngau cymdeithasol yn Nigeria.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Arweiniodd hyn at hybu iechyd ymhlith grwpiau ffocws gan ddefnyddio data gan ddangosfyrddau&#8217;r llywodraeth a Sefydliad Iechyd y Byd\/Johns Hopkins COVID-19, gan eirioli beth all pobl ei wneud i gadw&#8217;n iach yn gorfforol ac yn feddyliol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Amlygodd pandemig COVID-19 heriau ar benderfynyddion cymdeithasol ac amgylcheddol iechyd yn Nigeria. Mae&#8217;r rhan fwyaf o&#8217;r boblogaeth yn ymwneud \u00e2&#8217;r sector economi anffurfiol, fel gwerthu ar y stryd, ac maent yn dibynnu ar gyflog dyddiol; heb gynllun lles cymdeithasol yn ystod y cyfnod clo, roedd yn rhaid iddynt droi at deulu a ffrindiau i gael eu cynnal. Roedd, felly, yn fraint imi rannu ag eraill a chefnogi dosbarthu eitemau hanfodol i bobl agored i niwed yn y gymuned.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwelais y broblem foesegol o ran y cyfnod clo ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd a&#8217;r angen i gadw&#8217;r economi i redeg i arbed swyddi, y dewis anodd rhwng marw o bosibl o ddod i gysylltiad \u00e2 COVID-19 yn erbyn llwgu. Oherwydd y cyfnod clo llwyr o tua wyth wythnos, roedd yn rhaid i rai pobl a fyddai fel arall wedi bod yn gweithio aros mewn amodau tai gorlawn.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Arweiniodd trosoli cyfle i ddarparu cyfrif &#8216;ar lawr gwlad&#8217; o&#8217;r ymateb i COVID-19 yn Nigeria, at gydweithrediad trawsddisgyblaethol gyda firolegwyr i gyhoeddi sylwebaeth mewn cyfnodolyn rhyngwladol. Gan weithio gyda gwyddonwyr iechyd yr amgylchedd eraill, cynorthwyais hefyd i ddylunio a chynnal arolwg ar-lein i brofi effeithiolrwydd ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd ar COVID-19 yn Nigeria. Y nod oedd darparu gwybodaeth ar gyfer mobileiddio cymunedol, gan atal amlygiad pellach. Roedd hyn yn cynnwys cyflwyno cyfryngau cymdeithasol wedi&#8217;u targedu am ymddygiadau ataliol, rheoli symptomau, a ble i gael mynediad at ofal.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel cadeirydd cangen y Gymdeithas Ryngwladol Epidemioleg Amgylcheddol (ISEE) Affrica, ysgrifennais sawl nodyn cyfathrebu i aelodau i reoli lles cyffredinol gan gynnwys iechyd meddwl ac i hyrwyddo mwy o gyfathrebu \u00e2 phobl trwy&#8217;r cyfryngau cymdeithasol ac electronig ar anterth y cyfnod clo COVID-19 ar draws Affrica.<\/p>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-image\"><figure class=\"alignright size-large is-resized\"><a href=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/IMG_8655-edit.jpg\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/IMG_8655-edit.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-6451\" width=\"294\" height=\"202\" srcset=\"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/IMG_8655-edit.jpg 640w, https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-content\/uploads\/sites\/323\/2021\/03\/IMG_8655-edit-300x206.jpg 300w\" sizes=\"auto, (max-width: 294px) 100vw, 294px\" \/><\/a><\/figure><\/div>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae arwain yn ystod yr argyfwng yn gofyn am arloesi i ennyn diddordeb pobl. Fe wnaethon ni gynnal y gweminar cyntaf yn y cangen; roedd ar fater amserol cyhoeddi mwy o bapurau o Affrica mewn cyfnodolion rhyngwladol. Yn dilyn llwyddiant ysgubol, denodd ail weminar a gynhaliwyd ar gyfleoedd cyllido ar gyfer ymchwil iechyd yr amgylchedd yn Affrica dros 250 o bobl. Fe wnaethon ni helpu aelodau i addasu i&#8217;r newid o&#8217;r cyfarfod ISEE blynyddol corfforol i gynhadledd rithwir. Mae niferoedd uchel o gyfranogwyr y gynhadledd ac adborth ledled Affrica gan bobl newydd ar sut mae&#8217;r gynhadledd yn cyfrannu at eu datblygiad proffesiynol yn galonogol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn dilyn marwolaeth George Floyd ym Minneapolis, Unol Daleithiau, ym mis Mehefin 2020 a\u2019r mudiad byd-eang yn herio hiliaeth gwrth-Ddu, gallwn gysylltu \u00e2\u2019r angen am gyfiawnder hiliol. Ysgrifennais erthyglau byr ar fy liwt fy hun yngl\u0177n \u00e2 sut mae amrywiaeth a chynhwysiant yn hanfodol i&#8217;r gymdeithas.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Myfyriais ar fy mhrofiad personol fel ymchwilydd, trafodais gyflyru trefedigaethol iechyd byd-eang, a chynigiais awgrymiadau i fynd i\u2019r afael \u00e2 hiliaeth strwythurol mewn trafodaeth banel ar Hiliaeth Strwythurol ac Iechyd yr Amgylchedd Poblogaeth yng nghynhadledd rithwir ISEE 2020.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae llywio&#8217;r heriau o weithio gartref ac addasu i&#8217;r arfer newydd o fynychu gwasanaethau eglwysig a digwyddiadau cymdeithasol ar-lein wedi bod yn ddatblygiadau diddorol i mi.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gall bod \u00e2&#8217;r arbenigedd i astudio lledaeniad COVID-19 yn y boblogaeth gyfrannu&#8217;n sylweddol at leihau effeithiau&#8217;r pandemig ar iechyd y cyhoedd. Mae gwneud hyn a mynd i&#8217;r afael \u00e2 materion cyfiawnder amgylcheddol (Black Lives Matter) yn gwneud 2020 yn foment ddiffiniol i epidemiolegwyr.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong><em>Cysylltwch \u00e2 Dr Adetoun Mustapha ar <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/in\/adetounmustapha-9245347\/?originalSubdomain=ng\">LinkedIn<\/a> a <a href=\"https:\/\/connected.cardiff.ac.uk\/directory\">Cysylltu Caerdydd<\/a>, ein platfform rhwydweithio unigryw i Brifysgol Caerdydd.<\/em><\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Aeth bywyd proffesiynol a phersonol Adetoun Mustapha (MPH 1999) yn Nigeria yn brysur iawn pan darodd COVID-19. Cafodd ei hun mewn sefyllfa i helpu i ysgogi newid go iawn a brwydro yn erbyn newyddion ffug o amgylch iechyd y cyhoedd. Yma, mae'n disgrifio ei phrofiad o lywio ffordd newydd o weithio a byw, astudio lledaeniad COVID-19, a siarad allan am faterion cyfiawnder amgylcheddol. ","protected":false},"author":904,"featured_media":6448,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[166,170],"tags":[],"class_list":["post-6455","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cyswllt-caerdydd","category-news-cy"],"meta_box":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6455","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/users\/904"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6455"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6455\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6476,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/6455\/revisions\/6476"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6448"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6455"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=6455"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/blogs.cardiff.ac.uk\/alumni\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=6455"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}